X. CI DAFYDD TOMOS.

“Yr Yagol Sul. Mae’r bardd hwn wedi ysgrifennu ei rigwm ar lun englyn, ond nid oes ynddo na synnwyr na chynghanedd. Cynghorem yr awdwr i beidio â cholli rhagor o amser gydâ’r gelfyddyd, gan fod yn amlwg nad ellir bardd ohono.”

“Yr Yagol Sul. Mae’r bardd hwn wedi ysgrifennu ei rigwm ar lun englyn, ond nid oes ynddo na synnwyr na chynghanedd. Cynghorem yr awdwr i beidio â cholli rhagor o amser gydâ’r gelfyddyd, gan fod yn amlwg nad ellir bardd ohono.”

Cyn i mi orffen, disgynnodd Y Bardd ar ei hyd ar lawr fel darn o bren. Yr oedd ei wyneb yn ddu las, a bu raid i ni daflu llond bwced o ddwfr am ei ben cyn iddo ddyfod ato ei hun. Medrwyd ei berswadio i dorri ei wallt drannoeth, a rhoi’r “Ysgol Farddol” ar dân. Ac erbyn hyn, y mae o yn berchen busnes mawr a llawer o arian, ac y mae yn ustus heddwch ac yn un o ddynion blaenaf y sir.

X. CI DAFYDD TOMOS.

FFERMWR bychan oedd Dafydd Tomos, yn byw ar ystad y Gaer ac yn talu crogrent am ei dipyn tir. Y pryd hwnnw, yr oedd ar denantiaid ystad y Gaer ofn y meistr tir a’i ystiward fel gwyr â chleddyfau, ac o’r holl denantiaid i gyd, Dafydd Tomos oedd y mwyaf ei ofn a’i waseiddiwch hefyd, os rhaid dywedyd y gwir yn blaen. Dyn bychan, arafaidd a gochelgar dros ben oedd Dafydd Tomos, mab i dad a wnaed yn gynffonllyd drwy ormes, ac yntau drachefn yn fab i dad yr un fath. Yr oedd oesau o ddioddef gormes wedi gwneud y teulu yn salach a mwy dianibyniaeth hyd yn oed na’r cyffredin,—yr oedd ofn a gwaseiddiwch yn eu gwaed, megis. Hen lanc oedd Dafydd, a’i chwaer Catrin yn cadw ei dŷ. Pe buasai yn wr priod a chanddo blant, hwyrach y buasai ynddo dipyn mwy o asgwrn cefn, ond fel yr oedd, nid oedd gan Dafydd odid amcan mewn bywyd amgen na cheisio cadw y ddysgl yn wastad i’w feistr tir a’i ystiward.

Byddai ar holl ffermwyr yr ardal fwy neu lai o ofn y meistr tir a’r ystiward, fel y dywedwyd, ond nid cymaint fel na feiddient eu rhegi rhyngddynt a’i gilydd, a dywedyd pethau beiddgar am danynt, yn enwedig ar ddiwrnod ffair neu farchnad, ar ol cael llymed neu ddau o gwrw cartref yn nhafarn y Cwch Gwenyn. Ond am Dafydd Tomos, ni chlywyd erioed mono ef yn rhegi ei ormeswyr, nac yn dywedyd gair am danynt hyd yn oed pan fyddai ar ddamwain wedi yfed yn o helaeth. Gweithiai Dafydd yn galed o naill ben y flwyddyn i’r llall; byddai wrthi yn hwyr ac yn fore; bywiai yn gynnil iawn, a chrafangai bob ceiniog ynghyd o bob man y gallai; prin y cai ei chwaer ddigon o fwyd a dillad ganddo. Ac eto, nid cybydd oedd Dafydd ychwaith. Hel y rhent ynghyd yr ydoedd. Os byddai ganddo swllt neu ddau yn weddill ar ol talu’r rhent, ni byddai ganddo wrthwynebiad i’w wario ei hun ar dipyn o gwrw neu i’w roi i’w chwaer at gael deunydd ffedogau neu rywbeth felly. Ac anaml iawn y byddai gan Dafydd geiniog dros ben y rhent.

Tŷ a beudai to gwellt oedd ar fferm Dafydd, a’r rhai hynny heb eu taclu na’u trwsio ers blynyddoedd lawer. Yr oedd y gwellt ar do’r tŷ wedi braenu nes oedd yn wir yn debycach i domen dail nag i do gwellt. Ni ofynnodd Dafydd erioed am do newydd ar ei dŷ, a buasai’n lled sicr o gael ei droi o’i ffarm pe buasai yn gofyn. Dyma a ddigwyddodd i fwy nag un o’i gymdogion pan feiddiasant gwyno fod eu tai yn anghymwys i neb fyw ynddynt—trowyd hwy ymaith a chwanegwyd y tir at ffermydd ereill, pa un bynnag a oedd ar y ffermwyr hynny eu heisiau ai peidio. Felly, gwell gan Dafydd Tomos fyw yn yr hen gwt budr a thomen dail yn lle to iddo, na gorfod gadael yr hen gartref a mynd i fyw i rywle arall.

Yr oedd Dafydd yn ddyn eithaf caredig yn ei ffordd, cyhyd ag na byddai raid i’w garedigrwydd fynd yn groes i’w ofn rhag ei feistr tir. Os digwyddai hynny, ni byddai wiw disgwyl am unrhyw garedigrwydd oddiar ei law. Cred ei gymdogion am dano oedd y buasai yn gwerthu ei chwaer ei hun cyn y buasai yn rhedeg i’r perigl o dynnu gwg ei feistr tir am ei ben. Hwyrach fod pobl yn dywedyd felly am nad oedd rhyw lawer o dda rhwng Dafydd â’i chwaer yn gyffredin. Byddent yn ffraeo yn barhaus, ac un rheswm am hynny oedd fod Beti Tomos gryn lawer yn fwy anibynnol na’i brawd. Yn wir, byddai Dafydd mewn ofnau parhaus rhag i rai o ddywediadau cras Beti ei chwaer gyrraedd i glustiau y meistr tir neu yr ystiward. Nid oedd ddeilen ar dafod Beti, ac nid oedd ganddi ddaint rhag ei thafod ychwaith. Dywedai pa beth bynnag a ddeuai i’w meddwl yn hollol wyneb agored a byddai Dafydd yn aml yn ddigllon iawn wrthi am hynny.

Rhwng popeth, gŵr go ddi-gyfaill ydoedd Dafydd Tomos. Prin yr oedd ei gymdogion yn ei gymryd o ddifrif, ac yr oedd ei chwaer ei hun yn ei ddirmygu oherwydd ei lyfrdra.

“Yr hen gadi,” ebr hi wrtho yn fynych iawn, “yr hen gadi gen ti! Rhaid i ni wneud pais iti, ond y munud y rhoi di hi am danat, mi fydd yn bryd i ninne y merched wisgo clos!”

“ ’Rwyt ti’n gwisgo clos eisoes, Beti, wedyn taw a dy swn!” meddai Dafydd.

“Yn wir,” meddai Beti, “mae’n dda iawn i ti fod gen ti rywun i’w wisgo fo!”

Ni byddai waeth i Dafydd heb daeru â’i chwaer, ac mewn gwirionedd yr oedd arno ofn gwneud hynny. Pan ddechreuai Beti ei ffraeo, y peth goreu y gallai efô ei wneud fyddai ei gwadnu ymaith rhag blaen, a mynd i chwilio am Pero, ei gi.

A Phero, y ci, oedd unig gyfaill Dafydd Tomos. Cymerodd y ci ef dan ei nawdd mewn dull lled anghyffredin. ’Roedd Dafydd wedi mynd i’r ffair un tro, ac wedi yfed yn o helaeth, ar gost cymydog yn fwy nag ar ei gost ei hun. Rywsut neu gilydd, aeth Dafydd allan o’r dafarn a chrwydrodd tua’r stablau. Yno, cysgodd, am oriau lawer, ac erbyn iddo ddeffro, dyna lle yr oedd y ci yn gorwedd yn ei ymyl, ac yn barod i draflyncu pwy bynnag a ddeuai yn agos ato. Aeth y ci gydag ef adref. Ar y cyntaf, yr oedd Dafydd braidd yn awyddus i’w droi ymaith, gan na wyddai sut i gael digon o fwyd iddo, ond ni fynnai Pero fynd ymaith, a’r diwedd fu i Dafydd Tomos ac yntau fynd yn gyfeillion mawr. Ni byddai wiw i neb osio gwneud dim i Dafydd os byddai Pero yn agos, ac yr oedd son fod Dafydd fwy nag unwaith wedi mentro amddiffyn ei gi rhag cam driniaeth.

Bu’r ddau felly yn gyfeillion am flynyddoedd lawer. Byddent gyda’i gilydd bob amser. Os gwelid Dafydd yn unman, gellid bod yn sicr fod Pero yn agos, a lle bynnag y byddai Pero, ni byddai Dafydd byth ymhell. Ni fwytâi Dafydd byth bryd o fwyd heb ei rannu â Phero, ac nid yfai hyd yn oed lasied o gwrw heb gynnyg llymed i’r ci. Nid oedd dda gan Bero mo’r cwrw, ond ni wrthodai byth gymryd arno ei brofi er mwyn plesio Dafydd. Pan fyddai Dafydd yn mygu ei bibell, eisteddai Pero ar lawr o’i flaen i edrych arno, cystal a dyweyd fod arno yntau eisiau pibell, ac o’r diwedd dysgodd Dafydd ef i gario pibell rhwng ei ddannedd. Byddai pobl yr ardal yn ei ystyried yn beth digrif iawn weled Dafydd Tomos a Phero yn mynd bob un a’i bibell yn ei geg. Ni byddai dybaco ym mhibell Pero, mae’n wir, ond byddai’n rhaid iddo ei chael bob amser pan fyddai Dafydd yn mygu.

Un diwrnod, cafodd Pero flas ar ddal cwnhingod. Yr oedd yn bechod ar ffarmwr ddal cwnhingen y pryd hwnnw, a chafodd Dafydd Tomos fraw mawr pan welodd Pero yn dyfod tuag ato a chwnhingen rhwng ei ddannedd. Meddyliodd am saethu’r ci, druan, yn y fan, ond troes ei galon yn sal gyda bod y peth wedi mynd drwy ei feddwl. Tybiodd mai gwell fyddai iddo ei werthu neu ei roi i rywun yn hytrach na’i ladd. Ond ni fedrai ddygymod ychwaith â’r meddwl am werthu Pero na’i roi i neb arall. Ceisiodd obeithio na ddaliai Pero ddim rhagor o gwningod, ac nad oedd neb hyd hynny wedi ei weled yn dal rhai. Ond wedi cael blas arni, nid oedd Pero am roi’r goreu iddi. Prin yr oedd diwrnod yn mynd heibio heb i Pero ddyfod â chwnhingen neu ddwy i Dafydd Tomos. Ac ni wyddai Dafydd ar y ddaear pa beth i’w wneud. Meddyliodd drachefn y byddai raid iddo saethu Pero neu ynte ei werthu neu ei roi. Un noswaith, wedi i’r ci ddal dwy gwnhingen a’u dwyn at y ty, aeth Dafydd i’w wely yn dra chythryblus ac ofnus. Yr oedd rhywbeth fel pe’n dywedyd wrtho fod Pero wedi tynnu ar ei ben yr hyn y bu efô yn ei ofni ar hyd ei oes—dialedd y meistr tir. Yr oedd y ceidwad helwriaeth yn sicr o fod wedi gweled Pero yn cario un o’r cwnhingod at y ty, ac felly yr oedd hi ar ben ar Dafydd Tomos druan.

Bu Dafydd yn effro tan y bore, yn ceisio penderfynu pa beth i’w wneud â Phero. Wedi meddwl a meddwl, daeth o’r diwedd i’r penderfyniad mai yr unig beth i’w wneud oedd ei werthu os cai rywbeth am dano, ac os na chai, fod yn rhaid ei roi i rywun. Cododd o’i wely yn y bore wedi penderfynu, ond cyn pen yr awr yr oedd wedi torri ei benderfyniad drachefn.

“Be’ gebyst oedd arna i?” meddai wrtho ei hun, “sut na baswn i wedi meddwl o’r blaen am roi cadwyn am ei wddw fo, a’i gadw fo rhag mynd i grwydro?”

Wedi i’r syniad hwn ddyfod i’w feddwl, bu Dafydd yn llawer tawelach, a rhoed coler am wddw Pero, a rhwymwyd ef wrth gadwyn yn ddi-oed. Bu felly am rai wythnosau, heb gael bod yn rhydd ond pan fyddai yn mynd gyda Dafydd i hel defaid neu rywbeth felly. O dipyn i beth, aeth ofnau Dafydd yn llai,: a chai Pero fwy o ryddid drachefn, ond ni wnaeth well defnydd o’i ryddid nag o’r blaen. Y cyfle cyntaf a gafodd, aeth ati i ddal cwningod drachefn, a’r tro hwn daeth pethau i ben.

Yr oedd y ceidwad helwriaeth wedi gweled Pero yn dal cwnhingod, ond er pan gadwasai Dafydd ef wrth gadwyn, nid oedd wedi cael cyfle i’w saethu. Un diwrnod, yr oedd Dafydd wedi mynd i edrych am y defaid, a Phero gydag ef. Gofalai gadw y ci yn ei olwg o hyd, ond rywfodd, wrth ddychwelyd tuag adref, anghofiodd am funud, a rhedodd Pero ar ol cwnhingen. Clywodd Dafydd ef toc yn cyfarth yn y pellter, troes ei ben, a gwelodd ef yn rhedeg gyda chlawdd cae beth pellter oddiwrtho. Yr oedd Dafydd ar fedr chwibanu arno pryd y gwelodd bwff o fwg, clywodd glec, a gwelodd Pero yn rhoi naid i’r awyr, gwegian yn ei flaen am gam neu ddau, ac yna yn syrthio ar lawr.

Heb betruso munud, rhedodd Dafydd tuag ato, ac wrth fynd, gwelodd geidwad yr helwriaeth yn cerdded ymaith a’i wn ar ei ysgwydd.

Cyrhaeddodd Dafydd at Pero o’r diwedd, yn ddigon buan i weld ei lygad yn cau a’r chwythad olaf bron a’i adael.

“Pero!” ebr Dafydd, a chrec yn ei lais.

Agorodd Pero ei lygad ac edrychodd ar ei gyfaill, gyda golwg drist, erfyniol, cystal a dywedyd wrtho pa beth oedd wedi digwydd a gofyn iddo ddial ei gam.

Tyngodd Dafydd ac yna, penlinodd yn ymyl ei gi a’i gyfaill. Yr oedd gwaed yn llifo o’i ystlys, ac ym mhen eiliad neu ddau, yr oedd Pero wedi marw. Wylodd Dafydd uwch ei ben, yna cododd a chariodd o yn dyner yn ei freichiau adref. Torrodd fedd iddo yn yr ardd a chladdodd ef yn barchus. Wedi ei gladdu, bu’n sefyll yn hir uwch ben ei fodd, ae yna, caeodd ei ddwrn, a dywedodd,—

“Yfory!”

Drannoeth yn gynnar, yr oedd Dafydd wrth ddrws tŷ Sion Huws, heliwr pennaf y pentref. Daeth Sion i’r drws, ac wedi ymddiddan byrr, aeth Dafydd ymaith â gwnn Sion Huws ar ei ysgwydd. Aeth ar draws y caeau, ac wedi cyrraedd man neilltuol, safodd. Toc, daeth y ceidwad helwriaeth i’r golwg, a chi mawr, ci tan gamp a gwerth arian mawr, ym marn ei feistr, gydag o. Cododd Dafydd ei wnn, anelodd, a saethodd. Syrthiodd y ci gwerthfawr wrth draed y cipar, a bwled drwy ei galon. Cerddodd Dafydd ymaith heb ddywedyd gair.

Do, collodd Dafydd ei ffarm, ond bu fyw yn llawn gwell ar ol hynny. Ac y mae son am ei orchest yn yr ardal hyd heddyw.

XI. CATRIN LEI BACH FAWR.

HEN wraig blaen iawn ei ffordd oedd Mari Huws, a rhyfeddol o blaen ei hymadrodd hefyd. Perthyn i’r oes o’r blaen yr oedd hi, rywsut ym mhob peth, ac eto yr oedd ei merch, Catrin, fel petasai wedi ei dwyn i fyny yn y dull diweddaraf a gwychaf ym mhob ystyr. Y gwir oedd mai bywyd caled iawn a gawsai—byw ar fara llaeth a chrystiau sychion, rhedeg yn droednoeth yn yr haf a gwisgo clocsiau yn y gaeaf. Ond yr oedd rhywbeth yn falch yn yr eneth erioed. Hyd yn oed yn droednoeth neu yn ei chlocsiau, yr oedd bob amser yn lân a thrwsiadus, ac yn cerdded o gwmpas fel pe buasai yn ferch sgwier y plas ac nid yn ferch ei weithiwr distadlaf. Fel yr oedd yr eneth yn dyfod yn hŷn, yr oedd yn rhaid iddi fynd i weini, ac felly yr aeth yn ddigon ieuanc hefyd. I’r Plas yr aeth i ddechreu, wrth gwrs, gan fod ei thad yn gweithio ar yr ystad, ac felly yn ei ystyried ei hun radd yn uwch na gweithwyr ffermwyr a labrwyr cyffredin yr ardal. Y mae’n debyg mai oddiwrth ei thad y cafodd y ferch ei balchter, canys yr oedd rhyw fath o falchter yn yr hen ddyn, druan. Fel yr awgrymwyd, ymfalchiai ei fod yn gweithio ar ystad yr Ysgwier, a chyfrifai fod hynny yn ei godi uwchlaw ei debyg. Pan aeth ei ferch i weini i’r Plas, ystyriai fod hynny yn anrhydedd mawr arno, a sarhaodd fwy nag un o’i gydnabod drwy awgrymu gymaint gwell oedd ei ferch ef na’u merched hwy oedd yn gweini gyda ffermwyr a phobl gyffredin felly. “Lei Bach Fawr” y byddai’r cymdogion yn galw yr hen greadur, ond Mari Huws y byddai pawb yn galw yr hen wraig. Yr oedd hi yn hollol groes i’w gŵr ym mhob ystyr.

“Dyma ti, Lias,” meddai hi wrtho un noson, fel y byddai’n dywedyd yn aml, “mae gen ti ormod o gynffon i bethe’r Plas ’na o lawer. I be’r wyt ti’n tynnu dy gap iddyn nhw bob amser, ac yn digio dy gymdogion drwy ryw hen stumie gwirion yn eu cylch nhw? Wyt ti ’run mymryn mwy dy barch wedi’r cwbwl ganthyn nhw.”

“Ond cofia dithe, Mari,” meddai Lei yn ei dro, “mae arnyn nhw yr yden ni yn dibynnu am y’n tamed——.”

“Tamed, wir!” ebe Mari Huws, “mi fase yn o ddrwg arnon ni am damed yn elo dy ddeuddeg swllt yn yr wythnos di, mi rof ngair iti! Lle base’n tamed ni oni bae mod i yn golchi tipyn ac yn manglo a smwddio dillad? Yn wir, mae’n edifar iawn gen i na faswn i wedi gneud iti fynd i weithio at y ffarmwrs ers talwm, a golchi tipyn yn chwaneg fy hun, gael i ni fod fel rhyw bobol erill, yn lle dawnsio tendans i hen dacle’r Plas yna o hyd o hyd!”

“Wel,” meddai Lei, “waeth iti gyfadde na pheidio ’mod i o leia yn cael gwaith cyson ar hyd y blynydde ynte, yn lle bod weithie fel hyn ac weithie fel arall.”

“Wyt, yr wyt yn cael gwaith cyson, mae’n wir,” meddai Mari, “ond yr wyt ti wedi mynd yn un garfaglach wrth ostwng dy arre i ddiolch am dano fo, ac y mae dy law di yn amlach wrth dy gap nag yn unman arall, yr hen gynffon gen ti!”

“Paid a rhygnu a rhygnu fel yna o hyd, da thi,” meddai Lei yn druenus, “oni bae fod yr eneth wedi cael mynd i’r Plas, fase hi ddim cystal arni hi ag ydi hi heddyw, a fase hi ddim yn cael mis o rodio fel mae hi yn cael, fel ’roedd hi yn deyd yn ei llythyr ddoe.”

“O, ie, mae hi yn dwad adre i bwyso arnom ni am fis eto,” ebr Mari, “yn lle bod hefo’i gwaith fel y byddwn i yn ’i hoed hi——.”

“Ond mae’n siwr fod yn, dda gen ti wel’d dy ferch dy hun yn dwad adre fel ledi?” meddai Lei.

“Mi fase yn llawer gwell gen i ei gweld hi yn dwad heibio ar ’i ffordd i odro ne nol dwr,” ebr Mari, “a ffedog fras o’i blaen, ac ol gwaith ar ’i dwylo hi, dyna’r cwbwl iti!”

“Rhag cwilydd iti son fel yna am dy ferch dy hun!” ebr Lei, yn gas.

“Dy ferch di ydi hi,” ebr Mari, “ ’does dim tebyg i’w mam ynddi. Ar fy ngair i, pan oedd hi adref y llynedd, mi allaset feddwl na fuo hi ’rioed yng Nghymru, efo’i Saesneg a’i llediaith, ac os bydd hi’r un fath eleni cheiff hi ddim croeso yma, mi gymraf fy llw iti!”

“Wel, wel,” ebr Lei, ac aeth allan gan weled nad oedd ond ofer iddo ddadlu â Mari yn hwy.

Fore drannoeth, daeth Catrin adref, a’i chariad o Loegr hefo hi. Pan gyrhaeddasant y stesion, galwodd Catrin ar Dic Morus, oedd yn disgwyl am rywun gyda’i gerbyd, i gario ei phethau a’i chariad a hithau o’r stesion at y ty.

“Chi gwbod lle mae tad fi yn byw?” ebr Catrin wrth Dic.

Gwyddai Dic yn dda, ond dododd ei law wrth ei gap, edrychodd yn ddifrifol, ac atebodd,—

“Rhoswch chi, ma’m, ai nid merch y Sgwier o’r Plas ydech chi?”

“Nage, nage!” ebr Catrin, “fi dim merch i’r Sgwier chwaith.”

“Wel, merch y person, ynte,” ebr Dic, gan gyffwrdd ei gap drachefn.

“Nage!” ebr Catrin, braidd yn flin.

“Wel,” meddai Dic yn ostyngedig, “ ’does yma neb arall yn yr ardal yma yn gwisgo mor grand, ac yn siarad mor garpiog â chi.”

“Ceuwch y’ch hen geg, y cena hy gynnoch chi!” ebr Catrin gan anghofio ei llediaith a’i chariad yn ei gwylltineb.

“Ho dyna well!” meddai Dic Morrus, “rhoswch chi, ai nid merch Lei Bach Fawr ydech chi, deydwch——.”

Cyn iddo gael gorffen, yr oedd Catrin wedi rhoi iddo ergyd ar draws ei warr â’i hymbarelo, ac yn dechreu ei flagardio nerth ei phen, mewn cystal Cymraeg ag a glywyd nemor dro yn y lle. Neidiodd Dic i’w gerbyd, cydiodd yn ei chwip ac yn yr afwynau.

“Ga’i ’ch dreifio chi, Miss?” meddai. “Deuswllt ydi’r pris, ac os na neidiwch chi i fewn a thewi, mi fydd holl bobol y pentre yma yn gwrando arnoch chi yn union!”

Gwelodd Catrin fod Dic yn dweyd y gwir, a chan beidio â ffraeo yn sydyn, heliodd ei chariad a’i phaciau i’r cerbyd, ac aeth i mewn ar eu holau. Cleciodd Dic ei chwip gan wenu, ac ymaith a hwy drwy ganol y twrr pobl oedd yn dechreu hel o gwmpas i wel’d yr helynt.

Ac wrth basio, clywodd Catrin y geiriau “Merch Lei Bach Fawr, yn siwr i chi, hefyd!”

Ond cododd Catrin ei thrwyn i’r awyr, a chymerodd arni beidio â’u clywed. Yr oedd y cariad—dyn bach o Sais lled ofnog a diniwed,—wedi synnu at Catrin yn taro Dic Morus â’i hymbarelo, ac at ei chlywed hithau yn siarad iaith nas deallai ef, a hynny mor llithrig. Ar y ffordd mentrodd ofyn iddi am eglurhad.

“O,” meddai Catrin, “un felly ydi’r hen gabmon yma, os na fyddwch chi yn gas wrtho, wneiff o ddim byd yn iawn.”

“Ac ’roeddech chi yn siarad rhyw iaith ddiarth âg o—’roeddwn i yn meddwl y’ch bod chi yn deyd na fedrech chi ddim o’r iaith honno y maent yn ei siarad mewn rhai lleoedd yng Nghymru.”

“Wel,” ebr Catrin, “fedra i moni hi yn iawn, felly, er fod fy nhad a fy mam yn ei medru.”

Pan ddaethant at y drws, daeth Mari Huws allan.

“Hylo,” meddai, “ac yr wyt ti wedi dwad, ’ddyliwn. Pwy ydi’r creadur hyll yna sydd hefo ti?”

“ ’Rwan, mam,” meddai Catrin, gan siarad yn isel rhag i’r cariad ei chlywed, “ ’rwan, mam, rhag i chi ddifetha bywyd y’ch merch, ceisiwch fod yn o neis ’rwan. Dyma ’nghariad i ——.”

“O, a dyma dy gariad ti, aie?” meddai Mari Huws.

Yn ei hofn, torrodd Catrin ar draws ei mam, ac ebr hi, —

“Mother, this gentleman is Mr. Smith, to whom I am engaged, as you know ——.”

“Be’ rwyt ti yn i baldar, dywed?” ebr Mari Huws. “Be’ ’wyt ti yn clebran yn Saesneg wrtha i? ’Rydw i yn dallt yn burion be’ ddeydist ti, ran hynny, ond waeth i ti heb ddisgwyl i mi dwyllo’r dyn, na waeth, ’run mymryn, yr hen ffolog gen ti! Dywed wrtho sut bobol ydan ni, ne mi ddeyda i fy hun wrtho, gwnaf, myn f’ einioes i ——.”

“Mam, mam!” ebr Catrin, heb wybod pa beth i’w ddywedyd na’i wneud.

“Be’ sydd arnat ti ’rwan?” ebr Mari Huws, wrth weled Catrin yn dechreu wylo.

“Mae’n gwilydd gen i trosoch chi, mam” meddai Catrin.

“Cwilydd, aie?” ebr Mari Huws, “cwilydd gen ti drosta i, aie? Mae’n gwilydd gen i drosot ti, yn siwr, yn hudo thyw greadur fel hyn i’r fan yma i beri trafferth ac i dynnu pobol i siarad am danom ni!”

Torrodd Catrin i wylo, yn fwy o ddigofaint na dim arall.

“What is it all about, my dear?” meddai’r Sais bach, braidd yn ofnus.

Ni wyddai Catrin pa beth i’w ddywedyd, ond teimlodd ei bod ar ben arni, ac mai y tro ffolaf a wnaeth yn ei hoes oedd gadael i’w chariad fynd gyda hi adref. Eto, yr oedd digon o ddyfais ym mhen Catrin, ac ni bu yn ol o wneud y goreu o’r gwaethaf. Dywedodd wrth y Sais fod ar ei mam eisieu iddi briodi rhyw ddyn cyffredin o’r ardal, a’i bod wedi gwylltio wrth ei gweled hi yn dyfod ag ef gyda hi, megis ar waethaf ei mam.

“Ond waeth gen i beth ddywed fy mam,” ebr hi, “y chi fynna i tra mynnwch chi fi!”

“Dowch gyda fi oddi yma, fy nghariad i,” ebr Smith druan, ac aeth yn ol i’r cerbyd. Aeth Catrin ar ei ol yntau.

“Da b’och chi, mam, welwch chi byth mona i eto,” medda hi.

“Be’ wyt ti’n i ddeyd?” ebr Mari Huws. “Wela i byth monat ti eto, aie? Pwy ddeydodd wrthat ti fod arna i eisio dy weld di, tybed? Cymer ofal na ddoi di byth yma eto hyd nes byddi di wedi colli dy lediaith, ac hyd nes byddi di yn cofio pwy wyt ti. Mae’n chwith gen ’y nghalon i feddwl mod i wedi magu dy sort di erioed, mi rof fy ngair iti!”

Ac aeth Mari Huws i’r tŷ i wylo yn ddistaw, er na fynasai am y byd i neb ei gweled. Parodd Smith i Dic Morus ddreifio yn ol rhag blaen i’r stesion, a gwnaeth yntau hynny, gan chwerthin yn ei lewis, a sibrwd wrtho ei hun,—“Myn cebyst, dynes o’r sort ore ydi’r hen Fari Huws wedi’r cwbwl!”

Pan ddaeth Lei Bach adref y noswaith honno, yr oedd wedi clywed yr hanes i gyd—nid oedd neb yn yr ardal nad oedd yn gwybod fod Catrin Lei Bach Fawr wedi dyfod adref a chariad o Sais gyda hi, a bod Mari Huws wedi gwrthod gadael iddynt fynd i’r tŷ, a’u bod hwythau wedi mynd gyda’r tren rhag blaen.

“ ’Rwyt ti wedi gyrru’r eneth i ffwrdd am byth,” meddai Lei yn sobr, “welwn ni byth moni hi eto.”

“Paid a meddwl mai dy galon di yn unig sy’n drom,” meddai Mari Huws.

“Ddaw hi byth yn ol!” ebr Lei, gan dorri i wylo.

“Peidied hithe, ynte, os na ddaw hi adre yn ei synhwyre fel rhyw eneth arall o’i stad!” ebr Mari, gan gnoi ei gwefus rhag wylo ei hun.

A phan ddaeth Catrin adref wedyn, nid oedd arni na llediaith na balchter. Daeth adref yn weddw dlawd a thri phlentyn ganddi, ac wedi colli ei hiechyd ei hun. Ac y mae Mari Huws, hithau yn weddw bellach, yn dal i olchi a smwddio i gadw Catrin a’i phlant.

“Mae hi’n debyg i rywbeth ’rwan!” ydyw geiriau Mari.

XII. CARIAD DICO BACH.

NI byddem yn cyfrif Dico Bach yn union fel rhywun arall. Nid oedd unrhyw goll arbennig arno, ond yr oedd yn rhyw ddiniwed. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, a gweithiai mewn siop lle cedwid amryw gryddion.

Yr adeg honno yr oedd pobl Cymru yn gwisgo esgidiau lledr wedi eu gwneud gartref yn lle rhai papur wedi eu gwneud yn Lloegr. Felly, yr oedd gan Dafydd Roberts y crydd waith i gryn bedwar neu bump o gryddion drwy’r flwyddyn. Yno y gweithiai Dico Bach er pan oedd yn hogyn; ac yr oedd yn hoff iawn gan ei gydweithwyr, gan ei feistr, a chan bawb a’i hadwaenai.

Creadur bychan a rhyw draed drwg ganddo ydoedd Dico. Wrth ei weled yn cerdded o bell, gallasech feddwl ei fod wedi meddwi, gan drysgled y rhodiai, ond ni feddwodd Dico erioed. Yr oedd yn ddirwestwr mawr. Yr oedd ganddo wyneb crwn, a gwên arno bob amser, a theimlai yn hynod falch o’r ychydig fiew melynion a dyfai ar ei wefus uchaf. Pa beth bynnag yr ymaflai Dico ynddo, byddai yn selog dros ben gydag o. Yr oedd yn perthyn i’r capel, ac ni byddai gyfarfod na byddai Dico yno yn gyson. Yr oedd yn aelod o’r côr, yn un o’r dynion oedd yn canu bas, ac ni bu gyfarfod canu erioed er pan gychwynnwyd y côr na bu Dico yno.

Gyferbyn â’r siop lle’r oedd Dico yn gweithio yr oedd siop ddillad. Siop fechan ddigon diolwg ydoedd, yn dwyn yr enw mawreddog “London House.” Un gaeaf, daeth geneth ieuanc o rywle o’r De i weini i’r siop hon. Gwneud hetiau a boneti oedd ei gwaith, a byddai yn eistedd wrth ffenestr oedd gyferbyn â ffenestr siop weithio’r cryddion. Geneth hardd anghyffredin oedd hi, dal a syth, a chanddi gyflawnder o wallt melyn tonnog, a chroen glân clir. Gwelodd Dico hi y diwrnod cyntaf y cymerodd ei lle wrth y ffenestr, a syrthiodd mewn cariad â hi rhag blaen. Y noswaith honno, cafodd allan ym mha le yr oedd hi yn lletya, a’i bod yn mynd i’r un capel âg yntau. Wrth fynd adref i’w ginio, byddai Dico yn cychwyn ar hyd yr un stryd â hi, ac os na byddai hi yn y golwg, arhosai Dico o gwmpas nes deuai, yna gadawai iddi hi fynd yn gyntaf, a chanlynai hi nes ai i’w llety. Yna troai Dico yn ei ol tua’r cwrt bychan tlodaidd lle’r oedd ei gartref yntau. Dechreuodd wneud hyn yn ddioed ar ol dyfodiad yr eneth ieuanc—Miss Jenkins oedd ei henw—i’r dref. Ar y Sul, byddai Dico er yn fore yn gwylio llety Miss Jenkins. Pan welai hi yn dyfod allan, ciliai yntau o’r golwg nes iddi basio, yna cerddai ar ei hol tua’r capel, gan ei chadw mewn golwg o hyd. Wrth fynd o’r capel gwnai yr un modd, a phrynhawn a hwyr yr un fath. Newidiodd ei sedd yn y capel er mwyn cael lle mwy manteisiol i’w gweled hi yno, Weithiau, byddai Miss Jenkins yn esgeuluso mynd i’r capel ar fore Sul, a’r prydiau hynny, deuai Dico i’r gwasanaeth yn hwyr bob amser, wedi bod yn disgwyl nes ei mynd mor hwyr fel y byddai’n sicr nad oedd Miss Jenkins yn dyfod.

Cyn hir aeth Miss Jenkins i berthyn i’r côr, ac felly cafodd Dico un cyfle yn rhagor i’w gweled. Gwyliai hi a chanlynai ar ei hol yr un fath wrth fynd a dyfod ar yr achlysuron hynny hefyd. Aeth hyn ymlaen am rai wythnosau os nad misoedd heb i neb sylwi arno, er fod yr eneth ei hun wedi sylwi fod Dico bob amser yn cerdded ar ei hol pan fyddai hi yn mynd i’w chinio a phan fyddai’n mynd i’r capel neu i’r cyfarfod canu. Yr oedd arni radd o’i ofn ar y dechreu, ond gan ei fod yn edrych yn beth mor ddiniwed ac na ddywedodd air wrthi erioed, ni chymerodd ragor o sylw o hono, a thybiodd hwyrach mai damwain oedd ei fod yn cerdded ar ei hol. Wrth weled hynny yn digwydd mor hir ac mor gyson, meddyliodd am holi pwy oedd Dico, ond gadael iddo a wnaeth.

Gan fod Miss Jenkins yn eneth mor hardd, yr oedd ganddi ddigon o edmygwyr yn y dref yn fuan, ac yr oedd agos bob dyn ieuanc oedd yn perthyn i’r capel a’r côr yn barod i fynd i’w danfon adref pan fynnai. Ond yr oedd Miss Jenkins dipyn yn falch, a chan mai chwarelwyr a llafurwyr oedd y rhan fwyaf o fechgyn y capel a’r côr, ni fynnai hi wneud dim â hwy ond yn unig ddywedyd nos dawch neu rywbeth felly wrth eu pasio, pan ddywedent hwy rywbeth wrthi hi. Felly, ni byddai neb byth yn ei danfon adref, ond Dico, a byddai yntau bob amser yn cerdded ar ei hol o fewn ychydig lathenni iddi.

Un bore Sul, yr oedd Dico wedi disgwyl yn hir am ei gweled hi yn dyfod allan o’r tŷ, ac yr oedd bron a rhoi’r goreu i ddisgwyl yn hwy, gan feddwl na ddeuai hi ddim; ond pan oedd ar gychwyn ymaith, gwelodd hi yn dyfod trwy’r drws. Ciliodd Dico, fel arfer, ac ar ol iddi hi basio, aeth yntau yn ei flaen. Yr oedd hi yn digwydd bod yn fore gwlyb, a’r ffordd yn fudr iawn, ac wrth fynd yn ei brys, gollyngodd Miss Jenkins ei llyfr emynnau o’i llaw, nes rholiodd i’r gwter.

Cyn iddi allu troi bron i’w godi, yr oedd Dico yno, er ei drysgled ar ei draed. Cododd y llyfr, tynnodd ei gadach sidan coch goreu o’i logell, sychodd y llyfr yn ofalus, ac yna tan wenu yn siriol, estynnodd ef i Miss Jenkins. Gwenodd hithau arno yntau, ac wrth dderbyn y llyfr, dywedodd “Diolch yn fawr i chi,” ac aeth yn ei blaen.

Yr oedd yn ychydig ddigon i’w ddywedyd am y fath weithred a spwylio’r cadach sidan yn y fargen, ond yr oedd Dico wrth ei fodd. Yr oedd ei galon yn neidio yn ei fynwes gan hapusrwydd, a’i lygaid yn disgleirio drwy’r dydd.

Ond daeth cwmwl i’w ffurfafen yntau. Daeth dyn ieuanc i’r dref yn brentis o dwrne. Yr oedd hwn yn wr ieuanc o foddion, ac yn gryn lanc ym mhob ystyr. Ai yntau i’r un capel a Miss Jenkins, a chyn hir disgynnodd ei lygaid arni fel yr eneth harddaf yn y dref. Penderfynodd Harri Puw—canys dyna enw y gŵr ifanc—gael ysgwrs â hi, ac ni bu yn hir cyn cael y cyfle. Hoffodd yr eneth, ac, yn wir, hoffodd hithau yntau, neu yn hytrach, hoffodd o ei phryd a’i gwedd hi, a hoffodd hithau ei foddion a’i safle yntau. Ac felly, cyn hir, yr oedd Harri Puw a Miss Jenkins yn dra chydnabyddus a’i gilydd. Nid oeddynt wedi bod yn rhodio o gwmpas gyda’i gilydd, dim ond siarad wrth y capel neu pan ddigwyddent gyfarfod ar yr ystryd.

Eto, yr oedd Dico wedi eu gweled yn siarad y tro cyntaf, ac wedi deall fod gwrthwynebydd peryglus iddo ar y maes. Parodd hynny boen ac anesmwythder mawr iddo, ond ni pheidiodd a gwylio a chanlyn ar ol ei eilun o hyd fel o’r blaen.

Cyn hir, sut bynnag, cafodd Dico ergyd fwy poenus fyth. Un nos Sul yr oedd yn gwylio am ddyfodiad Miss Jenkins. Daeth yr amser arferol, ond ni ddaeth hi allan o’r tŷ. Disgwyliodd Dico yn hir, a phan oedd ar roi’r goreu iddi, clywodd y drws yn agor, a gwelodd hithau yn dyfod. Ciliodd o’r neilltu, ac yna canlynodd hi. Er ei syndod, pan gyrhaeddodd Miss Jenkins y tro at ystryd y capel, aeth hyd y ffordd arall. Teimlai Dico mai ei ddyledswydd oedd mynd i’r capel; ond ar ol Miss Jenkins yr aeth. Canlynodd hi o’r dref i gwrr y wlad, ac yn y fan honno, gwelodd rywun—dyn ieuanc—yn dyfod i’w chyfarfod, ac yn stopio i siarad ac ysgwyd llaw â hi. Yr oedd calon Dico yn curo yn gyflym iawn. Disgwyliai o hyd weled y dyn yn dyfod yn ei flaen a Miss Jenkins yn mynd y ffordd arall. Ond yn lle hynny, aeth y ddau yr un ffordd, ac ym mreichiau ei gilydd hefyd; a phan oeddynt yn pasio heibio lamp gerllaw, gwelodd Dico mai Harri Puw oedd y dyn ieuanc.

Ac aeth adref ac i’w wely. Bu yno yn druenus iawn nes oedd yn amser dyfod o’r capel. Yna cododd ac aeth i gornel yr ystryd i ddisgwyl. Bu yno am ddwyawr yn rhynnu yn yr oerfel a’r glaw, ond nid aeth Miss Jenkins heibio. Aeth Dico tuag adref drachefn, ond wrth y drws, troes yn ol ac aeth ar hyd yr ystryd lle’r oedd hi yn lletya.

Gwelodd oleu mewn un ffenestr yno, ac yna aeth adref.

Aeth amser heibio, a daeth y son fod Harri Puw a Miss Jenkins yn mynd i briodi. Clywodd Dico yr hanes; ond rywfodd nid allai gredu ei fod yn wir. Daliodd ati o hyd i wylio a chanlyn ar ol Miss Jenkins o hirbell, heblaw pan welai Harri Puw gyda hi. Ac yr oedd Miss Jenkins erbyn hyn wedi dyfod i wybod am edmygedd mud Dico, ac wedi dywedyd wrth Harri Puw hefyd. Mynnai y gŵr bonheddig hwnnw ei “gicio i’r ffos” ryw noson; ond ni fynnai Miss Jenkins mo hynny.

“Mae o yn ffwl digon diniwed,” meddai, a chwarddodd y ddau yn galonnog am ben Dico druan.

Cyn hir, priodwyd Harri Puw a Miss Jenkins, a bu raid i Dico gredu’r hanes pan welodd y briodas yn dyfod o’r capel, a’r ddeuddyn ieuanc yn edrych yn hapus a llawen iawn gyda’i gilydd. Aeth Dico adref y noson honno, a thrannoeth teimlai yn rhy sal i godi o’i wely. Bu yno am wythnos neu naw niwrnod yn rhyw ddihoeni, ond nid oedd dim afiechyd yn y byd arno, ebr y meddyg, hyd y gallai o ddeall.

Un noswaith, ym mhen rhyw naw niwrnod, cododd Dico gyda’r hwyr, ac er gwaethaf ei fam, aeth allan am dro. Aeth yn wysg ei drwyn i’r wlad, ac ar draws y caeau. Yr oedd hi yn wanwyn, a’r tywydd yn deg a’r dydd yn hwyhau.

A’r diwrnod hwnnw y daethai Harri Puw a’i wraig adref o’u mis mel, ac yr aethant i’w cartref newydd ar gwrr y dref. Ni wyddai Dico mo hynny.

Cerddai Dico yn ei flaen yn araf hyd y llwybr, a thoc, clywodd weiddi mawr yn un o’r caeau ar y dde iddo. Aeth i ben y gwrych i edrych a gwrando, a gwelodd ddyn a dynes yn rhedeg nerth eu traed tua’r gwrych, a tharw cynddeiriog ar eu holau. Yr oedd y dyn ar y blaen i’r ddynes ymhell, ac yn rhedeg â’i holl egni. Cyn pen yr eiliad, yr oedd dros y gwrych ychydig lathenni oddiwrth Dico.

A gwelodd Dico mai Harri Puw ydoedd.

Y funud nesaf, yr oedd Dico yn y cae ac yn rhedeg â’i holl egni i gyfarfod y tarw gwyllt. Pasiodd y ddynes ef toc ar ffo tua’r gwrych.

“Rhedwch!” ebr Dico, ac yn ei flaen âg ef i gyfarf od y tarw.

A rhedodd Mrs Puw am ei hoedl, ac aeth dros y gwrych, a chafodd hyd i’w gŵr yn y ffordd, led dau gae ym mhellach, yn ei disgwyl.

Fore drannoeth, yn gynnar, yr oedd yr hanes ar led yn y dref fod tarw Plas Draw wedi lladd Dico Bach, a’u bod wedi cael ei gorff ar y cae.

XIII. ARAITH DAFYDD MORGAN.

DAETH Dafydd Morgan yn sydyn i sylw mawr yn Llanygeiniog. Dyn cyffredin, fel y dywedir, ydoedd Dafydd, ond ei fod yn ddyn cyffredin go anghyffredin hefyd. Gweithiai yn y chwarel fechan oedd yn agos i Lanygeiniog, ac yr oedd yn adnabyddus yno fel dyn go ddigrif erg blynyddoedd, ond nid oedd neb ond y chwarelwyr yn gwybod rhyw lawer am dano. Un diwrnod, sut bynnag, daeth digwyddiad mawr i ran Dafydd Morgan. Ciafodd arian mawr o’r Siawnsri, a daeth rhag blaen yn ddyn o bwys yn y dref. Er fod yno amryw ddynion gweddol gefnog yn byw yn y dref, yr oedd Dafydd Morgan ar ol ei lwc yn ablach na neb o honynt.

Wrth gwrs, rhoes Dafydd y goreu i weithio yn y chwarel rhag blaen, ac i roi arbenigrwydd ar yr achlysur ac er mwyn dangos ei deimladau da at ei hen gydnabod, rhoes ginio ardderchog i’r chwarelwyr oll yn y Llew Coch, prif dafarn y dref. Yr oedd yn naturiol i rai o’r prif ddynion fod yn awyddus am fynd i’r cinio hwnnw, canys yr oedd Dafydd bellach yn ddyn nad ellid yn hawdd esgeuluso bod ar delerau da âg ef. Felly, llwyddodd amryw o fasnachwyr a phobl gefnog y dref i gael gwahoddiad i’r cinio, ac yn ystod y gweithrediadau, buont yn siarad yn ol eu harfer wrth gynnyg iechyd da’r Brenin a’i deulu, y fyddin a’r llynges, yr offeiriaid a’r gweinidogion, a Dafydd Morgan a’i deulu, a llwyddiant tref a masnach Llanygeiniog. Pan feddyliodd am y swper gyntaf, nid oedd gan Dafydd syniad yn y byd y byddai pethau fel hyn yn angenrheidiol. Ni bu erioed mewn cinio cyhoeddus o’r blaen, ac ni wyddai yr arferion. O’i ran ei hun, ni buasai yng nghinio’r chwarelwyr ddim ond bwyta ac yfed mewn distawrwydd, ond yr oedd y bobl fawr a wahoddwyd yno wedi meddwl am wneud y peth yn deilwng, ac wedi cynnyg i Dafydd yr aent hwy yn gyfrifol am wneud yr holl drefniadau. Mewn ffordd, yr oedd yn dda gan Dafydd gael rhywun i edrych ar ol, ac ymddiriedodd y mater yn llwyr i’r bobl fawr oedd yn arfer â phethau o’r fath, sef tri neu bedwar o’r prif fasnachwyr, yr offeiriaid, a dau neu dri o bobl yn byw ar eu harian, rhai o honynt hefyd yn aelodau o gyngor y dref. Gwnaethant hwythau bopeth yn drefnus, a dewisasent rai o’u plith eu hunain i gynnyg iechyd pawb oedd i gael ei anrhydeddu.

Ni wyddai Dafydd ddim am y trefniadau, er ei fod yno fel llywydd, wrth gwrs. Ar ol dechreu y dywedodd rhai o’r gwŷr cyhoeddus wrtho amcan pa beth oedd i ddigwydd, ac yr oedd Dafydd wedi synnu braidd, ond ni ddywedodd ddim yn erbyn y pethau a drefnwyd gan ei gyfeillion newyddion.

Yn y lle priodol, cynhygiwyd iechyd da’r Brenin a’i deulu, y fyddin a’r llynges, yr offeiriaid o bob math, ac yfwyd yn galonnog, a rhywun yn ateb dros y naill a’r llall, ond y Brenin, wrth gwrs. O’r diwedd, daethpwyd at y prif beth, sef cynnyg iechyd da Dafydd Morgan ei hun.

Cododd un o’r masnachwyr ar ei draed, a dywedodd fod ganddo orchwyl hynod bleserus i’w wneud, sef cynnyg iechyd da Mr. Morgan. Teimlai yn sicr y byddai pawb yn cydweled âg ef wrth iddo ddywedyd fod Mr. Morgan yn un o gymwynaswyr goreu y dref. Ar ol dyfod i feddiant o’r cyfoeth oedd yn gyfiawn eiddo iddo, yr oedd wedi cofio ei hen gyfeillion a dangos ei barch tuag atynt. Yr oedd hefyd yn wahanol i lawer wedi prynn tŷ yn y dref a phenderfynu byw yno a chefnogi masnach gartref yn hytrach na mynd ymaith i dreulio ei gyfoeth. Mewn amser, yr oedd o yn sicr y byddai Mr. Morgan yn cymryd dyddordeb blaenllaw yn amgylchiadau cyhoeddus y dref, ac y ceid y budd o’i brofiad a’i allu ar gyngor Llanygeiniog. Un fantais fawr o feddu eiddo ydoedd y gallai ei berchennog roddi ei wasanaeth yn rhad ac yn rhwydd i’w wlad ac i’w dref, ac yr oeddynt oll yn ddiameu yn sicr y byddai i Mr. Morgan wneud hynny hefyd. Ar ol dywedyd llawer o bethau tebyg, cynhygiodd y siaradwr “Iechyd da Mr. Morgan,” ac yfwyd ato gyda hwyl a chymeradwyaeth fawr.

Yr oedd Dafydd Morgan wedi ei blesio yn fawr, ond ni wyddai fod yn ddyled arno ateb hyd nes dywedodd un o’i gyfeillion gwybodus wrtho. Ar ol iddo ddeall fod yn ofynnol iddo wneud araith, cododd Dafydd ar ei draed yn araf ynghanol cymeradwyaeth fyddarol, ac edrychodd o’i gwmpas yn fodlon. Ni wyddai ar y ddaear pa beth i’w ddywedyd, ond pan dawodd y gymeradwyaeth, gwelodd fod yn rhaid iddo ddywedyd rhywbeth, a dechreuodd arni rhag blaen.

“Wel,” eb efô, “yr hen ffrindie sydd yn fy nabod i er pan oeddwn i yn hogyn ac yn ffrindiol hefo fi pan oeddwn i yn y chwarel yn faw ac yn rhwbel, a chithe y ffrindie newyddion fuo mor garedig a dwad i fy nabod i mor dda ar ol i mi gael yr arian, mae’n dda iawn gen i ’ch gweld chi yma fel hyn wrth y byrdde yma yn cael llond y’ch bolie am unweth, o leia, a barnu wrth fel rydech chi’n claddu’r trugaredde yma o’r golwg. Yn enwedig y saim paen yna, fel maen nhw yn i alw fo,—wn i ar y ddaear pam chwaith. Wel, ’doeddwn i ddim yn disgwyl am yr arian yma, ond gan eu bod nhw wedi digwydd i mi, rydw i am drio gneud y gore ohonyn nhw, wrth reswm. Roedd Mr. Jones y Siop Ucha yn deyd mod i yn un o gymwynaswyr gore’r dref yma. Wel, er na fum i ddim yn delio yn i siop o hyd yma, rydw i yn ddiolchgar iddo fo am i air da, ac mi alla ddeyd wrtho fo rwan nad anghofia i ddim fod gynno fo siop, rwan ar ol i mi gael arian. O’r blaen, fyddwn i ddim yn mynd yno am fod i bethe fo dipyn yn ddrud, er eu bod nhw yn dda iawn, mae’n siwr. Deyd yr oedd o hefyd fy mod i wedi cofio fy hen gyfeillion a dangos fy mharch tuag atyn nhw. Wel, do, ac mi faswn yn fy nghyfri fy hun yn rhyw gadi ffan garw petaswn i yn eu hangofio nhw, welwch chi. Mi fuon yn eitha ffrindie i mi, a pheidio â son am ambell i ffrae o dro i dro, ar hyd y blynydde, cyn i mi drwy lwc ddwad yn ddigon o ddyn i gael ffrindie erill. Ond er mod i wedi cael rhai newyddion, peidiwch a meddwl mod i am dawlu’r hen rai heibio, chwaith. Na, rydw i am gofio mai hen chwarelwr oeddwn i cyn fy ngeni, fel tase, ac mai dyna fydda i ar ol fy nghladdu hefyd. Deyd yr oedd Mr. Jones hefyd fy mod i wedi prynu tŷ yn y dref a chefnogi masnach gartref hefyd. Wel, mae hynny yn wir, os oes rhyw ddaioni ynddo. Well gen i fyw yma nag yn unman arall, am y rheswm nad wn i fawr am unlle ond yma; ac am fasnach gartre, wel, fel y deydis i o’r blaen, mae gen i rwan ddigon o fodd i dalu chwaneg i Mr. Jones am bethe, os ydyn nhw yn wir yn well na phethe rhatach. Fydda i yn meddwl ond ychydig o’r bobol yma sy’n mynd a’u harian i ffwrdd i’w gwario, ac ’rydw i yn gobeithio y bydd siopwrs y dref yma o hyn allan yn cadw stwff cartre—yn enwedig brethyn—yn lle rhyw stwff sal o rywle o Loegr ne ryw wlad arall. Os oeddwn i yn i ddallt o yn iawn, ’roedd Mr. Jones yn rhyw led awgrymu y gwnawn y tro i fod yn un o’r Gorfforaeth yma. Wel, ’does gen i fawr o feddwl o honof fy hun, a deyd y gwir yn blaen i chi. Nag o’r gorfforaeth chwaith, ran hynny. ’Dydw i ddim yn meddwl na wnawn i lawn cystal cownsler a’r cyffredin o honoch chi, a gwell hwyrach nag amal i un. ’Roedd Mr. Jones yn deyd mai un fantes fawr o fod yn gyfoethog ydi medru rhoi gwasanaeth yn rhad i’r wlad neu i’r dref. Mae hynny yn ddigon gwir, tae o’n wir hefyd. Cyn belled ag y sylwes i, eu bod nhw yn gyfoethog ydi’r unig beth fedrwch chi ddeyd o blaid y rhan fwyaf o’r bobol sy’n gwasanaethu eu gwlad heblaw y gellwch chi ddeyd eu bod nhw yn gyffredin yn gneud i’w gwlad eu gwasanaethu nhwythe hefyd. Ar yr un pryd, ’dydw i ddim yn deyd na ddylen nhw gael rhyw gydnabyddiaeth am roid cymaint o’u hamser i edrych ar ol eu manteision eu hunen a rhyw dipyn o fanteision pobol erill pan ddigwyddan nhw gofio am hynny. Os byddwch chi yn meddwl ryw dro y medra i wneud rhyw ddaioni ar y Corporasiwn, mi fydda’n barod i drio, cyn belled âg y gwela i yrwan. Ond mae yma lawer o bethe wedi eu deyd yma heno y baswn inne yn leicio deyd gair arnyn nhw. Roedd y gŵr bonheddig gynhygiodd iechyd da’r Brenin cystal a deyd fod eisio crogi’r bobol yma sydd yn erbyn brenhinieth. ’Dydw i ddim o’r un farn â fo. Cyn belled ag y gwela i, mae’r Brenin yma yn eitha dyn rwan, ond mae o yn cael gormod o gyflog o heth cethin, ne ynte mae pawb arall a adwen i yn cael rhai cannoedd o filoedd yn rhy chydig am eu gwaith. Mi ddeydwyd hefyd y base hi yn o ddrwg arnon ni oni bae am y fyddin a’r llynges a’r offeiriaid o bob math. Synnwn inne ddim. Fasen ni byth yn medru ffraeo cymaint, mae’n siwr. Ond dyma fi yn mynd i siarad gormod, mi wn. ’Does gen i ond diolch ichi bawb am ddwad yma fel hyn. Stwffiwch y pethe yma i gyd o’r golwg, ac os na fedrwch chi eu rhoi nhw yn eich stumoge, rhowch nhw yn eich pocede i fynd adre!”

Dyna araith gyntaf Dafydd Morgan. A’r olaf.

XIV. ELIN EISIAU FÔT.

’RYDW i mewn helynt dros fy mhen a’m clustiau. Feddyliais i erioed fod y fath beth yn bosibl. Petasai’r lleuad yn disgyn wrth fy nhraed i, fuaswn i ddim yn synnu mwy. Na fuaswn, na chymaint ychwaith. ’Roeddwn i bob amser yn meddwl ei bod hi yn berffaith gall. Yn wir, buaswn yn betio fy mhen na chafodd yr un dyn erioed un fwy synhwyrol na hi. Soniodd hi erioed am y peth o’r blaen yn fy nghlyw i, beth bynnag, ac yr ydw i bron yn siwr na chlywodd neb arall moni hi yn gwneud hynny chwaith. Ond erbyn hyn, y mae hi yn wyllt ulw. Pwy, ddywedsoch chi? Wel, pwy ond y wraig acw? Be sydd arni hi? Ond wedi mynd o’i chof yn lân deg y mae hi. Be sydd o’i le? Nid y fi fedr ateb, ond y mae hi wedi mynd i gredu fod yn angenrheidiol iddi hi gael fôt. A byth er hynny—wel, wn i ddim beth i’w ddeyd na’i wneud, os gwyr rhywun arall. Y mae hi’n ofnadwy acw.

Cyn iddi hi gael yr adwyth yma, yr oedd Elin yn ddynes gall, gyda’r gallaf yn y wlad. Fum i erioed mewn helbul hefo hi. Pan ddigwyddwn i ddwad adre dipyn yn hwyr, ni byddai acw helynt o gwbwl. ’Roedd hi yn gwybod sut i wneud i’r dim. Fyddai hi byth yn dywedyd gair cas, ond mi fyddai yn medru gwneud i mi feddwl yn fuan iawn fy mod i wedi aros yn rhy hwyr o lawer, ac mi fyddwn yn meddwl mwy ddwywaith o honi hi o achos fod ganddi ddull mor fedrus i fy nhrin i. Mi wyddwn o’r goreu mai dull i fy nhrin i oedd o, ond ’roeddwn i yn dotio ato, ac yn cymryd fy nhrin yn rhwydd. Wel, a pha bryd bynnag y down i adref, welais i erioed mo’r ty yn anrhefnus ganddi. Byddai popeth bob amser yn lân ac yn daclus, a thamed o fwyd blasus i’w gael heb fynd i’r drafferth o feddwl pa beth a fynnai ddyn i gael. Fyddai Elin byth yn poeni enaid dyn drwy ofyn iddo beth fynnai i’w ginio neu i’w swper. Nid allaf fi aros meddwl beth fuaswn i yn i leicio. Ac yr oedd Elin yn gwybod hynny. Peth arall oedd hi yn i wybod hefyd oedd beth fuaswn i yn i leicio. A dyma fyddai hi yn i wneud bob amser. Ac fel y gwyddoch, os gwyddoch rywbeth hefyd, ’does dim gwell gan ddyn na chael tamed o fwyd wrth i fodd heb orfod meddwl dim am dano ymlaen llaw. A dyna fyddai un gamp ar Elin. Peth arall, fel y dywedais i, oedd y byddai popeth yn lân ac yn daclus. Er nad da gan ddyn mo’r diwrnod golchi na’r diwrnod glanhau’r ty, y mae o yn leicio lle glân cyfforddus bob amser, ac mi fyddai Elin bob amser yn gofalu am le felly i mi. Yn wir, yr oeddwn i yn hapus dros ben taswn i yn gwybod hynny. Ond wyddwn i ddim ar y pryd. Mi wn erbyn hyn. Y mae hi wedi newid yn erchyll acw.

Beth ydi’r drwg, meddech? Wel, mi gewch wybod.

Y mae ar Elin eisio fôt, dyna’r cwbl.

Ydw i yn erbyn? Nag ydw i, yn eno’r tad. Mi gae fy fôt i a chroeso, ond iddi hi fod fel o’r blaen. Ni waeth gennyf fi petae ganddi hi hanner cant o fotiau yr un dim, ond yr wyf yn cwyno yn gethin yn erbyn trefn bresennol pethau. Welsoch chi erioed y fath gyfnewidiad. Wn i ddim yn iawn sut y dechreuodd y drwg, ond yr wyf yn meddwl mai rhyw gyfarfod fu yn y dref acw a’i cychwynnodd o. ’Roeddwn i yn ameu ers tro fod Elin yn darllen mwy ar y papur newydd nag y byddai. ’Does dim yn erbyn hynny, wrth reswm. Y mae’n eitha peth i ferched ddarllen y papurau newyddion, ond ’does dim eisieu iddynt gredu popeth a ddarllenant ychwaith. Wel, sut bynnag, mi sylwais ryw ddiwrnod fod cyfarfod i’w gynnal yn y dref i gefnogi cael fôt i ferched. ’Doeddwn i yn meddwl fawr o’r peth. Yn wir, tueddu yr oeddwn i chwerthin am ei ben. Ond buasai yn well i mi beidio. Dywedodd Elin wrthyf un diwrnod fod arni eisiau i mi aros adref y prynhawn i edrych ar ol y plant.

“I be, nghariad i?” meddwn.

“I mi gael mynd i’r cyfarfod,” ebr hi.

“Pa gyfarfod?”

“Y cyfarfod o blaid i ferched gael y fôt.”

“I be’r ei di i hwnnw, dywed?”

“I glywed be sy gynnyn nhw i’w ddeyd.”

Meddyliais na ddoe dim drwg o hynny, a dywedais yr edrychwn ar ol y plant. Felly fu. Aeth Elin i’r cyfarfod, ac arhosais innau adref i edrych ar ol y plant iddi.

Go drychinebus fu’r cais. ’Roedd y chwe hynaf yn chware yn yr ardd, a’r babi yn chware yn y ty. Ni phoenais ynghylch y rhai oedd yn yr ardd i ddechreu. Achos da pam. ’Roedd gennyf fwy na llond fy nwylo hefo’r gŵr bach oedd yn y ty. Ni ddychmygais erioed fod mor anodd i ddyn fod yn feistr yn i dŷ ei hun o’r blaen.

’Roedd y babi—y mae o yn bymtheng mis oed—yn eistedd yn i gadair fach pan aeth Elin i ffwrdd. Cyn hir, yr oedd o wedi darfod chware â’r papur newydd oedd ganddo, ac mi fynnodd gael cwpan de. Ni bu ddau funud nad oedd o wedi torri honno yn deilchion. Wedyn mi gymerodd ffansi at y tecell copr oedd ar y silff ben tân. Mynnodd gael hwnnw, ac mi taflodd o rhag blaen i ganol y llestri oedd ar y bwrdd nes oedd y rheiny yn chwilfriw. Ar ol hynny mynnodd gael dwad i lawr o’i gadair, a dyna lle bum i fel adyn yn crwydro hyd y tŷ ar i ol o am ddwyawr neu dair. ’Roedd o cyn pen hanner yr amser wedi troi popeth o’r tu chwith allan, ac wedi torri popeth potyn oedd yn i gyrraedd o yn yfflon mân. ’Roeddwn i yn dechreu blino ar i orchestion o, ac yn meddwl y buasai’r wialen fedw yn gwneud lles iddo. Euthum i chwilio am honno, ond tra bum i wrthi, ’roedd o wedi dwad o hyd i badell yn llawn o ddwr, ac wedi sefyll ar i ben yn honno. Digwydd cyrraedd mewn pryd ddarfu mi i’w achub rhag boddi. Ar ol ei gael allan o’r dwr, ’roedd o yn crio yn arw, a bu raid iddo gael benthyg fy oriawr cyn y tawai. Rhoes gost o chweugain ar honno cyn darfod â hi.

Erbyn hynny, ’roeddwn i yn meddwl ei bod hi yn amser rhoi’r plant eraill yn eu gwelyau. Felly, mi rwymais y babi wrth droed y bwrdd, ac euthum i’r ardd i nol y lleill. Cefais gryn drafferth i’w cael i’r tŷ, ond llwyddais o’r diwedd, ac ar ol gwneud iddynt fwyta dipyn o rual oedd mewn bowlen ar y bwrdd yn y gegin, gyrrais hwy i’w gwelyau. Deallais wedi hynny mai startsh oedd y grual, a dyna’r rheswm mae’n debyg fod y plant mor stiff drannoeth. Sut bynnag, mi gefais drafferth fawr i’w cadw yn ddistaw ar ol mynd i’w gwelyau. Yr oedd y cnafon bach yn ymladd ac yn ffraeo ac yn galw ei gilydd wrth enwau na chawsant erioed yn eu bedydd. ’Roedd y babi hefyd wedi gwneud cryn alanas tra bum i yn danfon y lleill i’r llofft. ’Roedd o wedi medru tynnu’r bwrdd i lawr ar ei gefn, ac yr oedd y gath yn digwydd bod o dano yntau. Ni chlywsoch erioed y fath dwrw rhwng y gath ag yntau a’r canibaliaid bychain yn y llofft.

’Roeddwn i yn dechreu mynd i anobaith, ac yn credu fod rhyw ddamwain wedi digwydd i Elin, onite y base adref cyn hynny. Cefais gryn drafferth cael y babi a’r gath a’r bwrdd yn rhydd oddi wrth ei gilydd. Yr oeddynt rywsut fel pe buasent wedi mynd yn gymysg. Ond wedi hir ymdrech, medrais eu gwahanu. Euthum â gweddillion y gath allan. Yr oedd y babi hefyd yn crio yn arw am fod y gath cyn i’r pwysau roi diben arni wedi plannu ei hewinedd ynddo. Y bwrdd oedd y distawaf o’r tri a’r hawsaf i’w drin o lawer. Ar ol rhoi’r babi yn ei gadair, euthum i geisio clirio tipyn ar y llawr, oedd wedi ei orchuddio â darnau o lestri te, a phethau ereill yr oedd y babi wedi eu malu, ond yr oedd y babi yn cadw cymaint o swn fel y daeth gwraig y tŷ nesaf i mewn i ofyn a oedd rhywbeth yn ceisio’i ladd o. Dywedais nad oedd, ond mai fo oedd yn ceisio fy lladd i, a’i fod agos iawn wedi medru hefyd. Chwarddodd y ddynes, ond ’doedd o ddim yn fater chwerthin ychwaith.

’Roeddwn i yn disgwyl yn eiddgar am weled Elin, ond ’doedd dim golwg am dani er i bod bellach yn hanner awr wedi saith. Bum yn yr helynt am awr wedyn, a thua hanner awr wedi wyth, dyma hi adref.

“Mi fum mewn pwyllgor ar ol y cyfarfod,” meddai, “ac mi aeth yn o hwyr.”

“Do, ddyliwn,” meddwn innau.

Pan ddaeth hi i mewn a gweled yr olwg oedd ar y babi a phopeth arall, mi gafodd dipyn o fraw.

“Beth ar y ddaear ydech chi wedi wneud, deydwch?” ebr hi.

“Gofynnwch iddo fo,” meddwn innau, “y fo ydi’r mistar.”

“Welis i rioed y fath beth,” ebr hi.

“Na finne.”

“Dydi dynion ddim ffit,” ebr hi, ac yna ychwanegodd, “ac i feddwl eu bod nhw yn gwrthod fôt i ferched!”

“Ie, wir,” meddwn innau.

“Ple mae’r plant erill?” ebr hi.

“Mae nhw yn eu gwelyau.”

Yr oedd y cnafon bach wedi tawelu erbyn hyn.

Ymosododd Elin arni i wneud trefn ar y babi o’r diwedd, ac yna gwnaeth i mi ei ddal ac aeth hithau i’r llofft i weled sut olwg oedd ar y lleill. Gyda’i bod hi yno, mi glywn rhyw ebychiad o syndod.

“John,” ebr hi, “ble mae’n plant ni?”

“Be wn i, ydyn nhw ddim yna?” meddwn.

“Nag ydyn—o leiaf, dim ond dau o honyn nhw. Rhyw blant diarth ydi’r lleill! Be gebyst oedd arnoch chi, deydwch?”

Erbyn edrych, yr oeddwn wedi rhoi pedwar o blant rhywun arall yn y gwelyau gyda dau o’n plant ni.

Bu raid i mi ei gwadnu hi i chwilio am y lleill, a bum tan hanner awr wedi naw heb gael hyd iddynt. Dygais hwy adref, ond erbyn hynny, yr oedd acw barti o ferched o gwmpas y bwrdd yn yfed te ac yn son am ormes dynion a’r cam yr oeddynt yn ei wneud â merched. Gyrrais y plant i’r gegin i’w canol ac euthum fy hun ar fy union i’r dafam agosaf. Bum yno tan amser cau. Erbyn i mi fynd adref, ’doedd yno na swper na dim yn fy aros, a bu raid i mi ei wneud fy hun.

Y mae mis er hynny bellach, ac y mae pethau yn mynd yn waeth bob cynnyg. Y mae’r ty yn anrhefnus a’r plant yn fudron, waeth dywedyd y gwir na pheidio, ac y mae acw bwyllgor bob yn eildydd, ac ni fedraf ddywedyd mai myfi biau fy nhy fy hun. Ydi, ŵyr dyn, y mae hi yn ddrwg gynddeiriog acw.


Back to IndexNext