DYCHWELIAD YR HEN FILWR.

Pell, pell, yw telyn CymruO fy llaw;Do, dywedais gan alaru—Byth ni ddaw,O’r dydd y cenais ffarwelA chwi wrth fynd i ryfel,O’m mewn bu ’r geiriau dirgel—“Byth ni ddaw.”A rhuai safn y fagnel,“Byth ni ddaw.”

Ffarweliais pan yn fachgenGyda chwi,Yng nghanol dyddiau llawenRhannwyd ni;Ond nid yw ’r floedd fu ’n galwTros ryddid, gwlad, ac enw,O fewn fy nglust yn farw,Na, mae criA llais yr amser hwnnwGyda mi.

Ond nid yw ’r holl wynebauGer fy mron,Yr hardd rosynaidd ruddiauIeuanc llon.Bu pellder i’n gwahanu,Bu amser yn ein gwynnu,—Do, do, mae wedi cladduOll o’r bron;Ac atynt y’m yn nesuBawb a’i ffon.

Wyt eto, delyn Cymru,Yn fy llaw;Ond ieuanc nerth i’th ganu,Byth ni ddaw.Ond clywaf swn dy dannauYn murmur megis tonnau,Ar fôr yr hen amserauYn ddidaw;Yn torri ar hoff lannau—Pell, pell, draw.

I’th erbyn delyn heddwch,Pechais i;Ond eto mewn tawelwchWele ni.Mae llaw a driniodd arfau,Mae llaw wasnaethodd angauYn cyffwrdd gyda’th dannauAnwyl di;Os aeth o gof dy chwarau,Torrer hi.

Na, na, er ei chaleduGan y cledd,Daw rhwng y bysedd hynnyBennill hedd;Os gwelir dwfn ysgrifenBlynyddoedd ar fy nhalcen,Os ciliodd enw bachgenO fy ngwedd—Rwy ’n teimlo eto ’n llawen,Ger fy medd.

Gwir sylweddoliad breuddwydGer fy mron,Yw gweled eto ’r aelwydAnwyl hon.Ar faesydd rhuddion angauTrwy dewfwg y magnelau,Cyfeiriais fil o weithiauTros y don;At gysegredig furiauMebyd llon.

Pell, pell, fu telyn CymruO fy llaw;Do, dywedais gan alaru,—Byth ni ddaw.Ond wele ni, gyfeillion,Yn yfed gwin cysurlonO gwpan hen adgofionYn ddifraw,—A wele ’r tannau mwynionYn fy llaw.

[O “Owain Wyn.”]

Gadewaisfy mhraidd ar y mynydd,A chefnais ar drumiau fy ngwlad,Breuddwydiais am fyd o lawenyddTu allan i furiau fy nhad;Yn ol i’r mynyddoedd dychwelais,Ond dysgais, a’m dagrau yn lli,Os bywyd y milwr arweiniais,Mai’r cymoedd yw’r cartref i mi.

Trwy wledydd dwyreiniol tramwyaisOnd cofio gwyllt Walia oedd loes;O wagedd ieuenctyd yr yfaisNes chwerwais felusder fy oes;Nid ofnaf lefaru fy nheimlad,—Chwi wledydd goruchel eich bri,Yn mhell byddoch byth o fy llygad,—Mynyddau ’r hen Ferwyn i mi.

Mae gobaith cael eto cyn angauAilddringo llechweddau fy mro,I gasglu y praidd i’w corlannauHyd lwybrau cynefin i’m co;Uwch bedd anrhydeddus y milwrMae enfys arddunol o fri;Ond rhowch i mi farw ’n fynyddwr,A beddrod y bugail i mi.

Ospell yw telyn aur fy ngwladO’m dwylaw musgrell i;Os unig wyf o dŷ fy nhad,Lle gynt chwareuid hi:Mae ’riaither hynny gyda swyn,Fel ysbrydoliaeth yn fy nwyn,I ganu cerdd, os nad yn fwynI’r byd—mae’n fwyn i mi.

Mae nant yn rhedeg ar ei hyntI ardd fy nghartref i,Lle cododd un o’m teidiau gyntDdisgynfa iddi hi.Mae helyg melyn uwch y fan,Lle syrthia tros y dibyn ban,A choed afalau ar y lan,Yn edrych ar y lli.

O dan ddisgynfa’r dŵr mae llyn,A throsto bont o bren;A charreg fawr, fel marmor gwyn,Gynhalia’r bont uwch ben.Fy mebyd dreuliais uwch y lli,Yn eistedd yno arni hi;A mwy na brenin oeddwn i,Pan ar fy Ngharreg Wen.

Pan ddeuai ’r Gwanwyn teg ei brydAr ol tymhestlog hin,Ac adfywhau ’r llysieuog fydYn ei gawodydd gwin;Yn afon fawr ai ’r gornant fach;Pysgotwn ar ei glennydd iach—A phin blygedig oedd fy machYn grog wrth edau lîn.

Ni waeth pa ran o’r eang fydA grwydraf tra b’wyf byw,Wyf wrth y Garreg Wen o hyd,A’r nant sydd yn fy nghlyw;A phan hysbyswyf estron ddyn,Mai ati’ hedaf yn fy hun,Maddeua ’m ffoledd am mai unO gofion mebyd yw.

Ffurfafen bell yw mebyd oes,Serenog fel y nen;Ac ymysg dynion neb nid oes,Na hoffa godi ei benI edrych draw i’r amser fu—A syllaf finnau gyda’r llu—Ac O! fy seren fore guWyt ti, fy Ngharreg Wen.

Os cyraedd ail fabandod wnaf,Cyn gollwng arna’r llen;Os gauaf einioes byth a gaf,A’i eira i wynnu ’m pen—Bydd angau imi ’n “frenin braw,”Nes caffwyf fynd i Walia draw,At dŷ fy nhad, i roi fy llawAr ben y Garreg Wen.

Byth, byth ni ddygir o fy ngho’Gyfeillion mud yr ardd;Nis clywir trystfawr swn y groAr gauad arch y bardd;A dagrau pur tros ruddiau ’r nenFo ’r oll o’r dagrau uwch fy mhen—Os cyfaill fydd, gwnaed garnedd wenO gerrig gwynion hardd.

Colofnau wnaed i feibion bri,Uchelfawr tua’r nen;Ond noder fy ninodedd iGan garnedd uwch fy mhen;’Rol gado gwlad y cystudd mawr,Os byw fy enw hanner awr,Na alwed neb fi ar y llawrOnd Bardd y Garreg Wen.

Oddyddi ddydd mae melyn haulYn pasio yn ei gerbyd;O nos i nos mae ’r lleuad wenYn codi ac yn machlud?O awr i awr mae ’r ser yn troiAr draws yr eangderau;—Yn wir, mae holl greadigaeth DuwYn teithio tuag adre.

Mae ’r ffrydlif fach, ar ben y bryn,Yn rhedeg megys crwydryn;Ac afon fawr, y dolydd îs,Yn rhedeg yn y dyffryn;Mae ’r gwynt yn crwydro yn y nef,A symud mae ’r cymylau;—Ac O! mae holl greadigaeth DuwYn teithio tuag adre.

Mae gwynt Diwygiad ar ei daith,A derw Cymru ’n gildio,Mae swn gorfoledd yn y dail,—Mae swn canghenuau ’n cracio;O!  Anadl, tyrd o’r pedwar gwynt,A chymer y byd mewn hymnau,Cân a moliant iddo Ef,I byrth tragwyddol gartre.

Ycyfanoll sydd genny ’n awrYn y cyfanfyd crwnYw ’r fendigedig gyfrol hon,Yw ’r Beibl anwyl hwn.Mae ’n dechreu gyda dalen degEin pren teuluaidd ni:Fy mam wrth farw, megis mamA roddodd hwn i mi.

Rwy’n cofio ’n dda rai enwau hoff,Ar ddechreu ’r gyfrol hon;Fy mrawd, fy chwaer, a’r baban bachFu farw wrth y fron.Rwy ’n cofio ’r hwyr darllennai ’nhad,Am Grist ac angeu loes;Ac fel y codai ’r Beibl hwnWrth son am waed y groes.

Mi dreuliais lawer awr erioed,I feddwl am y fan;Rwy ’n gweld y teulu ’n fyw, er fodEu beddau yn y Llan.Rwy ’n gweld y plant ar derfyn dydd,A’r bychan byr ei gamYn myned ar ei ddeulin bach,Wrth lin fy anwyl fam.

Mae ’r byd yn wag, cofleidiaf di,Fy Meibl anwyl iawn;Y fynwent a’th ddalennau diYw ’r unig bethau llawn.Esmwytha di fy ffordd i’r beddTrwy ddysgu ’r ffordd i fyw:Crynedig dwylaw fo ’n dy ddalFys anweledig Duw.

“Aros mae’r mynyddoedd mawr, Rhuo trostynt mae y gwynt.”

BUGEILGAN DELYNEGOL.

’RoeddAlun Mabon yn ei ddyddYn fachgen cryf a hoew;Yn berchen grudd a thalcen hardd,A llygad gloew, gloew.Er nad oedd goeth ’nol dull y byd,Fe ellid dweyd er hynnyFod ganddo galon gynnes burYn natur wedi tyfu.

Ar fin y mynydd ganwyd ef,Ac fel y blodyn bychanOedd ar y grug wrth gefn ei dŷ,Blagurodd yntau allan.—Fe gafodd hafddydd yn yr haul,A gauaf yn y stormydd;Ac yna megis blodyn grug,Fe wywodd ar y mynydd.

Ar fin y mynydd ganwyd ef,Ac fel yr hedydd rhyngo a’r nefFe ganodd lawer anthem gref,Lle nad oedd carreg ateb.Ond dywed traddodiadol go,I’r llon a’r prudd o dro i droDdod ato yn ei fryniawg froFel haul a storm i’w wyneb.

Ar rai o fydrau Cymru lân,Rhyw gais at roi arluniau mânO fywyd Alun ydyw ’r gânFugeiliol sydd yn canlyn;Ac mae bywgraffiad byw o’r dyn,Yn ei ganeuon ef ei hun,A’i “Arad Goch” yw ’r gyntaf unGaiff fyned efo ’r delyn.

Os hoffech wybod sutMae dyn fel fi yn byw,Mi ddysgais gan fy nhadGrefft gyntaf dynol ryw;Mi ddysgais wneyd y gorsYn weirglodd ffrwythlon ir,I godi daear lasAr wyneb anial dir.’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr,Ac yn codi efo’r wawr,I ddilyn yr ôg, ar ochr y Glôg,A chanlyn yr arad gochAr ben y mynydd mawr.

Cyn boddio ar eich byd,Pa grefftwyr bynnag foch,Chwi ddylech ddod am droRhwng cyrn yr arad goch;A pheidiwch meddwl fodPob pleser a mwynhadYn aros byth heb ddodI fryniau ucha’r wlad.’Rwyn gorwedd efo’r hwyr, &c.

Yn ol eich clociau heirdd,Bob bore codwch chwi:Y wawr neu wyneb haulYw ’r cloc a’n cyfyd ni;Y dyddiaduron syddYn nodi ’r haf i chwi;Ond dail y coed yw ’r llyfrSy ’n dod a’r haf i ni.’Rwyn gorwedd efo’r hwyr, &c.

Nis gwn i fawr am fywMewn rhwysg a gwychder byd;Ond diolch, gwn beth ywGogoniant bwthyn clyd;Ac eistedd hanner awrTan goeden ger fy nôr,Pan aiff yr haul i lawr,Mewn cwmwl tân i’r môr.’Rwyn gorwedd efo ’r hwyr, &c.

Cerddorion Ewrop ddontI’ch mysg i roddi cân:’R wyf innau ’n ymfoddhauAr lais y fronfraith lân;Wrth wrando ’r gwcw las,A’r hedydd bychan fry,A gweled Robyn GochYn gwrando ’r deryn du.’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, &c.

Ddinaswyr gwaelod gwlad,A gwŷr y celfau cain,Pe welech Fai yn dod,A blodau ar y drain—Y rhosyn ar y gwrych,A’r lili ar y llyn;Fe hoffech chwithau fywMewn bwthyn ar y bryn.’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, &c.

Pan rydd yr Ionawr oerEi gaenen ar yr ardd,Y coed a dro’nt yn wynTan flodau barrug hardd;Daw bargod dan y toFel rhes o berlau pur,A’r eira ddengys liwYr eiddew ar y mur.’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, &c.

Daw Ebrill yn ei dro,A chydag ef fe ddawDisymwth wenau haul,A sydyn gawod wlaw;Fel cyfnewidiog ferch,Neu ddyn o deimlad gwan,Galara ’r awyr las,A gwena yn y fan.’Rwy’n gorwedd efo ’r hwyr,Ac yn codi efo ’r wawr,I ddilyn yr ôg ar ochor y GlôgA chanlyn yr arad gochAr ben y mynydd mawr.

Dowch i’r mynydd yn y bore,Chwi gewch weld y wawr-ddydd degYn ymwrido ar y bryniau,Fel genethig dair-ar-ddeg.Diffodd lampau ’r nos,Goleu ’r ddaear dlos,Rhodio tros y bryniau mawr,Gosod cymyl claerMewn ymylon aur,Dyna waith y wylaidd wawr.

Dowch i’r mynydd gyda’r hwyrddydd,Pan aiff haul i’w fachlud awr;Chwi gewch weled brenin GwynddyddYn ei waed yn cwympo i lawr.Duo ’n ddyfnach byddMynwent laith y dydd,A daw nifwl ar y môr,Lleuad gwyd ei phen,Hwyrddydd rodia ’r nenI ail oleu lampau ’r Iôr.

Mi genais gerdd i’r Arad Goch,A cherdd ar Ddowch i’r Mynydd:Ond beth be bawn i eto ’n dodI ganu cân anghelfyddAr alaw anwyl “Blodau ’r Cwm,”Mae pawb yn gwybod honno;A beth pe bawn yn dewis pwncY gŵyr pob dyn am dano?

O! gwyn ei fyd yr hwn nis gŵyrAm ferch fu ’n flinder iddo;Ond wn i ddim yn sicr chwaith,Ai gwyn ei fyd, ai peidio.Mae’n ddigon hawdd gan ambell unSydd wedi cael ei ginio,Areithio llawer wrth ryw blantY gallant aros hebddo.

Fe guchia gwyneb llawer tad,Pan glywant gân cariadau:Tra ’u plant eu hunain wrth eu traedYn chwerthin am eu pennau;Ni welais i ’run deryn bachYn hoff o fyw yn unig;Ac ni fu oen yn hoff o’i famNad oedd yn hoff o oenig.

Ac ni fu dyn yn hoff o ddynNa mam yn hoff o’i phlentyn,Nad ydoedd serch at ferch neu fabYn gyntaf wedi ennyn.Mae holl ddynoliaeth dyn yn gudd,A’i enaid fel yn huno,Nes daw rhyw lygad fel yr haulI wenu cariad arno.

Aeddfedodd dyn erioed yn iawnAr gangen fawr dynoliaeth,Os bydd ei wedd heb wrido ’n goch,Yng ngŵydd ei anwyl eneth.Ond nid athromaeth dâl i feirdd,—Barddoniaeth ydyw ’r testyn:Am hynny tyred, Menna Rhên,Fy awen a fy nhelyn.

Pan welais gyntaf Menna RhênYn myned tua ’r mynydd,Yr oedd plentynrwydd tyner llonYn dirion ar ei dwyrudd;Ac efo ’i brawd y byddai beunydd,Yn adsain miwsig hyd y meusydd;’R oedd ganddi lais, a chanddi ddeallI ganu a charoli’n ddiwall,Ond nid oedd dim yn Menna Rhên—Ddim mwy na rhywun arall.

Mi welais eilwaith Menna RhenYn myned tua ’r mynydd;A byth er hynny, coeliwch fi,Bu ’n boenau imi beunydd.Yr oedd y dôn a genid ganddiFel yn aros gyda myfi;Mi dreuliais ddyddiau mewn myfyrion,A nosweithiau mewn breuddwydion,Nes credais fod cân Menna lânYn ngwaelod isa ’nghalon.

Mi welais wedyn Menna RhenI’r mynydd hwnnw ’n myned,Ac mi ddilynais ôl ei throedBob cam a fedrwn weled;Ond hi o’r diwedd oddiweddais,Ac O! mi deimlais, ac mi ddwedaisFarddoniaeth dlysach mewn un munudNa dim a genais yn fy mywyd,Wrth roddi cangen fedwen ferthYn nwylaw fy anwylyd.

Tra ’n cysgu ’r nos ddilynolCanfyddais trwy fy hun,Y gangen fedwen honno ’n blethAm wddf fy anwyl fûn;Y dail a ddeuent arni,Yn wyrdd a llawn bywhad;A gwelwn hi ’n blodeuo ’n hardd,Ac yna ’n hadu had.Ond wrth fwynhau fy mreuddwydO freuddwyd heb ei ail!Canfyddwn locust melyn dduYmysg y bedw ddail;Ymlusgodd ac ymrwyfoddNes cyffwrdd gwddf y ferch,Ac yna breuddwyd mwy nid oedd,Ond hunllef hagr erch.

Diolchais am gael deffroPan ddaeth yn doriad dydd;Ond cofiais ddechreu’r breuddwyd hwnYn fwy na ’i ddiwedd prudd.—Meddyliais am y blodauOedd ar y brigau cain,Yn fwy nag am y locust erchLochesid yn y rhain.Fy nghalon losgai ynnofWrth gofio llygad Men;Ac adeiladais lawer llysA chastell yn y nen;Ond maluriasant ymaith,Cyn dechreu mynd yn hen,Oherwydd cangengollenddaethOddiwrth fy Menna Rhên.

Alaw,—Hob y Deri Dando.

Mae gan bawb ei brofedigaeth,Paid a siarad gwirion,Ond myfi gadd siomedigaethPaid a thorri ’th galon;Rhyfedd iawn os na wnaf farw,Siwr, siwr iawn,Siomedigaeth chwerw arw;Mwyn, mwyn, er ei mwyn,A fyddai marw er ei mwyn.

Rown i’n meddwl ei bod hi’n ddidwyll,Paid a meddwl gwirion,—Peidiwch chwithau bod yn fyrbwyll;Dyna fel mae dynion.Dynion sydd a’r synwyr cryfa,Siwr, siwr iawn,Ond gwrthodwyd fi gan Menna;Mwyn, mwyn, er ei mwyn,A fyddai marw er ei mwyn.

Rhoddais iddi gangen fedwen,Beth ddywedodd Menna?Gyrrodd imi gangen gollen,Wel, hi wnaeth yn eitha’.Ond parhaf o hyd i’w hoffi,Siwr, siwr iawn,Pe b’ai ’n gyrru amdo imi;Mwyn, mwyn, er ei mwyn,A fyddai marw er ei mwyn.

’R oedd gennyf fi gyfaill pur anwyl a hoff,Yn fy nghyfarfod bob amser â gwên;Ac wrtho mi ddwedais fy mod wedi rhoiFy neheulaw i Menna Rhên.Ond ef pan ddeallodd yr hyn oedd yn bod,Siaradodd â’r llances ei hun—Efe oedd y locust ddisgynnodd ar ddailY fedwen a welais trwy f’ hun.

Mae llawer ffordd i lofruddio dynYn y byd llofruddiog hwn;Os cwrddwch â lleidr yng ngwyll y nos,Bydd angau ar ffroen ei wn;Fe gymer eich arian ar ol eich lladd,I’w logell losgedig ei hun,Ac yna fe ’ch tafl i ffos y clawdd,—Dyna fforddlleidri fwrdro dyn.

Mae arall o falais yn dod gyda gwên,I ro’i i ddyn ddiod yn hael,Mae yntau ’n cymeryd, ond bychan y gŵyrMai cwpan o wenwyn mae ’n gael;Mae un yn ymdrengu, a’r llall yn boddhauRhyw deimlad sydd ynddo fe ’i hun—Fe ddygodd y gwenwyn ryw amcan i ben,Dyna fforddllofruddi fwrdro dyn.

Mae arall yn byw ac yn bod gyda chwi,Fel cyfaill diffuant bob pryd,Ac rywfodd i’ch mynwes yn gynnes yr a,Nes cael eich cyfrinach i gyd.—Ac yna mae ’n myned i sibrwd ei serchI galon un garech eich hun—Yn ennill y llances garasech erioed;Dyna fforddcythrauli fwrdro dyn.

Alaw,—Y Melinydd.

Ond chaiff y gangen fedwenDdim gwywo ’n goch ei lliwNes af i siarad etoYng ngwyneb Menna wiw.Fa la, &c.

Mae gennyf dŷ fy hunan,Heb ddegwm, rhent, na threth;A phan eisteddaf ynddo,’Rwy’n frenin ar bob peth.Fa la, &c.

Mae gennyf barlwr bychan,Ac aelwyd fechan lân;A’m tegell i fy hunanSy ’n canu wrth y tân.Fa la, &c.

Mae gennyf gant o ddefaidYn pori ar y bryn,A gallaf godi ’m cyfrwyAr gefn fy ngheffyl gwyn.Fa la, &c.

Mae gennyf ferlyn mynydd,I fynd i weled Men;Nad all neb ond fy hunanRoi rheffyn yn ei ben.Fa la, &c.

Mae ’r ardd, a’r cae, a’r ffriddoedd,A’r tŷ yn eiddo im’;Ond heb fy Menna anwyl’Rwyf fel pe bawn heb ddim.Fa la, &c.

Fe ’i ceisiaf unwaith eto,Ac os gwrthodir fi,Tros fil o weithiau wedynAm Fenna ceisiaf fi.Fa la, &c.

Gwelais bren yn dechreu glasuEi ganghennau yn yr arddAc yn dwedyd wrth yr adar,—“Wele daeth y Gwanwyn hardd.”Daeth aderyn bychan heibio,Ac fe safodd ar ei frig;Ac fe ganodd gyda deilenNewydd irlas yn ei big.

Daeth aderyn bychan arallAr las gangen yn y coed,Fe ysgydwodd blu ei adenAc fe ddawnsiodd ar ei droed;Canodd yntau, a dewisoddFan lle carai wneyd ei nyth,O! mae ’r Gwanwyn fel yn cadwNatur hen yn ieuanc byth.

Eis o dan fy nghoeden fedwenAc mi godais fry fy mhen,Ac mi welais ol y gyllell,Lle torasid cangen Men.Gwnaeth adgofion i’m ofidioNa buasai ’r gainc yn wyw;Ond canfyddais gangen ieuancYn y toriad hwnnw ’n byw.

O mae gobaith mewn gwrthodiad,Meddwyf innau wrth fy hun;Er fy nhorri gallaf dyfuEto yn serchiadau ’r fun.Troes fy wyneb tuag adref,Teflais lawer tremiad ffolTros fy ysgwydd at y fedwenLâs adewais ar fy ol.

Wrth ddychwel tuag adref,Mi glywais gwcw lon,Oedd newydd groesi ’r moroeddI’r ynys fechan hon.

A chwcw gynta’r tymorA ganai yn y coed,’Run fath a’r gwcw gyntafA ganodd gynta’ ’rioed.

Mi drois yn ol i chwilioY glasgoed yn y llwyn,I edrych rhwng y brigau,Ple ’r oedd y deryn mwyn.

Mi gerddais nes dychwelaisO dan fy medw bren;Ac yno ’r oedd y gwcw,Yn canu wrth fy mhen.

O! diolch iti, gwcw,Ein bod ni yma ’n cwrdd—Mi sychais i fy llygad,A’r gwcw aeth i ffwrdd.

Ar ol i’r gog fy ngadaw, efo ’r pren,Dechreuais ganu ’r alaw Mentra Gwen;Cyfodi wnes yn union,A theimlais fwy na digonO ganu ar fy nghalon, Mentra Men,Er gwaethaf fy ngelynion, Mentra Men.

Os gyrraist imi gollen, Menna Wen,Fe yrraf eto fedwen Menna Wen,Pe b’ai holl fedw CymruTan farn yn gwywo ’fory,Mi ddaliwn innau i ganu, Mentra Men,Nes byddent yn aildyfu, Menna Wen.

Os gwelaist ddail yn syrthio, ar y pren,A blodau ’r haf yn gwywo, Menna Wen.Perogli wedi marwWna ’r dail sydd ar y bedw,Gan ddal y tywydd garw, Menna Wen,Pren cariad ydyw hwnnw, Menna Wen.

Alaw,—Clychau Aberdyfi.

Wrth feddwl am y gangen gyllDdanfonodd Menna imi;Draw ’n y pellder clywwn swnHen glychau Aberdyfi—“Menna eto fydd dy fun,Gâd y pruddglwyf iddo ’i hun,Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,”Meddai clychau Aberdyfi.“Un-dau-tri-pedwar-pump-chwechCwyd dy galon, bydd yn ddyn,”Meddai clychau Aberdyfi.

Hawdd gan glychau ganu ’n llon,Tra na bo dim i’w poeni:Hawdd yw cael gweniadau merch,Ond mil mwy hawdd en colli.“Menna eto fydd dy fun,” &c.

Pe bai etifedd i ŵr mawrYfory ’n cael ei eni;I ganu cainc dechreuech chwi,Hen glychau Aberdyfi.“Menna eto fydd dy fun,” &c.

Pe bai rhyw ddeuddyn yn y wlad,Yfory ’n mynd i’w priodi,I ganu cainc dechreuech chwi,Hen glychau Aberdyfi,“Menna eto fydd dy fun,” &c.

Pe bawn i fory ’n mynd i’r bedd,A’m calon wedi torri;I ganu cainc dechreuech chwi,Hen glychau Aberdyfi.“Menna eto fydd dy fun,Gad y pruddglwyf iddo ’i hun,Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,”Meddai clychau Aberdyfi.“Un-dau-tri-pedwar-pump-chwechCwyd dy galon, bydd yn ddyn”Meddai clychau Aberdyfi.

’R wyf wedi canu llawerO gerddi Cymru lân,Ond dyma ’r darn prydferthafSydd gennyf yn fy nghân;Ymhen rhyw flwyddyn wedyn,At Menna Rhen daeth brys,Nes aeth yn Menna MabonA modrwy am ei bŷs.

Yn mhen rhyw flwyddyn arall,A dyma ddernyn cain;Pan oedd y gôg yn canuA’r blodau ar y drain,Yr ŵyn ar ben y mynyddYn chware naid a llam,Fe wenai Mabon bychanAr freichiau gwyn ei fam.

Ar ysgwydd y gwan fe ddaeth pwysTrafferthion a helbul y byd,Fy nheulu gynyddodd, a daethGofynion am ’chwaneg o ŷd;Ychwaneg o fwyd i’r rhai bach,Ychwaneg o lafur a thraul;Er hynny yn nghwmni fy Men,Yr oedd imi gysur i’w gael.

Un gweryl a gawsom erioed,A chweryl dra chwerw oedd hon;Fe yrrwyd fy hunan a’m gwraig,Ar tŷ’n bendramwnwgl bron.—Yr oedd hi ’n bur hoff o roi troI weled ei mam tros y bryn;Ac wrth imi ddwedyd gair croes,Dechreuodd areithio fel hyn:—

“Cymeryd fy hel a fy nhrin,Fy maeddu heb ddarfod na phen:Cymeryd pob tafod a rhenc,Fel pe bawn yn ddernyn o bren!Ai dioddef fel carreg a raid,Heb deimlad—na llygad—na chlyw!O! na wnaf, os gwelwch chwi ’n dda,Wnaf fi ddim er undyn byw!

“A chymer di fi ar fy ngair,Fe ’i cedwais erioed hyd yn hyn;Cyn cei di fy ngwddf tan dy droed,Bydd dy ben yn eitha gwyn.—Cymeryd diflasdod a chas,A galw fy modryb yn ‘sgriw.’—O! na wnaf, os gwelwch chwi ’n dda,Wnaf fi ddim er undyn byw!

“Ni flasa i fynd allan o’r tŷ,I weled fy chwaer na fy mam,Nad codi ’r gloch fawr byddi di,Heb reswm, nag achos, na pham.—Wna i mono fo, Alun, er neb,Mi gadwaf anrhydedd fy rhyw;O! na wnaf os gwelwch chwi ’n dda,Wnaf fi ddim er undyn byw!

“’Does gen’ ti ’r un galon o’th fewn,A phwyll yn dy goryn ni ’roed;A gwae fi o’r diwrnod a’r awr [yn crio.]Y gwelais dy wyneb erioed!Mi âf tros y bryn at fy nhad,I’m hatal ’does undyn a wiw;Ac aros yn hŵy efo ’th di—Wnaf fi ddim—wnaf fi ddim!Wnaf fi ddim er undyn byw!”

Ac i ffwrdd yr aeth hi, ac i ffwidd y bu hi, ac i ffwrdd yr arosodd, am nas gwn i pa hyd.  Ond tra yr oedd hi efo ’i mam a’i theulu, a minnau yn fy helbul efo fy mhlant bach, mi genais gerdd i ysgafnhau fy nghalon, ac fel hyn y cenais,—

Mae ’r lloer yn codi tros yr aigAc ogof Craig Eryri;Ond beth yw cartref heb fy ngwraig,Ond ogof ddioleuní?Y mae pob munud megis awr,Ac awr, O!  Menna, ’n flwyddyn.Pe bawn i heno ’n dderyn to,Caet heno weled Alun.

O na bai cadair Morgan Mud,Neu un o’r hen freindlysau,Yn mynd a fi, fy ngeneth wen,Tros ben y coed a’r caeau.Mi rown fy ngwefus wrth dy glust,A gwnawn i ti freuddwydio;Nes codet trwy dy gwsg i ddod,Yn ol at Alun eto.

Ond i fy nghadair wellt yr af,A cheisiaf huno, Menna;Ac mewn breuddwydion cyn bo hirMi ddeuaf innau yna.Yn awr ’rwy ’n cau fy amrant swrthWrth gychwyn i dy wyddfod;Breuddwydia dithau, felly hed,A thyred i’m cyfarfod.

Mi dreuliais wythnos gyfan,A Menna bach i ffwrdd;A’r tŷ yn llanast tryblith,A’r llestri hyd y bwrdd.’R oedd gennyf was a hogynYn cynhauafa mawn:Ac eisiau pobi baraA daeth yn fuan iawn.

’R oedd godro un o’r gwarthegYn gasach na phob peth,Oherwydd Menna ’n unigGai gydied yn ei theth.A throi yn hesp wnaeth pedairO’r gwartheg mwyaf blith;A llaeth y lleill a surodd,A’r byd a drodd o chwith.

Ac am y gegin, druan,’R oedd hi heb drefn na llun:Y plant ddechreuent grïo,A chrïais innau f’ hun.Mi flinais ar fy einioes,Aeth bywyd imi ’n bwn:A gyrrais efo ’r hogynI Menna ’r llythyr hwn:—

Alaw,—Bugail Aberdyfi.

Mi geisiaf eto ganu cân,I’th gael di ’n ol, fy ngeneth lân,I’r gadair siglo ger y tân,Ar fynydd Aberdyfi;Paham, fy ngeneth hoff, paham,Gadewaist fi a’th blant dinam?Mae Arthur bach yn galw ’i fam,A’i galon bron a thorri;Mae ’r ddau oen llawaeth yn y llwyn,A’r plant yn chware efo ’r ŵyn;O tyrd yn ol, fy ngeneth fwyn,I fynydd Aberdyfi.

Nosweithiau hirion mwliog duSydd o fy mlaen, fy ngeneth gu:O! agor eto ddrws y tŷ,Ar fynydd Aberdyfi.O! na chaet glywed gweddi dlosDy Arthur bach cyn cysgu ’r nos,A’i ruddiau bychain fel y rhos,Yn wylo am ei fami;Gormesaist lawer arnaf, Men,Gormesais innau—dyna ben:O tyrd yn ol, fy ngeneth wen,I fynydd Aberdyfi.

Fel hyn y ceisiaf ganu cânI’th gael di ’n ol, fy ngeneth lân,I eistedd eto ger y tân,Ar fynydd Aberdyfi;’Rwy ’n cofio’th lais yn canu ’n iach—Ond ’fedri di, na neb o’th âch,Ddiystyrru gweddi plentyn bachSydd eisieu gweld ei fami.Rhyw chware plant oedd d’weyd ffarwel,Cyd-faddeu wnawn, a dyna ’r fel,Tyrd tithau ’n ol, fy ngeneth ddel,I fynydd Aberdyfi.

Fe ddaeth yr hogyn adref,A rhoddodd sicrhad,Fod Menna ’n mynd i arosYn nhy ei mam a’i thad.Os oeddem wedi priodi,Yn bendant dwedai hiNad oedd dim modd cymodiA dyn o’m tymer i.

Fod i’r holl fechgyn fynedI’w magu ganddi hi:Ac i’r genethod ddyfodO dan fy ngofal i.’R oedd hi yn ymwahanu,Ac felly ’n canu ’n iach;Ond hoffai roddi cusanAr wefus Enid fach.

A thrannoeth hi ddychweloddI ddwyn y rhwyg i ben:Ond O! fe dorrodd dagrauO eigion calon Men;Cymerodd Arthur afaelAm wddf ei fam a fi,Ac fel rhyw angel bychan,Fe ’n hailgymododd ni.

Wyddoch chwi beth, mae ffraeoYn ateb diben da;Pe na bai oerni ’r gauafNi theimlem wrês yr ha;Pe na bai ymrafaelio,Ni byddai ’r byd ddim nes,Yn wir mae tipyn ffraeo’N gwneyd llawer iawn o les.

Awel groes ar fy oes godai ’n gryf wedyn,Daeth i mi adwyth mawr, clefyd, a thwymyn:Rhoddai mhlant ddwylaw’n mhleth, ogylch fy ngwely,Minnau ’n fud welwn fyd arall yn nesu.Is fy mhen, ias fy medd deimlais yn dyfod,A daeth ofn, afon ddofn, ddu i’m cyfarfod;Ond ’roedd grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua,A rhoi gwin ar fy min ddarfu fy Menna.

O! os bu ias y bedd, allan o’r briddell,Hi a fu ennyd fer yn fy hen babell;Yn fy nhraed teimlais waed, dyn wedi huno,Ond fe drodd angau draw wedi fy nharo.Fel y graig safai ’m gwraig anwyl yn ëon,Ac i’r nef, gweddi gref yrrodd o’i chalon:Rhoi ei grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua,A rhoi gwin ar fy min, ddarfu fy Menna.

Ar ol fy hir gystudd,’Rwy ’n cofio ’r boreuddyddY’m cariwyd mewn cader dros riniog fy nôr:Ac ar fy ngwyn dalcenDisgynnodd yr heulwen,Ac awel o’r mynydd ac awel o’r môr.Ar ol imi nychuYn gaeth ar fy ngwelyAm fisoedd o gystudd, o glefyd a phoen;Fy nghalon lawenoddWrth weld ar y weirgloddY gaseg a’r ebol, y ddafad a’r oen.

Trwy wenlas ffurfafenFe wenai yr heulwen,Ac mi a’i gwynebais, ac yfais y gwynt;A’r adar a ddeuentI’m hymyl, a chanent,Nes teimlais fy nghalon yn curo fel cynt.Fy ngeneth ieuengafAc Arthur ddaeth ataf,A gwenu mewn dagrau wnai Menna gerllaw;A daeth fy nghi gwirion,Gan ysgwyd ei gynffon,A neidiodd i fyny a llyfodd fy llaw.

Ond O! mae llawer blynedd,Er pan own gynt yn eistedd,O flaen fy nrws tan wenau ’r haul;’Rol gadael gwely gwaeledd.A llawer tywydd garwSydd er yr amser hwnnw,Mae ’m plant yn wragedd ac yn wŷr,A Menna wedi marw.

Claddasom fachgen bychan,Ac yna faban gwiwlan,Ond chododd Menna byth mo’i phen’Rol ini gladdu ’r baban.’Rwy ’n cofio ’r Sul y BlodauYr aeth i weld eu beddau,Pan welais arwydd ar ei gwedd,Mai mynd i’r bedd ’roedd hithau.

Penliniodd dan yr ywen,A phlannodd aur-fanadlen,Mieri Mair, a chanri ’r coed,A brig o droed y glomen.Y blodau gwyllt a dyfentAr ddau fedd yn y fynwent;Ond gywo ’r oedd y rhosyn cochAr foch y fam a’i gwylient.

Ac er pan gladdwyd Menna,Un fynwent yw ’r byd yma:Y fodrwy hon sydd ar fy mysYw’ r unig drysor fedda.Y fodrwy hon a gadwaf,Y fodrwy hon a garaf,A dyma destun olaf cerdd,Gwreichionen awen, olaf.

Mae Menna ’n y fynwent yn isel ei phen,A thi ydyw ’r fodrwy fu ar ei llaw wen:Ar law fy anwylyd rwy ’m cofio dy roi,Ac wrth imi gofio, mae ni calon yn troi—Fy llygaid dywyllant, a chau mae fy nghlyw,’Rwyf fel pe bawn farw, ac fel pe bawn fyw:Ond megis fy mhriod wrth adael y byd,Mae modrwy ’r adduned yn oer ac yn fud.

Pan roddwyd ti gyntaf ar law Menna Rhen,’R oedd coedydd yn ddeiliog, a natur mewn gwen,Y clychau yn canu, a’r byd fel yn ffol,—Ond cnul oedd yn canu pan ges i di ’n ol.Mewn gwenwisg briodas y dodais i di,O wenwisg yr amdo dychwelaist i mi;O! fodrwy ’r adduned, nes gwywo ’r llaw hon,Fe’th gadwaf di ’n loew, fe’th gadwaf di’n gron.

Aros mae ’r mynyddau mawr,Rhuo trostynt mae y gwynt;Clywir eto gyda ’r wawr,Gân bugeiliaid megis cynt.Eto tyfa ’r llygad dydd,Ogylch traed y graig a’r bryn;Ond bugeiliaid newydd syddAr yr hen fynyddoedd hyn.

Ar arferion Cymru gynt,Newid ddaeth o rod i rod;Mae cenedlaeth wedi mynd,A chenedlaeth wedi dod.Wedi oes dymestlog hir,Alun Mabon mwy nid yw;Ond mae ’r heniaith yn y tir,A’r alawon hen yn fyw.


Back to IndexNext