The Project Gutenberg eBook ofYr Hwiangerddi

The Project Gutenberg eBook ofYr HwiangerddiThis ebook is for the use of anyone anywhere in the United States and most other parts of the world at no cost and with almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included with this ebook or online atwww.gutenberg.org. If you are not located in the United States, you will have to check the laws of the country where you are located before using this eBook.Title: Yr HwiangerddiAuthor: Sir Owen Morgan EdwardsRelease date: May 1, 2005 [eBook #8194]Most recently updated: January 1, 2015Language: WelshCredits: Transcribed from the 1911 Ab Owen, Llanuwchllyn edition by David Price*** START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK YR HWIANGERDDI ***

This ebook is for the use of anyone anywhere in the United States and most other parts of the world at no cost and with almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included with this ebook or online atwww.gutenberg.org. If you are not located in the United States, you will have to check the laws of the country where you are located before using this eBook.

Title: Yr HwiangerddiAuthor: Sir Owen Morgan EdwardsRelease date: May 1, 2005 [eBook #8194]Most recently updated: January 1, 2015Language: WelshCredits: Transcribed from the 1911 Ab Owen, Llanuwchllyn edition by David Price

Title: Yr Hwiangerddi

Author: Sir Owen Morgan Edwards

Author: Sir Owen Morgan Edwards

Release date: May 1, 2005 [eBook #8194]Most recently updated: January 1, 2015

Language: Welsh

Credits: Transcribed from the 1911 Ab Owen, Llanuwchllyn edition by David Price

*** START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK YR HWIANGERDDI ***

Transcribed from the 1911 Ab Owen, Llanuwchllyn edition by David Price, email ccx074@pglaf.org

“Si hei-li lwli, ’r babi, Mae’r llong yn mynd i ffwrdd”

*

CASGLWYD GANOWEN M. EDWARDS.

Y DARLUNIAU GANWINIFRED HARTLEY(Lowrie Wynn.)

1911Ab Owen, Llanuwchllyn.

Argraffwyd a Chyhoeddwyd, dros Ab Owen, ganR. E.Jones a’i Frodry, Conway.

Ambellorig daw hen hwiangerdd, fel su melodaidd o gartref pell a hoff, i’r meddwl.  Daw un arall ar ei hol, ac un arall,—a chyda hwy daw adgofion cyntaf bore oes.  Daw’r llais mwynaf a glywsom erioed i’n clust yn ol, drwy stormydd blynyddoedd maith; daw cof am ddeffro a sylwi pan oedd popeth yn newydd a rhyfedd.  A daw ymholi ond odid.  Beth yw tarddle swyn yr hen gerddi hwian syml hyn?  Pa nifer ohonynt fedraf?  Pa nifer sydd ohonynt yn llenyddiaeth Cymru?  A ydynt yn llenyddiaeth?  Beth fu eu dylanwad ar fy mywyd?  A adawsant ryw nod ar lenyddiaeth Cymru?

O ble y daethant?  Y mae iddynt ddau darddiad.  Yn un peth,—y maent yn adlais o ryw hen bennill genid gyda’r delyn.  Cofid y rhannau mwyaf melodaidd, rhyw seiniau fynnai aros yn y glust, gan fam neu forwyn, a byddent yn llais i lawenydd y galon wrth suo’r plentyn i gwsg.  A ffynhonnell arall,—yr oedd y fam yn creu cerddi hwian, nid i wneyd i’r plentyn gysgu, ond i’w gadw’n ddiddig pan ar ddihun.  Ac y mae cof gwlad wedi trysori ymgais y mamau mwyaf athrylithgar.

Ar ei fysedd y sylwa plentyn i ddechreu.  Hwy ddefnyddia’r fam yn deganau cyntaf.  Rhoddir enwau arnynt,—Modryb ’y Mawd, Bys yr uwd, Hirfys, Cwtfys, Bys bach, neu ryw enwau ereill.  Gwneir iddynt chware â’u gilydd; llechant yng nghysgod eu gilydd, siaradant â’u gilydd; ant gyda’u gilydd i chware, neu i hel gwlan, neu i ladd defaid i’r mynydd.  Yr oedd yr olaf yn fater crogi yr adeg honno, ac felly yr oedd y chware yn un pur gyffrous.  Yr oedd i bob bys gymeriad hefyd; bys yr uwd oedd y cynlluniwr, yr hirfys oedd y gweithiwr cryf eofn, y cwtfys oedd y beirniad ofnus, a’r bys bach, druan, oedd yn gorfod dilyn y lleill neu gario dŵr.  Yn llenyddiaeth gyntaf plentyn, y bysedd yw’ractorsyn y ddrama.

Wedi’r bysedd, y traed oedd bwysicaf.  Eid trwy yr un chware gyda bysedd y traed drachefn.  A difyr iawn oedd pedoli, curo gwadnau’r traed bob yn ail, a phedoli dan ganu.

Nodwedd bennaf plentyn iach, effro yw, nas gall fod eiliad yn llonydd.  Mae pob gewyn ynddo ar fynd o hyd.  Ac y mae mynd yn yr hen hwiangerddi.  Gorchest arwrol gyntaf plentyn yw cael ei ddawnsio’n wyllt ar y lin.  “Gyrru i Gaer” yw anturiaeth fawr gyntaf dychymyg y rhan fwyaf o blant Cymru.  Ac y mae afiaeth mawr i fod ar y diwedd, i ddynodi rhyw drychineb ysmala,—dod adre wedi priodi, boddi yn y potes, neu dorri’r pynnaid llestri’n deilchion.  Mae’r coesau a’r breichiau bychain i fynd ar eu gwylltaf, ac y mae edyn mân dychymyg y plentyn yn chware’n wyllt hefyd.

Yr un cerddi hwian, mewn llais distawach, dwysach, a suai y plentyn i gwsg.  Ai’r llong i ffwrdd yn ddistaw, carlamai’r cel bach yn esmwyth, doi’r nos dros furiau Caer.

A yw’r hwiangerddi’n foddion addysg?  Hwy rydd addysg oreu plentyndod.  Am genedlaethau’n ol, ceisid dysgu plant yn yr ysgol o chwith.  Ceisid eu cadw’n llonydd, a hwythau’n llawn awydd symud.  Ceisid eu cadw’n ddistaw, a hwythau’n llawn awydd parablu.  Dofi, distewi, disgyblu oedd o hyd.  Erbyn hyn deallir egwyddorion dysgu plentyn yn well.  Gellid rhoddi rhestr hir o athronyddion dysg plant, a dangos fel y gwelsant, o un i un yn raddol, wir ddull dysgu plant.  A’r dull hwnnw yw,—dull yr hwiangerddi.  Dysgir y plentyn i astudio’i fysedd.  Ca fynd ar drot ac ar garlam yr adeg y mynno.  Ac ymhob cerdd, daw rhyw agwedd darawiadol ar y natur ddynol i’r golwg.  Ei siglo’n brysur ar y glin i swn rhyw hen gerdd hwian,—dyna faban ar ben gwir Iwybr ei addysg.  Ni fyddaf yn credu dim ddwed yr athronwyr am addysg babanod os na fedrir ei brofi o’r hwiangerddi.  Ynddynt hwy ceir llais greddf mamau’r oesoedd; o welediad clir cariad y daethant, ac o afiaeth llawenydd iach.

A yw’r cerddi hwian yn llenyddiaeth?  Ydynt, yn ddiameu.  Y mae iddynt le mor bwysig mewn llenyddiaeth ag sydd i’r plentyn yn hanes dyn.  Y mae llenyddiaeth cenedl yn dibynnu, i raddau mawr, ar ei hwiangerddi.  Os mynnech ddeall nodweddion cenedl, y dull chwilio hawddaf a chyrfymaf a sicraf yw hwn,—darllennwch ei cherddi hwian.  Os ydynt yn greulon ac anonest eu hysbryd, yn arw a chras, yn fawlyd a dichwaeth, rhaid i chwi ddarllen hanes cenedl yn meddu yr un nodweddion.  Os ydynt yn felodaidd a thyner, a’r llawenydd afteithus yn ddiniwed, cewch genedl a’i llenyddiaeth yn ddiwylledig a’i hanes yn glir oddiwrth waed gwirion.  Nis gall y Cymro beidio bod a chlust at felodi, wedi clywed y gair “pedoli” bron yn gyntaf un, a hwn yn gyntaf pennill,—

“Mae gen i ebol melyn,Yn codi’n bedair oed;A phedair pedol arian,O dan ei bedwar troed.”

Disgwylir i mi ddweyd, mae’n ddiau gennyf, ymhle y cefais yr holl gerddi hwian hyn.  Gwaith araf oedd eu cael, bum yn eu casglu am dros ugain mlynedd.  Ychydig genir yn yr un ardal, daw y rhai hyn bron o bob ardal yng Nghymru.  Cefais hwy oddiwrth rai ugeiniau o gyfeillion caredig, yn enwedig pan oeddwn yn olygyddCymru’r Plant.  A chefais un fantais fawr yng nghwrs fy addysg,—nid oes odid blentyn yng Nghymru y canwyd mwy o hwiangerddi iddo.

Hyd y gwn i; Ceiriog ddechreuodd gasglu hwiangerddi Cymru, yn yrArweinydd, yn 1856 ac 1857.  Condemnid y golygydd, Tegai, am gyhoeddi pethau mor blentynaidd.  Ond daeth yr hanesydd dysgedig Ab Ithel, oedd wedi cyhoeddi’rGododinac yn paratoi’rAnnales Cambriae y Brut y Tywysogioni’r wasg, i’w amddiffyn yn bybyr.  Cawr o ddyn oedd Ab Ithel; y mae rhai o wyr galluocaf a mwyaf dysgedig Cymru, yn ogystal a phlant ysgol, wedi’m helpu innau i wneyd y casgliad hwn.  Cyhoeddwyd casgliad Ceiriog wedi hyn yn “Oriau’r Haf.”  Nid oes ynddo ddim o gerddi hwian y De.  Cyhoeddodd Cadrawd rai o gerddi hwian Morgannwg yn ei “History of Llangynwyd Parish” yn 1887.  Yn ddiweddarach cyhoeddwyd casgliad gyda darluniau prydferth yng Nghonwy,[0a]a chasgliad gan Cadrawd gyda cherddoriaeth o drefniad Mr. Harry Evans ym Merthyr Tydfil.[0b]

Nid y lleiaf o arwyddion da am ddyfodol Cymru yw fod yr hen hwiangerddi swynol hyn i’w clywed eto yn ei chartrefi ac yn ei hysgolion.

OWEN M. EDWARDS.

Top half of an old brick house

Ybachgenboch-goch,A’r bochau brechdan,A’r bais dew,—O ble doist ti?

Maegen i ebol melyn,Yn codi’n bedair ced,A phedair pedol arianO dan ei bedwar troed;Mi neidia ac mi branciaO dan y feinir wen,Fe reda ugain milldirHeb dynnu’r ffrwyn o’i ben.

Gyrru, gyrru, gyrru i Gaer;I briodi merch y maer;Gyrru, gyrru, gyrru adre,Wedi priodi ers diwrnodie.

Gyrru, gyrru, gyrru i Gaer

Argarlam, ar garlam,I ffair Abergele;Ar ffrwst, ar ffrwst,I ffair Lanrwst.

Daugi bach yn mynd i’r coed,Dan droi’u fferrau, dan droi’u troed;Dau gi bach yn dyfod adre,Blawd ac eisin hyd eu coese.

Dandidi, dandi do,Welwch chwi ’i sgidie newydd o?Ar i fyny, ar i wared,Bydd y bachgen bach yn cerdded.

Ymlaen, geffyl bach,I’n cario ni’n dauDros y mynyddI hela cnau.

Ymlaen, geffyl bach,I’n cario ni’n triDros y mynyddI hela cnu.

Siona Sian, oddeutu’r tân,Yn bwyta blawd ac eisin mân.

Betibach a finnauYn mynd i Lundain G’lanmai;Os na chawn ni’r ffordd yn rhydd,Mi neidiwn dros y cloddiau.

Beti bach a finne,Yn mynd i Lundain Glame;Mae dŵr y môr yn oer y nos,Gwell inni aros gartre.

Lodesei mam, a lodes ei thad,A fentri di gyda fi allan o’r wlad,Lle mae gwin yn troi melinau,A chan punt am gysgu’r borau?

Miaf i Lundain GlamaiOs byddai byw ac iach,Ni ’rosa i ddim yng NghymruI dorri ’nghalon bach;Mae digon o arian yn Llundain,A swper gyda’r nos,A mynd i ’ngwely’n gynnar,A chodi wyth o’r gloch.

Sihei-li-lwli, ’r babi,Mae’r llong yn mynd i ffwrdd;Si hei-li-lwli, ’r babi,Mae’r capten ar y bwrdd.

Chwedafad gorniog,A chwe nod arni,[14b]Ac ar y bryniau garw,’Roedd rheiny i gyd yn pori;Dafad wen, wen, wen,Ie benwen, benwen, benwen;Ystlys hir a chynffon wen,Wen, wen.

Iarfach dlosYw fy iar fach i;Pinc a melyn,A choch a du.

Iar fach dlos yw fy iar fach i

Gwcwfach, ond ’twyt ti’n ffolog,Ffal di ral di rw dw ti rei tei O,Yn canu ’mhlith yr eithin pigog,Ffal di ral di rw dw ti rei tei O;Dos i blwy Dolgellau dirion,Ffal di ral di rw dw ti rei tei O;Ti gei lwyn o fedw gwyrddion,Ffal di ral di rw dw ti rei tei O.

Llygodmân yn chwythu’r tân,A’r malfod yn gweu melfed.

Gyrru, gyrru, drot i’r dre,Dwad adre erbyn te.

Gyrru, gyrru, i Gaerdydd,Mofyn pwn o lestri pridd;Gyrru, gyrru’n ol yn glau,Llestri wedi torri’n ddau.

Pandy, pandy, melin yn malu,Gweydd yn gweu a’r ffidil yn canu;Ceffyl bach du a’r gynffon wenYn cario Gwen a Mari.

TomosJones yn mynd i’r ffair,Ar gefn ei farch a’i gyfrwy aur;Ac wrth ddod adre cwyd ei gloch,Ac yn ei boced afal coch.

’Ardrot, ar drot, i dŷ Shon Pot,Ar whîl, ar whîl, i dŷ Shon Pîl;Ar garlam, ar garlam, i dŷ Shon Rolant,Bob yn gam, bob yn gam, i dŷ f’ewythr Sam.

Iohnbach a finne,Yn mynd i Lunden Glame;Ac os na chawn ni’r ffordd yn glir,Ni neidiwn dros y cloddie.

Croeny ddafad felen,Yn towlu’i throed allan;Troed yn ol, a throed ymlaen,A throed yn towlu allan.

“Dingdong,” medd y gloch,Canu cnul y bachgen coch;Os y bachgen coch fu farw,Ffarwel fydd i’r gwin a’r cwrw.

Dacwtada’n gyrru’r moch,Mochyn gwyn, a mochyn coch;Un yn wyn yn mynd i’r cwt,A’r llall yn goch a chynffon bwt.

Daudroed bach yn mynd i’r coed,Esgid newydd am bob troed;Dau droed bach yn dwad adreWedi colli un o’r ’sgidie.

Daudroed bach yn mynd i’r felin,I gardota blawd ac eithin;Dau droed bach yn dyfod adra,Dan drofera, dan drofera.

Carreg o’r Nant,Wnaiff Iant;Carreg o’r to,Wnaiff o,—Ianto.

Deiobach a minneYn mynd i werthu pinne;Un res, dwy res,Tair rhes am ddime.

Modryby fawd,Bys yr uwd,Pen y cogwr,Dic y peipar,Joli cwt bach.

“Ddoidi i’r mynydd?” meddai’r fawd,“I beth?” meddai bys yr uwd;“I hela llwynog” meddai’r hir-fys;[19b]“Beth os gwel ni?” meddai’r canol-fys;“Llechu dan lechen” meddai bys bychan.

Buarth, baban, cryman, croes;Modrwy aur i’r oreu ’i moes.

Miaf i’r ysgol fory,A’m llyfyr yn fy llaw;Heibio’r Castell Newydd,A’r cloc yn taro naw;Dacw mam yn dyfod,Ar ben y gamfa wen,A rhywbeth yn ei barclod,A phiser ar ei phen.

Mi af i’r ysgol fory,A’m llyfyr yn fy llaw,Heibio’r Sgubor Newydd,A’r cloc yn taro naw;O, Mari, Mari, codwch,Mae heddyw’n fore mwyn,Mae’r adar bach yn canu,A’r gôg ar frig y llwyn.

Mifum yn gweini tymorYn ymyl Ty’n y Coed,A’dyna’r lle difyrrafY bum i ynddo ’rioed;Yr adar bach yn canu,A’r coed yn suo ynghyd,—Fy nghalon fach a dorrodd,Er gwaetha rhain i gyd.

Pwsimew, pwsi mew,Lle collaist ti dy flew?“Wrth gario tânI dŷ modryb Sian,Yng nghanol eira a rhew.”

Pwsi mew, pwsi mew

Shincin Siono’r HengoedAeth i foddi cath,Mewn cwd o lian newydd,Nad oedd e damed gwaeth;Y cwd a aeth ’da’r afon,A’r gath a ddaeth i’r lan,A Shincin Sion o’r HengoedGas golled yn y fan.

“Wel, wel,”Ebe ci Jac Snel,“Rhaid i mi fynd i hel,Ne glemio.”

Pwsimeri mew,Ble collaist ti dy flew?“Wrth fynd i Lwyn TewAr eira mawr a rhew.”

“Pa groeso gest ti yno.Beth gefaist yn dy ben?”“Ces fara haidd coliog,A llaeth yr hen gaseg wen.”

Llidiartnewydd ar gae ceirch,A gollwng meirch o’r stablau;Cywion gwyddau, ac ebol bach,Bellach ddaw Calanmai.

Maegen i darw penwyn,A gwartheg lawer iawn;A defaid ar y mynydd,A phedair dâs o fawn.

Mae gen i gwpwrdd cornel,A set o lestri te;A dresser yn y gegin,A phopeth yn ei le.

Mae gen i drol a cheffyl,A merlyn bychan twt,A phump o wartheg tewion,Yn pori yn y clwt.

A threser yn y gegin, A phopeth yn ei le

Dacwdŷ, a dacw do,Dacw efail Sion y go;Dacw Mali wedi codi,Dacw Sion a’i freichiau i fyny.

Ary ffordd wrth fynd i Ruthyn,Gwelais ddyn yn gwerthu brethyn;Gofynnais iddo faint y llath,Fod arnaf eisio siwt i’r gath.

Cnul y bachgen coch

(I ddynwared swn ysturmant.)Dwrglân gloew,Bara chaws a chwrw.

(I ddynnwared Cân Ysguthan.)Cyrch du, du,Yn ’y nghwd i.

Sianbach anwyl,Sian bach i;Fi pia Sian,A Sian pia fi.

Panbrioda Sion a minnau,Fe fydd cyrn ar bennau’r gwyddau;Ieir y mynydd yn bluf gwynion;Ceiliog twrci fydd y person.

Siona Sian yn mynd i’r farchnad,Sian yn mynd i brynnu iar,A Sion i werthu dafad.

Rhowchy crochan ar y tân,A phen y frân i ferwi;A dau lygad y gath goed,A phedwar troed y wenci.

Ust, O taw!  Ust, O taw,Aeth dy fam i Loeger draw;Hi ddaw adre yn y man,A llond y cwd o fara cann.

Bachgenbach ydi’r bachgen gore,Gore, gore;Cysgu’r nos, a chodi’n fore,Fore, fore.

Henfenyw fach CydweliYn gwerthu losin du;Yn rhifo deg am geiniog,Ond un ar ddeg i fi.

Morfuddfach, ferch ei mham,Gaiff y gwin a’r bara cann;Hi gaiff ’falau per o’r berllan,Ac yfed gwin o’r llester arian.

Morfuddfach, merch ei thad,Gaiff y wialen fedw’u rhad;Caiff ei rhwymo wrth bost y gwelyCaiff ei chwipio bore yfory.

Whica whiw!Aeth y barcud a’r ciw;Os na feindwch chwi ato,Fe aiff ag un eto.

Maegen i hen iar dwrci,A mil o gywion dani;Pob un o rheiny yn gymaint ag ych,—Ond celwydd gwych yw hynny?

Maegen i iar a cheiliogA brynnais i ar ddydd Iau;Mae’r iar yn dodwy wy bob dydd,A’r ceiliog yn dodwy dau.

Maegen i iar a cheiliog,A hwch a mochyn tew;Rhwng y wraig a finne,’R ym ni’n eig wneyd hi’n lew.

Maegen i ebol melynA merlen newydd spon,A thair o wartheg blithionYn pori ar y fron;Mae gen i iar a cheiliog,Mi cefais er dydd Iau,Mae’r iar yn dodwy wy bob dyddA’r ceiliog yn dodwy dau.

ShoniBrica MoniYn berchen buwch a llo;A gafar fach, a mochyn,A cheiliog, go-go-go!

Miwelais nyth pioden,Fry, fry, ar ben y goeden,—A’i chynffon hi mas.

Dafibach a minne,Yn mynd i Aberdâr,Dafi’n mofyn ceiliog,A minne’n ’mofyn giar.

“Wel,” meddai Wil wrth y wal,Wedodd y wal ddim wrth Wil.

Mae’ndda gan hen wr uwd a lla’thMae’n dda gan gath lygoden;Mae’n dda gan ’radwr flaen ar swch,Mae’n dda gan hwch y fesen.

Mae’n dda gan gath llygoden

Maegen i, ac mae gen lawer,Gloc ar y mur i gadw amser;Mae gan Moses, Pant y Meusydd,Gloc ar y mur i gadw’r tywydd.

Cloc ar y mur i gadw amser

Miwelais ddwy gabetsen,Yn uwch na chlochdy Llunden;A deunaw gŵr yn hollti ’rhain,A phedair cainc ar hugain.

Miwelais i beth na welodd pawb,—Y cwd a’r blawd yn cerdded;Y frân yn toi ar ben y ty,A’r malwod yn gwau melfed.

Miwelais innau falwen goch,A dwy gloch wrth ei chlustiau;A dau faen melin ar ei chefn,Yn curo’r milgwn gorau.

Do, mi welais innau wennol,Ar y traeth yn gosod pedol;Ac yn curo hoel mewn diwrnod,—Dyna un o’r saith rhyfeddod.

Miweles beth na welodd pawb,—Y cwd a’r blawd yn cerdded,Y frân yn toi ar ben y ty,A’r gŵr mor hy a hedeg;A hogyn bach, dim mwy na mi,Yn Ilyncu tri dyniawed.

’Roeddgen i ddafad gorniog,Ac arni bwys o wlan,Yn pori ar lan yr afonYmysg y cerrig mân;Fe aeth yr hwsmon heibio,Hanosodd arni gi;Ni welais i byth mo’m dafad,Ys gwn i a welsoch chwi?

Mi gwelais hi yn y Bala,Newydd werthu ei gwlan,Yn eistedd yn ei chadair,O flaen tanllwyth mawr o dân;A’i phibell a’i thybaco,Yn smocio’n abal ffri,A dyna lle mae y ddafad,—Gwd morning, Jon, how di!

’Roeddgen i iar yn gorri,Ar ben y Penmaen Mawr,Mi eis i droed y WyddfaI alw arni i lawr;Mi hedodd ac mi hedodd,A’i chywion gyda hi,I ganol tir y Werddon,—Good morning, John!  How di?

Troia throsi, troi i ble?I Abergele i yfed te.

Fuostti erioed yn morio?“Do, mewn padell ffrio;Chwythodd y gwynt fi i Eil o Man,A dyna lle bum i’n crio.”

Dacwlong yn hwylio’n hwylus,Heibio’r trwyn, ac at yr ynys;Os fy nghariad i sydd ynddi,Hwyliau sidan glas sydd arni.

Cwchbach ar y môr,A phedwar dyn yn rhwyfo;A Shami pwdwr wrth y llywYn gwaeddi,—“Dyn a’n helpo.”

Maegen i dŷ bach del,O dŷ bach del, O dŷ bach del,A’r gwynt i’r drws bob amser;Agorwch dipyn o gil y ddôr,O gil y ddôr, o gil y ddôr,Cewch weld y môr a’r llongau.

Ioanbach a finnauYn mynd i ddwr y môr;Ioan yn codi ’i goesau,A dweyd fod dŵr yn oer.

Trigraienyn, tri maen melin,Tair llong ar fôr, tri môr, tri mynydd;A’r tri aderyn a’r traed arian,Yn tiwnio ymysg y twyni mân.

Maefy nghariad wedi digio,Nis gwn yn wir pa beth ddaeth iddo;Pan ddaw’r gwibed bach a chywion,Gyrraf gyw i godi ei galon.

Miaf oddiyma i ben Carn Fadryn,Er mwyn cael gweled eglwys Nefyn;O ddeutu hon mae’r plant yn chware,Lle dymunwn fy mod inne.

Siglo’rcryd â’m troed wrth bobi,Siglo’r cryd â’m troed wrth olchi;Siglo’r cryd ymhob hysywaeth,Siglo’r cryd sy raid i famaeth.

Maenhw’n dwedyd yn Llanrhaiad,Mai rhyw deiliwr wnaeth y lleuad;A’r rheswm am fod goleu drwyddo,Ei fod heb orffen cael ei bwytho.

Coesun ddel, ac hosan ddu,Fel a’r fel, fel a’r fu;Fel a’r fu, fel a’r fel,Ac hosan ddu coes un ddel.

YBryn,—“Igam Ogam, ble’r ei di?”Yr Afon,—“Moel dy ben, nis gwaeth i ti.”Y Bryn,—“Mi dyf gwallt ar fy mhen iCyn unioni’th arrau ceimion di.”

Panes i gynta i garu,O gwmpas tri o’r gloch,Mi gurais wrth y ffenestr,Lle’r oedd yr hogen goch.

Mi gnociais wrth y ffenestr, Lle’r oedd yr hogen goch

Tripheth sy’n hawdd eu siglo,—Llong ar fôr pan fydd hi’n nofio,Llidiart newydd ar glawdd helyg,A march dan gyfrwy merch fonheddig.

Dymaarfer pobl Penllyn,—Canu a dawnsic hefo’r delyn,Dod yn ol wrth oleu’r lleuad,Dwyn y llwdn llwyd yn lladrad.

Caffinnau ddillad newyddO hyn i tua’r Pasg,Mi daflaf rhain i’r potiwr,Fydd hynny fawr o dasg;Caf wedyn fynd i’r pentre,Fel sowldiwr bach yn smart,A phrynnaf wn a chledde,I ladd ’rhen Fonipart.

Eglwysfach Pencarreg,Ar ben y ddraenen wen;A chlochdy mawr LlanbydderYn Nheifi dros ei ben.

Mae’n dda gen henwr uwd a llaeth

Panoedd y ci ryw noson,Yn ceisio crafu’r crochon,’Roedd Wil o’r Pant, nai Beti Sian,Yn cynnal bla’n ’i gynffon.

Twmyr ieir aeth lawr i’r dre,A giar a cheiliog gydag e;Canodd y ceiliog,—“Go-go-go”;Gwaeddodd Twm,—“Halo!  Halo!”

Feddaw Gwyl Fair, fe ddaw Gwyl Ddewi,Fe ddaw’r hwyaden fach i ddodwy.

Hei, gel bach, tua Chaerdydd,’Mofyn pwn o lestri pridd;Hei, gel mawr, i Aberhonddu,Dwmbwr dambar, llestri’n torri.

Gyrru, gyrru, drot i’r dre,’Mofyn bara cann a the.

Gyrru, gyrru, i ffair Henfeddau,’Mofyn pinnau, ’mofyn ’falau.

Gyrru, gyrru, i ffair y Rhos;Mynd cyn dydd a dod cyn nos.

Gyrru, gyrru, i ffair y Fenni;’Mofyn cledd i ladd y bwci.

Welwchchwi cel bachYn ein cario ni’n dau?Mynd i ochor draw’r afonGael eirin a chnau.

Mamgu, mam gu, dewch maes o’r ty,Gael gweld John Jones ar gefn y ci.

Marilân, a Mari lon,A Mari dirion doriad,Mari ydyw’r fwyna’n fyw,A Mari yw fy nghariad;Ac onid ydyw Mari’n lân,Ni wiw i Sian mo’r siarad.

Trot, trot, tua’r dre,‘Mofyn pwn o lestri te;Trot, trot, tua’r dre,I mofyn set o lestri te;Galop, galop, tua chartre,Torri’r pwn a’r llestri’n gate.

Mari John, ffidil a ffon,Cyllell a bilwg i chware ding dong.

Siona Siani Siencyn,Sy’n byw yn sir y Fflint;Sian yn ennill chweugain,A Sion yn ennill punt.

DafiSiencyn Morgan,Yn codi’r dôn ei hunan;A’i isaf en e nesa i fiwn,A dyna’r ffordd i ddechre tiwn.

Robingoch a’r Dryw bachYn fy nghuro i fel curo sach;Mi godais innau i fyny’n gawr,Mi drewais Robin goch i lawr.

Jibinc, ji binc, ar ben y banc,Yn pwyso hanner cant o blant.

Shinca Ponc a finneYn mynd i ffair y pinne;Dod yn ol ar gefn y frân,A phwys o wlan am ddime.

Robingoch ar ben y rhiniog,Yn gofyn tamaid heb un geiniog;Ac yn dwedyd yn ysmala,—“Mae hi’n oer, mi ddaw yn eira.”

Siso, Jac y Do,Dal y deryn dan y to,Gwerthu’r fuwch a lladd y llo,A mynd i Lunden i roi fro;Dene diwedd Jac y Do.

Ydyrnwryn dyrnu,Y ffidil yn canu;A Robin goch bachYn dawnsio’n y beudy.

Rhowchimi fenthyg ceffyl,I fyned dros y lan,I garu’r ferch fach ifancSy’n byw ’da ’i thad a’i mham;Ac oni ddaw yn foddus,A’i gwaddol gyda hi,Gadawaf hi yn llonydd,Waith bachgen pert wyf fi.

Waith bachgen smart wyf fi

Maegennyf dŷ cysurus,A melin newydd dwt,A chwpwrdd yn y gornel,A mochyn yn y cwt.

Yllepynllo a’r gwyneb llwyd,Ti fyti fwyd o’r goer;Pe torrit gwys fel torri gaws,Fe fyddai’n haws dy ddiodde.

Dic Golta gysgodd yn y cart,Fe’i speiliwyd o’i geffyle;A phan ddihunodd, holi wnai,—“Ai Dic wyf fi, ai nage?Os Dic wyf fi, ces golled flin,—Mi gollais fy ngheffyle;Ac os nad Dic, ’rwy’n fachgen smart,Enillais gart yn rhywle.”

Shigwtiwen Shon-Gati,Mae crys y gŵr heb olchi,Fe aeth yr olchbren gyda’r nanf,A’r wraig a’r plant yn gwaeddi.

Gwerna helygHyd Nadolig.Bedw, os cair,Hyd Wyl Fair;Cringoed caeauO hynny hyd Glamai;Briwydd y frânO hynny ymlaen.

Aethfy Ngwen i ffair Pwllheli,Eisio padell bridd oedd arni;Rhodd am dani saith o sylltau,Cawswn i hi am dair a dimau.

Aethfy Ngwen ryw fore i olchi,Eisio dillad glân oedd arni;Tra bu Gwen yn ’mofyn sebon,Aeth y dillad hefo’r afon.

Aethfy Ngwen ryw fore i gorddi,Eisio menyn ffres oedd arni;Tra bo Gwen yn ’mofyn halen,Aeth y ci a’r menyn allan.

Serenddu a mwnci,Sion y gof yn dyrnu,Modryb Ann yn pigo pys,A minnau’n chwys dyferu.

Siso gorniog,Grot â pheder ceiniog,Un i mi, ac un i chwi,Ac un i’r dyn,Am fenthyg y lli gorniog.

Ceiliogbach y WyddfaYn canu ar y bryn,Hwyaid Aber GlaslynYn nofio ar y llyn;Gwyddau Hafod G’regogYn gwaeddi “wich di wach,”A milgwn Jones YnysforAr ol y llwynog bach.

Maeyn y Bala flawd ar werth,Mae’n Mawddwy berth i lechu,Mae yn Llyn Tegid ddwr a gro,Mae’n Llundain o i bedoli;Ac yng Nghastell Dinas BrânMae ffynnon lân i ymolchi.

Briodidi?Na wnaf byth!Wyt ti’n siwr?Ydw’n siwr.

Hen lanc yn byw fy hunanYdwyf fi;Yn meddu cwrs o arian,Ydwyf fi;Yn meddwl am briodi?Priodi, na wnaf byth;Waeth beth fydd gennyf wedyn,Ond poenau lond fy nyth.

Maenhw’n dwedyd ac yn sonMod i’n caru yn sir Fon;Minne sydd yn caru’n ffyddlonDros y dŵr yn sir Gaernarfon.

Caruyng Nghaer, a charu yng Nghorwen,Caru yn Nyffryn Clwyd a Derwen;Caru ’mhellach dros y mynydd,Cael yng Nghynwyd gariad newydd.

Elisabethbach, a briodwch chwi fi?Dyma’r amser gore i chwi;Tra bo’r drym yn mynd trwy’r dre,Tra bo’ch calon bach yn ei lle.

Shontyn, Shontyn, y gwr tynn;Clywed y cwbl, a dweyd dim.

Mae’nbwrw glaw allan,Mae’n hindda’n y ty,A merched TregaronYn chwalu’r gwlan du.

Bachgenbach o Ddowles,Yn gweithio’n ngwaith y tân,Bron a thorri ’i galonAr ol y ferch fach lân;Ei goesau fel y pibau,A’i freichiau fel y brwyn,Ei ben e fel pytaten,A hanner llath o drwyn.

Bachgen bach o Ddowles

Ary ffordd wrth fynd i Lerpwl,Gwelais Iohn ar ben y cwpwr;Gofynnnis iddo beth oedd o’n wneyd;“Bwyta siwgwr, paid a deyd.”

Gwelaisneithiwr, drwy fy hun,Lanciau Llangwm bod yg un;Rhai mewn uwd, a rhai mewn llymru,A rhai mewn buddai, wedi boddi.

Pedoli, pedoli, pe-dinc,Mae’n rhaid i ni bedoliTae e’n costio i ni bunt;Pedol yn ol, a phedol ymlaen,Pedol yn eise o dan y droed ase,—Bi-dinc, bi-dinc, bi-dinc.

Pedoli, pedoli, pedoli, pe-drot,Mae’n rhaid i ni bedoliTae e’n costio i ni rot;Pedol yn ol, a phedol ymlaen,Pedol yn eise o dan y droed ase,—Bi-drot, bi-drot, bi-drot.

Pedoli, pedoli, pe-din,Pedoli’r ceffyl gwyn;Pedoli, pedoli, pe-doc,Pedoli’r ebol broc.

Robindir-rip,A’i geffyl a’i chwip;A’i gap yn ei law,Yn rhedeg trwy’r baw.

“Gw-cw!” medd y gog,Ar y gangen gonglog;“Gw-cw!” medd y llall,Ar y gangen arall.

Shonimoni, coesau meinion,Cwtws y gath yu lle gardyson.

Llemae ’i sgidie?Pwy sgidie?Sgidie John.Pwy John?John diti.Pwy diti?Diti ’i fam.Pwy fam?I fam e’.Pwy e’?E’ ’i hunan.

Robingoch ar ben y rhiniog,A’i ddwy aden yn anwydog;Ac yn dwedyd yn ysmala,—“Mae hi’n oer, mi ddaw yn eira.”

Canwchy gloch!(Tynnu yn un o’r cudynau gwallt)Curwch y drws!(Taro’r talcen a’r bys)Codwch y glicied!(Gwasgu blaen y trwyn i fyny)Dowch i mewn, dowch i mewn, dowch i mewn!(Rhoi’r bys ar y wefus).

Maegen i gariad glân, glân,Gwrid coch a dannedd mân;Ei dwy ael fel ede sidan,Gwallt ei phen fel gwiail arian.

Myndi’r ardd i dorri pwysi,Gwrthod lafant, gwrthod lili;Pasio’r pinc a’r rhosod cochion,Dewis pwysi o ddanadl poethion.

Mynd i’r ardd i dorri pwysi

Ladibach benfelen,Yn byw ar ben y graig,Mi bobith ac mi olchith,Gwnaiff imi burion gwraig;Mi startsith ac mi smwddith,Gwnaiff imi burion bwyd,Fe wnaiff i’r haul dywynnuAr ben y Garreg Lwyd.

Truenimawr oedd gweledY merlyn bach diniwed,Ac arno fe y chwys yn drwyth,Wrth lusgo llwyth o ddefed.

Glawbach, cerr ffordd draw,A gad i’r haul ddod yma.

Welsochchwi wynt, welsoch chwi law?Welsoch chwi dderyn bach ffordd draw?Welsoch chwi ddyn â photasen ledr,Yn saethu llongau brenin Lloegr?

Siso, si so,Deryn bach ar ben y to;Ceiniog i ti,Ceiniog i mi,A cheiniog i’r iar am ddodwy,A cheiniog i’r ceiliog am ganu.

Bysi fyny, teg yfory;Bys i lawr, glaw mawr.

DawClame, daw Clame,Daw dail ar bob twyn,—Daw meistr a meistresI edrych yn fwyn.

A minne, ’rwy’n coelio,Yn hela i’m co,I’r gunog laeth enwynFod ganwaith dan glo.

Amen, person pren,Cath ddu a chynffon wen.

Heiding, diri diri dywn,Gyrru’r gwyddau bach i’r cawn;Dwad ’nol yn hwyr brynhawn,A’u crombilau bach yn llawn.

Henwraig bach yn gyrru gwyddau,Ar hyd y nos;O Langollen i Ddolgellau,Ar hyd y nos;Ac yn dwedyd wrth y llanciau,“Gyrrwch chwi, mi ddaliaf finnau,”O Langollen i Ddolgellau,Ar hyd y nos.

Henwraig yn pluo gwyddau,Daw yn fuan ddyddiau’r gwyliau.

Maegen i iar, mae gen i geiliog,Mae gen i gywen felen gopog;Mae gen i fuwch yn rhoi i mi lefrith,Mae gen i gyrnen fawr o wenith.

Gwyddo flaen gŵydd,Gŵydd ar ol gŵydd,A rhwng pob dwy ŵydd, gŵydd;Sawl gŵydd oedd yno?

Miaf i’r eglwys Ddywsul nesa,Yn fy sidan at fy sodla;Dwed y merched wrth eu gilydd,—“Dacw gariad Wil Felinydd.”Os Wil Felinydd wyf yn garu,Rhoddaf bupur iddo falu;Llefrith gwyn i yrru’r felin,A chocos arian ar yr olwyn.

Mae’ndda gen i fuwch,Mae’n dda gen i oen,Mae’n dda gen i geffylYn llydan ei ffroen;Mae’n dda gen i ’r adarSy’n canu yn y llwyn.Mae’n dda gen i fachgenA chrwb ar ei drwyn;A thipyn bach bach o ol y frech wen,Yn gwisgo het befer ar ochor ei ben.

Mifynnai wraig, mi wranta,Caiff godi’r bore’n nghynta;Troed yn ol a throed ymlaen,A throed i gicio’r pentan.

Prybach yn mynd i’r coed,Dan droi ’i ferrau, dan droi ’i droed;Dwad adre yn y bore,Wedi colli un o’i sgidie.

Pry bach yn edrych am dwll,Yn edrych am dwll, yn edrych am dwll,Pry bach yn edrych am dwll,Adymadwll, dwll, dwll, dwll, dwll.

Bowden,Gwas y Fowden,Libar labar,Gwas y stabal,Bys bach, druan gŵr,Dorrodd ’i ben wrth gario dŵrI mam i dylino.


Back to IndexNext