XV. FFRAE LECSIWN LLANGRYMBO.
BU helynt arswydus yn Llangrymbo gryn lawer o flynyddoedd yn ol. Aeth y trigolion yn benben, er na wyddai neb yn iawn pam. Y lecsiwn fu’r achlysur, sut bynnag, yr oedd hynny yn sicr; ond y mae cryn dywyllwch ynghylch cychwyniad yr helynt. Yn hytrach, yr oedd cryn dywyllwch yn ei gylch. Bellach, yr wyf fi yn abl i daflu goleuni ar y mater. Nid trwy fy nghlyfrwch fy hun ychwaith, ond trwy allu a dyfalwch fy hen ewythr, a fu farw ryw ychydig amser yn ol, ac a adawodd ei bapurau—yr unig gynysgaeth, gwaetha ’r modd!—i mi. Y mae yn y papurau hynny lawer o bethau dyddorol, ac yn eu plith, oleuni ar Ffrae Fawr Llangrymbo.
Ond cyn rhoi hanes yr helynt, rhaid i mi ddywedyd gair neu ddau am fy ewythr, fel y caffoch bob chware teg i farnu ei waith. Teiliwr oedd fy ewythr wrth ei alwedigaeth, a theiliwr go sal, y mae arnaf ofn, canys gadawodd yr alwedigaeth yn gynnar, a throes yn ohebydd papur newydd. Y peth a’i harweiniodd i’r alwad ardderchog honno oedd, ddarfod iddo pan oedd yn hogyn ifanc ennill gwobr o hanner coron mewn cyfarfod llenyddol am y traethawd goreu ar Hanes Llangrymbo. Cafodd y traethawd hwnnw gymaint o ganmoliaeth gan y beirniad fel y credodd fy ewythr yn y fan mai nid teiliwr oedd o wrth natur, ond llenor. Felly, anfonodd hanes y cyfarfod llenyddol i’rCorn Gwlad, a chafodd ei benodi yn union deg yn ohebydd lleol i’r papur enwog hwnnw. O dipyn i beth, gwnaed ef yn ohebydd arbennig i’r papur clodwiw, ac yr oedd ganddo ddarn mawr o wlad tan ei ofal. A gofalodd am dano cystal am flynyddoedd fel na byddai ddim yn digwydd yno heb fod gan f’ewythr baragraff am dano yn y papur—y “Newyddiadur,” fel y byddai o yn ei alw. Yr oedd gan yr hen greadur fath o law ferr at ei wasanaeth, un na fedrai neb ei deall ond efô ei hun. Yn wir, byddai yn methu a’i deall ei hun ar brydiau, a chafwyd ambell is-olygydd digon drwg i ddywedyd nad oedd wahaniaeth yn y byd rhwng ei law ferr â’i law hir; ond yr wyf yn sicr mai ar yr is-olygydd a’r cysodydd yr oedd y bai fod rhai o’i baragraffau yn awr ac yn y man yn dyfod allan yn y papur yn hollol groes i’r hyn oedd ym meddwl fy ewythr. Er engraifft, yr oedd o unwaith wedi ysgrifennu hanes marwolaeth a chladdedigaeth hen gyfaill iddo, ac wedi ei orffen fel y canlyn, —
“Yr oedd yn noddwr cyson i’rCornar hyd ei oes faith, ac yn codi’r cann yng nghapel Seion. Heddwch i’w lwch, yr hen bererin anwyl!”
“Yr oedd yn noddwr cyson i’rCornar hyd ei oes faith, ac yn codi’r cann yng nghapel Seion. Heddwch i’w lwch, yr hen bererin anwyl!”
Synnwyd pawb, pan gawsant yCorn Gwlad, weled y paragraff yn gorffen fel hyn, —
“Yr oedd yn naddwr creulon i’r corn ar ei goes chwith, ac yn cadw’r cnau yng nghawell Sion. Hed uwch ei lwch, yr hen Feri Elin anwyl!”
“Yr oedd yn naddwr creulon i’r corn ar ei goes chwith, ac yn cadw’r cnau yng nghawell Sion. Hed uwch ei lwch, yr hen Feri Elin anwyl!”
Achosodd peth fel hyn gryn helynt lawer tro, wrth gwrs, ond er i f’ewythr anfon i’r offis i gwyno lawer gwaith, ni welodd y cnafon yn dda gymryd mwy o ofal gyda’i gopi nag a gymerasant o’r blaen.
Ond dyna, hwyrach, ar hyn o bryd, ddigon am fy ewythr. Awn at ei waith yn ysgrifennu hanes helynt Langrymbo. Yr oedd hi yn lecsiwn yno, fel y dywedwyd, ac aeth yn helynt mor erwin fel yr aeth y bobl yn benben. Yn naturiol iawn, aeth fy ewythr ati i chwilio am achos y ffrae, cafodd hyd iddo, ysgrifennodd ef yn ofalus a chywir ar gefn hen boster â phast arno, ac anfonodd ef i’r swyddfa. Gallwn feddwl fod yr is-olygydd ar y pryd yn rhy ddiog i’w ddarllen, canys y mae dalen o bapur gwyn wedi ei phinio wrth y copi, ac yn ysgrifenedig arni mewn llaw led blaen y geiriau hyn—“Dylai’r dyn a ysgrifennodd hwn gael ei grogi! ’Does yma neb fedr ei ddeall.”
Collodd yr is-olygydd hwnnw ei gyfle. Yr wyf fi wedi darllen y copi. Ac nid wyf fi yn is-olygydd. Felly, dylasai o fedru gwneud. Sut bynnag, y mae’n debyg fod fy ewythr wedi digio a chadw ei gopi yn hytrach na’i ail ysgrifennu a’i ddanfon i’r is-olygydd diog. Bellach, gellir yn ddiogel gyhoeddi’r hanes, gan mai f’ewythr oedd y diweddaf o’r bobl y mae son am danynt ynddo. Dyma fo, wedi ei godi air am air o gopi yr hen ddyn druan, fel y gweler ei arddull lenyddol odidog, —
“Bu helynt ofnadwy yn nhref Langrymbo yr wythnos ddiweddaf parthed yr etholiad, fel y cyhoeddwyd yn ein rhifyn diweddaf yn fyrr. Y pryd hwnnw, nid oedd ein gohebydd mewn meddiant llawn o ffeithiau yr achos, ac o ganlyniad i hynny nis gallai roddi hanes manwl a chywir am yr hyn a gymerodd le yn y dreflan dawel hon. Erbyn hyn, y mae ein gohebydd wedi gwneud ymchwiliad llwyr i’r achos, ac yn alluog i roddi ger bron ein darllenwyr hanes cyflawn am yr hyn a ddigwyddodd.
“Fel y gwyddis, yr oedd yr etholiad ar ei ganol ar y pryd, ac yr oedd teimladau yn rhedeg yn uchel iawn yn y dref. Yr oedd rhai yn pleidio’r Rhyddfrydwr ac ereill yn pleidio’r Ceidwadwr yn selog. Ymddengygs fod dau ddyn wedi cyfarfod ar yr heol noswaith yr helynt, ac wedi mynd i son am bwnc llosgawl y dydd (a’r nos hefyd). Y ddau hynny oeddynt John Dafis, Rhyddfrydwr pybyr, a Huw Jones, Tori rhonc, fel y dwedir. [Dylid cofio mai Rhyddfrydwr oedd fy ewythr.] Dechreuasant ymddiddan fel y canlyn, —
‘Sut mae hi heno, John Dafis? Be ydech chi yn feddwl o’r lecsiwn yma, fel tae, rwan?’
‘Wel, rydw i’n meddwl i bod hi yn o bethma, yn siwr, arnoch chi y Toris yma.’
‘Be sy arnom ni, fel tae, rwan, John Dafis?’
‘Wel, mi ddeyda iti, i hyn y daw hi, ac i hyn y mae hi ’n dwad hefyd. Rydech chi yn rhy bethma o lawer.’
‘Y chi yr hen Wigs yma sy’n rhy bethma, fel tae, rwan. Fedrwch chi ddim deyd yn bod ni felly.’
‘O, medrwn yn wir, Huw Jones!’
‘Wel, sut, ynte, fel tae, rwan?’
‘Wel, fel hyn. I hyn y daw hi ac i hyn y mae hi ’n dwad hefyd, weldi. Rydech chi yn rhy bethma o lawer.’
‘Hefo beth, ynte, fel tae, rwan?’
‘Wel, hefo ’r naill beth a’r llall, ac fel hyn a fel arall. ’Does neb ond y chi, ddylie dyn. Rydach chi yn deyd fel hyn a fel arall ac yn son am y naill beth a’r llall, a phan fydd dyn yn gofyn cwestiwn go bethma i chi, rydech chi yn ffeilio ateb, ac yn mynd ar hyd ac ar draws, ac yn deyd hyn a’r llall, ac yn palu clwydde fel ceffyl dall ar dalar!’
‘Dyma chi, John Dafis, ryden ni yn hen gydnabod, ond yden ni, fel tae, rwan?’
‘Yden, siwr, mewn ffordd o siarad, fel tase.’
‘Yden, waeth i chi ddeyd, rwan. Wel, peidiwch chi a mynd i siarad mor bethma hefo fi am danon ni, rwan, fel tae, os gwelwch chi yn dda.’
‘Pwy oedd yn siarad yn bethma am danoch chi?’
‘Wel, y chi.’
‘Nag oeddwn!’
‘Wel, oeddech, medde finne!’
‘Wel, be ddeydis i, ynte?’
‘Deyd ddaru chi yn bod ni fel hyn ag fel arall, ac yn siarad ar hyd ag ar draws, ac yn palu clwydde fel ceffyl dall ar dalar. Pa glwydde ryden ni yn ’u palu, rwan, fel tae?’
‘Wel, mewn ffordd o siarad, rwan, rydech chi yn deyd pob math o bethe mwya bethma fel hyn ac fel arall am hyn a’r llall ar draws ac ar hyd ac ar draws i gilydd heb na phen na chynffon, ac yn mynd yn wysg ych trwyne nad ŵyr neb ymhle i’ch cael chi, a wyddoch chi ddim gwahanieth rhwng y naill beth a’r llall mwy na thwrch daear am yr haul!’
‘Caewch ych ceg, John Dafis!’
‘Chaea i moni hi i’ch plesio chi, Huw Jones!’
‘Rydw i’n deyd mai ffwl ydech chi, John Dafis!’
‘Choelia inne monoch chi, Huw Jones!’
‘Gwnewch chi fel y fynnoch chi am hynny, ynte, rwan.’
‘Mi wnaf, siwr, a gwnewch chithe, a pheidiwch a bod mor gegog!’
‘Rydech chi yn rhy bethma o beth cebyst, yn siwr i chi!’
‘Pwy sy’n bethma?’
‘Y chi, dyna pwy!’
‘Cymrwch hwnna!’
“Gyda’r gair, dyma Huw Jones yn rhoi dyrnod i John Dafis ynghanol ei wyneb. Cyn pen dau funud, yr oedd John Dafis wedi ei dalu yn ol gyda llog. Aeth yn ymladdfa wyllt, a chyn pen ychydig eiliadau, daeth tri neu bedwar o ddynion ereill yno, sef Dafydd Gruffydd, Wil Ifan, Sion Puw, a Ned Dafis. Gofynnodd Wil Ifan beth oedd yr helynt rhwng y ddau.
‘Deyd yn bod ni y Toris yn bethma ddaru o!’ ebe Huw Jones.
‘Ond ydech chi hefyd!’ ebe Wil Ifan yn ffyrnig.
‘Nag yden ni ddim, y chi, yr hen Wigs budron yma sy’n bethma!’ ebe Ned Dafis (Ned un Llygad).
“Aeth yn ffrwgwd rhwng y chwech ar hynny, tri o honynt yn perthyn i bob plaid. Yr oedd John Dafis a Wil Ifan yn gweiddi nerth eu pennau—‘Rydech chi yn bethma, bob copa ohonoch chi!’ Ac ar yr ochr arall, yr oedd Huw Jones a Ned un Llygad yn gweiddi â’u holl egni hwythau—‘Na, y chi sy’n bethma, y cnafon gynnoch chi!’
“Daeth ereill yno ar ffrwst wrth glywed y swn, a deallasant mai ffrae ydoedd rhwng y naill blaid a’r llall ynghylch pwy oedd yn bethma. Cyn pen ychydig eiliadau, yr oedd y frwydr yn gyffredinol. Daeth yr heddgeidwad i’r lle, ond ni fedrai wneud dim. Parhaodd yr ymladd am awr, nes i’r blaid Geidwadol orfod cilio o’r ffordd, ac o dipyn i beth, tawelodd y cyffro.
“Drannoeth, aeth ein gohebydd i’r dref i wneud ymchwiliadau, a chafodd yr hanes fel yr adroddir ef uchod. Nid yw’r pleidiau eto wedi oeri, ac y mae llawer yn ofni i’r helynt ail dorri allan. Mewn gwirionedd, mae yma le go ‘bethma’ yn Llangrymbo y dyddiau hyn.”
Felly y cafwyd allan achos Ffrae Fawr Langrymbo. Ac eto, nid oes hyd heddyw gof golofn ar fedd fy ewythr.
CAERNARFON:CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.),SWYDDFA “CYMRU.”
CAERNARFON:
CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.),
SWYDDFA “CYMRU.”
“YMADAWIAD ARTHUR A CHANIADAU EREILL.”
Gan T. GWYNN JONES.
“Yn y gyfrol hon, rhoddodd i ni farddoniaeth a gyfoethoga lenyddiaeth y genedl hyd fyth.”—Y Genedl Gymreig.
“Y mae nwyf ac ysblander yn treiddio drwy bob gweledigaeth o’i eiddo.”—Y Faner.
“Y mae ôl meddwl a llaw meistr gwirioneddol ar ei waith.”—Y Brython.
“Dyma gyfrol sydd yn sicr o gymeryd ei lle ymhlith clasuron telediwaf llên Cymru.”—Y Glorian.
“Bydd ei enw a’i waith byw cyhyd ag y oedwir y Brython mewn cof.”—Y Goleuad.
“Mor glir a manwl â darluniau Birket Foster, lle ceir pob deilen a phob glaswelltyn wedi eu tynnu ar eu pen eu hun.”—Cymru.
“The more personally moved he is, the more he moves his hearers.”—The Manchester Guardian.
“He has the light touch, the quaint fancy, the deep thought, the appealing description and the noble imagination . . . of the true Celt.”—Cork Free Press.
“Do sholáthróghadh an iarracht soin gairm is clu dho a mhairfeadh an fhaid a bheidh rae sa spéir.”—Freeman’s Journal.
“Ez int taolennou hag a zo gwiriek evid ar bed Kuz-heoliek, rag piou ahanomp n’en deuz gwelet eur wech bennag var e hent en den henvel ouz ‘Yr Hen Ffermwr,’ ‘Y Gweinidog,’ ‘Y Nafi?’ ”—Ar Bobl.
Mewn llian hardd, gyda llun yr awdwr,Pris 3s. 6c.Archebion i’w danfon i Swyddfa “Cymru,”Caernarfon.
Mewn llian hardd, gyda llun yr awdwr,
Pris 3s. 6c.
Archebion i’w danfon i Swyddfa “Cymru,”
Caernarfon.
Y MOR CANOLDIR A’R AIFFT.
Gan T. GWYNN JONES.
ADOLYGIADAU.
“Er i eraill gymeryd mewn llaw adrodd eu helyntion a’u profiadau . . . ar hyd llwybrau hen Wlad y Caethiwed, ni welsom waith mor swynol a hwn. Diddorir ac adeiledir ar unwaith. Profir blas rhamant ar bob tudalen. Gwisgir ffeithiau mewn lliwiau hudolus. . . . Trwy fod yr arddull yn gain, . . . edmygedd yr awdur o’r mawreddog, y cywrain, a’r caredig, mor gryf, a’i ddarluniau mor fyw, hud-ddenir ni ymlaen mewn llesmair beraidd.”—Y Brython.
“Mae’n gamp ar ei lyfr fod llawer ynddo am yr Aifft a’i phobl na cheir mohono mewn llyfrau Seisnig ar y testyn. . . . Eithr nid yn hynny y mae ei werth mwyaf. Tyn yr awdur hefyd ddarluniau beunydd o’r hyn a welodd, mewn modd amhosibl ond i grefftwr llwyr gynefin a’i waith, a thrwy’r un gelfyddyd mae’r bobl, yn wynion a duon, y daeth ef i gyffyrddiad â hwynt, yn rhodio’n fyw o flaen y llygaid. Eto nid mwy dyddorol hyn oll na meddwl a theimlad yr awdur ei hun yn y gwahanol amgylchiadau y sonia am danynt. A dyna gamp fawr llenyddiaeth.”—Y Genedl Gymreig.
“Dyma lyfr têg ei olwg, a da’i wneuthuriad, ymhob ystyr, o waith gwr yn medru gweled a barnu a disgrifio mewn modd na fedrir arno ond gan ddyn mawr a hyddysg, ac mewn iaith na fedrir arni ond gan y gwir feistr. . . . Ceir yn y llyfr engreifftiau nodedig o ddoniolwch deheuig, o dynerwch heb fychander na gwendid ynddo, ac opathosdwfn. . . . Yn wir, ni wyddom am odid ddim o waith yr awdur yn ei ddangos, megis heb yn wybod iddo, yn llawnach na’r llyfr gwir ddyddorol hwn.”—Y Drysorfa.
Mewn llian hardd, gyda darluniau.Pris1/6.Cludiad, 2g.SWYDDFA “CYMRU,” CAERNARFON.
Mewn llian hardd, gyda darluniau.
Pris1/6.Cludiad, 2g.
SWYDDFA “CYMRU,” CAERNARFON.
DIRGELWCH YR ANIALWCH
ac Ystraeon eraill.
Gan E. MORGAN HUMPHREYS.
BARN Y WASG.
“Mae digon o ramant yn y llyfr i roi blas ar ddarllen i unrhyw fachgen.”—Y Goleuad.
“Y maent yn gwneyd eu rhan at lenwi bwlch yn llenyddiaeth Cymru, sef o ystraeon addas i ieuengtyd o’r deuddeg i’r ugain oed, ac yn rhoi iddynt yn iaith eu mam beth na chaent o’r blaen ond yn iaith yr estron.”—Y Brython.
“O hyn allan nis gellir dweyd ein bod heb lyfr diweddar da o ystraeon ac anturiaethau. . . . Y mae yn chwaethus, yn llednais, a’i Chymraeg yn gain.”—Y Drysorfa.
“Gwnai hwn lyfr anrheg rhagorol i fechgyn, gwell o lawer na’r llyfrau glasdwraidd a roddir iddynt yn gyffredin.”—Yr Herald Cymraeg.
“Medd yr awdwr ddawn i greu ystori, a dawn i’w hadrodd yn rymus a gafaelgar. Y mae’r ystraeon hyn mor naturiol a hanes, ac yr ydym yn cael ein hunain wrth eu darllen yn credu pob dim.”—Anthroposyn yFaner.
MEWN LLIAN HARDD, GYDA DARLUNIAU.Pris1/6.Cludiad, 2g.SWYDDFA “CYMRU,” CAERNARFON.
MEWN LLIAN HARDD, GYDA DARLUNIAU.
Pris1/6.Cludiad, 2g.
SWYDDFA “CYMRU,” CAERNARFON.
“Os hoffech gael grâen ar eich arddull, darllenwch gyfrolau rhyddiaethAnthropos. Darllenwch hwy i’w mwynhau, a gloewa eich Cymraeg heb ymgais ar eich rhan.”—O. M. Edwardsyn yCymru.
Oriau yn y Wlad:
neu GYDYMAITH GWYLIAG HAF.
Gan ANTHROPOS.
CYNHWYSIAD:
Y Gwahoddiad—Yr hen Gymydogaeth—Pont Cwmanog—Hafdaith yn Lleyn—Yn Mro Goronwy—Haf-ddydd yn Eryri—Melin y Glyn—Llythyr at Arlunydd—Tair Golygfa—Cwlad Eben Fardd—Y Rhodfa drwy yr Yd—Rhwng y Mynydd a’r Mor—Bedd y Bardd—Eglwys Dwynwen—Ffynon y Tylwyth Teg—Gweled Anian—Yn Mrig yr Hwyr—Bardd y Gwanwyn—“Mis Mai.” Gyda Darluniau.
Awel a Heulwen.
Cydymaith i “Oriau yn y Wlad.”
GAN YR UN AWDWR.
CYNHWYSIAD:
Yr Awel—Llyn Crafnant—Y Rhaiadr—Molawd Mai—Yn Nyffryn Clwyd—Y Dydd Hwyaf—Amaethdy yn Mon—Ffrwd y Mynydd—Bwthyn y Bryn—Adgofion Golygydd—Yn y Wlad—Pa bryd daw yr Ha?—Gwlad y Llynnau—Rhosyn Gwyllt y Berth—Y Cysegr ar y Bryn—Un o’r Piwritaniaid—Hiraethgan yr Alltud—Y Fedwen ar y Mynydd—Llythyr Bardd—Cartrefi Gwynion Cymru—Treigliadau Llyfr—Gwaedd uwch Adwaedd—Mewn Album—Yn Mettws y Coed—Y Felin—Pen y Gogarth—Cadw’r Hen Fanerau—Blodau Cynar—Oriau yn y Wlad.
Wedi eu rhwymo mewn llian hardd. Pris 1s. 6c.Drwy y post, 1s. 9c.l’w cael o Swyddfa “Cymru,” Caernarfon.
Wedi eu rhwymo mewn llian hardd. Pris 1s. 6c.
Drwy y post, 1s. 9c.
l’w cael o Swyddfa “Cymru,” Caernarfon.
Llyfrau ab Owen.Cyhoeddedig yn Swyddfa’r “Cymru,” Caernarfon.Nid yw y llyfrau hyn yn gyfres, er eu bod oll o’r un plyg a maint.PrisSWLLT YR UN.
Llyfrau ab Owen.
Cyhoeddedig yn Swyddfa’r “Cymru,” Caernarfon.
Nid yw y llyfrau hyn yn gyfres, er eu bod oll o’r un plyg a maint.
PrisSWLLT YR UN.
CLYCH ADGOF.Penodau yn hanes fy addysg.GAN OWEN EDWARDS.
CLYCH ADGOF.
Penodau yn hanes fy addysg.
GAN OWEN EDWARDS.
Yagol y Llan. Hen Fethodist. Llyfr y Seiat. Fy Nhad. Y Bala. Aberyswyth. Rhydychen. Dyrnaid o Beiswyn.
Yagol y Llan. Hen Fethodist. Llyfr y Seiat. Fy Nhad. Y Bala. Aberyswyth. Rhydychen. Dyrnaid o Beiswyn.
GWREICHION Y DIWYGIADAU.WEDI EU CASGLU GAN GARNEDDOG.Penhillion y Diwygiadau, tân oddiar yr allor, yn llawn ysbryd ac athrylith.
GWREICHION Y DIWYGIADAU.
WEDI EU CASGLU GAN GARNEDDOG.
Penhillion y Diwygiadau, tân oddiar yr allor, yn llawn ysbryd ac athrylith.
TRO TRWY’R WIG.GAN RICHARD MORGAN.Y Gyfrol Gyntaf.
TRO TRWY’R WIG.
GAN RICHARD MORGAN.
Y Gyfrol Gyntaf.
Coch y Berllan. Priodas y Blodau. Nyth Aderyn Du. Bore Teg. Carwriaeth y Coed. Crafanc yr Arth. Telor yr Helyg.
Coch y Berllan. Priodas y Blodau. Nyth Aderyn Du. Bore Teg. Carwriaeth y Coed. Crafanc yr Arth. Telor yr Helyg.
CERRIG Y RHYD.Llyfr o hanes rhai’n camu cerrig rhyd bywydGAN WINNIE PARRY.
CERRIG Y RHYD.
Llyfr o hanes rhai’n camu cerrig rhyd bywyd
GAN WINNIE PARRY.
Cerrig y Rhyd. Y Cawr Hwnw. Y Plas Gwydr. Cwyn y Rhosyn. Anwylaf. Uchelgais y Plant. Y Goedwig Ddu-Blodau Arian. Fy Ffrog Newydd. Y Marchog Glas. Hen Ferch. Breuddwyd Nadolig. Huw. Esgidiau Nadolig. Y Castell ger y Lli. Dros Foel y Don.
CAPELULO.GAN ELFYN.
CAPELULO.
GAN ELFYN.
Bore Oes; Crwydro’r Byd; Troi Adre; Troi Dalen, Sêl Tomos; Dysgu Darllen; “Dydd Iau”: Balchder a Phwdin; Gwerthu Almanaciau a Cherddi; Traethu ar Briodas; Anerchiadau a Chynghorion; Araeth Danllyd; Pregeth i Berson; Cwestiynau’r Cyfrwys; Dafydd Evans y Pandy; Cyfarfod Gwytherin: Yn y Cyfarfod Gweddi; Tagu Prydydd: Dywediadau ac Ymgomiau; Tomos ac I. D. Ffraid; Y Gweinidog o’r De; O Flaen yr “Ustus”; Rhyfel a Satan; Yn y Seiat; Galwad Adref.
TRO TRWY’R GOGLEDD.GAN OWEN EDWARDS.
TRO TRWY’R GOGLEDD.
GAN OWEN EDWARDS.
Blaenau Ffestiniog. Y Perthi Llwydion. O gylch Carn Fadryn. Harlech. Ty’n y Groes. Llan ym Mawddwy. Pen y Bryn, Y Bryn Melyn.
ROBERT OWEN, APOSTOL LLAFUR.GAN Y PARCH, RICHARD ROBERTS, B.A.
ROBERT OWEN, APOSTOL LLAFUR.
GAN Y PARCH, RICHARD ROBERTS, B.A.
Cyfrol I.
Y cartref yn y Drefnewydd. Y Siop yn Llundain. Manceinion. Lanark Newydd. Amaeroedd Rhyfedd. Trueni’r gweithiwr. Adam Smith a Malthus. Ym Mharis a’r Ynys Werdd. Ymroddi i wella cymdeithas. Ei syniadau.
Cyfrol II.
Harmony Newydd. Lanark Newydd. Mexico a’r Unol Dalaethau. Y Symudiad Cydweithredol. Y Gyfnewidfa Llafur. Yr Undebau Llafur. Y dyn. Ei neges. Ei le. Ei gymunrodd.
DAFYDD JONES O DREFRIW.GAN Y PARCH. O. GAIANYDD WILLIAMS.
DAFYDD JONES O DREFRIW.
GAN Y PARCH. O. GAIANYDD WILLIAMS.
Y Llenor a’i oes. Amcan a lle Dafydd Jones. Pwy ydoedd. Bywyd a Buchedd. Ei Farddoniaeth. Ei Grefydd. Ei Llyfrau. Bwriadau Llenyddol. Fel casglwr hen ysgriflyfrau.
TRO I’R DE.GAN OWEN EDWARDS.
TRO I’R DE.
GAN OWEN EDWARDS.
Caer Lleon Fawr. Llanidloes. Llanfair Muallt. Abertawe. Yr Hen Dy Gwyn. Llangeitho.
GWAITH HUGH JONES, MAESGLASAU.DAU O’I LYFRAU,—SY’N BRINION IAWN ERBYN HYN.
GWAITH HUGH JONES, MAESGLASAU.
DAU O’I LYFRAU,—SY’N BRINION IAWN ERBYN HYN.
TRWY INDIA’R GORLLEWIN.GAN Y PARCH. D. CUNLLO DAVIES.
TRWY INDIA’R GORLLEWIN.
GAN Y PARCH. D. CUNLLO DAVIES.
Nodiadau o hanes taith trwy yr ynysoedd yng ngauaf 1903-04.
CERIS Y PWLL.GAN O. WILLIAMSON.
CERIS Y PWLL.
GAN O. WILLIAMSON.
Rhamant hanesyddol yn egluro cyfnod yr ymdrech rhwng Goidel a Brython a ffurfiad y genedl Gymreig.
CANIADAU BUDDUG.
CANIADAU BUDDUG.
Ceir yma mewn cyfrol dlos ganeuon llednais, tawel, hyfryd y cartref dedwydd, a’r bywyd dwys.
CLASURON CYMRU.Dan olygiaeth Owen M. Edwards, M.A.
CLASURON CYMRU.
Dan olygiaeth Owen M. Edwards, M.A.
GWELEDIGAETHAU Y BARDD CWSG.GAN ELLIS WYNNE.
GWELEDIGAETHAU Y BARDD CWSG.
GAN ELLIS WYNNE.
1. Gweledigaeth Cwrs y Byd. 2. Cerdd ar “Gwel yr Adeilad.” 3. Gweledigaeth Angau. 4. Cerdd ar “Gadel Tir.” 5. Gweledigaeth Uffern. 6. Cerdd ar “Trom Galon.”
Wedi ei drefnu ar gyfer yr ysgolion.
DRYCH Y PRIF OESOEDD.GAN THEOPHILUS EVANS.
DRYCH Y PRIF OESOEDD.
GAN THEOPHILUS EVANS.
1. Y Cymry. 2. Y Rhufeiniaid. 3. Y Brithwyr. 4. Y Saeson.
“Am ddyddordebDrych y Prif Oesoedd, nid oes ond un farn. Y mae’r arddull naturiol a’r cydmariaethau hapus ar unwaith yn ein denu i ddarllen ymlaen.”
BYWYD IEUAN GWYNEDDGANDDO EF EI HUN.
BYWYD IEUAN GWYNEDD
GANDDO EF EI HUN.
1. Ardal Mebyd. 2. Fy Mam. 3. Bore Oes. 4. Athrawon. 5. Cathlau Blinder. 6. Gwaith Bywyd.
“Nid oes odid i fywyd yn holl hanes bechgyn ieuainc Cymru mor llawn o wersi i wyr ieuainc yr oes hon a Bywyd Ieuan Gwynedd, yn ei gyni dros Dduw a Chymru, trwy dlodi ac afiechyd, a hiraeth a dioddef. Y mae yn fywyd na ddylai’r Cymry byth anghofio am dano.”
Wedi eu rhwymo mewn llian hardd, gyda darlun.PRIS SWLLTYR UN.Drwy y post, 1/1½. Mewn amlen bapur,6c.Drwy y post, 7c.Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.), Swyddfa“Cymru,” Caernarfon.
Wedi eu rhwymo mewn llian hardd, gyda darlun.
PRIS SWLLTYR UN.
Drwy y post, 1/1½. Mewn amlen bapur,6c.
Drwy y post, 7c.
Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.), Swyddfa
“Cymru,” Caernarfon.
Transcriber’s Notes:
Spelling and hyphenation have been left as in the original. A few punctuation errors have been corrected without note.
[The end ofBrethyn Cartref: Ystraeon Cymreigby Thomas Gwynn Jones]