MAEN DERWYDDOL GER LLAW LLYN-Y-FAN FAWRMAEN DERWYDDOL GER LLAW LLYN-Y-FAN FAWR
MAEN DERWYDDOL GER LLAW LLYN-Y-FAN FAWRMAEN DERWYDDOL GER LLAW LLYN-Y-FAN FAWR
LLYN-Y-FAN.LLYN-Y-FAN.
LLYN-Y-FAN.LLYN-Y-FAN.
Teimlaf ar y mynyddSwyn yr amser gynt;Clywaf FabinogiYn y gwynt.
Clywaf rhwng y creigyddYmchwydd tonnau'r aig;Gwelaf eu hysgrifenAr y graig.
Gwelaf graith y dymhestlAr y bryniau erch,Clywaf hefyd furmurSuon serch.
Gwelaf las y wybren,Cofiaf lygad Gwen,Syrthiaf i'w chyfrineddDros ym mhen.
Gwen yn awr yw byrdwnCân yr hedydd myg;Er ei mwyn y gwridaBlodau'r Grug.
Sonia'r neint am daniRhwng y grug a'r brwyn;Llwythog yw yr awelGan ei swyn.
Dilyn ei huloliaethAr y bannau hynWna y mynydd imi'nFynydd gwyn.
Ystradgynlais.W. R. WILLIAMS.
Rhyw noson yn fy mreuddwyd,Yn esmwyth es am droYn ol i gwmwd tawelFy ngenedigol fro,A gwelwn Bontygiedd,Heb fwthyn Pegi gynt,A rhoes ochenaid hiraethWrth basio yn y gwynt.
Es heibio'n brudd fy nghalonI Blasycoed ar daith,Ond Siams ni chefais yno,Na'r dall basgedwr chwaith;Gwag imi yr aneddau,Heb un o'r cwmni llon,A throais tua'r afonI holi helynt hon.
Bu amser arni hithauYn amlwg wrth ei waith,A gwelwn ol llifogyddAr hyd ei gwely llaith;'Roedd hen athrofa nofioFydenwog Llyn y Sgwd,Yn awr yn ynys goedigYn nghanol y ddwy ffrwd.
Es eto i Gae Ffynon,Yr Arch, fu'n net ddigêl,Lle'r aem i chwareuroundersYn ddedwydd gyda'r bel;Ond, Ah! cauedig ydoedd,Ac nid oedd cyfoed cuYn aros gyda'i "fando"I son am bethau fu.
Mi deithiais eto i fynyAt efail y gof bach,Lle buom lawer canwaithYn ymddigrifo'n iach;Ond carnedd oedd yr efailA'i bentan erbyn hyn,A'r hen of bach duwiolafA aeth yn gerub gwyn.
Fe welais Craig-y-defaid,'Roedd hon yr un o hyd,Heb gyfnewidiad arni,Er holl dreigliadau byd;Y defaid arni borentYn ddifyr yn eu hedd,Ond mae'r hen fugail gofiwnYn awr yn llwch y bedd.
Diosgais fy esgidiauWrth droi i'r fynwent brudd,Ac hiraeth aeth yn gawodO ddagrau dros fy ngrudd;Darllenais ar y meiniFeddargraff tad a mam,Ac enwau torf o ffryndiauBoreuddydd mwyn, dinam.
Mi es am dro i'r capel,Anwylaf yw i fil,Lle dysgais fyn'd a'm hadnodI'r cwrdd a'r Ysgol Sul;Mi holais dan y pulpud—Ble mae'r proffwydi glânA welais gynt yn llosgiO'i fewn yn ddwyfol dân?
Y seddau yma godentWynebau ger fy mron,Hen seintiau haner canrif,Colofnau'r deml hon;A d'wedais wrth fy nghalon,Y tadau nid y'nt mwy,Y nef ar hyn agorodd,A gwaeddais—Dacw hwy.
Deffroais o fy mreuddwyd,A'r dydd oedd ar y wlad,Dechreuais feddwl allanY freuddwyd mewn tristhad;Deallais wedi hynyNad oedd y freuddwyd bruddOnd gweledigaeth noswaithO wrioneddau'r dydd.
Penygraig.G. JAMES.
Rhyw fyrdd a mwy na hyny,'Does neb all ddweyd ond Duw;Yw haeddiant Crist yn drymachNa phechod dynolryw:Pe buasai yn yr arfaethI fyn'd i uffern dân,Fe olch'sai'r holl gythreuliaidI gyd yu berffaith lân.
Er cwrdd â geiriau newydd,I roddi ei glod i ma's,Ac uno â'r holl angelion,Ac etifeddion gras;Heb enwi dim o'r unpethOnd unwaith yn y gân,Hyd eithaf tragwyddoldeb,'Ddaw 'glod E' byth yn mla'n.
Pe bai angelion nefoeddBob un yn myn'd yn fil,Ac enill rhyw fyrddiynauBob mynyd yn y sgil,I roddi ei glod Ef allanAm farw ar y pren,Hyd eithaf tragwyddoldeb,'Ddoi dim o'r gwaith i ben.
'Tai sant am bob glaswelltynSydd ar y ddaear lawr,A mil am bob tywodynSy' ar fin y moroedd mawr,Tafodau gan y rhei'nyFwy na rhifedi'r dail,—Rhy fach i ddweyd gogoniantSy'n haeddiantAdda'r ail.
'Tai un o'r cor nefolaiddYn dod o'r nef i lawrI rifo llwch y ddaearA gwlith y borau wawr,Fe allai wneuthur hynyMewn 'chydig iawn o bryd,Dweyd haner haeddiant IesuNid all y cor i gyd.
Dywedodd Duw ei HunanWrth Abram yn ddiffael,Lai lai i arbed Sodom,Pe buasent yno i'w cael;Ni dd'wedodd, ac ni ddywed,Wrth un pechadur trist,Ddim llai i gadw enaidNa haeddiant Iesu Grist.
Mae dyndod glân i'w weledYn mherson Iesu hardd,Pan ddaeth y milwyr ato,A'i weled yn yr ardd,—Eu cwympo 'ngwysg eu cefnauA gair o'i enau, clyw,Sy'n dangos i ni'n eglurEi fod yn gywir Dduw.
Mae 'ddoliad iddo'n perthyn,'Nol dim ddeallais i,Gan holl drigolion daear,A lluoedd nefoedd fry:Os gwir a dd'wed y Beibl,Sef genau'r Ysbryd Glân,Pa fodd gall DwyfundodiaidI ddwyn eu credo 'mla'n?
Fe rodd y Tad ei HunanY cyfan yn ei law,Sydd yn y nef a'r ddae'r,A chymaint ag a ddaw:Athrawiaeth gyfeiliornus,I'w chredu nid oes llun,I'r Duw anfeidrolfentroY rhai'n yn nwylaw dyn!
Os credai'r Dwyfundodiaid,Rhaid i mi ddwyn yn mla'nRyw grefydd groes i'r Beibl,A iaith yr Ysbryd Glân,Sy'n dweyd mai'n enw'r IesuY plyga pawb o'r bron,Sydd yn y nef a'r ddaear,A than y ddaear hon.
Os nad oedd ond creadur,Mae gan iuddewon sailI ddweyd yn ngwyneb BeiblNa ddaeth moAdda'r ail:Yr achos fod y rhei'nyYn gwrthod Iesu, clyw,Yw eisieu gallu creduEi fod yn berffaith Dduw.
'Dyw'r Tad o ran ei BersonYn barnu neb o'r byd;Fe rodd bob barn yn grynoYn nwylaw'r Mab i gyd:Os gwir dd'wed Dwyfundodiaid,Nad oedd ond Dyndod, clyw,Rhaid iddo farnu'r BeiblAm ddweyd ei fod yn Dduw.
Mi wn i angeu greduAm Iesu ar y gro's'Run peth a'r Dwyfundodiaid,Mai Dyn oedd e'n ddi-os;Newidiodd Hwn ei feddwlAr foreu'r trydydd dydd,—Efe oedd wedi'i rwymo,A'r Iesu'n rhodio'n rhydd.
Cynghora i'r DwyfundodiaidI gredu ar sicrach sailMai dyn oedd Adda'r cyntaf,Duw-ddyn ywAdda'r ail;Ei Ddyndod oedd yr aberthOffrymwyd drosom ni,A'i Dduwdod oedd yr allorA'i daliai ar Galfari.
Nid all'sai Duw dim dyoddef,'Doedd ganddo Ef ddim gwa'd,—Heb ollwng gwaed, medd Beibl,'Doedd dim foddlonai'r Tad;Ei gyfraith lân droseddwyd,A'r bai oedd ar y dyn,—Cyn gwneud y rhwyg i fyny,Rhaid clwyfo'r Mab ei Hun.
O credwch fod yr IesuMor uchel Dduw a'r Tad,Mor isel Ddyn a ninau,Yn meddu cig a gwa'd;Bydd 'rundeb yn rhyfeddodI dragwyddoldeb hir,—'Dall neb ei gyflawn ddirnad,Ac eto mae yn wir.
'Rwy'n credu iddo ddyfodO gariad lawr o'r nef,'Rwy'n credu fod y DuwdodYn wastad ynddo Ef;'Rwy'n credu fod e'n ddigonI ateb cais y Tad,A bod maddeuant cyflawnI'r duaf yn ei wa'd.
Dych'mygaf wel'd angelionA'u calon bron yn brudd,Wrth fyn'd i uffern obryI ro'i cadwynau'n rhydd,I ollwng diafliaid allan,Fwy na rhifedi'r dail,I fynydd bach Calfaria,I brofi'rAdda'r ail.
Dych'mygaf wei'd cyfiawnderA'i filiau yno'n llawn,A'r gyfraith lân droseddwydYn gwaeddi, Rhaid cael Iawn;A'r Tad yn cilio o'r golwg,A'r Iesu ar y pren,—Pa ryfedd bod i'r haulwenDair awr i guddio'i ben!
Dych'mygaf weli'd cythreuliaid'N dynwared llawenhau,Fod uffern yn agored,A'r nefoedd wedi'i chau,A'r Gwr a wnaeth y cyfanYn hongian ar y gro's,A'r haul yn cuddio'i wyneb,Nes gyru'r dydd yn nos.
Dych'mygaf wel'd ysbrydionY cyfiawn aeth i'r nefYn plygu lawr yn fynychI edrych arno Ef,A bron a gwaeddi allan—Os Iesu gyll y dydd,Cawn fyned oll i garcharNa dde'wn ni byth yn rhydd.
Mae'r Gair yn dweyd i'r meiniI hollti fach a mawr,A llen y deml rwygoO fyny hyd i lawr,A'r beddau ddechreu rhwygo,A'r meirw neidio'n rhydd,—Mae'n arwydd digon goleuI angeu golli'r dydd.
A swn y gair Gorphenwyd,Pan floeddiwyd ganddo Ef,A gauodd ddrysau uffern,Agorodd byrth y nef,A dynodd o garcharauFyrddiynau i fod yn rhydd,Trodd ddyffryn cysgod angeuYn hyfryd foreu ddydd.
'Does feddyg ar y ddaear,Nac hefyd yn y nef,'Mhlith dynion nac angelion,Gyffelyb iddo Ef;Gall symud pechod chwerw,A chodi'r marw'n fyw,—Anturiaf fy enaid arno,'Rwy'n credu fod e'n fyw.
'Ddaeth barn y DwyfundodiaidErioed i uffern, clyw,Maent yno'n rhwym i greduFod Iesu Grist yn Dduw;Ac yn y nefoedd oleuDiamheu nad oes unNad ydyw'n moli'n wastadY Duwdod yn y Dyn.
Cymerwch eich cynghoriGan Lywydd dae'r a nef,I chwilio'r Ysgrythyrau,Sy'n tystio am dano Ef;A pheidio credu'r diafol,Peth annymunol yw,Bod neb yn beiddio gwaduY peth a dd'wedodd Duw.
Y man ca'dd Satan fantaisAr ddynion yn yr ardd,Pan dwyllwyd Adda i fwytaO'r pren oedd wedi ei wa'rddCanlyniad hyn sy'n effaithHyd yma ar gyflwr dyn,Y diafol rhydd e'i greduYr hyn ni chred ei hun.
OWAIN DAFYDD.
Gosodir y gân hon i fewn am fod ei hawdwr yn un o Frodorion y Mynydd Du.