GLAS YNYS.

Panfum i drwyddi, tybiwn mai priodol iawn fyddai galw bro Elis Wyn yn Wlad Cwsg.  Tybiwn fod rhywbeth yn ddieithr yn ei goleuni, a fod su esmwyth yn tonni trwy ei hawyr o hyd.  Prin y teimlwn y gwahaniaeth rhwng bod yn effro ac ynghwsg ynddi.  Yr oeddwn fel pe’n breuddwydio wrth gerdded drwyddi; a phan ddoi cwsg, nid oedd breuddwyd yn newid dim ar y wlad.  Y mae delw’r wlad ar y gweledigaethau sydd wedi synnu ac wedi dychrynnu cymaint.  Nis gallasai’r bardd ddychmygu fel y gwnaeth am y byd ac angeu ac uffern, ond mewn gwlad fel hon.

Un peth tarawiadol ynddi ydyw ei distawrwydd.  Nid yn unig y mae’n ddistawach na gwlad boblog, lawn o bentrefydd; y mae’n ddistawach na mynydd-dir eang unig y Berwyn neu Blunhumon.  Ni fum mewn lle distawach erioed.  Y mae’r don i’w gweled yn symud draw ymhell yn ewyn i fyny’r traeth, ond mewn distawrwydd perffiaith.  Y mae’r wylan yn ehedeg uwch ben; ond, o ran pob swn, gallai fod yn ddarlun o wylan ar ddarlun o awyr.  Ac y mae’r mynyddoedd mawr yn gorwedd yn berffaith ddistaw yng ngwres y canol ddydd haf;tybiwn fod y defaid a’r aberoedd yn cysgu arnynt.

Peth tarawiadol arall yng ngwlad Bardd Cwsg ydyw cyfoeth ei lliwiau, ac amrywiaeth ei chymylau a’i lleni teneuol o niwl.  Pan fo’r haul yn tywynnu y mae melyn a gwyn y traeth y tu hwnt i ddesgrifiad; pan fachludo’r haul, cyll y môr ei ddisgleirdeb ar unwaith, ac y mae golwg ddu frawychus ar y llu mynyddoedd mawr sydd o gwmpas Gwlad Cwsg.  Ac nis gall neb ddarllen y tair Gweledigaeth heb adnabod niwl a tharth Harlech, ac heb weled mor hoff yw Elis Wyn o gyferbynnu goleuni disglaer a thywyllwch dudew.  Fel Spenser a Milton yn llenyddiaeth Lloegr, y mae’n hoff o ddesgrifio goleum tanbaid neu’r fagddu ddilewyrch.  Efe yw Rembrandt llenyddiaeth Cymru.  Dacw belydryn yn gloewi o’r tu hwnt i gwmwl melynwyn, fel hwnnw welodd y Bardd Cwsg pan weddiodd yng ngafael y Tylwyth Teg,—“Gwelwn ryw oleuni o hirbell yn torri allan, O mor brydferth!”

Gwaith caled ar ddiwrnod gwresog yw dringo i fyny dan gysgod castell Harlech.  Rhaid fod Bardd Cwsg wedi treulio llawer o amser yn yr hen gastell hwn; a hwyrach fod edrych i lawr dros ddibyn ei graig wedi ei helpu i ddychmygu am y ceulannau a’r dibynnau y gwelodd daflu’r colledigion drostynt yn ei Uffern.  A’r ffrwd acw, tybiaf i mi weled darlun o honi fel un o raiadrauy Fall.  Ond dyma ben y bryn o’r diwedd, a hen ŵr llygad-lon wedi bod yn fy ngwylio’n dringo.

“Mi gewch ddiwrnod braf i weld y wlad heddyw,” ebe’r hen ŵr a’m cyfeiriai o Harlech tua Glasynys, “mi fydd y dydd i gyd fel y pelydryn yna gyda hyn.”  A gwir a ddywedodd, cefais ddiwrnod poetha’r haf hwnnw.  Y mae Harlech ar godiad tir serth, a rhaid cael un chwim iawn i ddod i fyny iddi o’r traeth heb golli ei wynt.  Un ystryd hir y tybiwn ei bod, o bobtu i’r ffordd sy’n rhedeg hyd y bryniau, yn gyfochrog a glan y môr.  Y mae’n lân, er nad oes adeiladau mawrion yn ei rhan hynaf.  Hawdd gweled ei bod yn hen dref oddiwrth ei chastell ac amlder ei thafarnau.  Trois ar y chwith, hyd ffordd Talsarnau, a chefais gwmni bardd am ran o’r ffordd.  Toc gadewais y ffordd gysgodol sy’n rhedeg hyd fron y mynydd, a throais hyd lwybr i lawr i’r gwastadedd glas odditanaf.  Ar ganol y gwastadedd gwelwn fryncyn yn codi, ac o bob tu iddo,—ar ochr y mynydd ac ar ochr y môr,—y mae amaethdy o’r enw Glasynys.  Oddiar ben y bryn y mae golygfa ardderchog ar fôr a mynydd.  Ynys, mae’n ddiameu, oedd y bryn unwaith, ac yr oedd y gwastadedd yn fôr.  Ar ein cyfer codai’r mynydd yn serth, gyda choed yn aml ar ei lethrau.  Aml waith y bu Elis Wyn yn dringo i ael y mynyddacw; a dacw’r llecyn, hwyrach, oedd o flaen ei lygad pan yn darlunio ei weledigaeth gyntaf,—

“Arryw brydnawn-gwaith teg o haf hir-felyn tesog, cymerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi yspienddrych, i helpu’m golwg egwan, i weled pell yn agos, a phethau bychain yn fawr; trwy yr awyr denau eglur, a’r tes ysblennydd tawel canfyddwn ymhell bell, tros fôr y Werddon, lawer golygiad hyfryd.  O hir drafeilio â’m llygaid, ac wedyn a’m meddwl, daeth blinder, ac yng nghysgod blinder, daeth fy Meistr Cwsg yn lledradaidd i’m rhwymo; ac â’i agoriadau plwm fe gloes ffenestri fy llygaid, a’m holl synwyrau ereill, yn ddiogel.”

“Arryw brydnawn-gwaith teg o haf hir-felyn tesog, cymerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi yspienddrych, i helpu’m golwg egwan, i weled pell yn agos, a phethau bychain yn fawr; trwy yr awyr denau eglur, a’r tes ysblennydd tawel canfyddwn ymhell bell, tros fôr y Werddon, lawer golygiad hyfryd.  O hir drafeilio â’m llygaid, ac wedyn a’m meddwl, daeth blinder, ac yng nghysgod blinder, daeth fy Meistr Cwsg yn lledradaidd i’m rhwymo; ac â’i agoriadau plwm fe gloes ffenestri fy llygaid, a’m holl synwyrau ereill, yn ddiogel.”

Cerddais dros y bryn bychan gan ddod i lawr at gefn Glasynys y bardd,—amaethdy a’i wyneb tua’r mynyddoedd.  Gwelais ar unwaith ei fod wedi ei adeiladu fel y dylid adeiladu ty ar lethr craig; gyda drws i fynd oddiallan i’w ystafelloedd uchaf, a mor naturiol ei safiad a phe buasai wedi codi, fel blodeuyn, yng nghwrs natur ar ochr y bryn.  Curais wrth y drws, a daeth merch ieuanc i’w agor.  Dywedodd fod croesaw imi weled cartref y Bardd Cwsg, a danghosodd i mi brif ystafelloedd y ty.  Yr wyf yn cofio fod rhyw hanner arswyd arnaf wrth grwydro trwy’r ystafelloedd lle crewyd golygfeydd ofnadwy Bardd Cwsg; a thybiwn mai hyfryd i’r bardd, pan fyddai ei ddychymyg wedi ei arwain trwy erchyllderau uffern a’r fall, oedd sylweddoli ei fod ef mewn lle mor hyfryd.

Yr oedd llwybr Elis Wyn rhwng ei gartref a’i eglwys, rhwng Glasynys a Llanfair.  Y mae Glasynys rhyw ddwy filldir o Harlach i’r gogledd,ac y mae eglwys Llanfair rhyw ddwy filldir o Harlech i’r de.  Bum yn Llanfair hefyd, lle y gorwedd Elis Wyn mewn bedd dinod, bron anadnabyddus.  Y mae’r daith o Harlech i Lanfair yn fwy digysgod na’r daith i Lasynys, ar wres neu ar gurwlaw, ond nid yw’n llai hyfryd.  Wedi tynnu i fyny’r rhiw oddiwrth y môr, a gadael yr hen gastell gwgus ar ein hol, trown ar y dde.  Y mae mwy o Harlech i’w weled wrth fynd i Lanfair nag wrth fynd i Lasynys.  Wedi cerdded drwy ystryd gweddol hir, deuir i lecyn dymunol iawn dan goed, ar gyfer prif westy’r lle.  Y mae golwg brydferth iawn oddiyma drwy’r coed ar y môr sy’n mhell odditanodd, ac y mae pob trofa newydd ar y ffordd yn hyfrydwch.  Creigiau, coed, mynydd, a’r môr,—nid oes braidd dŷ yn y cilfachau hyn heb olygfeydd o’i ffenestri y buasai cynllunydd palas brenin yn falch o honynt.  Ond yn fuan iawn yr ydym yn gadael yr hen dref ar ein holau, ac yn teithio hyd ffordd deg ar y dibyn uwch ben y môr, a’r hen gastell du gwgus yn ein gwylied o’n hol.  Dyma ffordd y bu Bardd Cwsg yn ei cherdded filoedd o weithiau, ac y mae golygfeydd ei weledigaethau o’n hamgylch heddyw, er fod syniadau gwlad wedi newid llawer er yr adeg y bu yn ei cherdded ddiweddaf, tua chant a thrigain o flynyddoedd yn ol.

Aml dro, y mae’n ddiameu, bu Elis Wyn ynedrych ar ddyffrynnoedd fel dyffryn Nancol; ac i’w feddwl ef, fel i feddwl pawb yn yr oes honno, yr oedd yr aruthredd rhamantus yn erchylldra di-drefn.  Yn ei freuddwydion y mae’r cwm mynyddig yn ymddangos yn uffern, lle gwelai’r colledigion, a’r ysbrydion aflan

“â phigffyrch yn eu taflu i ddisgyn ar eu pennau ar heislanod gwenwynig o bicellau geirwon gwrthfachog, i wingo gerfydd eu hymenyddiau; ymhen ennyd, lluchient hwy ar eu gilydd yn haenfeydd, i ben un o’r creigiau llosg, i rostio fel poethfel.  Oddi yno cipid hwy ymhell i ben un o fylchau y rhew a’r eira tragwyddol; yna yn ol i anferth lifeiriant o frwmstan berwedig, i’w trochi mewn llosgfeydd, a mygfeydd, a thagfeydd o ddrewi anaele.”

“â phigffyrch yn eu taflu i ddisgyn ar eu pennau ar heislanod gwenwynig o bicellau geirwon gwrthfachog, i wingo gerfydd eu hymenyddiau; ymhen ennyd, lluchient hwy ar eu gilydd yn haenfeydd, i ben un o’r creigiau llosg, i rostio fel poethfel.  Oddi yno cipid hwy ymhell i ben un o fylchau y rhew a’r eira tragwyddol; yna yn ol i anferth lifeiriant o frwmstan berwedig, i’w trochi mewn llosgfeydd, a mygfeydd, a thagfeydd o ddrewi anaele.”

Weithiau tybiwn ein bod yn adnabod rhai o gymoedd Meirion, hyd nes y dadlennir y darlun erchyll i gyd,—

“Tu isaf i’r gell yma gwelwn rhyw gwm mawr, ag ynddo megis myrdd o domenydd anferth yn gwyrddlosgi; ac erbyn neshau gwybum wrth eu hudfa mai dynion oeddynt oll, yn fryniau ar eu gilydd, a’r fflamau cethin yn clecian trwyddynt.”

“Tu isaf i’r gell yma gwelwn rhyw gwm mawr, ag ynddo megis myrdd o domenydd anferth yn gwyrddlosgi; ac erbyn neshau gwybum wrth eu hudfa mai dynion oeddynt oll, yn fryniau ar eu gilydd, a’r fflamau cethin yn clecian trwyddynt.”

Nid un yn gwenu ar bechod oedd Elis Wyn.  Y mae’n amhosibl cael darluniad mor ddychrynllyd o feddwdod ac aflendid ac anghrefydd, hyd yn oed ym mhregethau’r Diwygiad, ag yn ei weledigaethau ef.  Ac nid arbed y boneddigion na’u cynffonwyr.  Ychydig o lafurwyr welodd yn uffern; ac o’r rhai welodd, os oedd rhai wedi dod yno am gau talu’r degwm, yr oedd ereill wedi dod oherwydd gadael eu gwaith i ddilyn boneddigion.  Oes y boneddigion oedd y ddeunawfed ganrif; hwy oedd yn rheoli mewn llan a llys.  Hwy oedd yn y fyddin, hwy oeddyn ustusiaid, hwy oedd yn rheoli ymhob man.  A dysgeidiaeth pulpudau’r oes oedd fod yn rhaid ymostwng iddynt.  Ond trinir yr ustusiaid a’r cyfreithwyr a’r physygwyr yn ddiarbed yng ngweledigaethau Bardd Cwsg.  Ie, unwaith clywodd chwerthin yn uffern,—

“A mi yn dyfod allan o’r gilfach ryfeddol honno, mi a glywn gryn siarad; ac am bob gair y fath hyll grechwen a phed fuasai yno bumcant o’r cythreuliaid ar fwrw eu cyrn gan chwerthin.  Ond erbyn i mi gael neshau i weled yr ameuthyn mawr o wenu yn uffern, beth ydoedd ond dau o bendefigion newydd ddyfod, yn dadleu am gael parch dyledus i’w bonedd; ac nid oedd y llawenydd ond digio’r gwŷr boneddigion.  Palff o ysgweier a chanddo drolyn mawr o femrwm, sef ei gart achau, ac yno yn dadgan o ba sawl un o’r Pymtheg Llwyth Gwynedd y tarddasai ef; pa sawl Ustus o heddwch, a pha sawl Sirydd a fuasai o’i dy ef.  ‘Hai, Hai,’ ebe un, ‘nid ych chwi ond aer y fagddu, fflamgi brwnt, prin y teli i ti lety noswaith,’ eb efe, ‘ac eto ti a gai ryw gilfach i aros dydd:’ a gyda’r gair, dyma’r ellyll ysgethrin â’i bigfforch yn rhoi iddo, wedi deg tro ar hugain yn yr wybr danbaid, ond oedd ef yn disgyn i geudwll allan o’r golwg.”

“A mi yn dyfod allan o’r gilfach ryfeddol honno, mi a glywn gryn siarad; ac am bob gair y fath hyll grechwen a phed fuasai yno bumcant o’r cythreuliaid ar fwrw eu cyrn gan chwerthin.  Ond erbyn i mi gael neshau i weled yr ameuthyn mawr o wenu yn uffern, beth ydoedd ond dau o bendefigion newydd ddyfod, yn dadleu am gael parch dyledus i’w bonedd; ac nid oedd y llawenydd ond digio’r gwŷr boneddigion.  Palff o ysgweier a chanddo drolyn mawr o femrwm, sef ei gart achau, ac yno yn dadgan o ba sawl un o’r Pymtheg Llwyth Gwynedd y tarddasai ef; pa sawl Ustus o heddwch, a pha sawl Sirydd a fuasai o’i dy ef.  ‘Hai, Hai,’ ebe un, ‘nid ych chwi ond aer y fagddu, fflamgi brwnt, prin y teli i ti lety noswaith,’ eb efe, ‘ac eto ti a gai ryw gilfach i aros dydd:’ a gyda’r gair, dyma’r ellyll ysgethrin â’i bigfforch yn rhoi iddo, wedi deg tro ar hugain yn yr wybr danbaid, ond oedd ef yn disgyn i geudwll allan o’r golwg.”

Y mae’n hawdd gweld athrylith Elis Wyn oddiwrth y gosb rydd i bob un yn uffern.  Nis gŵyr y darllenydd yn iawn beth i’w wneyd wrth ddarllen hanes y gosb, pa un ai dychrynnu ai chwerthin, gan mor anisgwyliadwy ydyw’r gosb, ac eto mor naturiol.  Y meddw, y rhegwr, yr aflan, y rhodreswr, y chwedleuwr,—y maent i gyd yn y fro erchyll honno wrth eu hen waith.  Er esiampl, cymerer y pedwar ffidler oedd newydd farw, ac oedd yn eu bywyd wedi bod yn lwcusach am gynulleidfa na’r person,—

“‘Ffwrdd, ffwrdd, â’r rhai hyn i wlad yr anobaith,’ ebe’r brenin ofnadwy; ‘rhwymwch y pedwar gefn-gefn, a theflwch hwy at eu cymheiriaid, i ddawnsio yn droednoeth hyd aelwydydd gwynias, ac i rygnu fyth heb na chlod na chlera.”

“‘Ffwrdd, ffwrdd, â’r rhai hyn i wlad yr anobaith,’ ebe’r brenin ofnadwy; ‘rhwymwch y pedwar gefn-gefn, a theflwch hwy at eu cymheiriaid, i ddawnsio yn droednoeth hyd aelwydydd gwynias, ac i rygnu fyth heb na chlod na chlera.”

Ond dyma Lanfair yn y golwg.  Dacw’r eglwys y bu Elis Wyn yn gwasanaethu ynddi, a’r lle y claddwyd ef.  Y mae gwlad agored brydferth Llanfair a Llanbedr o’n blaenau.  Y mae’r môr gryn bellder odditanom, a thraw ar ei lan wele eglwys fechan Llandanwg.  Pentref bychan ydyw Llanfair, rhyw ychydig o dai o bobtu i’r ffordd.

Gydag i mi gyrraedd y pentref ymgasglodd lliaws o’r plant, rhai yn awyddus am rywbeth i’w weled neu i’w wneyd, o’m cwmpas.  Nid oedd yr un o honynt wedi clywed gair am Elis Wyn nac am weledigaethau Bardd Cwsg.  Yr oeddynt yn foddlon iawn i’m gwasanaethu, a medrodd un o honynt gael allwedd y fynwent ac allwedd yr eglwys i mi.  Saif yr eglwys hir a’i thalcen i’r mynydd, o fewn mynwent lawn a threfnus.  Yr oedd hanner arswyd arnaf wrth fynd i’r eglwys, ac yr oedd y plant a’m dilynent mor ddistaw a phe gwybuasent fod Bardd Cwsg, un ddychmygodd weled pethau mor ofnadwy, yn huno yno.  Y mae’r allor yn llenwi y pen agosaf i’r mynydd o’r eglwys, o fur i fur.  Hysbyswyd fi fod lle’r allor yn fyrrach unwaith, a fod lle i un set rhwng yr allor a’r mur.  Tan y set honno, set Glas Ynys, a claddwyd y Bardd Cwsg; ond erbyn hyn y mae’r allor dros ei orweddle.  Ac ni wyddai plant ei bentref, oedd mor ddistaw a llygod yn yr eglwys dawel, ddim am ei waith nac am ei enw.

Troais i unig westy’r pentref i ofyn lluniaeth, oherwydd yr oedd erbyn hyn yn hen brydnawn.  Tra’r oedd y forwyn yn gosod y llian ar y bwrdd mewn parlwr bach cysurus ddigon, gofynnais iddi,—

“Yn yr eglwys yma y claddwyd Elis Wyn o Lasynys, ynte?”

“Hwyrach wir, syr, ond ’doeddwn i’n nabod mo hono fo.”

Yr oedd gŵr y gwesty gerllaw, ac amryw las hogiau yn y gegin, ond nid oedd yr un o honynt yn gwybod dim am Elis Wyn.  Dywedodd un y gallai’r ysgolfeistr fod yn gwybod, fod llawer o bethau ynghadw yn ei ben ef, ond ei fod ar ei wyliau ar hynny o bryd.

Wedi te troais yn ol tua Harlech, a daethum at y ffordd sy’n arwain i lawr at Landanwg a min y môr.  Gwelwn mai rhibin hir iawn o ffordd ydoedd, ond daeth awydd angerddol drosof am weled gorweddfan Sion Phylip.  Ac i lawr a mi, hyd ffordd ddigon tolciog, nes cyrraedd ty neu ddau heb fod nepell o lan y môr.  Dywedwyd wrthyf na fu claddu ym mynwent Llandanwg er ys blynyddoedd, ac nad oes un math o wasanaeth ynddi’n awr.  Croesais ffrwd ddwfr, a chefais fy hun mewn cae gwyrdd o flaen yr eglwys.  Yr oedd y llecyn yn un hyfryd ar y nawn haf hwnnw.  Chwythai aweldros y môr, ag iechyd ar ei haden, ac yr oeddwn yn meddwl fod y ffrwd oedd ar golli yn y môr yn berffaith loew, fod y glaswellt yn berffaith wyrdd, a fod yr awyr yn berffaith bur.  Bechan iawn ydyw’r eglwys, a dieithr yr olwg arni.  Ni welais ond llwybr i fynd ati, a hwnnw’n cithaf anodd ei gael.  Y mae porth i fynd trwyddo i’r fynwent, ar gyfer ffenestr fawr y dwyrain.  Y mae drws yr eglyws i’r stormydd a’r môr.  Saif yr eglwys yn llythrennoll ar fin y môr, ac y mae’r tywod luchiwyd gan ystormydd hyd ei llawr.  “Llan dan wg y môr” ydyw ystyr ei henw, ebe un hen ramadegydd gyfarfyddais.  Mynwent unig a thawel, hyd yn oed ymysg mynwentydd, ydyw.  Y mae’r eglwys yn wag oddigerth fod yno ychydig o hen goed derw.  Anaml, yn sicr, y bydd neb yn torri ar unigedd y fan.  Y mae enwau ffermydd yr ardal ar y cerrig beddau, ond yr wyf yn meddwl mai anaml y cleddir yno’n awr.  Gwelais fedd Sion Phylip, wedi tipyn o chwilio ymysg y twmpathau gleision a’r cerrig beddau mwsoglyd.  Y mae yng nghysgod yr eglwys, yn union dan ffenestr y dwyrain.  Wrth dynnu’r mwsogl oddiar y ddwy lythyren a’r dyddiad a’r englyn sydd ar y garreg, ceisiwn gofio peth o Gywydd y Wylan, cywydd goreu Sion Phylip.  Ac yn sicr ddigon yr oedd gwylan unig yn hofran uwch fy mhen, fel pe’n gwylio bedd y bardd a’i darluniodd.

Bu Elis Wyn yn darllen gwasanaeth yr eglwys yma, yn swn y môr.  Tybed ei fod wedi cerdded hyd y traeth, gan synfyfyrio, i aros i’r plwyfolion ddod?  Ai ar y llecyn hwn, wrth syllu ar y feisdon, y dychmygodd yr ymddiddan rhyngddo a Thaliesin Ben Beirdd, pan y gofynnodd Taliesin iddo am y prydydd,—“Pa le mae’r pysgodyn sy’r un lwnc ag ef?  Ac mae hi yn fôr arno bob amser, eto ni thyr y môr heli mo’i syched ef.”

Yr oedd y nos yn dod, a’m ffordd innau i’m llety yn hir.  Nosodd arnaf cyn i mi ddod i’r ffordd fawr, ac ni welwn wahaniaeth rhwng daear a môr.  Nid oedd arnaf lai nag ofn yn y gwyll, yr oeddwn wedi meddwl cymaint yn ystod y dydd am y bodau erchyll ddarlunnir gan Fardd Cwsg.  Gan nad oedd ond amlinellau llymion y wlad i’w gweled, yr oeddwn bron a meddwl weithiau fy mod yn y dyffryn hwnnw ddarlunnir yng “Ngweledigaeth Angau yn ei Frenhinllys isaf,—

“Mi’m gwelwn mewn dyffryn pygddu anfeidrol o gwmpas, ac, i’m tyb i, nid oedd diben arno; ac ymhen ennyd, wrth ambell oleuni glas, fel canwyll ar ddiffodd, mi welwn aneirif, O! aneirif, o gysgodion dynion, rhai ar draed, a rhai ar feirch, yn gwau trwy eu gilydd fel y gwynt, yn ddistaw ac yn ddifrifol aruthr; a gwlad ddiffrwyth, lom, adwythig, heb na gwellt na gwair, na choed nac anifail; a chwipyn, er maint oedd y distawrydd o’r blaen, dyma si o’r naill i’r llall, fod yno ddyn bydol.”

“Mi’m gwelwn mewn dyffryn pygddu anfeidrol o gwmpas, ac, i’m tyb i, nid oedd diben arno; ac ymhen ennyd, wrth ambell oleuni glas, fel canwyll ar ddiffodd, mi welwn aneirif, O! aneirif, o gysgodion dynion, rhai ar draed, a rhai ar feirch, yn gwau trwy eu gilydd fel y gwynt, yn ddistaw ac yn ddifrifol aruthr; a gwlad ddiffrwyth, lom, adwythig, heb na gwellt na gwair, na choed nac anifail; a chwipyn, er maint oedd y distawrydd o’r blaen, dyma si o’r naill i’r llall, fod yno ddyn bydol.”

Y mae’n debyg fod Bardd Cwsg wedi llenwi bywydau llawer â dychrynfeydd, wedi gwneydpob nos yn llawn o ellyllon, ac wedi dyrysu synhwyrau llawer un.  Pa ryfedd fod y llyfr hwn wedi effeithio cymaint ar fywydau dynion?  Mor dryloew yw ei arddull, mor gain a naturiol ei Gymraeg!  Ac mor ryfedd ydyw ei ddychymyg pan yn crwydro trwy’r eangderoedd dychrynllyd hynny, pan yn dilyn o’i ledol ar ol milwyr disglaer Lusiffer wrth iddynt deithio fel mellt hyd y fagddu hyll!

Rhyfedd ac ofnadwy ydyw’r pethau ddarlunnir ganddo, ac nid heb ychydig ofn y medrir meddwl am danynt ar ffordd unig fel hon wedi nos.  Cyn i oleuadau Harlech ddod i’r golwg, yr oedd fy meddwl wedi troi at emyn y Bardd Cwsg, emyn sy’n dangos beth fuasai ei weledigaeth ym Mharadwys pe’r ysgrifenasai hi,—

“Myfi yw’r Adgyfodiad mawr,Myfi yw gwawr y bywyd;Caiff pawb a’m cred, medd f’Arglwydd Dduw,Er trengu, fyw mewn eilfyd.“A’r sawl sy’n byw mewn ufudd gredI mi, caiff drwydded nefolNa allo’r angau, brenin braw,Ddrwg iddaw yn dragwyddol.“Yn wir yn wir, medd Gwir ei hun,Pob cyfryw ddyn sy’n gwrandoFy ngair gan gredu’r Tad a’m rhoes,Mae didranc einioes ganddo.”

“Myfi yw’r Adgyfodiad mawr,Myfi yw gwawr y bywyd;Caiff pawb a’m cred, medd f’Arglwydd Dduw,Er trengu, fyw mewn eilfyd.

“A’r sawl sy’n byw mewn ufudd gredI mi, caiff drwydded nefolNa allo’r angau, brenin braw,Ddrwg iddaw yn dragwyddol.

“Yn wir yn wir, medd Gwir ei hun,Pob cyfryw ddyn sy’n gwrandoFy ngair gan gredu’r Tad a’m rhoes,Mae didranc einioes ganddo.”

Llawno ddyfroedd oedd Llanymddyfri pan welais i’r lle gyntaf, er fod hynny yn niwedd mis Mehefin.

Brân a GwydderigA Thywi fynheddigA Bawddwr fach fawlydYn rhedeg drwy’r dre,—

Brân a GwydderigA Thywi fynheddigA Bawddwr fach fawlydYn rhedeg drwy’r dre,—

nid yn unig yr oedd y rhain yn llifo dros y dolydd, ond yr oedd y gwlaw yn tywallt fel diluw.  Yr oedd wedi golchi swyddogion y ffordd haiarn yn lân; a thybiwn innau, wrth edrych o’r tren pan safodd yn Llanymddyfri, mai mewn dillad gwlybion y byddai raid i mi dreulio gweddill y dydd.  Gwelwn nad oedd y dref yn ymyl, ac ni welwn gerbyd fuasai’n noddfa rhag y gwlaw.  Ond, wedi disgyn,gwelais westy ar fy nghyfer, a medrais ei gyrraedd ar draws y ffordd cyn gwlychu at fy nghroen.

Ty’r Ficer yn 1892

Daeth gwraig dawel, a swn penderfyniad yn ei llais, i’m croesawu.  Yr oedd golwg gysurus ar bob peth yn y ty, yr oedd tân braf yn cynneu yn y parlwr cyn pen y chwarter awr, ac yr oedd pryd danteithiol o fwyd wedi ei arlwyo.

Yr oedd yno lyfrau hefyd, dyna’r gwahaniaeth rhwng gwesty Cymreig a gwestai ereill.  Cefais ymgom â gŵr y ty,—y mae hyn yn rhan o fywyd fforddolyn,—a dywedodd bopeth wrthyf am grefydd a gwleidyddiaeth Llanymddyfri.  Ond, fel gwestywr call, ni soniodd air am ei grefydd na’i gredo wleidyddol ei hun; ac yr wyf yn meddwl iddo fethu cael gweledigaeth eglur ar fy amryw dybiau innau.  Gŵr tawel oedd, yn siarad Cymraeg da.

Cyn huno, yn swn y gwlaw, bum yn ceisio dyfeisio fath dref a welwn yfory, a fath dŷ oedd ty’r Ficer enwog.  Yr oeddwn wedi gweld y lle o bell.  Pan oedd fy nhren yn croesi’r nentydd hyd ochr y mynydd, yr oeddwn wedi gweld dyffryn swynol i lawr odditanom, a gwastadeddau coediog niwliog draw.  Ond cyn dychmygu darlun eglur yr oeddwn yng ngwlad cwsg.  A chyn hir daeth yn ystorm yn fy mreuddwydion, a thybiais weled melldith y Ficer wedi dod ar Lanymddyfri, a’r dwfr yn ei chludo hi aminnau tua’r môr.  Ond pan ddaeth y bore, yr oedd haul disglaer ar bob peth, a minnau’n meddwl mor hyfryd oedd fy lle.

Wedi cael cyfarwyddiadau manwl, cychwynnais tua thŷ’r Ficer.  Gadewais ysgol Llanymddyfri ar y dde, a chefais fy hun cyn hir ym mhrif heol y dref.  Wrth grwydro drwyddi, tybiwn mai tref yn prysur adfeilio ydyw Llanymddyfri.  Ni welais ddim gwaith yn cael ei wneyd yn unlle, ac nid oedd neb prysur yn y golwg.  O’r negeseuwr i’r meddyg, yr oedd pawb yn rhodio’n hamddenol, fel pe mai unig amcan bywyd ydyw treulio’r dydd i ddisgwyl y nos a threulio’r nos i ddisgwyl y bore.  Ni welwn gwsmer yn yr un o’r siopau; yr oedd pob siop fel pe’n hepian, a’r prentisiaid dan y cownter yn disgwyl diwrnod ffair.  Gwelais siop lyfrau, arwydd sicr o ddiwylliant, ond ol-rifynnau oedd yn y ffenestr, rhai’n traethu am faterion gwleidyddol na chymer ond yr hanesydd ddyddordeb ynddynt yn awr.  Gwelais laswellt yn tyfu yn y farchnad, gwelais yriedydd yn golchi ei gerbyd y drydedd waith er pan gafodd gludo neb, gwelais saer yn cysgu yng nghanol eishavings, gwelais gapel Wesleaid—pwy mor weithgar—wedi ei gau.  Cyfarfyddais asiedydd deallgar, yr hwn ddywedodd lawer o hanes y dref i mi.  Cyfeiriais fy ffon at laswellt oedd yn ceisio ymwthio i fyny rhwng cerrig yr heolydd,a gofynnais a oedd Llanymddyfri’n adfeilio Sicrhaodd fi nad oedd, ond ei bod yn sefyll,—yn cynyddu dim ac yn adfeilio dim.

Cefais dŷ’r Ficer ymron ym mhen uchaf y dref.  Pasiais ef heb ei weled, a chyrhaeddais y bont, lle y danghoswyd mynwent ar fryn uwch ben i mi,—Llanfair ar y bryn, man bedd Williams Pant y Celyn.  Troais yn ol, ac ar y llaw chwith gwelwn dŷ oedrannus, ac ychydig o ol gofal arno.  Meddyliwn wrth ei weled am hen foneddwr wedi torri, ac yn goroesi ei gyfoeth mewn cot ddu lom a het dolciog a throwsus du seimlyd rhy fyr i guddio ei esgidiau drylliog.  Daeth hen wraig, debyg iawn i’r ty, i’r drws i gynnyg dangos y lle i mi, gan ostwng yn ei garrau wrth gynnyg.  Y mae ambell ddernyn o bren cerfiedig a phlastr yn dangos mor fawr ydyw’r cyfnewidiad ddaeth dros y ty hwn.  Unwaith bu yn orwych, yn awr y mae ei ystafelloedd cyfaneddol yn gartrefi llwm i dlodion Llanymddyfri.

Daeth rhyw brudd-der drosof wrth adael yr ystafelloedd tywyllion gwag lle y goleuwyd “Canwyll y Cymry.”  Meddyliais am y noson y safodd ceffyl heb ei farchog wrth ddrws y Ficer, tra yr oedd corff llofruddiedig ei unig fab yn y Tywi.  Meddyliais am lawer bore y bu’r Ficer yn cychwyn allan i rybuddio mewn amseroedd enbyd, ac i rybuddio’n ofer,—

Mene tecel, tre Llanddyfri,Pwysodd Duw hi yn dy frynti;Ni chadd ynnot ond y sorod,Gochel weithian rhag ei ddyrnod.Bore codais gyda’r ceiliog,Hir ddilynais yn dy annogDroi at Dduw oddiwrth dy frynti,Ond nid oedd ond ofer imi.Cenais iti’r udgorn aethlydO farn Duw a’i lid anhyfryd,I’th ddihuno o drwmgwsg pechod,Hwrnu er hyn ’rwyt ti yn wastod.Cenais bibau, ond ni ddawnsiaist,Tost gwynfannais, nid alaraist;Ceisiais trwy deg a thrwy hagar,Ni chawn gennyt ond y gwatwar.Esau werthai ei ’tifeddiaethAm y ffiolaid gawl ysywaeth;Tithau wethaist deyrnas nefoeddAm gawl brag, do, do, o’m hanfodd.

Mene tecel, tre Llanddyfri,Pwysodd Duw hi yn dy frynti;Ni chadd ynnot ond y sorod,Gochel weithian rhag ei ddyrnod.

Bore codais gyda’r ceiliog,Hir ddilynais yn dy annogDroi at Dduw oddiwrth dy frynti,Ond nid oedd ond ofer imi.

Cenais iti’r udgorn aethlydO farn Duw a’i lid anhyfryd,I’th ddihuno o drwmgwsg pechod,Hwrnu er hyn ’rwyt ti yn wastod.

Cenais bibau, ond ni ddawnsiaist,Tost gwynfannais, nid alaraist;Ceisiais trwy deg a thrwy hagar,Ni chawn gennyt ond y gwatwar.

Esau werthai ei ’tifeddiaethAm y ffiolaid gawl ysywaeth;Tithau wethaist deyrnas nefoeddAm gawl brag, do, do, o’m hanfodd.

Ond, pa beth bynnag fu ei hanes, y mae Llanymddyfri’n anwyl i bob Cymro, ac yn anwyl yng ngolwg y nefoedd, oherwydd o honi hi y daeth y Ficer Pritchard a Pher Ganiedydd Cymru.

Cerddais drachefn drwy’r dref, gadewais y castell ar y chwith, gadewais y dref o’m hol, a dois i fynwent Llandingad.  Yma, meddir, y claddwyd y Ficer, ond nid edwyn neb le ei fedd.  Yn wir dywed traddodiad nad ydyw yma mwy, ond fod yr afon wedi rhuthro drwy’r fynwent unwaith, ac wedi cario’r corff i’r môr.

Dychwelais trwy’r dref gysglyd dawel i’r gwesty i gael bwyd; ac yn y prydnawn cychwynnaistua’r castell.  Saif ar dalp o graig yn ymgodi ar lan yr afon.  Yr oedd dannedd y graig i’m gwyneb wrth i mi neshau ato, a gwelwn yr eiddew yn ymglymu am ei fur toredig.  Cerddais rhyngddo a’r afon, a dringais y bryn.  Y mae’n sicr fod llawer o dref Llanymddyfri wedi ei hadeiladu â’i gerrig.  Nid oes ond dau ddarn o’r mur trwchus yn aros, y darn agosaf at y dref, ond yr anhawddaf cael cerrig o hono.  Y mae’r gornel, gyda thŵr mae’n debyg, wedi syrthio, ac yr oedd coed yn estyn eu canghennau dros y muriau oddiar ben y bryn y tu allan.  Gwelwn ddrysau y bu’r gwylwyr yn esgyn ar hyd-ddynt i’r muriau unwaith.  Tawel iawn ac unig ydyw’r adfail, o’i gydmaru ag ef y mae eglwys a mynwent Llandingad, welwn dros gornel y bryn, yn lle byw.  Bu Gruffydd ab Rhys yn gwarchae arno, yn adeg amddiffyn Cymru.  Cymerodd Rhys ei fab ef yn 1202; ac wedi hynny bu Gwenwynwyn, Rhys Ieuanc, a Rhys Grug yn ymladd yn ei wydd.  Llawer un fu farw yn y ffos sydd eto i’w gweled yn amgylchu darnau’r castell,—ond mwynach yw’r olygfa geir o hono heddyw na golwg ar ei hanes.  Y mae gwastadedd bychan gwyrdd rhyngddo a’r afon, y mae’r dref ar y gwastadedd odditano, ac onid ofer i mi geisio darlunio prydferthwch dyffryn y Tywi?

Cychwynnoddtri o Gricieth ar fore hyfryd ym mis Awst diweddaf i weled cartref Dafydd y Garreg Wen, ac un o’r tri hynny sy’n ysgrifennu yr hanes di-addurn ond cywir hwn.

Yr oeddym yn tybied, er i ni weled llawer bau tlws, na welsom ddim tlysach erioed na Bau Cricieth y diwrnod hwnnw.  Yr oedd y môr diderfyn o’n blaen, ac yr oedd y glesni hwnnw arnom na welsom yn unlle ond ar draethell Môr y Canoldir, dan gysgod mynyddoedd Liguria.  Ar un ochr iddo yr oedd bryniau Meirion, fel llinell euraidd rhy dyner i ddisgleirio.  O’n blaen ymgodai Moel y Gest fel caer anferth, a gwelem y ffordd hir yn dirwyn hyd yr ochr tuag ati.  O’n hol safai castell Cricieth, yn hyf fel pan y canai Iolo Goch iddo, ond heb ogoniant ac heb oleuni mwy.  Ar ein chwith yr oedd pigau mynyddoedd gleision yn codi ac yn colli o’n golwg gyda phob codi a gostwng yn y ffordd.  Ar ein llaw dde yr oedd y môr, ac adlewyrch haul ar grib bob ton, yn gwneyd i ni feddwl am fyddin Sennacherib,—

“A phigau picellau fel ser ar y lliPan dywynno yr haul ar las ddwr Galili.”

“A phigau picellau fel ser ar y lliPan dywynno yr haul ar las ddwr Galili.”

Anadlai gwynt braf o’r Wyddfa arnom wrth i ni deithio ymlaen, fel pe buasai’r gauaf yn dod i ddweyd ei fod wedi tyneru, ac i ofyn cymod.  Yn ol yr oedd hafannau o borfa las rhwng creigiau, a’r môr tawel dwfn islaw.  Ymlaen wele fynyddoedd a chreigiau mawr, ar ffurf muriau, megis wedi eu codi drwy hud.  Ac yr oedd gwenau’r haul yn aros ar flodau gwylltion ochr y ffordd.  Ffordd eithaf unig ydyw, yr oedd yn pasio tŷ bychan adfeiliedig o hyd.  Yr oedd y tai hyn yn sefyll yn y lleoedd mwyaf dymunol,—dan gysgod craig neu ar lan aber wyllt,—ond y mae eu preswylwyr wedi mudo, mae’n debyg, i’r tai mwd newyddion sy’n codi megis cabanau un-nos, o amgylch Cricieth.  Gwelsom un fynedfa adfeiliedig hefyd, gyda’r glaswellt yn prysur orchuddio’r graian, fel pe buasai’n arwain at balas anghyfannedd.

Wrth Fron y Gader, troisom o’r ffordd i lecyn caregog, ac yna i lawr i gyfeiriad y môr.  Yr oedd yn boeth orlethol, ac araf iawn y teithiem ymlaen.  Cawsom ein hunain mewn morfa hir.  Braich o’r môr oedd unwaith, mae’n ddi-ddadl, ond llenwodd rhyw afonig fach brysur y gilfach â daear.  Y oedd ffosydd wedi eu torri ar hyd y morfa, ac yr oedd gwair yn ei ystodiau yn sychu’n braf.  O ganol y morfa cyfyd bryn bychan, bryn fu’n ynys unwaith, ac ar ben y bryncyn gwelem eglwys ddi-addurn.  DynaYnys Cynhaiarn, ac yn ei mynwent y gorwedd Dafydd y Garreg Wen.  Cyfeiriasom ati’n araf ar hyd y ffordd las gwmpasog, tra’r oedd y caeau a’r môr yn ymddangos yn gydwastad,—y naill yn wyrdd a’r llall fel arian byw.

Yr oeddym braidd yn lluddedig, ac ni waeth cyfaddef nad oeddym wedi bwriadu dadluddedu yn Ynys Cynhaiarn uwch ben cwpanaid o de Ond och!  Nid oes yn ymyl yr eglwys, nac yn agos, ond beudy to brwyn adfeiliedig.  Y mae porth yr eglwys ymron mynd a’i ben iddo, ond y mae rhyw fath o drwsio musgrell wedi bod ar yr eglwys droion.  Morwyr ac amaethwyr sy’n gorwedd yn y fynwent.  Y mae rhyw Lywelyn Cymreig yn gorwedd yno, a Charreg o Gernyw, a Mac Lean o’r Alban.  Gwelsom feddpilotwedi boddi, a gwelsom lawer enw prydferth heblaw Llwyn y Mafon.  O’r diwedd, yn un o’r corneli agosaf i’r môr, cawsom y bedd yr oeddym yn chwilio am dano.  Carreg las sydd ar y bedd hwnnw, ar ei gorwedd, ychydig yn uwch na’r lleill.  Ar ben y garreg y mae llun telyn mewn cylch, ac yna yr ysgrifen hon,—

BEDD DAVID OWENneu Ddafydd y Garreg Wen.y Telynor rhagorola gladdwyd 1749,Yn 29 oed.Swynai’r fron, gwnai’n llon y llu—â’i ganiad,Oedd ogoniant Cymru;Dyma lle cadd ei gladdu,Heb ail o’i fath, Jubal fu.E. O.

BEDD DAVID OWEN

neu Ddafydd y Garreg Wen.y Telynor rhagorola gladdwyd 1749,Yn 29 oed.

Swynai’r fron, gwnai’n llon y llu—â’i ganiad,Oedd ogoniant Cymru;Dyma lle cadd ei gladdu,Heb ail o’i fath, Jubal fu.

E. O.

Y mae’r bedd yn un o’r rhai mwyaf dinod ymysg y beddau dinod sy’n llenwi’r fynwent hon; ac oni bai am ofal Elis Owen o Gefn y Meusydd, ni fuasai yno garreg o gwbl.  Uwch ben bedd y cerddor saif danadl poethion a checs a llysiau bras, anhyfryd eu harogl.  Y mae’r fynwent a’r eglwys yn ddarlun o bethau wedi eu gadael.  Y mae’r eglwys wedi ei phlastro drostri, heb neb i ofalu am ei phrydferthwch, ac yn wag.  Y mae’r fynwent mor anhrefnus a phe buasai pla wedi difa holl drigolion y fro, ac wedi gadael i’r marw gladdu’r marw.

Eto i gyd, nid ydyw’r fan dawel unig heb brydferthwch.  Yr oedd un o honom wedi blino, a rhoddwyd ef i gysgu ar fedd Dafydd y Garreg Wen, a’i glust ar y delyn.  A glywodd alawon yn ei gwsg, nis gwn.  Cerddasom ninnau, y ddau effro, o amgylch y llannerch gysegredig.  Gwelsom mai mynwent bedair-onglog oedd, gyda choed yn estyn eu canghennau drosti.  O’i hamgylch y mae’r morfa isel, ac yna cylch o fynyddoedd yn edrych dros y morfa arni.  Pan oedd yn ynys, yr oedd yn brydferthach nag ydyw’n awr.

Wedi treulio rhyw awr yn y fynwent, yr oeddym yn effro ein tri, ac yn newynog iawn.  Troisom yn ol i’r ffordd, a chyrhaeddasom Bentre’r Felin.  Te fynnai dau o honom, byddai’n hawdd cerdded ar ei ol, llaeth fynnai’r llall.Troisom i dŷ hen ffasiwn a’r enw “Temperance” wrth ben ei ddrws.  Tra bo’r tecell yn berwi, buom yn edrych ar lun llongau oedd hyd y mur, ac yn ysgwrsio â’r cwsmeriaid oedd yn dod i’r siop pob peth.  Yr oedd y cloc awr yn rhy fuan, yr oedd Beibl a llyfr hymnau ar y bwrdd, ac yr oedd cylch o addurniadau o amgylch carreg y llawr.  Gwnaeth y wraig garedig de da, ac nid oedd yn esmwyth heb ganlyn arnom i fwyta’n ddibaid.

Wedi ymgryfhau fel hyn, ail gychwynasom hyd ffordd Porth Madog.  Gwelem eglwys Ynys Cynhaiarn ar y gwaelod wedi dringo i fyny bryn ac yna collodd y môr o’n golwg.  Teithiasom ymlaen ar hyd y ffordd lychlyd, ac yr oedd yn mynd yn boethach o hyd.

O’r diwedd daeth y lle i droi o’r brif-ffordd i ffordd gwlad.  Yna cawsom gysgod hyfryd coed derw bychain, ac yr oedd mantell Fair yn tyfu dan eu cysgod.  Arweiniai’r ffordd i fyny o hyd, ac odditanom yr oedd nant,—gwyddem ei bod yno oherwydd ei dwndwr mwyn ac oherwydd fod brenhines y weirglodd yn tyfu uwch ei phen.  Cyrhaeddasom ben y golwg, a daethom o’r coed.  Yr oedd y tawelwch yn adfywiol anesgrifiadwy,—nid oedd yno ond su pell y môr a sain ambell aderyn mynydd, a gwelem ehedydd yn codi ar ael y goleu.  Gwelem gastell Cricieth, a mynyddoedd Lleyn yn y pellder y tu hwnt iddo.  Agwelem ein ffordd ninnau’n ymdroelli dros y ffriddoedd a’r bryniau, drwy wlad o greigdir, dros y mynyddoedd oedd rhyngom a’r môr.  Yr oedd anadlu’r awyr iach yno yn bleser,—yr oedd arogl grug a rhedyn arni.  Yr oedd arnom eisiau bwyd er mai newydd fwyta oeddym.  Gwyn fyd, ni a dybiem, y bobl sydd yn byw yn y fro iach hon.  Holasom y ffordd i’r Garreg Wen yng Ngarth Morthin, ac wedi dringo aml fryn serth cyrhaeddasom eglwys Treflys.  Saif yr eglwys fechan hon yng nghanol caeau gwair, heb na thŷ na thwlc yn agos ati, a buom yn crwydro tipyn o’i hamgylch cyn darganfod llwybr troed i fynd ati.  Y mae golwg newydd iawn ar yr eglwys ac ar y beddau; yr oedd y fynwent yn debycach i fynwent ar hanner ei gorffen nag i hen un.  Gwelais lawer pennill ac englyn tarawiadol.  Dyma bennill oddiar fedd merch Braich y Saint,—

“Gorffwysodd, gadawodd yr anial ar ol,Tu draw i’r Iorddonen y glaniodd;A’r Iesu dderbyniodd ei hysbryd i’w gôl,Can’s ffyddlon yw’r hwn a addawodd.”

“Gorffwysodd, gadawodd yr anial ar ol,Tu draw i’r Iorddonen y glaniodd;A’r Iesu dderbyniodd ei hysbryd i’w gôl,Can’s ffyddlon yw’r hwn a addawodd.”

Dyma englyn, hefyd, am y Cristion,—

“Os tan y gist mae’r Cristion,—ei ddu feddSydd fel man-blu’n union:Mae rhyw fwynhad mawr fan honYng nghlyw su engyl Seion.”

“Os tan y gist mae’r Cristion,—ei ddu feddSydd fel man-blu’n union:Mae rhyw fwynhad mawr fan honYng nghlyw su engyl Seion.”

Dyma sydd ar fedd Bardd Treflys,—

Gu ŵr, rhawg erys ar go’i ragoriaeth,Cywirdeg ydoedd, caredig odiaeth;O Seion o’i ol cyfyd swn alaeth,Am ei llawn noddwr trwm yw Llenyddiaeth,Am wawr hoffrudd, am air ffraeth—Bardd TreflysDrwy Eifion erys diderfyn hiraeth.

Gu ŵr, rhawg erys ar go’i ragoriaeth,Cywirdeg ydoedd, caredig odiaeth;O Seion o’i ol cyfyd swn alaeth,Am ei llawn noddwr trwm yw Llenyddiaeth,Am wawr hoffrudd, am air ffraeth—Bardd TreflysDrwy Eifion erys diderfyn hiraeth.

Y mae’r olygfa o fynwent Treflys yn ogoneddus.  Y mae mynyddoedd Lleyn, Arfon, a Meirionnydd yn gylch am dani ac y mae un bwlch yn y cylch, a môr glas pell sydd yn y bwlch hwnnw.  Buom yn eistedd ar y llethr, ar gae adlodd, i synnu at yr olygfa, ac ni cheisiaf fi ei darlunio.  Daeth dyn heibio, a danghosodd dalcen y Garreg Wen, draw ymhell, dros ddyffryn a gwastadedd.

Yr oedd y dydd yn mynd, a’n ffordd ato’n hir.  Aethom i lawr gore gallom hyd y caeau serth i’r Morfa Bychan, lle agored ystormus, gydag ychydig o ddefaid yn blewyna hyd dwmpathau grugog dyfai yma ac acw yn y tywod.  Ond dipyn oddiwrth y lan, yr oedd caeau gwastad fel bwrdd, dan wenith tonnog.  Wedi taith flin gadawsom y môr, a daethom at lyn ar ochr y ffordd, a lili’r dŵr ar ei ymylon.  Oddiwrth y llyn arweiniai ffordd dywodlyd i fyny at dy gwyn ar y fron.  Dringasom i fyny, heibio i ffynnon o ddyfroedd clir.  Daethom at gefn y tŷ, ac yr oedd geneth fach yn cychwyn i hel y gwartheg.

“Ai hwn ydi’r Garreg Wen?”

“Ie, mae meistres yn y tŷ.”

Gyda’r gair daeth gwraig ieuanc i’r drws, adywedodd fod croeso ini weld y tŷ.  Gwelodd fod yr ieuengaf o honom wedi blino.  Daethom yn ffryndiau mawr, ac ni chawsom fwy o groeso yn unlle erioed.  Yr oedd y gwartheg yn y fuches, ond cawsom de dan gamp.  Yna cawsom weled holl ystafelloedd cartref y telynor.  Hen amaethdy clyd ydyw’r Garreg Wen.  Tŷ hir ydyw, a’i dalcen i’r graig, yn un uchder llofft.  Y mae adeiladau o’i gwmpas bron ym mhob cyfeiriad, a gerddi fel pe ar silffoedd craig, a choed ffrwythau.  Oddiamgylch tyf gwynwydd a phys llygod a phob blodeuyn gwyllt.  A thraw wrth gefn y tŷ y mae craig,—hwyrach mai hon ydyw’r Garreg Wen,—yn cysgodi’r tŷ rhag gwynt yr ystormydd.  Yr oeddwn wedi clywed mai wrth garreg ar ben y mynydd y cyfansoddodd Dafydd “Godiad yr Ehedydd.”  Dywedwyd wrth enethig am ddod gyda fi i ben y caeau i ddangos y garreg.  Yr oedd yr olygfa’n ehangu o hyd wrth i ni ddringo o gae i gae, a dyma ddiwedd ysgwrs fu rhwng yr enethig a minne,—

“Fedri di ganu?”

“Medra.”

“Fedri di ganu ‘Dafydd y Garreg Wen’ i mi?  Neu ‘Godiad yr Ehedydd’?”

Edrychodd y plentyn yn syn arnaf.

“Wyt ti ddim yn dysgu canu yn yr ysgol?”

“Ydw.”

“Wyt ti’n dysgu canu Cymraeg?”

“O nag ydw!”

“A ddysgodd neb erioed i ti ganu alawon Dafydd y Garreg Wen, a thithau’n byw yn yr un wlad a fo?”

“Naddo.”

“Be fedri di ganu?”

“‘Little Ship’ a ‘Gentle Spring.’”

Yr un dystiolaeth brudd wyf yn gael ymhob man yng Nghymru.  Mae cartref enwog yn ymyl y plentyn,—lle cyfieithwyd Gair Duw i’w iaith, lle rhoddwyd ar gân ryw wirionedd wareiddiodd ei gyndadau, lle daliwyd rhyw alaw nefolaidd i buro a diddanu meibion dynion byth mwy,—ond, druan bach, ni ŵyr ef ddim am danynt.  Feallai fod ei athraw neu ei athrawes heb fedru ei iaith, ac felly’n hollol anghymwys i’w ddysgu.  Feallai, mewn ambell i ran o’r wlad, fod ei athraw yn Gymro, ond rhy anwybodus i ddysgu dim iddo am ei wlad ei hun, ac yn rhy ddi-athrylith i weled gogoniant llenyddiaeth Cymru.  Dysgir alawon yn yr ysgolion, ac eto ceir ardaloedd cyfain lle nas gall y plant ganu “Llwyn Onn.”  Rhaid fod rhyw swyn anghyffredin yn alawon Cymru, yn ogystal ag yn ei hiaith, onide buasai galluoedd Philistaidd y byd hwn wedi eu llethu er’s llawer dydd.  Y Llywodraeth, yn credu fod yr iaith Gymraeg yn draffeth i’w swyddogion tâl; arolygwyr, wedi rhoddi eu cas ar iaith nas gallant ond ei hannersiarad; athrawon, wedi dad-ddysgu Cymraeg da wrth ddysgu Saesneg sal,—neu heb fedru erioed ond y Saesneg sal yn unig; goruchwylwyr anwybodus, yn credu fod nef a daear yn agored i’w plant os medrant ddeall Saesneg bratiog porthmyn Caer,—druan o eneidiau plant Cymru rhyngddynt oll.

Cyrhaeddasom y garreg.  Carreg fawr ydyw, ar ben cae glas.  Dywed yr hanes fod Dafydd yn dod adre o Hafod y Porth ar lasiad y bore.  Yr oedd yr haul yn dechre goreuro y mynyddoedd gogoneddus acw, ac yr oedd ehangderoedd y môr yn y golwg.  A chododd ehedydd bach uwchlaw’r coed, ac arllwysodd lawenydd y bore mewn cân.  Rhoddodd Dafydd ei delyn i lawr wrth y garreg hon, a chyfansoddodd “Godiad yr Ehedydd.”

Wedi cyrraedd y Garreg Wen yn ol yr oedd gwahoddiad cynnes i ni aros noson.  Ond yr oedd yn rhaid prysuro ymaith.  Cerddasom yn brysur tua Phorth Madog, ar hyd rhiwiau lawer.  Gwelsom lawer hafan brydferth, ac aml gip ar y Traeth Mawr a Chastell Harlech rhwng y coed.  Yr oedd tri yn prysuro trwy ystryd hir Porth Madog, a chyda i ni eistedd yn y tren, yr oeddym yng Nghricieth yn ol.  Teimlad dedwydd, wrth gysgu ar lan y môr y noson honno, oedd y teimlad ein bod wedi gweled bedd y telynor ac wedi bod yn y Garreg Wen.

“Cystal am ofal im ywFyned deirgwaith i Fynyw,A myned, cynired cain,Ar hafoed hyd yn Rhufain.”Iolo Goch.

“Cystal am ofal im ywFyned deirgwaith i Fynyw,A myned, cynired cain,Ar hafoed hyd yn Rhufain.”

Iolo Goch.

Yroedd wedi taro chwech o’r gloch y bore er ys pymtheng munud neu well pan garlamai ein merlen hoew drwy heol hen Hwlffordd, gan deimlo nad oedd mwy o bwysau yn ein cerbyd ysgafn na phe buasai ddim ond bwcwl addurnedig i gadw’r awenau yn eu lle.  Naw o’r gloch y noson cynt, yr oeddwn wedi gadael Llundain a’i chyffro, gan ddisgwyl gweled y bore’n torri ar fynyddoedd Cymru, a chan wybod fod rhyw dawelwch yn gorffwys ar y mynyddoedd hynny, tawelwch iachaol, heddwch a sudda fel balm i enaid y neb a hir edrycho arnynt.  Heddwch y mynyddoedd,—dyna feddyginiaeth meddwl pryderus, a dyna adnewydda y corff curiedig fel yr eryr.  Aml y teithia enaid Cymro i fynyddoedd ei wlad.

Ar hyd y daith nos bum yn breuddwydio’n anesmwyth yn y tren.  Breuddwydiwn ein bod yn chwyrnellu drwy ddinasoedd distaw anghyfannedd,—yr oedd Caerloew wedi ei hanrheithio gan bla, a’r glaswellt yn tyfu ar hyd eihystrydoedd; yr oedd Casnewydd dan y môr, a dim ond rhyw drumau aur, fel crib, yn codi o’r tonnau oer brigwynion; yr oedd adfeilion anferth Caer Dydd yn goedwig o eiddew a mieri, a’r môr wedi cilio oddiwrth ei glan.  Ond yr oedd edyn aur y bore ar Lyn Nedd ac ar fau Abertawe, er mai prin y medrai’r dydd fy argyhoeddi nad anialwch du oeddwn wedi adael ar fy ol.  O wlad y nos i wlad y bore yr oedd fy nhaith.

Nid oedd gennyf ond dwy noswaith a diwrnod i mi fy hun.  Rhaid oedd treulio’r ddwy noswaith yn y tren, a mwyn oedd meddwl y cawn dreulio’r diwrnod yn Nyfed, a mynd ar bererindod i Dyddewi.  Bu pererinion dirifedi’n cyrchu ar hyd y ffordd hon, yn hen oesoedd cred, tua Thyddewi; oherwydd yr oedd mynd yno deirwaith mor haeddiannol a phe’r eid dros dir a môr i Rufain ei hun,—ceid yr un gollyngdod am bechod, yr un iechyd corff, yr un heddwch meddwl.  Ac i’r neb deithiodd Ddyfed hyd Dyddewi yn nyddiau cynnes hirion esmwyth yr haf, nid anhygoel yw’r traddodiad nad oes afiechyd na gwenwyn na phechod yn trigo yn naear sanctaidd Dewi.

Gwell i mi gyfaddef ar unwaith mai nid marweiddio’r cnawd oedd amcan fy mhererindod, onide buaswn wedi mynd yn y gauaf, a buaswn wedi cerdded dros yr holl fryniau tonnog sy’nymestyn rhwng Hwlffordd a Thyddewi.  Yr oeddwn wedi deall y byddai un o geffylau goreu’r wlad, ac un o’r gyrrwyr goreu, yn fy aros yng ngorsaf Hwlffordd.  Bu’n edifar gennyf droion yn ystod y dydd na fuaswn wedi cerdded; ond, o ran hynny, gorfod i mi gerdded llawer, ac nid o’m bodd.

A dyma ni’n carlamu drwy stryd Hwlffordd.  Mor hyfryd ydyw’r cerbyd ysgafn ar ol y tren trwm, ac mor iach ydyw awel y bore dros y bryniau gleision acw.  Y union o’n blaenau ymgyfyd castell Hwlffordd, gan wgu i lawr arnom, ac ar yr hen dref ddyddorol yr ydym yn cyflymu drwyddi.  Toisom ar y dde wrth droed craig y castell, ac aethom drwy ystryd gul ar garlam wyllt, er perygl nid ychydig i’r plant troednoeth coesnoeth oedd yn ymhyfrydu yn y dŵr ac yn y llaid sydd ar hyd ochrau ac ar ganol y Stryd Dywell.  Dywedai’r gyrrwr mai ym Mhenfro Seisnig y mae Hwlffordd, ac na siaredir gair o Gymraeg ynddi.  Gwelwn yn amlwg oddiwrth enwau’r siopwyr fod llawer cenedl yn trigo yn y dref.  Bleddyn Gymreig mewn heddwch â Havard Normanaidd.

Sais oedd y gyrrwr, a charn Sais.  Ni wyddai ddim am Arthur, ni chlywodd son am William Havard, ni wyddai ddim am hanes y dref.  Sur ac anfoddog oedd ei drem, ac nid oedd ei iaith mor goeth ag iaith ambell un, oherwydd yr oeddyn rhy hoff o son am drigolion y tywyllwch wrth eu henwau, a mynych gyfeiriad a wnai at ei enaid byw.  Ceffylau, cwn, a da pluog oedd hoff destyn ei ymddiddanion; ond am gyfarfodydd pregethu, neu ysgolion y fro, neu ei cholegau, gwyddai lai na dim.  Yr oedd ganddo ddaliadau gwleidyddol, ac nid oedd arno gywilydd eu harddel.  Yr oedd yn ddyn gonest, yn eithaf caredig, ac yn barod iawn i dystio mai gwir bob gair oedd yr holl ystraeon adroddai.

Dyma ni ar ben y rhiw cyntaf, a gwlad Dyfed hen wlad yr Hud, gwlad chwedl am bagan a sant, yn ymestyn o’n blaenau.  Golwg oer a thrist sydd arni, gwlad o fryniau penisel, yn ymestyn fel tonnau tua gorwel y gorllewin, heb fôr yn y golwg, heb fynydd.  Ffermwyr, moch, gwyddau, peiriannau lladd gwair,—edrychent am y pruddaf.  A thraw, yn hanner cylch o’n blaenau, yr oedd cymylau gwgus yn llawn o wlaw oer.  Ceisiai’r gyrrwr fod yn llawen, ond yr oedd amheuaeth yn ei lais wrth iddo ddweyd,—“Cloudy mornin’, fine day, sir.”  Gyda hynny disgynnodd y gwlaw arnom fel pe’i tywelltid o grwc, a chlywn y defnynnau’n rhedeg i lawr rhwng fy nghrys a’m croen.  Anodd canu yn y gwlaw, ac eithaf digalon oeddwn innau.  Treiai’r gyrrwr fy nghysuro, a thynnu fy sylw at rywbeth oddiwrth fy sefyllfa anghysurus ac anwydog.  Danghosodd ddyffryn bychan i mi, adywedodd gyda blas ei fod yn lle ardderchog am lwynogod a dyfrgwn.  Dywedais innau nad oeddwn yn cymeryd y dyddordeb lleiaf mewn llwynogod na dyfrgwn; ac nad oedd dim casach gennyf na chwn hela, ond y bobl fydd yn eu dilyn.  Daethom at afonig fechan dryloew, oedd yn rhedeg drog raian glân, dan lwyni o frwyn a llysiau’r gwenyn; ac wrth fy ngweled yn edrych ar y blodau, dywedodd y gyrrwr fod y nant yn lle ardderchog i bysgota brithylliaid, a gofynnodd i mi a oeddwn yn ddaliwr da.  Dywedais fy mod wedi dal un brithyll unwaith, a fod yn edifar gennyf byth; ond ni fedrai ddeall hynny.  Yr oedd y gwlaw yn dal i ddisgyn, a’m calon innau’n drom.  A dechreuodd y gyrrwr ganu, gan wneyd pob swn rhwng swn hogi llif a swn melin goffi.  Gofynnodd i mi toc a oeddwn yn hoffi canu, a dywedais innau nad oeddwn wedi clywed canu er ys rai dyddiau.  Yr oeddwn yn ddrwg fy hwyl, ac ni phetrusodd y gyrrwr ddweyd gan ba fod y blinid fi.

Ond, gyda hynny, peidiodd y gwlaw, a gwenodd yr haul ar Ddyfed.  Siriolodd y ffurfafen, a gwenodd Dyfed arni drwy ei dagrau.  Y mae gwên yn disgyn ar rudd brenhines y weirglodd, dacw fynyddoedd a chastell a’r môr, a gallasech glywed dau wlyb yn bloeddio canu dros yr holl wlad.  “Dydech chi ddim llawer o ganwr,” ebai’r gyrrwr, ar ddiwedd y gân.  “Nag wyf,” ebefinnau, “nid ydych chwithau ddim chwaith, y mae fy llais i wedi ei golli o hir ddistawrwydd, a’ch llais chwithau wedi ei andwyo gan ormod siarad.”

Castell Roche oedd y castell a welem.  Un tŵr sydd o hono, a saif hwn ar drwyn craig sy’n ymwthio i fyny drwy’r garreg galchaidd.  Gellir ei weled o bell o bob ochr; y mae’n ddu ac uchel a balch fel gorthrwm, yn gwgu ar holl ddyffrynoedd y wlad hon.  Wedi i ni ei adael dywedai’r gyrrwr ein bod yn nesu at y terfyn rhwng Dyfed y Saeson a Dyfed y Cymry, a chefais dipyn o hanes y ddwy genedl ganddo.  Nid oedd gwleidyddiaeth Cymry Penfro wrth ei fodd, a gyrrai’n enbyd ar y personiaid am na ddysgent well credo iddynt.  Ond dywedai eu bod yn gynnil, yn llwyddiannus, ac yn bobl iach a chryf.  Ond anffawd fawr oedd eu bod yn siarad Cymraeg, ac yntau’n deall yr un gair.

Tra’r oedd y gyrrwr yn traethu ei ddoethineb fel hyn, yr oedd golygfa ogoneddus o’n blaenau,—creigiau’n taflu allan o’r ddaear ar y dde i ni, a chastell Roche o hyd; a’r môr, gyda’i benrhynnoedd a’i ynysoedd, ar ein chwith ac o’n blaenau.  Cyn hir, disgynasom ar hyd y rhiw at dafarn Niwgel.  Y mae hon ar lan y môr; ac yn union ar y terfyn, fe ddywedir, rhwng y wlad Gymraeg a’r wlad Saesneg.  Yr oeddym ninnau yma ar hanner ein ffordd, ac yr oedd yn rhaid i’r ferlen a’r gyrrwr wrth lymaid.  Y mae’r dafarnmewn lle unig, mewn pantle ar y lan, ac ymron yn anhygyrch yn y gauaf, gallwn feddwl.  Ond y mae llawer o gyrchu yno yn yr haf.  Pe buaswn yno drannoeth, buaswn yno ar y dydd dawnsio, sef dydd Iau.  Y mae traeth o dywod melyn caled gerllaw’r dafarn, a chyrcha bechgyn a genethod yr ardaloedd cylchynol yno ar nawniau Iau i ddawnsio, a daw lluoedd mewn cychod o’r lan gyferbyn i’w cyfarfod.

Wrth i mi ddringo ar hyd y ffordd serth ar ol y ferlen o bantle’r dafarn, gwelwn y traeth prydferth, ac ni welais erioed gymaint cynulleidfa o wylanod y môr a’r dyrfa o honynt oedd yn edrych yn astud ar y llanw’n mynd allan.  O hyn i Dyddewi yr oedd y wlad yn dlysach a’r bobl yn fwy dyddorol.  Ochrau rhedynog oedd yno, a gwartheg duon,—yn codi hiraeth am y llefrith melus hwnnw na cheir ond gan wartheg sy’n pori ochrau mynyddoedd.  Brethyn cartref oedd gwisg y bobl, neu rywbeth ar ei lun,—brethyn da, ffedog stwff, a bectwn yspotiog.  Holent fi’n awchus, a methent wybod oddiwrth fy iaith o ba ran o Gymru y deuwn.  Gwahoddent fi’n groesawus i’w tai, ond yr oedd yn rhaid i mi gyfeirio eu sylw at y gyrrwr a’i geffyl yn llafurus ddringo’r gorifyny o’m blaen, ac ymron cyrraedd pen y rhiw.  Byddai raid i minnau redeg, braidd cyn dechreu’r ymddiddan, i ddal y cerbyd ac i neidio iddo, a rhedai’r ferlen ynchwim, a’i mwng yn yr awel, hyd nes y deuem at riw drachefn.

Pan ddisgynasom i Solfach, unig sylw’r gyrrwr am y bobl oedd,—“awful radicals.”  Hafan fach ddymunol sydd yma, ac y mae gwedd gyfoethog a llewyrchus ar bob peth.  Tra’r oedd y gyrrwr a’i ferlen yn goblygu i fyny’r rhiw, cefais amser i ysgwrsio â’r fforddolion ddigwyddent fy nghyfarfod.  Hoffwn eu Cymraeg yn fawr, yr oedd mor syml a melodaidd; ac yr oedd rhyw ledneisrwydd boneddigaidd ynddynt yn gymysg ag awydd aniwall i siarad.

Ond y mae ein gwynebau ar Dyddewi o’r diwedd.  Nid oes bosibl peidio cofio ei hen enw wrth edrych arni,—“Gwlad yr Hud.”  Y niwl teneu, pellder diderfyn y môr, y creigiau ysgythrog acw,—dyma deilwng gartref i ddefodau erchyll rhyw hen grefydd baganaidd, dyma wlad yr hoffai ysbryd aflonydd rhyw hen forleidr crwydrol aros am ennyd ynddi, ar ryw benrhyn neu ynys sydd eto’n dwyn ei enw.  Gwlad hyd a lledrith ydyw, wedi ei gwneyd gan Ddewi yn wlad goleuni’r efengyl.  Ond y mae ei swyn a’i phrydferthwch fel erioed.

Arhosodd y cerbyd yng nghanol Tyddewi, a disgynnais i westy cysurus a phrydferth.  Wedi cael tamaid,—yr oedd erbyn hyn rhwng naw a deg o’r gloch y boreu,—cerddais ymlaen i gyfeiriad yr eglwys gadeiriol.  Ni welir hi nesdod i’w hymyl, oherwydd mewn pantle y mae.  Yna ymegyr ei hardderchowgrwydd o flaen y llygaid synedig.  Er fod ol adgyweirio arni, meddyliwn am anialwch mawreddog a phrydferth.  Yr oedd rhyw geinder a heddwch rhyfedd wedi gorffwys ar yr hen fangre hanesiol anwyl.  Draw heibio’r eglwys y mae palas yr esgob yn adfeilion.  Ond na feddylier ei fod yn hagr, er ei fod yn adfeiliedig.  Y mae llaw amser wedi rhoddi prydferthwch digymar arno.  Y ffenestr gron, y muriau hirion, y llwydni henafol, y wisg iorwg,—ym mha le y ceir adfeilion mor gain mewn glyn mor brydferth?

Rhed aber dryloew o adfeilion y palas, neu o ryw ffynnon rinweddol sydd ynddynt, ac ymdroella dan furmur, fel genethig yn mynd adre o’r capel, drwy’r dyffryn bach tlws tua’r môr.  Nid rhosynau na blodau gardd sy’n tyfu yno, ond blodau gwylltion Cymru,—llysiau’r mel a chwilys yr eithin, blodau’r grug a hesg, eithin a rhedyn Mair.  Ac y mae’r dyffryn yn ddarlun o brydferthwch a sirioldeb iechyd.  A meddyliwn y gellid ddweyd am y blodau eiriau Iolo Goch am offeiriaid Dewi,—

“Engylion nef yng nglan nant.”

“Engylion nef yng nglan nant.”

Yn y pantle hwn, hwyrach, y cododd Dewi Sant ei babell pan ddaeth yn genhadwr i bregethu’r efengyl i baganiaid Dyfed.  Ar lan yr aber dlos dryloew, sy’n murmur mor ddedwyddag erioed drwy’r adfeilion, y bu Dewi’n cydweddio â’i ddisgyblion am i Grist gael holl Gymru’n eiddo iddo.  Ac ychydig feddyliai’r sant yr adeg honno, y mae’n bur sicr, y doi brenhinoedd ar bererindod at ei fedd ac yr edrychid arno fel archesgob holl Gymru.  Bum neu chwe chan mlynedd ar ol ei farw, pan oedd ffarf yr eglwys Cristionogol yng Nghymru wedi newid yn ddirfawr, ceisiodd Gerald Gymro brofi fod Eglwys Cymru wedi bod yn un, ac yn anibynnol ar Eglwys Loegr, dan archesgob Tyddewi, olynydd Dewi Sant; a hir y brwydrodd i ailennill i Eglwys Cymru ei hanibyniaeth hwn.  Wedi darostwng esgobaethau Cymru dan lywodraeth archesgob Seisnig, ac wedi darostwng Cymru i frenin y Saeson, aeth Tyddewi yn anwylach i’r Cymry o hyd.  Pan gododd Glyn Dŵr ei faner, yr oedd yn meddwl am wneyd Tyddewi yn archesgobaeth Cymru, a phrydferth iawn yw darluniad ei fardd Iolo Goch o’r fangre hyfryd.  Lecyn prydferth a thawel, y mae gwŷr goreu Cymru wedi bod yn hiraethu am yr iechyd a’r tawelwch geir ynnot.  Ynnot ti y gorwedd Dewi Sant a Gerald Gymro a William Morris.  A dyma finnau bererin wedi cael edrych ar dy degwch, ar dy draeth euraidd ar dy ffynnon loew, ac ar dy flodau gwylltion.

Tybedfy mod wedi codi awydd ar rywun, yn y dalennau sydd yn y llyfr hwn, i fyned ar bererindod i rai o gartrefi Cymru; neu i grwydro dros fynyddodd anwyl ein gwlad?  A yw daear gwlad ein tadau ychydig yn fwy cysegredig i rywun ar ol darllen y peth ysgrifennais?

Ein gwlad ni ydyw.  Y mae wedi ei chysegru â hanes ein cenedl.  Ynddi hi y gorwedd ein tadau; mae eu beddau’n sancteiddio’i daear, o fedd Owen Gwynedd yn eglwys gadeiriol Bangor i fedd Islwyn ymysg bryniau hyfryd Gwent.  Mae cartrefi yma ac acw hyd-ddi, a phlant ynddynt, llawn o fywyd a gobaith, fel y gwroniaid fu ynddynt gynt; onid gwaith da yw dangos i’r plant gyfeiriad camrau y rhai gychwynnodd o’r cartrefi hynny o’u blaen?

Gallu grymus fu gwladgarwch erioed, ac er daioni bob amser.  Y mae hunan-aberth ynddo, collir hunan mewn gwlad; y mae ymsancteiddio ynddo,—llosga hunanoldeb fel sofl sych a difa’r hen lid teuluol sy’n chwerwder bywyd barbaraidd, a dug ddyn yn nes at Dduw.  Yng ngrymei wladgarwch y mae nerth pethau goreu cymeriad dyn; yn erbyn gwladgarwch y mae’r pethau gwaelaf yn ei gymeriad,—awydd am elw, cas at ei gyd-ddyn, rhagfarn.  Ai arwydd o ddiffyg gallu mewn gwleidyddwr yw gwladgarwch?  Os felly, condemnier Alffred Fawr, y brenin galluocaf fu gan y Saeson erioed?  Ai arwydd o wendid meddyliol ydyw?  Os felly condemnier Dante, y gŵr o feddwl cawraidd wnaeth i syniadau’r Canol Oesoedd fyw byth.

Cartrefi gwledig Cymru yw yr unig gofgolofnau i arwyr ein hanes ni.  Dinod,—anadnabyddus yn aml,—yw eu beddau; nid yw eu gwlad eto wedi codi llawer o gofgolofnau i’w henw, oherwydd tlodi, nid oherwydd diffyg serch.  Ond y mae’r cartrefi’n aros.  Nid adnabyddir lle bedd Llywelyn na John Penri na Goronwy Owen, ond gwyddom pa le y buont yn chware pan yn blant.

Ni bydd cyfundrefn addysg Cymru’n gyflawn heb amgueddfa genhedlaethol.  Nis gwn pryd y daw, ond y mae y bardd wedi ei gweled trwy ffydd.

“I’r Oriel Wen daw tyrfa lân,O oes i oes, i wenu’n guA’r ddelwau gwyn y dewrion hyn,—Y tad a’i fab, y fam a’i merch,Y llanc a’i rian wylaidd rudd,A’r gwron hen yn fyr ei gam,A’i ben yn wyn gan flodau hedd,A’r byd o’i ol a’r nef o’i flaen,A’i ŵyr bach gwrol yn ei lawA’r byd a’i droion fyrdd i’w gwrdd,—‘Gwel yma, blentyn, dyrfa gain,Gwroniaid dewr anfonodd Duw.I fyw a marw er ein mwyn.Caradoghwn, yn hawlio’n hyfEi serch i’w fwthyn tlawd a’i wladO flaen gorseddfainc teyrn y byd.A llymaLlywarch Heny bardd,Yn gwyro’n drwm ar faglau pren,Ag enaid arwr yn ei weddYn gwylio’r rhyd ar fedd ei fab.Ac wele drindod fu yn dwynYr enw Owen, mwyn ei sain,—Y cynta’n canu ’i hirlas gorn;Y llall â llain yn medi’n ddwysYm maes Coed Eulo; ’r olaf un,Gwr hir y glyn, ‘a gwaew o dân,Dyred, dangos dy darian.’Ab Einion draw yn gwylio’r aigA thelyn Harlech yn ei law.Saif yma ddau, O enwau per,—Llywelyn Fawr wnaeth Gymru’n un;A’i ŵyr ef, olaf lyw ein gwlad,Ei fywyd drosti’n aberth roes,A chŵyn yr awel fyth ei fradAr fryniau Buallt—lleddfus dôn.’”—R.Bryan.

“I’r Oriel Wen daw tyrfa lân,O oes i oes, i wenu’n guA’r ddelwau gwyn y dewrion hyn,—Y tad a’i fab, y fam a’i merch,Y llanc a’i rian wylaidd rudd,A’r gwron hen yn fyr ei gam,A’i ben yn wyn gan flodau hedd,A’r byd o’i ol a’r nef o’i flaen,A’i ŵyr bach gwrol yn ei lawA’r byd a’i droion fyrdd i’w gwrdd,—‘Gwel yma, blentyn, dyrfa gain,Gwroniaid dewr anfonodd Duw.I fyw a marw er ein mwyn.

Caradoghwn, yn hawlio’n hyfEi serch i’w fwthyn tlawd a’i wladO flaen gorseddfainc teyrn y byd.A llymaLlywarch Heny bardd,Yn gwyro’n drwm ar faglau pren,Ag enaid arwr yn ei weddYn gwylio’r rhyd ar fedd ei fab.

Ac wele drindod fu yn dwynYr enw Owen, mwyn ei sain,—Y cynta’n canu ’i hirlas gorn;Y llall â llain yn medi’n ddwysYm maes Coed Eulo; ’r olaf un,Gwr hir y glyn, ‘a gwaew o dân,Dyred, dangos dy darian.’Ab Einion draw yn gwylio’r aigA thelyn Harlech yn ei law.

Saif yma ddau, O enwau per,—Llywelyn Fawr wnaeth Gymru’n un;A’i ŵyr ef, olaf lyw ein gwlad,Ei fywyd drosti’n aberth roes,A chŵyn yr awel fyth ei fradAr fryniau Buallt—lleddfus dôn.’”

—R.Bryan.

Ganwyd Ann Griffiths yn Nolwar Fach, Llanfihangel yng Ngwynfa, yn 1776.  Claddwyd hi Awst 12, 1805.  Geneth nwyfus, hoff o ymblesera oedd, nes clywodd bregeth gan Benjamin Jones, Pwllheli, yn Llanfyllin.  Crwydrodd lawer i gymuno i’r Bala, dros y Berwyn maith unig.  Ac onid oes beth o fawredd dieithr y mynyddoedd yn ei chân?

Llyfr bychan dyddorol iawn yw Cofiant Ann Griffiths, gan Morris Davies, Bangor.  Cynhwysa hefyd ei llythyrau a’i hemynnau; cyhoeddir ef gan Mr. Gee. Dinbych; ei bris yw dau swllt.  Dyma ddau ddyfyniad o hono.

“Byddai golwg ddymunol iawn ar y teulu yn Nolwar yn nyddu, a’r hen ŵr yn gardio, ac yn canu carolau a hymnau.  Droion ereill, byddai distawrwydd difrifol megis yn teyrnasu yn eu plith.  Byddai Ann yn nyddu, a’i Beibl yn agored o’i blaen mewn man cyfleus, fel y gallai gipio adnod i fyny wrth fyned ymlaen â’i gorchwyl heb golli amser.  Mi a’i gwelais wrth y droellmewn myfyrdod dwfn, heb sylwi ar nemawr ddim o’i hamgylch, a’r dagrau yn llifo dros ei gruddiau, lawer gwaith.”

“Yn Hydref, 1804, priododd Miss Ann Thomas â Mr. Thomas Griffiths, brawd i’r diweddar Barchedig Evan Griffiths, Ceunant, Meifod.  Yr oedd efe yn ŵr ieuanc o deulu parchus, o’r un naws grefyddol a hithau; yr oeddynt hefyd yn agos i’r un oedran, ac yn anwyl iawn o’u gilydd, fel yr oedd eu hundeb priodasol yn cael edrych arno gan eu cyfeillion a’u cydnabod yn un hapus iawn.  Daeth efe, ar ol eu priodas, i fyw ati hi i Ddolwar Fechan.

“Ymhen deng mis ar ol priodi, esgorodd Mrs. Griffiths ar ferch, yr hon o’i genedigaeth oedd yn blentyn gwannaidd iawn, a bu farw yn bythefnos oed.  Ymadawodd y fam serchog ymhen pythefnos ar ol ei merch fechan, er galar trwm i’w phriod trallodedig, a lliaws mawr o berthynasau a chyfeillion crefyddol.”

Ar ol tynnu’r darlun sydd yn y llyfr hwn, y mae’r Tŷ Coch, hen gartref Ap Fychan, wedi ei dynnu i lawr, ac y mae tŷ newydd ar ganol ei adeiladu.  Bum heibio Dan y Castell hefyd ddiwedd yr haf diweddaf; cefais ef ar ei draed, ond heb neb yn byw ynddo.  Y mae Castell Carn Dochan uwch ben mor gadarn ag erioed, a hen fro hanesiol Penanlliw mor ramantus.

Merch Hafod Lwyfog, Bedd Gelert, oedd gwraig Elis Wynn o Lasynys,—Lowri Llwyd wrth ei henw.  Hysbyswyd fi na chladdwyd Elis Wynn dan allor eglwys Llanfair.  Yr oedd set Glasynys wrth dalcen yr allor, a than honno y claddwyd “Bardd Cwsg.”  Ond, erbyn heddyw, y mae allor yr eglwys newydd wedi ei hestyn dros y set a thros y bedd.

Gresyn fod “Ieuan Gwynedd, ei fywyd a’i lafur, gan Robert Oliver Rees, Dolgellau” mor brin.  “Llyfr i bobl ieuainc” ydyw; ac y mae’n un o’r llyfrau mwyaf bendithiol y gall bachgen neu eneth ei ddarllen byth.  Y sawl a’i meddo, rhodded fawr bris arno.

Nis gwn ddim i sicrwydd am Ddewi Sant.  Nid wyf yn barod i ddweyd ei fod yn fwy na bod hanner dychmygol, fel Arthur.

Cyflwynir y llyfr hwn i rieni Cymru, lle mae gwaith a serch yn gwneyd y cartref yn lân a santaidd; ac i blant Cymru, a gofiant am eu cartrefi anwyl byth.


Back to IndexNext