PANT Y CELYN.

Y fynedfa at Bant y Celyn

“YmmhlemaePant y Celyn?” ebe athraw yn un o golegau’r Methodistiaid Calfinaidd wrthyf unwaith.  Yr oedd tôn gwerylgar yn ei gwestiwn, oherwydd ei fod yn gorfod gofyn peth oedd yn dangos cymaint o anwybodaeth.  Nid oeddwn yn ddigon rhagrithiol i ddweyd fy mod yn synnu at ei anwybodaeth, oherwydd ni wyddwn fy hun, cyn mynd yno, ymha un o bedair neu bum sir yr oedd Pant y Celyn.  Er hynny nid oes odid aelwyd yng Nghymru nad ydyw Pant y Celyn yn air teuluaidd arni.

Ryw ddiwrnod yn yr haf diweddaf yr oeddwn yn teithio o fynydd-diroedd Llanwrtyd drosodd i ddyffryn Tywi, ac i lawr ar hyd y dyffryn enwog hwnnw.  Wedi rhediad chwyrn i lawr hyd ochrau’r mynyddoedd, daethum i Lanymddyfrigyda’r nos.  Ni welwn fawr o dref na dim, o’r orsaf; a throais i’r gwesty cyntaf gefais.  Yr oedd yno dân braf,—yr oedd yr hin yn oer a gwlawog, er mai haf oedd.  Yr oedd yno fwyd da ac iachus mewn ystafell lân hefyd.  Fel rheol, pur anghysurus ydyw lletydai Cymru o’u cydmaru a lletydai gwledydd ereill, yn enwedig tai dirwest.  Gadewir y ffenestri yng nghauad ddydd a nos, nes y bo arogl anhyfryd ar yr ystafelloedd ac ar y dodrefn; gadewir llwch i hen gartrefu ar bob astell ac ym mhob cornel; a bydd rhigolau duon, digon i ladd archwaeth y cryfaf, ar ycream-jugo wydr tawdd.  Ond, yn y gwesty hwnnw ger gorsaf Llanymddyfri, yr oedd popeth gen laned a’r aur; yr oedd ol dwfr grisialaidd ar bob peth.  Yr oedd y llian gwyn fel yr eira, yr oedd y siwgr fel pe’n disgleirio yn y llestr gwydr mawr, taflai’r tân oleuni rhuddgoch ar gwpanau glân fel y cwrel.  Yr oedd y bara can, yr ymenyn, a’r caws yn flasus, yr oedd yr hufen yn felyn dew, yn ddigon tew, chwedl Kilsby, i geiniog nofio ar ei wyneb yn ddi-brofedigaeth.  Ac am y te, wel, te oedd; nid y drwyth roddir o’m blaen yn aml, trwyth nas gwn ar ddaear wrth ei hyfed beth sydd yn yr tepot gyda’r dŵr,—pa un ai ffa’r corsydd ai dail carn yr ebol ai sug tybaco.

Wedi dadluddedu o flaen y tân, bum yn darllen gweithiau S. R. oedd yn yr ystafell.  Ymgollaisyn y rhai hynny hyd nes y daeth gŵr y gwesty i ddweyd fod y tân bron a mynd allan.  Cefais hanes y wlad ganddo, yn grefyddol a gwleidyddol yn bennaf, o safle Bedyddiwr Arminaidd.  Cefais bob manylrwydd hefyd am y ffordd oreu i gyrraedd Pant y Celyn.  Yr oedd pobl fonheddig o Saeson yn aros yn yr un ty, a thybiwn unwaith, gan eu bod hwythau’n mynd i’r un cyfeiriad, y medrem gyd-logi cerbyd.  Ond, erbyn cael ymgom, trwy wr y tŷ, nid oeddynt hwy wedi clywed gair erioed am Williams Pant y Celyn.  Yr oeddynt wedi clywed llawer o son am Dwm Sion Cati, ac i chwilio am ei ogof ef yr oeddynt yn mynd.  Pe buasai Twm Sion Cati yn ei ogof, os gwir pob stori, ni fuasai’r brodyr hyn mor awyddus am fynd yn agos ati.

Bore drannoeth, nid cyn i fwyafrif pobl Llanymddyfri godi, yr oedd cerbyd wrth ddrws y gwesty, a gyrrwr ynddo, yn barod i’m cludo tua Phant y Celyn.  Nid oedd y gyrrwr yn un siaradus; yn wir, pur anodd oedd cael ystori o hono.  Rhoddodd ei ddistawrwydd fwy o hamdden i minnau edrych o’m cwmpas, a meddwl am emyn ar ol emyn ddoi i’m cof wrth deithio ymlaen hyd gynefin ffyrdd y per ganiedydd.  Rhedodd y merlyn, a’i fwng yn yr awel, hyd y ffordd o’r orsaf i’r dref, heibio i ysgol Llanymddyfri.  Yna trodd am y gornel tua’r gogledd; gan fynd yn chwyrn trwy’r brif ystryd.Gadawsom gapel prydferth ar y chwith, capel coffadwriaethol Williams Pant y Celyn,—capel Saesneg ysywaeth.  Ymhen tipyn, wrth fynd o’r dref i’r wlad agored, yr oeddym yn pasio adeilad arall.  Ar y dde yr oedd hwn, ac yr oedd golwg urddasol arno, er gwaethaf ei henaint a’i dlodi.  Gofynnais i’r gyrrwr a’i hwnnw oedd ty’r Ficer, a dywedodd yntau mai ie.

Dôl werdd lydan a Llanfair ar y bryn i’w weld drosti,—dyna welsom gyntaf wedi gadael y dref.  Gwyddwn mai yn y Llanfair hwnnw y claddwyd Williams.  Collodd Llanfair ar y bryn o’n golwg, a dilynasom ffordd wastad hyfryd gydag ymyl y ddôl a than gysgod bryn creigiog.  Daethom i gwm cul, lle’r oedd yr afon wedi torri ffordd iddi ei hun i adael y mynyddoedd.  Dyma ddôl wastad eto, a choed o bobtu iddi, lle hyfryd ddigon.  Dacw fynydd yn codi o’n blaenau; daeth awydd canu drosom,—

“Ar ddisgwylfa uchel gribogDisgwyl ’rwyf er’s hir brydnawn,Edrych am yr hindda hyfryd’Nol cawodydd geirwon iawn,Ac i’m hysbryd,Trwy’r cymylau, weld y wlad.”

“Ar ddisgwylfa uchel gribogDisgwyl ’rwyf er’s hir brydnawn,Edrych am yr hindda hyfryd’Nol cawodydd geirwon iawn,Ac i’m hysbryd,Trwy’r cymylau, weld y wlad.”

Hyd yn hyn yr oedd wedi bod yn bwrw gwlithlaw, ac yr oedd y wlad dan niwl llwydlas.  Fel yr oeddym yn agoshau at y mynydd hwnnw, daeth awel o’r de, a dechreuodd y niwl dorri a chilio.  Llawer gwaith y gwelodd yr emynnwrawyr lâs drwy’r cymylau ar y ffordd hon, a llawer gwaith yr hiraethodd am dani,—

“Pa bryd caf deimlo’r awel grefSy’n chwythu i ffwrdd gymylau’r nef,I mi gael gweled Salem bur?Gogoniant ddwyfol uwch y rhodNas gwelodd llygaid dyn erioed,Ac nas mwynheir mewn anial dir.”

“Pa bryd caf deimlo’r awel grefSy’n chwythu i ffwrdd gymylau’r nef,I mi gael gweled Salem bur?Gogoniant ddwyfol uwch y rhodNas gwelodd llygaid dyn erioed,Ac nas mwynheir mewn anial dir.”

Dyma’r ffordd yn troi i’r ochr arall i’r dyffryn; dacw’r afon yn troelli, ol a gwrthol, fel pechadur yn yr yrfa trwy’r anialwch.  Ond y mae swn dedwydd yn ei dwndwr, wrth adael ei gyrfa wyllt yn y bryniau a dechreu llifo’n esmwyth gydag ymyl y ddôl,—

“Mi deithiais ran o’r anial maith,’Dwy’n deall pellder pen fy nhaith,Mewn gwledydd sychion, dŵr nid oedd;Yn awr rwy’n disgwyl, fore a nawn,O’r nefoedd ddŵr a sypiau grawn,Wna’m henaid egwan wrth ei fodd.”

“Mi deithiais ran o’r anial maith,’Dwy’n deall pellder pen fy nhaith,Mewn gwledydd sychion, dŵr nid oedd;Yn awr rwy’n disgwyl, fore a nawn,O’r nefoedd ddŵr a sypiau grawn,Wna’m henaid egwan wrth ei fodd.”

Dacw’r ffordd yn rhedeg yn syth yng nghyfeiriad y mynydd unig hwnnw.  Ni wyddem beth oedd y bryn yn guddio,—dyffrynnoedd, gwlad wastad, ynte mynyddoedd uwch.  Dyma drofa yn y ffordd, o honi gwelem draw, heibio’r mynydd, fynyddoedd ereill, uwch o lawer, heb rif,—

“Er c’uwch y bryniau uchel fry,A swn tymhestloedd tywyll, du.A’r holl freuddwydion ofnau sy,Anturiaf eto ’mlaen;Mae nerth y nefoedd fry yn fwyNa myrdd o’u dychryniadau hwy;Mae haeddiant dwyfol farwol glwyYndrech na dŵr a thân.”

“Er c’uwch y bryniau uchel fry,A swn tymhestloedd tywyll, du.A’r holl freuddwydion ofnau sy,Anturiaf eto ’mlaen;Mae nerth y nefoedd fry yn fwyNa myrdd o’u dychryniadau hwy;Mae haeddiant dwyfol farwol glwyYndrech na dŵr a thân.”

Gydag inni gael golwg ar y wlad y tu hwnt i’r mynydd, cauodd gorchudd o wlaw am dani.  Dechreuodd y gwlaw yrru dros y dyffrynnoedd, ac yr oedd y gwynt yn dolefain wrth ysgubo dros fryn a phant.  Pe buaswn yn hollol ddieithr i’r wlad, tybiaswn mai dros ryw wastadedd mynyddig, heb ddim ond pyllau mawn a chrawcwellt ac ambell ddafad esgymun, yr oer anadlai’r awel.  Ond yr oeddwn wedi cael golwg ogoneddus ar y wlad dan haul nawn y dydd cynt; a gwyddwn, oddiwrth emynnau Williams, fod ei gartref mewn gwlad brydferth,—

“Dyma’r man dymunwn drigo,Wrth afonydd gloewon, llawn,Syddyn llifo o ddŵr y bywydO las foreu hyd brydnawn,Lle cawn yfedHyfryd gariad fyth a hedd.”

“Dyma’r man dymunwn drigo,Wrth afonydd gloewon, llawn,Syddyn llifo o ddŵr y bywydO las foreu hyd brydnawn,Lle cawn yfedHyfryd gariad fyth a hedd.”

Oddiwrth olygfeydd yr ardal hon y cafodd Williams ei liwiau i ddarlunio gwlad yr hedd,—

“Mi welaf draw, o bell,Baradwys hardd ei gwedd,A phrennau llawer gwellYn perarogli hedd;O hyfryd wlad, tu draw pob gwae,Gwyn fyd gawn heddyw dy fwynhau.”

“Mi welaf draw, o bell,Baradwys hardd ei gwedd,A phrennau llawer gwellYn perarogli hedd;O hyfryd wlad, tu draw pob gwae,Gwyn fyd gawn heddyw dy fwynhau.”

Ond y mae’r gwynt yn dolefain, a’i swn fel swn cornchwiglen, ond ei fod yn fwy parhaus ac yn fwy lleddf.  Daethom at le yr oedd yr afon a’r ffordd yn ymrannu’n ddwy.  Troisom ni ar ychwith i lawr ffordd serth, a gwelem ffordd union o’n blaenau, a bryn uchel, a chlawdd ar ei draws, fel cadwen wedi ei thaflu drosto.  Ond ychydig ymlaen fedrem weld, gan y niwl a’r gwlaw.  Mynych ddymuniad oedd am i’r niwl godi, ac am gael gweled gogoniant y wlad,—

“Rwyf yn dechreu teimlo eisoesBeraroglau’r gwledydd drawGyda’r awel bur yn hedeg,Diau fod y wlad ger llaw,Tyrd, y tir dymunol hyfryd,Tyrd, yr ardal sydd heb drai.Dy bleserau o bob rhywiau,Gad im bellach eu mwynhau.”

“Rwyf yn dechreu teimlo eisoesBeraroglau’r gwledydd drawGyda’r awel bur yn hedeg,Diau fod y wlad ger llaw,Tyrd, y tir dymunol hyfryd,Tyrd, yr ardal sydd heb drai.Dy bleserau o bob rhywiau,Gad im bellach eu mwynhau.”

A chyn bo hir daeth awel eilwaith o’r de, ysgafnhaodd yr awyr, a gwelem rimin glâs o fynyddoedd pell o’n blaen.  Yr oedd y ffordd erbyn hyn yn debycach i ffordd dre ddegwm nag i brif-ffordd, yn dirwyn i fyny hyd ochr bryn serth.  Wrth i ni godi i fyny, yr oedd yr olygfa’n ehangu o hyd, gan roddi teimladau hyfryd i ninnau, a gwneyd inni feddwl ein bod yn gadael gwlaw a’r gelltydd serth ar ein hol—

“Rwyf yn teimlo gwynt y deheu,Yn anadlu awel bur,Ac yn ysgafn gario f’enaidDraw i fryniau Canan dir;Aeth y gauaf garw heibio,Darfu’r oer dymhestlog wynt;Na ddoed mwy’r cawodydd duonI fy mlino i megys cynt.”

“Rwyf yn teimlo gwynt y deheu,Yn anadlu awel bur,Ac yn ysgafn gario f’enaidDraw i fryniau Canan dir;Aeth y gauaf garw heibio,Darfu’r oer dymhestlog wynt;Na ddoed mwy’r cawodydd duonI fy mlino i megys cynt.”

O’r diwedd daethom i ben yr allt, a chawsom olwg ogoneddus ar y bryniau dan orchuddysgafn tyner o niwl.  Llawer gwaith y bu Williams yn syllu arnynt oddiar y ffordd hon, ac nid rhyfedd fod ei emynnau gore mor llawn o honynt.

“Rwyf yn gweled bryniau uchelGwaredigaeth werthfawr lawn,O na chawn i eu meddiannuCyn machludo haul brydnawn;Dyma’m llef tua’r nef,Addfwyn Iesu, gwrando ef.”

“Rwyf yn gweled bryniau uchelGwaredigaeth werthfawr lawn,O na chawn i eu meddiannuCyn machludo haul brydnawn;Dyma’m llef tua’r nef,Addfwyn Iesu, gwrando ef.”

Llawer gwaith, wedi taith flinderus, y bu Williams yn edrych tua bryniau ei gartref oddiar y ffordd uchel hon, ac ar yr eangder o fynyddoedd welem y tu hwnt iddynt,—

“Rhwng cymylau duon, tywyll,Gwelaf draw yr hyfryd wlad;Mae fy ffydd yn llefain allan,—‘Dacw o’r diwedd dy fy Nhad.Digon, digon!Mi anghofia’m gwae a’m poen.”

“Rhwng cymylau duon, tywyll,Gwelaf draw yr hyfryd wlad;Mae fy ffydd yn llefain allan,—‘Dacw o’r diwedd dy fy Nhad.Digon, digon!Mi anghofia’m gwae a’m poen.”

Ond nid ydym eto ym Mhant y Celyn, er ein bod yng ngolwg y wlad.  Rhed y cerbyd yn chwyrn i lawr y bryn, a dyma ni mewn dyffryn cauad coediog, gyda chapel bychan uwch ben y nant.  Capel Anibynwyr Pentre Tygwyn ydyw, ac y mae’r dyddiad 1719 arno.  Ni chefais fawr o amser i edrych arno, ond yr wyf yn cofio gweled bedd Daniel Howells o Lanymddyfri, fu’n pregethu am bymtheng mlynedd a deugain.

Wedi gadael y pentre bychan hwn, yr oedd rhiw serth o’n blaen; ac erbyn i mi ddod o fynwenty capel, gwelwn y cerbyd tua hanner y ffordd i fyny’r rhiw, a’r ceffyl yn gorfod ei dynnu o ochr i ochr, er mwyn lladd yr allt rywsut.  Deuai un o emynnau Williams i’m cof innau o hyd,—

“Wel, f’enaid, dos ymlaen,’Dyw’r bryniau sydd gerllawUn gronyn uwch, un gronyn mwy,Na hwy a gwrddaist draw;Dy angrhediniaeth gaeth,A’th ofnau maith eu rhi,Sy’n peri it’ feddwl rhwystrau ddawYn fwy na rhwystrau fu.”

“Wel, f’enaid, dos ymlaen,’Dyw’r bryniau sydd gerllawUn gronyn uwch, un gronyn mwy,Na hwy a gwrddaist draw;Dy angrhediniaeth gaeth,A’th ofnau maith eu rhi,Sy’n peri it’ feddwl rhwystrau ddawYn fwy na rhwystrau fu.”

Ond dyma fi wedi dal y cerbyd, ac ar ben y rhiw.  O’n blaen, o bobtu’r ffordd, yr oedd caeau gweiriog, ac awel esmwyth aroglus yn anadlu drostynt.  Troisom trwy lidiart ar y dde, a dilynasom ffordd oedd yn croesi’r cae gwair i gyfeiriad yr afon.  Toc daeth yr afon i’r golwg, a gwelsom ei bod yn rhedeg gyda godrau’r cae.  Wrth i ni droi gyda’r ffordd gwelem lwyn o goed o’n blaen, yr oedd coed hefyd yn nyffryn yr afon, a throstynt oll gwelem y mynydd yn dawel a thlws.  Lle hyfryd, pell o dwrf y byd, ydyw Pant y Celyn,—

“Dyma’r man dymunwn arosO fewn pabell bur fy Nuw,Uwch terfysgoedd ysbryd euog,A themtasiwn o bob rhyw;Dan awelonPeraidd hyfryd tir fy ngwlad.”

“Dyma’r man dymunwn arosO fewn pabell bur fy Nuw,Uwch terfysgoedd ysbryd euog,A themtasiwn o bob rhyw;Dan awelonPeraidd hyfryd tir fy ngwlad.”

Cerddais ymlaen tua’r ty, nid ydyw yn y golwg tan ddeuir i’w ymyl.  Wedi mynd i mewni’r buarth, gwelwn o’m blaeu dŷ newydd, gydag un talcen i’r llechwedd a’r llall at yr afon.  Rhyngddo a’r afon yr oedd glyn bychan swynol, llawn o goed.  Yn union o’i flaen, i dorri grym y gwynt ac i gadw pethau, yr oedd hen dŷ to brwyn.  Teimlwn, er nad oedd dim yn darawiadol iawn yn y ty, fod y fangre’n un hyfryd a tharawiadol iawn.  Eis ymlaen at y ty, cnociais, a daeth geneth lygat-ddu, rhyw bedair ar bymtheg oed, i’r drws.  Yr oeddwn wedi gweled y darlun o Williams sydd yn llyfrgell Abertawe, a theimlwn fod yn rhaid fod yr eneth hon yn perthyn iddo.

Pant y Celyf

“Dyn dieithr o’r Gogledd ydwyf,” ebe fi, “wedi dod i weld Pant y Celyn.”

“Chwi gewch ei weld, a chroeso.  Dowchmewn.  Mae’n resyn eich bod yn cael diwrnod mor wlawog.”

Arweiniwyd fi i mewn, a gwelais fod lletygarwch Cymreig o’r iawn ryw ym Mhant y Celyn.  Nid oeddynt wedi’m gweled i erioed o’r blaen, ac ni wyddent a welent fi byth wedyn.  Ond mynnent gael gwneyd te i mi; a phan wrthodais, daethant a glasiad o lefrith oedd yn gwneyd i mi sylweddoli dymunoldeb “gwlad yn llifeirio o laeth a mel.”  Arweiniwyd fi i ystafell Williams, ystafell isel dan drawstiau mawr.  Yr oedd cader Williams yno, yn yr hon yr ysgrifennodd ei hanes ysbrydol mewn cynifer o ddulliau.  Cynhygiwyd i mi eistedd yn y gader, ond yr oedd rhyw hanner ofn yn rhwystro i mi wneyd hynny.  Yr oedd IHS,—Iesus hominum Salvator, Iesu Gwaredwr dynion,—ar galchiad y nenfwd yn yr ystafell fechan unwaith.  Trwy’r ffenestr yr oedd llecyn gwyrdd bychan i’w weled, a’r ty to brwyn dros ei ben.  Ar ben y grisiau, gwelais gloc Williams, gyda gwyneb o bres gloew, a thic trwm marw.  Yr oedd yr hen gloc a’r hen gader yn dwyn i’m meddwl lafur ei oes ryfedd.  Hwyrach fod llawer o’r Diwygwyr yn bregethwyr mwy nerthol na Williams Pant y Celyn.  Ond ni weithiodd yr un o honynt yn galetach, ac ni fydd dylanwad yr un o honynt mor barhaol a’i ddylanwad ef.  Efe, trwy ei emynnau, sydd wedi gwneyd y Diwygiad ynrhan o fywyd Cymru, ac wedi gwneyd iddo esgor ar ddeffroad cenedl,—deffro i feddwl ac i fyw.  Fel cydoeswyr Shakespeare yn Lloegr, nid edrychai cydoeswyr Williams Pant y Celyn arno fel y bardd na’r meddyliwr mwyaf yn eu mysg.  Barnent ei emynnau gan gofio am anhawsderau cynghaneddu,—gwaith, o fawr ofal Rhagluniaeth am ddyfodol Cymru, na cheisiodd efe ei wneyd.  Yr oedd mwy o ramadeg yn emynnau Thomas Jones o Ddinbych a mwy o gynghanedd yn emynnau’r gŵr rhyfedd athrylithgar o Ramoth, ond Williams ydyw’r per ganiedydd er hynny.  Clywais fod Dr. Edwards wedi chwilio am un i ysgrifennu erthyglau ar hymnau Pant y Celyn, a’i fod wedi gofyn i Eben Fardd ymgymeryd â’r gwaith.  Safodd Eben Fardd uwch eu pennau fel gramadegydd.  Gwrthododd Dr. Edwards ei feirniadaeth, a gofynnodd i Wilym Hiraethog sefyll uwch eu pennau fel bardd.  Clywais ddweyd fod Williams wedi ysgrifennu gormod, ac y buasai’n well iddo fod wedi aros mwy uwchben ei linellau, i’w gloewi gogyfer a’r beirniad gor-fanwl byr ei lathen ddeuai gyda’r oes wannach oedd yn dod ar ei ol.  Dyna ddywedir hefyd am Wordsworth, dyna ddywedir am Geiriog,—ac y mae’n dangos mor ddiwylliedig ac mor fas ydyw tir meddwl y rhai a’i dywed.

Ond dyma wr ty Pant y Celyn.  Diacongyda’r Anibynwyr ydyw, ac un diddan iawn ei ystori.  Gwyddai hanes John Penri’n dda, ac yr oedd yn cofio’r Siartwyr yn y De.  Ond, rhag ofn i mi feddwl ei fod yn rhyw eithafol iawn, dywedodd, gyda gwên chwareus yn ei lygaid, ei fod yn talu’r degwm fel yr oen.

Yr oedd hen gloc Pant y Celyn, gyda’i dipiadau trymion, yn mynd mynd ar ben y grisiau, a gorfod i minnau ymadael heb gael holi ond ychydig iawn.  Ond dymunol i mi oedd teimlo fod teulu’r emynnwr ym Mhant y Celyn o hyd.

Wrth sefyll ger Pant y Celyn, teimlwn fy mod yn cael esboniad ar lawer emyn.  Ar y llecyn hwn bu Williams, lawer tro, yn teimlo awel y deheu, fel y teimlaf finnau hi’n awr, ac yn ei chroesawu,—

“Deuwch yr awelon hyfryd,Deuwch dros y bryniau pell,Dan eich aden dawel, rasol,Dygwch y newyddion gwell;Dygwch newydd at fy enaid,—Fy enaid innau yno gaed,Dedwydd enw’n argraffedigYn yr iachawdwriaeth rad.”

“Deuwch yr awelon hyfryd,Deuwch dros y bryniau pell,Dan eich aden dawel, rasol,Dygwch y newyddion gwell;Dygwch newydd at fy enaid,—Fy enaid innau yno gaed,Dedwydd enw’n argraffedigYn yr iachawdwriaeth rad.”

Yma y bu’n disgwyl am y gwanwyn, ac am yr awel dyner o’r de,—

“Na’d i’r gwyntoedd cryf dychrynllydGwyntoedd cryf y gogledd draw,Ddwyn i’m hysbryd gwan trafferthusOfnau am ryw ddrygau ddaw;Tro’r awelonOera’u rhyw yn nefol hin.”

“Na’d i’r gwyntoedd cryf dychrynllydGwyntoedd cryf y gogledd draw,Ddwyn i’m hysbryd gwan trafferthusOfnau am ryw ddrygau ddaw;Tro’r awelonOera’u rhyw yn nefol hin.”

Yma y gwelodd y wawr, lawer diwrnod hyfryd, yn torri ar y mynyddoedd draw, wedi noswaith o golli cysgu wrth ofni am ei ffydd,—

“Draw mi wela’r nos yn darfod,Draw mi welaf oleu’r dydd,Yn disgleirio dros y bryniau,Melus yn y man a fydd;Ffy gelynion pan ddêl goleu,Ni all pechod, er ei rym,A’i holl wreiddiau yn fy natur.Sefyll haul cyfiawnder ddim.”

“Draw mi wela’r nos yn darfod,Draw mi welaf oleu’r dydd,Yn disgleirio dros y bryniau,Melus yn y man a fydd;Ffy gelynion pan ddêl goleu,Ni all pechod, er ei rym,A’i holl wreiddiau yn fy natur.Sefyll haul cyfiawnder ddim.”

O’r llecyn hwn y bu’n gweld y caeau’n tyfu, a’r blodau’n lledu eu hwynebau i oleuni cynnes yr haul.  Dacw’r llygad dydd ar y weirglodd brydferth, a’r glaswenwyn, a mantell fair, a’r ben-galed, a chynffon y gath,—ond

“Ofer imi weld y ddaearYn egino’i hegin grawn,Ofer imi weld yr heulwenFawr yn estyn ei phrydnawn,Ofer imi weld y blodauYn datguddio’u dirif liw,Tra fo neb rhyw un creadurYn cysgodi gwedd fy Nuw.”

“Ofer imi weld y ddaearYn egino’i hegin grawn,Ofer imi weld yr heulwenFawr yn estyn ei phrydnawn,Ofer imi weld y blodauYn datguddio’u dirif liw,Tra fo neb rhyw un creadurYn cysgodi gwedd fy Nuw.”

A dacw fynyddoedd yn ymestyn i’r gogledd, i gyffiniau Ystrad Ffin.  Yma y bu’r hen emynnwr, pan na fedrai deithio mwy, yn canu ei emyn bendigedig ei hun,—

“Rwy’n edrych dros y bryniau pell,Am danat bob yr awr;Tyrd, fy anwylyd, mae’n hwyrhau,A’m haul bron mynd i lawr.”

“Rwy’n edrych dros y bryniau pell,Am danat bob yr awr;Tyrd, fy anwylyd, mae’n hwyrhau,A’m haul bron mynd i lawr.”

Teimlwn, wrth adael Pant y Celyn, fy mod yntroi’m cefn ar un o lanerchi mwyaf cysegredig Cymru.  Y mae golygfeydd y fro hon wedi ymddelweddu yn yr emynnau sydd, yn eu tro, wedi rhoddi eu delw ar feddwl Cymru.  Synnwn fod golygfeydd Pant y Celyn mor gartrefol i mi; yr oeddwn wedi eu gweled yn yr emynnau, bob un.  Trwy’r golygfeydd hyn y cafodd Williamsy darluniadau o’r nefoedd sydd, erbyn hyn, yn rhan o freuddwydion ac o obeithion pob Cymro.  Gwened yr haul arnat byth, ti gartref per ganiedydd Cymru!

Bedd Williams Pant y Celyn. Ger eglwys Llanfair ar y bryn

Cyn y nos, ail gychwynnais o Lanymddyfri, a dringais i fyny i eglwys Llanfair ar y bryn.  Y mae bedd a chofgolofn Williams wrth ochr Pant y Celyn i’r eglwys.  Y mae golygfa brydferth oddiar ben y bryn hwn, oddiwrth y bedd, ar y wlad oddiamgylch; ond ofer fuasai dechreu dweyd hanes y fro hanesiol hon.  Y mae’r golofn o wenithfaen Aberdeen, ac y mae’r argraff sydd arni wedi ei godi oddiar y garreg las oedd ar fedd Williams o’r blaen.

Cyn i mi adael Llanfair ar y bryn daeth un heulwen hyfryd euraidd ar yr yw ac ar wlith y beddau; ac yn fuan iawn gwelwn yr eglwys a’i bedd yn diflannu o’m golwg yn y pellder ac yn y gwlaw.

Darllennais emynnau Pant y Celyn wedi mynd adre gyda mwy o flas nag erioed.  Darllennais hwy droion wedyn, ac yr wyf yn barod i ddweyd gydag Elfed wrth bob Cymro,—

Dante—dos i’w ddilyn;Shakespere—tro i’w fyd;Cofia Bant y CelynYr un pryd.

Dante—dos i’w ddilyn;Shakespere—tro i’w fyd;Cofia Bant y CelynYr un pryd.

Yna ganwyd Ieuan Gwynedd—hynaws.Ynghanol dinodedd;A’i wylaidd swyn hawliodd seddOrielau anfarwoledd.—Gwaenfab.

Yna ganwyd Ieuan Gwynedd—hynaws.Ynghanol dinodedd;A’i wylaidd swyn hawliodd seddOrielau anfarwoledd.

—Gwaenfab.

CartrefIeuan Gwynedd,—pa Gymro na theimla ei galon yn cynhesu wrth feddwl am dano?  Yn y cartref tlawd ac anghysbell hwnnw y bu mam bryderus yn ceisio dysgu ei Hieuan bach bregethu, ac yn agor i’w feddwl plentynaidd gynnwys rhyfedd ei Beibl Coch,—oedd wedi brynnu gan Charles o’r Bala ei hun, ac wedi talu am dano bob yn ychydig o’i henillion prin.  Pwy aberthodd fwy dros ei wlad na’r bachgen hwnnw, pwy welodd ddyfodol Cymru â threm gliriach, pwy ddanghosodd brydferthwch bywyd ei gwerin mor ddiofn?  A wnaeth rhywun fwy mewn oes mor fer a than gymylau mor dduon?  Naddo, neb.

Ar fore hyfryd yn yr haf diweddaf, cefais fy hun yng ngorsaf fechan y Bont Newydd, rhyw dair milltir o Ddolgellau.  Aeth y tren ymaith, gan adael dim ond meistr yr orsaf a minnau.  Ar un ochr yr oedd bryn coediog, yr ochr arall yr oedd yr afon; a phrin yr oedd digon o le i’r ffordd fawr a’r ffordd haiarn rhwng yr afon a’r bryn.  Ond dros yr afon yr oedd ychydig ogaeau gwastad, a bryn coediog arall y tu hwnt iddynt.  Y mae’r dyffryn ymysg y culaf o ddyffrynnoedd Cymru.  Ger yr orsaf, dyma bont i groesi afon Wnion.  Y mae golygfeydd swynol i’w gweled oddiar y bont hon,—mynyddoedd uchel gleision i’w gweled ymhob cyfeiriad dros lwyni o goed, a’r afon risialaidd yn murmur yn ddedwydd rhwng y bryniau sydd fel pe’n ymdyrru ati i edrych ar ei thlysni.  Gwlad goediog garegog ydyw hon, y mae’n amlwg, a glynnoedd llawn o ir-gyll a rhedyn.

Ond rhaid peidio aros ar y bont.  Dyma ffordd deg, rhwng gwrychoedd cyll, a rhosynau gwylltion claerwyn fel pe’n gwylio’r teithwyr anaml.  Ar ochrau’r ffordd y mae blodau gwylltion lawer, y llysiau mel tal aroglus, a gwawr felen ar eu gwynder; clychau’r gog gwelw-leision, rhyfeddod i blentyn; a’r ben-galed arw, gyda’i thegwch cartrefol.  Ie, ar y ffordd deg hon, ac ymysg y blodau hyn, y treuliodd y plentyn Ieuan Gwynedd lawer o ddiwrnodau haf ei blentyndod.

Ond dyma’r Ty Croes yn ymyl.  Ydyw, y mae yn union fel y darlunia Ieuan ef pan yn hiraethu am ei fam a bore oes.  Y mae ei dalcen atom, a’i wyneb gwyngalchog i’r ffordd.  Dacw’r dderwen lydanfrig ar ei gyfer, dacw’r cae porfa o flaen y drws, dacw’r pistyll bach mor glir a phan gyrchai Catharin Evans ddwfr o hono aphan geisiai Ieuan Gwynedd gydio ynddo pan yn ddwyflwydd oed.  “Cawsant ran y cyffredin o lafurwyr a mân amaethwyr Cymru,” ebe Ieuan am ei fam a’i dad.  “Ni buont heb y fuwch yn y beudy, yr ychydig ddefaid yn y Cae Porfa, na’r pistyll gloew grisialaidd o flaen y drws drwy yr amser.”  Mewn ychydig funudau croesir y cwm o fryn i fryn,—ond mor ddyledus ydyw Cymru i’r fangre fach!  Yn y bwthyn hwn y bu’r bachgen yn darllen ychydig lyfrau ei dad,—Grawn Sypiau Canan, Taith y Pererin, Llyfr y Tri Aderyn, Ffynhonnau yr Iachawdwriaeth, yr Ysgerbwd Arminaidd, Bardd Cwsg,—a Beibl Coch ei fam.  Dyma’r garreg olchi; oddiar ei phen y bu’r plentyn yn pregethu i’r dderwen fawr a’r pistyll,—blaenor ac arweinydd y gân.  Ac yn rhywle yn ymyl y mae’r llannerch lle syrthiodd ar ei liniau dan argyhoeddiad i weddio, llannerch yr ymwelai â hi bob tro y deuai i edrych am ei fam.  Yma y dadblygodd ei feddwl, dan arweiniad cariadus ei fam; oddiyma yr aeth yn fachgen ieuanc i ymgodymu â holl gyfyngderau myfyriwr tlawd; yma y bu, yn Ionawr, 1849, yn edrych ar wyneb ei fam cyn y wylnos,—yn awr heb na gair na deigryn fel y bu.  Pell y bo’r dydd yr anghofio Cymru y fam hon a’r mab hwn.

“Faint o ffordd sydd oddi yma i Fryn Tynoriad?” ebe fi wrth wraig oedd yn sefyll gyda daublentyn wrth y drws.  Dywedai fod siwrne hir i fyny i gyfeiriad pen y Garneddwen, hyd ffordd y Bala.  Bu dadl rhyngof a’r bachgen bach am oed Ieuan Gwynedd pan symudodd ei rieni o’r Bryn Tynoriad i’r Ty Croes.  O’r diwedd dywedai fod ganddo lyfr setlai’r cwestiwn, llyfr oedd ei frawd hynaf, sydd yn gwasanaethu yng Nghwm Hafod Oer, wedi ei yrru iddo.  Aeth i’r ty, a daeth a rhifyn oGymru’r Plantyn fuddugoliaethus, i roi taw arnaf.

Cychwynnais hyd ffordd dan y coed tua Bryn Tynoriad.  O’m blaen yr oedd Dôl Gamedd, ar fryn, yn debycach o bell i dy Elizabethaidd neu fynachlog na dim arall.  Oddiyno cefais lwybr troed i lawr y cae a thrwy goedwig fechan i’r ffordd haiarn.  Cerddais ennyd hyd hon, gan ryfeddu at ddistawrwydd ac unigedd gwaelod y cwm, lle nad oedd prin le i’r afon a’r ffordd.  Toc gwelwn feudy megis pe’n edrych arnaf dros ochr rugog y ffordd.  Dringfais i fyny ato, a gwelais gaeau, yn lle coedwig fel o’r blaen.  Dechreuais ddringo i fyny.  Yr oedd y distawrwydd yn teyrnasu o hyd, oddigerth fod swn carnau meirch carlamus yn dod o’r ffordd islaw.  Ond wele wlad fawr boblog yn ymddangos wrth i mi ddringo i fyny, ffermydd laweroedd a beudai, a chynhaeaf gwair prysur.  O gwmpas y cylch o ffermydd yr oedd cylch pellach ehangach o fynyddoedd ysgythrog, a gwelwn Gader Idris yncodi’n bigfain i’r niwl tua’r de.  Ni fum mewn lle hyfrytach erioed nag ar ben y banciau hyn.  Aberoedd grisialaidd, ffrwythau addfed, arogl gwair sych cynhauafus, awel y mynydd ac awel y môr,—dyma le i’r gwan gryfhau.  Ar ein cyfer dacw’r Hengwrt Ucha; a thraw ar fin y mynydd, uwch ei ben, dacw’r Blaenau, cartref Rhys Jones, cynhullydd “Gorchestion Beirdd Cymru.”  Ymhellach fyth y mae’r Rhobell gawraidd yn edrych i lawr ar y llethrau a’r dyffryn.

Cefais ymgom ddifyr â llawer amaethwr y diwrnod hwnnw.  Dywedent fel y byddai pawb ar ei dir ei hun unwaith,—Pant y Panel, Coed Mwsoglog, Coed y Rhos Lwyd, Maes y Cambren, Brith Fryniau, a llu ereill,—oll erbyn heddyw wedi eu gwerthu i dir-feddiannwr mawr.  Sylwais gymaint yn dlysach oedd yr hen dai na’r tai sydd newydd eu codi; ond nid oedd amser i holi beth oedd y rheswm.

Heibio llawer cartref dedwydd, a phawb ond y plant a’r cwn yn prysur gario gwair, cyrhaeddais Esgair Gawr.  Yr oedd y cerdded hyd ael y bryniau a thrwy’r coed wedi codi mawr eisieu bwyd arnaf.  Cefais lawer gwahoddiad gan y ffermwyr caredig i droi i mewn “i gael tamaid,” ond yr oeddwn yn cadw fy hun at y te oedd yn Esgair Gawr.  O’r cartref croesawus hwnnw cefais ffordd hyfryd, dros gaeau a than goed, i Fryn Tynoriad.  Gwelais y llyn lle y bu ond ydim i Ieuan Gwynedd foddi cyn bod yn ddwy flwydd oed,—ond anfonodd Rhagluniaeth ryw ffermwr yno mewn pryd.  Y mae Bryn Tynoriad yn agos iawn i ben y Garneddwen,—y mynydd sy’n gwahanu dyffryn y Ddyfrdwy oddiwrth ddyffryn yr Wnion.  Y mae’n bur neilltuedig, mewn cwm main, a gelltydd coediog bob ochr.  Yn awr y mae’r ffordd haiarn yn mynd heibio iddo, a gorsaf Drws y Nant ychydig yn nes i lawr.  Ond unig a thawel ydyw eto.  Y mae dwy aden i’r ty, a chanol, y canol yn dy annedd, a’r adenydd yn ysgubor a beudy.  Wrth ei gefn y mae coed a ffridd serth y Celffant.  O’i flaen y mae cae bryniog dymunol.  Oddiar y cae gwelir yr Wnion fechan islaw, a’r Wenallt goediog ar gyfer.  Gwelir agoriad rhwng y mynyddoedd i gyfeiriad y Bala, dros ddraenen y cymerodd rhywun lawer o ofal gyda’i thyfiant.

Ond gadewch i ni fynd i’r ty.  Y mae ynddo wraig garedig, siaradus, a doniol dros ben,—Anibynwraig bid siwr.  Awn i fyny gris neu ddwy, a dyna’r gegin ar y dde.  Llawr tolciog ydyw, wedi ei lorio â cherrig bychain.  Yr oedd yna dân braf o dan y simnai fawr, a’r tegell yn berwi ar gyfer y cynhauafwyr gwair,—yr oedd y gwlaw wedi gorchuddio’r fro erbyn hyn, a’r gwair mewn diddosrwydd neu ar y cae.

Ac yma y dysgodd Ieuan Gwynedd gerdded.  Nid oedd yn cofio llawer am y lle; ond yr oeddyn cofio’r diwrnod mudo i’r Ty Croes, er nad oedd yn ddwyflwydd oed, oherwydd ei fod wedi medru cario “ystôl mam” ar draws yr aelwyd.  Ac ar yr aelwyd hon y suwyd ef gan ei fam, y magwyd ef gan ei dad, ac y cusanwyd y “bachgen bach” gan ei frawd.  Danghoswyd y “siamber” imi hefyd, yr ochr arall i’r drws, lle ganwyd Ieuan.

Ryw dro bu ef ei hun yn edrych ar fan ei eni.  “Amgylchais y ty yn ol ac ymlaen.  Chwiliais am le y ffenestr o flaen pa un y’m ganesid; ac fel yr oeddwn yn myned ol a blaen o gylch y fan, teimlwn fel na theimlais erioed o’r blaen.  Dyna y llannerch lle y dechreuaswn fyw.  Yno ym brys-fedyddiwyd rhag fy marw’n ddi-fedydd, a chael yr helbul o fy nghladdu yn y nos ym mynwent Dolgellau, yr hon oedd dros saith milltir o ffordd o’r lle.  Yno y gorweddaswn i a fy mam am oriau, a’r bobl yn disgwyl i ni farw am y cyntaf; ac yno y cyneuwyd ynnof y ganwyll yr hon na losga tragwyddoldeb allan.  Yno y dechreuaswn fyw, yno y dechreuaswn farw.  Yno y dechreuais fy llwybr i’r wybrennau, ac yno y dechreuais fy ffordd i’r bedd.”

“Ffordd i’r bedd,” a’r diwedd yn y golwg yn ddigon aml, oedd bywyd byr a brau Ieuan Gwynedd.

Ymysg y gwladgarwyr newidiodd wedd meddwl Cymru yn y blynyddoedd diweddaf, nid y lleiaf oedd ef.

Gwnaeth gymaint am fod ei fywyd mor debyg i fywyd ei frodyr, tra yr oedd amcanion y bywyd hwnnw mor anrhaethol uwch.  Plentyn Cymru oedd ym mhob peth,—ar y Beibl y cafodd ei fagu, sel dros ddirwest ddeffrôdd ei enaid, awydd angerddol am wybodaeth wnaeth iddo fyrhau ei ddyddiau o fyfyrdod tlawd a gwaith amhrisiadwy.

Dyhead ei fywyd oedd gweled Cymru’n lân ac yn rhydd; yn lân oddiwrth bechod, a’i mheddwl yn anibynnol ar bawb ond ar ei Duw.  Ond er mor chwerw oedd yn erbyn ei phechodau, ni fedrai oddef i neb ei chamddarlunio a’i gwawdio, fel y dengys ei ysgrifau miniog yn erbyn bradwyr y llyfrau gleision.

Fel ysgrifennydd y gwasanaethodd Gymru oreu.  Yr oedd ei sel,—a’i afiechyd, efallai,—yn ei wneyd yn chwerw weithiau at ei wrthwynebwyr, ond maddeuir pob gair garw pan gofir am ei lafur llethol gyda’rAdolygydd, a chyda’rGymraesyn enwedig.  Gwelodd mor bwysig oedd merched Cymru; gwyddai y medrent hwy newid y ffasiwn o ddirmygu iaith eu gwlad.  Gwelodd fod ar feddwl Cymru eisieu sylfaen o wladgarwch oleuedig, a buasai wedi ysgrifennu llyfr ar hanes Cymru pe tebyg y rhoddasai ei gydwladwyr groesaw iddo.

“Dyma’r fan, tr’wy byw mi gofiaf,Gwelais i di gynta erioed,O flaen porth yr eglwys eangHeb un twmpath dan dy droed,Mewn rhyw ysbryd dwys sylweddol,Fel yng ngolwg dydd a ddaw,Yn cynghori dy blwyfolion,A dweyd fod y farn ger llaw.”

“Dyma’r fan, tr’wy byw mi gofiaf,Gwelais i di gynta erioed,O flaen porth yr eglwys eangHeb un twmpath dan dy droed,Mewn rhyw ysbryd dwys sylweddol,Fel yng ngolwg dydd a ddaw,Yn cynghori dy blwyfolion,A dweyd fod y farn ger llaw.”

Eglwys Talgarth

Adyma’reglwys lle gorwedd Howel Harris, udgorn y Diwygiad!  Yn yr eglwys acw yr argyhoeddwyd ef, a rhoddwyd ef i orwedd lle y clywodd lais Duw yn cynnyg trugaredd iddo.  A dacw’r fan lle pregethai pan basiodd William Williams, ar ei ffordd adref o’r ysgol i Bant y Celyn.  Bore gofiwyd byth gan William Williams oedd hwnnw,—

“Dyma’r boreu, byth mi gofiaf,Clywais innau lais y nef;Daliwyd fi wrth wys oddiuchod,Gan ei swn dychrynllyd ef.”

“Dyma’r boreu, byth mi gofiaf,Clywais innau lais y nef;Daliwyd fi wrth wys oddiuchod,Gan ei swn dychrynllyd ef.”

Ychydig o lanerchi ar ddaear Cymru sydd mor gysegredig i deimlad Cymro a’r llannerch hon,—lle gwelwyd apostol cynhyrfus y Diwygiad yn pregethu argyhoeddiad i emynnwr y Diwygiad.

Llannerch dawel, brydferth ydyw.  Y mae ar ychydig o godiad tir, a dringir iddi o dref fechan Talgarth welwn o bobtu i aber Enig a helyg ac ysgaw rhyngom a hi.  Y mae golwg hyfryd ar y wlad oddiamgylch, saif cylch o fynyddoedd gwyrddleision fel gwylwyr uwchben y fynwent, a chyfyd tŵr ysgwar yr eglwys i fyny’n uchel ac yn hyf, i ddangos yspotyn mwyaf cysegredig y fro ddyddorol a phrydferth hon.  Y mae’n bedwar o’r gloch ar gloc yr eglwys, ac y mae distawrwydd adfywiol nawn haf wedi disgyn, fel gwlith, ar y wlad ffrwythlawn dyfadwy.  Y mae rhyw orffwys breuddwydiol yn meddiannu f’enaid innau wrth neshau at y fynwent; a su hen ddigwyddiadau, fel ysbrydion llawer cnul a llawer claddfa, yn llenwi’r distawrwydd ar nawn haf.  Y mae hud dros bopeth, prin y mae digon o natur beirniadu ynnof i gael poen oddiwrth y cerrig beddau di chwaeth, gyda’u llythrennau efydd, sydd ym mhlith hen gerrig mwsoglyd y fynwent.  Sefais, ar ddamwain, cyn dod at borth yr eglwys, a disgynnodd fy ngolwg ar enw Howel Harris.  Carreg fedd ei dad oedd.  Ar hon y dywedir fod Howel Harris yn pregethupan safodd Williams Pant y Celyn wrth fynd heibio, i glywed ei alwad ef ei hun.  Y mae’r llythrennau mor berffaith ag oeddynt pan safai Howel Harris, os safai hefyd, ar y garreg i gyhoeddi ei newyddion rhyfedd.  Yr oedd gwirioneddau’r byd tragwyddol mor fyw o’i flaen ef fel mai prin y sylwai, hwyrach, ar yr olygfa o’i gwmpas.  Eneidiau anfarwol, nid mynyddoedd a lamant fel hyrddod a bryniau a branciant fel ŵyn defaid, a welai ef.  Ond maddeuer i mi, o gyneddfau gwannach a chyda llai o ddychymyg, am syllu ar yr olygfa.  Y mae’n araf godi o’m blaen, fel yr oedd y diwrnod y daliwyd yr emynnwr â gwys oddi uchod.  Dacw Howel Harris ar y garreg fedd, a’i lais yn ddychryn i’r dyrfa sy’n gwelwi o’i flaen.  Dacw wr ieuanc ar ei ffordd adref o’r ysgol wrth ddrws y fynwent, yn gwasgu’n agosach i gwr y dorf, ac yn colli golwg arno ei hun wrth wrando, mewn syndod a dychryn, ar y llais taran hwnnw.  O flaen y pregethwr y mae chwech o yw mawreddog,—y maent yno eto yn eu duwch wylofus,—a thref Talgarth.  Uwchben dacw’r Mynydd Du; ac o amgylch y mae bryniau blodeuog ardal sydd ymysg ardaloedd tlysaf Cymru.

Ni raid myned ymhell i gael hanes olaf y pregethwr gynhyrfodd fwyaf ar Gymru o’r holl bregethwyr fu yng ngwlad y pregethu erioed.  Eis ymlaen trwy’r fynwent, ac at ddrws yreglwys.  Y mae’r eglwys yn isel a llydan; ac yn drymaidd iawn y tu mewn.  Cerddais yng nghyfeiriad y côr, a gwelwn ysgrifen hanes Howel Harris ar garreg.

Gwelais lawer carreg fedd mewn llawer gwlad mewn llawer lle rhyfedd,—gwelais y garreg ar fedd gwag Dante, gwelais fedd Chateaubriand mewn craig yn nannedd y tonnau, gwelais feddau rhai enwog mewn eglwysi mawrwych,—ond ni theimlais gymaint yn unlle ag yn eglwys drymaidd dywell Talgarth.  Hyfryd i Howel Harris oedd huno lle y clywodd y bywyd newydd yn ymweithio yn ei enaid.  Teimlwn fod mwy na bedd yn eglwys Talgarth; teimlwn fy mod ar lecyn genedigaeth Cymru newydd.  Beth bynnag arall fedrir ddweyd am ei hyawdledd ac am ei athrylith, ac am ei gynlluniau rhyfedd, gellir priodoli deffroad Cymru, o gwsg oedd yn marweiddio ei nherth cenhedlaethol, iddo ef yn fwy nag i neb arall.

Ond y mae ychwaneg na’i hanes ef ar y garreg, digon i’m hadgofio am y teimladau daiarol,—teimladau ag arlliw y nef arnynt,—oedd mor gryf yn ei enaid.  Ar ei deithiau pregethu, yn ei weddiau, yn ei freuddwydion, yn ei ofnau, y mae un nad enwa yn bresennol yn barhaus.  Bum yn darllen ei lythyrau ati, a’r cynnyg priodas.  Wedi hanes yr ymserchu a’r ofni,—stori sydd mor hen, ac mor newydd,—dyma eihanes olaf hithau, wedi siarad am yr lesu â’i hanadl olaf.

Mewn awr hamddenol, ryw dro, cesglais lythyrau caru dyddorol.  Yn eu mysg yr oedd un oddiwrth Nathaniel, mab Daniel Rowland, at ferch Howel Harris.  Y mae yma air o’i hanes hithau, unig blentyn eu gofal, ar waelod y garreg.

Cwsg yn hyfryd, apostol Cymru,—

“Cwsg i lawr yn eglwys Talgarth,Lle nad oes na phoen na gwae;Mi gai godi i’r lan i fywyd,Sy’n dragwyddol yn parhau.”

“Cwsg i lawr yn eglwys Talgarth,Lle nad oes na phoen na gwae;Mi gai godi i’r lan i fywyd,Sy’n dragwyddol yn parhau.”

Cawsom fwynhau golygfeydd prydferth ac awel nawnol yn suo dros gae o feillion peraroglus wrth gerdded y filldir sydd rhwng Talgarth a Threfeca.

Trefeca. Yr ochr agosaf at Dalgarth

A dacw Drefeca yn y golwg.  Ymgyfyd fel llinell hir o gestyll a thai diwedd y Canol Oesoedd, dros gaeau gweiriog.  Oni bai am y capel hyll ar y chwith, buasai’n adeilad tarawiadol a phrydferth iawn.  Yma, mewn tawelwch, y treuliodd Howel Harris y rhan fwyaf o’i oes.  Wedi’r ymrafael, pan welodd ei fod yn colli gafael ar y dychweledigion drowd trwy ei weinidogaeth ef ei hun, gadawodd ei bregethu teithiol, ac ymneillduodd i’w gartref, gan wneyd Trefeca yn gartref i bawb hoffai adael ei fro a dyfod i gydweithio ac i gyd-addoli.  Ffurfiai’r holl gwmni un teulu, yr oedd eu heiddo’n gyffredin, ac yr oedd cynilun eu bywyd yn debycach i freuddwyd rhyw athronydd nag i gynllun yn cael ei weithio allan gyda brwdfrydedd a llwyddiant.  Tuag at gadw cymdeithas fel hyn gyda’i gilydd yr oedd eisiau mwy na chrefydd a hyawdledd, yr oedd eisieu medr anghyffredin mewn trin dynion.  Nid oes odid i ddim yn hanes Cymru mor ddyddorol ag ymgais Howel Harris i sylweddoli, rhwng bryniau Cymru, gynllun yr eglwys yn nyddiau yr apostolion.  Yng ngwyneb pob anhawsderau,—diogi, ymrysonau, gwrthgiliad, priodi anghydmarus ymysg aelodau’r teulu,—yr oedd Trefeca dan Howel Harris yn llwyddo ac yn blodeuo.  Bu’n fwy llwyddiannus, hwyrach, na’r un a geisiodd sefydlu cymdeithas o’r fath.  Yn grefyddwyr, yn filwyr, yn weithwyr,—enillodd “Teulu Trefeca” barch ac edmygedd rhai wawdiai, ar y cyntaf, y syniad o godi mynachlog yn Nhrefeca.  Ebe Williams Pant y Celyn,—

“Pam y treuliaist dy holl ddyddiauI wneyd rhyw fynachlog fawr,Pan y tynnodd Harri freninFwy na mil o’r rhain i lawr?Diau buasit hwy dy ddyddiau,A melusach fuasai’n ’nghân.Pe treuliasit dy holl amserYng nghwmpeini’r defaid mân.”

“Pam y treuliaist dy holl ddyddiauI wneyd rhyw fynachlog fawr,Pan y tynnodd Harri freninFwy na mil o’r rhain i lawr?Diau buasit hwy dy ddyddiau,A melusach fuasai’n ’nghân.Pe treuliasit dy holl amserYng nghwmpeini’r defaid mân.”

Nid yn aml y cofir mai ychydig o’i oes roddodd Howel Harris i bregethu.  Cwestiwn ei frodyr oedd,—

“Pam y llechaist mewn rhyw ogof,Castell a ddyfeisiodd dyn.Ac anghofiaist y ddiadellArgyhoeddaist ti dy hun?”

“Pam y llechaist mewn rhyw ogof,Castell a ddyfeisiodd dyn.Ac anghofiaist y ddiadellArgyhoeddaist ti dy hun?”

Ond ffurfio “teulu,” tebyg, i’r eglwys yn adeg yr apostolion, oedd ei amcan ef; a gwastraffodd ar Drefeca y llafur yr oedd holl Gymru yn dyheu am dano,—

“Ai bugeilia cant o ddefaid,O rai oerion, hesbion, sych,Ac adeilo iddynt balasA chorlannau trefnus gwych,—Etyb seinio pur Efengyl,Bloeddio’r Iachawdwriaeth rydd,O Gaerlleon bell i Benfro,O Gaergybi i Gaer Dydd?”

“Ai bugeilia cant o ddefaid,O rai oerion, hesbion, sych,Ac adeilo iddynt balasA chorlannau trefnus gwych,—Etyb seinio pur Efengyl,Bloeddio’r Iachawdwriaeth rydd,O Gaerlleon bell i Benfro,O Gaergybi i Gaer Dydd?”

Dyma ni’n troi o’r ffordd, ar hyd rhodfa trwy gae gwair, at wyneb y coleg.  O’i flaen y mae coed bytholwyrdd lawer; ac y mae golwg henafolar yr holl adeilad mawr di drefn, ar ei ffenestri crynion tyrog, gyda’r cloc a’r lantar yn sefyll uwchben y cwbl.  Aethom heibio’r wyneb, a thrwy ddrws yn yr ochr i ystafelloedd bychain, ond hynod ddiddos a chysurus.  Wedi hwyr-bryd blasus, digwyddais edrych ar nenfwd wyngalchog yr ystafell yr eisteddem ynddi, a gwelwn enw Jehofah mewn llythrennau Hebraeg uwch ein pen.  Dywedodd yr athraw wrthyf mai yn yr ystafell hon yr arhosai Countess Huntingdon pan ar ymweliad â Howel Harris, ac y mae’n sicr fod arddeliad mawr wedi bod ar lawer dyledswydd deuluoidd yn yr ystafell gysegredig.

Trefeca. Rhan o’r wyneb

Treuliais amryw ddyddiau dedwydd yn Nhrefeca.  Crwydrwn, wrth f’ewyllys, drwy’r ystafelloedd lluosog, fu unwaith yn gartref i “deulu” rhyfedd Howel Harris.  Teimlwn fod Trefeca yn gynllun o goleg,—mewn lle iach tawel.  Hen weithdy’r “Teulu” ydyw un o’r ystafelloedd darlithio, a danghoswyd i mi dwll trwy yr hwn y gallai Howel Harris weled, yr adeg a fynnai, pa fodd yr oedd pethau’n mynd ymlaen yn y gweithdy.  Y mae’r llyfrgell yn cynnwys un o’r casgliadau goreu o lyfrau Cymraeg welais erioed; casglwyd hi, yr wyf yn meddwl, trwy lafurus gariad y Parch. Edward Matthews.  Cynhwysa hefyd ddyddiaduron a llythyrau Howel Harris, a llawer o lythyrau ereill deifl oleuni dyddorol iawn ar gynlluniau a gwaith Howel Harris.

Nid oes fawr o ffordd o Drefeca i Lyn Safaddan.  Llecyn mwyn ydyw’r llyn hwn, treuliais ddiwrnod hyfryd ar ei ddyfroedd.  Croesasom ef droion a gadawsom i’r cwch sefyll ymysg yr hesg tal sy’n tyfu o waelod y llyn tra’r oeddym yn gwylio’r eleirch ac yn mwynhau’r golygfeydd oedd wedi ymddelwi yn y dyfroedd clir.  Dyma le tawel, lle wrth fodd y myfyrgar, dan gysgod Mynydd Troed, ac o fewn ychydig i gyrchfannau miloedd glowyr y Deheudir.  Tra’n mwynhau’r awelon hafaidd, cofiwn am y traddodiadsydd ynglŷn a’r llyn,—fod ei ddyfroedd yn cuddio dinas bechadurus suddodd i’r ddaear dan bwys ei drygioni.

Gadewais Drefeca yn blygeiniol, ac yr oedd awel iach y bore yn gwneyd fy meddwl yn ddigon effro i gofio darluniad Williams adeg marw Howel Harris,—

“Mi af heibio i’r palas euraiddSydd â’r angel ar ei ben,’Drychaf ar y castell cadarnSy a’i begynau yn y nen;Ac mi rof ochenaid ddofon,Gan ryw synnu ynnwyf f’hun,Fel mae’r nef yn trefnu ei throionI ddiddymu dyfais dyn.“Er cadarned yw’r adeilad,Ac er teced yw ei wedd,Y mae’r perlyn goreu ynddoHeddyw’n gorwedd yn ei feddAc nis gwel e mwy mo honoFel y gwelodd ef o’r bla’n,Hyd y dydd bo’n cael ei losgiGyda’r byd yn danllwyth dân.”

“Mi af heibio i’r palas euraiddSydd â’r angel ar ei ben,’Drychaf ar y castell cadarnSy a’i begynau yn y nen;Ac mi rof ochenaid ddofon,Gan ryw synnu ynnwyf f’hun,Fel mae’r nef yn trefnu ei throionI ddiddymu dyfais dyn.

“Er cadarned yw’r adeilad,Ac er teced yw ei wedd,Y mae’r perlyn goreu ynddoHeddyw’n gorwedd yn ei feddAc nis gwel e mwy mo honoFel y gwelodd ef o’r bla’n,Hyd y dydd bo’n cael ei losgiGyda’r byd yn danllwyth dân.”

Steps leading to house

Ymae’nddiameu mai Gwerfyl Fychan ac Ann Griffiths ydyw dwy brydyddes oreu Cymru.  Yr oedd Gwerfyl yn byw yn amser adfywiad dysg, a rhoddodd ei hathrylith ar waith i weu caneuon aflendid,—ac y mae bron a medru gwneyd yr aflan yn brydferth.  Yr oedd Ann Griffiths yn byw yn amser adfywiad crefydd, a daeth emynnau pur o’i chalon fel dwfr glân o ffynnon y mynydd.

Y mae’r ddwy wedi eu claddu,—ac fel y mynnai pethau fod, yn yr un fan.  Yn Llanfihangel yng Ngwynfa y claddwyd Gwerfyl Fychan hefyd,—y mae’r un ymddigrifodd mewn meddyliau cnawdol yn huno ochr yn ochr â’r hon ymhyfrydodd mewn meddyliau sanctaidd.

Saif Caer Gai ar fryn uwch pen gorllewinol Llyn Tegid, a haul y bore’n tywynnu arno’n gynta man.  Y mae traddodiadau boreuaf ein hanes ynglyn âg ef.  Ar y dolydd islaw iddo, meddid, y cafodd Arthur ei addysg.  Bu’n balas Rhufeinig; ac aml iawn y cwyd swch yr aradr briddfaen Rhufeinig, neu garreg fedd rhyw filwr, neu ddarn arian a delw ymherawdwr arni, neu ddarn o lestr loew goch.

Mewn amser diweddarach yr oedd yn gartrefy Fychaniaid.  Y mae darnau o brydyddiaeth Gwerfyl yn nofio ar gof gwlad eto.  Gŵyr pawb am yr hen frenhinwr pybyr Rowland Fychan, cyfieithydd yrYmarfer Duwioldeb.  Ond gŵyr yr efrydydd am aml Fychan arall hyddysg mewn cywydd ac englyn.

Wrth rodio’r hen fynedfa i fyny at Gaer Gai, er cymaint o feddyliau ddaw am hanes ein cenedl, rhaid syllu ar fawredd rhyfeddol y fro.  Y mae cefn mawr llwm yr Aran tuag atom, y mae’r Garneddwen yn gorwedd yn isel rhwng ei chwiorydd cawraidd, a gwga olion hen gastell Carn Dochan oddi ar gopa craig serth ysgythrog ar ein cyfer.  Odditanom cwsg dyfroedd gloew Llyn Tegid, ac ar ein cyfer, dros y dŵr, y mae bryniau gwyrddion uchel groesid gynt gan ffordd Rufeinig.  Mae’r gerddi’n aros ar y llecyn heulog, ac y mae pantle’r ffos yn amlwg; ond ni chlywais erioed hanes cloddio i chwilio am drysorau neu feddau y Rhufeinwyr fu yma gynt.

Y ty adeiladodd Rowland Fychan, ond wedi ei adgyweirio ymron drwyddo, sydd yno’n awr.  Y mae geiriau yr hen frenhinwr selog wrth ben y drws,—

“Rho glod i bawb yn ddibrin,A châr dy frawd cyffredin;Ofna Dduw, cans hyn sydd dda,Ac anrhydedda’r brenin.”

“Rho glod i bawb yn ddibrin,A châr dy frawd cyffredin;Ofna Dduw, cans hyn sydd dda,Ac anrhydedda’r brenin.”

Cefn Brith

“Os anghofiaf di, Jerusalem, anghofied fy neheulaw ganu.  Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau oni chofiaf di, oni chodaf Jerusalem goruwch fy llawenydd pennaf.”—Salmcxxxvii. 5–6.  Ar wynebddalen “Supplication” John Penri dros Gymru.

“Os anghofiaf di, Jerusalem, anghofied fy neheulaw ganu.  Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau oni chofiaf di, oni chodaf Jerusalem goruwch fy llawenydd pennaf.”—Salmcxxxvii. 5–6.  Ar wynebddalen “Supplication” John Penri dros Gymru.

Yroedd cyfaill i mi unwaith yn cyd-deithio yn y tren â’r diweddar Barch. J. Kilsby Jones, o Lanfair Muallt i Lanwrtyd.  Ymhen tipyn wedi gadael Llechryd, dyma Mr. Jones yn tynnu ei het, ac yn dweyd,—“Yr ydym yn awr ar dir clasurol.  A welwch chwi’r llwyn o goed acw?  Dacw Gwm Llywelyn.  A welwch chwi’r ty ar ochr y bryn i fyny acw?  Dacw’r ty y ganwyd John Penri ynddo.  John Penri a ddywedodd wrth yr Ymneillduwyr am fynd i’r Amerig.  Ie, yn y bwthyn acw y ganwyd y syniad am weriniaeth fawr y Gorllewin.”

Y mae’n sicr mai’r awydd am ryddid cydwybod,—yr awydd gafodd John Perni’n ferthyr iddo,—a roddodd fod i’r weriniaeth fawr honno.  Ond nid am yr hyn a wnaeth Penri i’r Weriniaeth nas gwelsai ond trwy ffydd, nid am hynny y meddyliwn wrth ddisgyn yng ngorsaf Llangamarch ym mis Gorffennaf diweddaf, eithr am yr hyn a wnaeth dros Gymru, cyn rhoddi ei fywyd ieuanc i lawr drosti am bump o’r gloch y prydnawn, ar y nawfed dydd ar hugain o Fai, 1593.

Y mae ardal Llangamarch yn un o’r ardaloedd mwyaf mynyddig yng Nghymru, er nad yw Mynydd Epynt a mynyddoedd Aber Gwesin mor uchel a’u brodyr sy’n sefyll rhyngddynt a gwynt ac eira’r gogledd.  Wrth fynd tua Llangamarch o Fuallt yr oeddym yn dringo i fyny o hyd, yng nghyfeiriad y mynyddoedd sy’n derfyn rhwng dyffrynnoedd yr Wy a dyffrynnoedd y Tywi.  Teithiem i fyny dyffryn yr afon Dulais, un o ganghennau’r Wy; o bobtu i ni yr oedd rhes o fynyddoedd, a gwlad fryniog rhyngddynt, a thai ar y bryniau.  Dyma’r tren yn aros ar lethr y dyffryn, mewn man cul arno.  Ar y llaw dde y mae eglwys ar ochr y bryn, yr eglwys lle mae claddfa Cefn Brith, a’r eglwys lle’r huna Theophilus Jones, hanesydd Brycheiniog.  I lawr odditanom, ar y chwith, y mae’r Ddulais dryloew ond yn rhy bell i lawr i niglywed ei dwndwr ar ei cherrig a’i graian.  Cerddais i lawr o’r orsaf, a sefais ennyd ar y bont sy’n croesi’r afon brydferth.  Tra’r oeddwn yn edrych i fyny’r afon ar y glennydd coediog, ac ar y mynyddoedd oedd draw dan eu gorchudd llwyd o wlaw, clywn swn troed trwm, swn rheolaidd fel swn troed rheng o filwyr.  Heddgeidwad oedd yno.  “Rhagluniaeth a’i hanfonodd yma,” meddwn wrthyf fy hun, “daeth i’r dim, caf ei holi am y ffordd.”

“Wr braf,” meddwn wrtho, “a welwch chwi’n dda gyfarwyddo dyn dieithr i Gefn Brith?”

“I don’t know what you say, you should speak English.”

“Mae hynny’n orthrwm mawr,” meddwn innau, “na chawn siarad Cymraeg â swyddogion cyflog mewn lle mor Gymreig a Llangamarch.”  Ffordd bynnag, er siarad Saesneg âg ef, a Saesneg llawer gwell na’i Saesneg ef hefyd, ni chefais ddim gwybodaeth ganddo.  Gwelais yn eglur mai nid Rhagluniaeth wnaeth hwn yn heddgeidwad, ond prif-gwnstabl Seisnig.  A rhyfeddwn yn fawr fy mod wedi camgymeryd gwaith y naill am waith y llall.  Ar ororau’r Deheudir y mae llawer o syniadau hen ddyddiau’r Lords Marchers eto’n aros, tybir gan yr awdurdodau mai llywodraethu’r Cymry yw eu gwaith, ac nid eu gwasanaethu.  Ac y mae gormod o’u hen waseidd-dra yn y Cymry hyn eto,mwy o ofn plismon anwybodus o Sais nag o ofn Cymro gonest a chydwybodol.  Ond tybed, er hyn, mai Sais uniaith ddylai ofalu am heddwch Llangamarch?

O’r bont cerddais i’r pentref, pentref bach ar lan yr afon dan gysgod bryn.  Gofynnais i’r wraig gyntaf gyfarfyddais am y ffordd i Gefn Brith; atebodd hithau, gen gynted a’r gwynt, drwy ofyn cwstiwn arall, “Ich chi’n blongo iddi nhw?”  Wedi i mi ddweyd digon o fy hanes i’w boddloni, rhoddodd gyfarwyddiadau manwl i mi, a desgrifiadau maith o ffyrdd, trofeydd, coed, a thai.  Anghofiais y rhan fwyaf wrth gerdded i fyny gyda glan yr afon; ac erbyn i mi holi yr ail waith yr oeddwn wedi mynd yn rhy bell o lawer hyd ffordd Llanymddyfri, ac wedi anghofio troi.  Troais yn ol; a gwelwn ffordd drol ar y llaw dde yn arwain o’r gwastad, ac yn dirwyn i fyny ochr y bryn.  Cerddais innau hyd hon, ffordd leidiog is na’r caeau o’i chwmpas.  Erbyn hyn yr oedd yn gwlawio’n drwm, a da oedd cael cysgod y gwrychoedd uchel trwchus.  Bum am gwarter milltir heb weled fawr ond bedw a gwern; yna, wrth i mi godi uwchlaw’r dyffryn, daeth y wlad agored i’r golwg, ac ambell lygeidyn o haul arni trwy’r gwlaw.  Wedi cyrraedd pen y bryn, cefais olygfa ogoneddus ar fryniau a dyffrynnoedd yn ymestyn i’r gorllewin.  Bum yn cerdded am beth, amser hyd ffordd wastad,gyda’r dyffryn ar y llaw dde, a mynyddoedd, at y rhai yr oeddwn yn dod agosach agosach, ar y llaw chwith.  Ar odrau’r mynyddoedd hyn yr oedd ffriddoedd, llawer glyn cul coediog, a llawer hafan werdd.  O’r diwedd dois i olwg y ty; nid oedd y pellder gerddais ond rhyw ddwy filldir a hanner, ond tybiwn ei fod yn ychwaneg, oherwydd fod cymaint o dynnu i fyny a fod y ffordd mor drom gan y gwlaw.

Ond anghofiais bol lludded a dillad gwlybion wrth edrych ar yr olygfa welir o ymyl Cefn Brith.  Gwelwn lwybr yn mynd at wyneb y ty trwy ganol gweirglodd weiriog wlithog; ac yr oedd y ffordd yn rhoi tipyn o dro, ac yn mynd heibio’r adeiladau.  I ba gyfeiriad bynnag yr edrychwn, gwelwn fynyddoedd yn edrych arnaf or tu cefn i fynyddoedd.  I’r gorllewin, dros Gefn Gorwydd a phentref a chapel mawr, yr oedd mynyddoedd Llanwrtyd ac Ystrad Ffin; ac ar yr ochr arall yr oedd hafannau gwyrddion mynyddig, gydag ambell goeden griafol ac ambell fedwen yn ymddyrchafu mewn tlysni dan wlith y cawodydd a gwên yr haul.  Dyma’r ardaloedd y bu John Penri yn meddwl am danynt pan yn ffoadur yn Lloegr a’r Alban, yr ardaloedd gafodd bryder ei fywyd a’i feddyliau olaf.

Adeg ryfedd oedd yr adeg y bu Meredydd Henri yn disgwyl John adre o’r ysgol i’r llemynyddig hwn.  Yr oedd teimlad angerddol dros undeb Lloegr, yn wladol ac yn eglwysig.  Dyma’r adeg yr oedd Elisabeth yn “Faerie Queene” i Loegr a Chymru, dyna’r adeg yr aeth Lloegr drwy beryglon oddiwrth alluoedd pabaidd Ewrob, dyna’r adeg y danghosodd Shakespeare mai aflwydd ddaw i wlad lle y gwrthwynebir y brenin, eneiniog Duw.  Ufuddhau i’r frenhines, caru’r eglwys genhedlaethol, a diolch i Ragluniaeth am gael byw yn yr amser hwnnw—dyna dybiai ysbryd yr oes oedd dyledswydd dyn.  Ac i Gymro, beth oedd mor unol â’i natur?

Ond yr oedd yn yr amaethdy mynyddig hwn un welodd hanes oesoedd i ddod, un ddanghosodd yn glir beth fyddai dyfodol Cymru.  Gwelai fod yr eglwys yn esgeuluso Cymru, ac yn gwrthod rhoi yr efengyl iddi yn ei hiaith ei hun; teimlodd rym yr efengyl a gwelai Gymru yn ei phechodau.  Agorodd tosturi a phryder ei lygaid, a daeth mab yr amaethwr yn broffwyd ei wlad.

Ganwyd John Penri yng Nghefn Brith, yn y ty sydd o’m blaen, yn 1559.  Aeth i Gaer Grawnt yn bedair ar bymtheg oed, ac yno clywodd y Piwritaniaid cyntaf,—rhai ddywedai nad oedd y Diwygiad wedi ei orffen.  A feallai iddo gael cipolwg ar wirionedd mawr y dyfodol,—y medrai gwlad fod yn gadarn ac unol hebgrefydd genhedlaethol y gellid goddef i gydwybod pob dyn ffurfio ei grefydd ei hun.  O’r brifysgol, deuai Penri i fynyddoedd Brycheiniog yn ystod ei wyliau, ac nis gallai lai na theimlo mor ofergoelus oedd Cymru,—gwlad oedd wedi colli ei Phabyddiaeth, ac heb gael eto ddim yn ei lle.  Yn 1586 daeth i Rydychen, ac yma, y mae’n debyg, yr ysgrifennodd ei bamffled ar sefyllfa resynus Cymru, y pamffled anfonodd yn 1587 i’r frenhines a’r senedd.  Dychrynnodd y pamffled hwnnw lawer, a pha ryfedd, oherwydd gofynnid ynddo am hawl i leygwyr Cymru bregethu’r efengyl.  Er i’r hyn ddywedid ynddo gael ei ddweyd yr y Senedd hefyd, gwysiwyd Penri o flaen yr awdurdodau eglwysig, o flaen yr Archesgob Whitgift a’r esgobion.  Rhaid maddeu llawer i’r rhain pan gofiwn mai cred eu hoes oedd fod yn rhaid, er diogelwch, lladd pob gwrthryfel yn erbyn sefydliadau cenhedlaethol.  Dywedasant wrth Benri nas gellid goddef ei syniad nad oedd clerigwr na phregethai yn weinidog Crist.  Cyhoeddodd yntau ryfel yn erbyn yr awdurdodau trwy ddweyd y collai ei fywyd cyn y rhoddai’r syniad hwnnw i fyny.

Yn 1588, blwyddyn yr oedd Lloegr yn hanner addoli ei brenhines a’i heglwys wedi’r Armada, blwyddyn Beibl yr Esgob Morgan, yn y flwyddyn honno cyhoeddodd Penri bamffled arall.  Mewn iaith hyawdl, condemnia’r ymgais ffol i“geisio achubiaeth i ddynion trwy ddarllen iddynt yr hyn na fedrant ddeall”

“Ychydig salmau, gydag un bennod o’r Testament Newydd yn Gymraeg,—oherwydd ni siaradodd yr Hen Destament Gymraeg yn ein dyddiau ni, er ei fod, er llawenydd mawr i mi, yn barod i’w argraffu,—hyn yn unig yn cael ei ddarllen mewn dull gresynus, heb un mewn deg yn ei ddeall, ai dyma’r moddion, ysywaeth, a ordeiniodd Duw i hysbysu i bawb yng Nghymru beth yw cymdeithas y dirgelwch?”

“Ychydig salmau, gydag un bennod o’r Testament Newydd yn Gymraeg,—oherwydd ni siaradodd yr Hen Destament Gymraeg yn ein dyddiau ni, er ei fod, er llawenydd mawr i mi, yn barod i’w argraffu,—hyn yn unig yn cael ei ddarllen mewn dull gresynus, heb un mewn deg yn ei ddeall, ai dyma’r moddion, ysywaeth, a ordeiniodd Duw i hysbysu i bawb yng Nghymru beth yw cymdeithas y dirgelwch?”

Trydd at yr esgobion yn gynhyrfus,—

“O chwi esgobion Cymru, y rhai a ddibrisia ei enw Ef, os gofynnwch pa fodd y dibrisiasoch ef, atebir mai trwy gynnyg y cloff a’r dall a’r anafus i weinidogaeth yr Arglwydd, gan ddweyd nad ydyw hyn yn ddrwg.  Felly dibrisiwch enw Duw trwy ddweyd nad oes eisieu gofalu am ei wasanaeth.  Wrth weled eich bod chwi eich hunain yn gwybod, a fod holl Gymru’n gwybod, eich bod wedi rhoddi yn yr alwedigaeth gysegredig ddynion cnafaidd a drwg fu’n crwydro drwy’r wlad dan enw ysgolheigion, afradloniaid a gwyr gweini wnaeth y weinidogaeth yn noddfa olaf iddynt; wrth weled eich bod yn gadael yny weinidogaeth rai y gwyddis eu bod yn buteinwyr a meddwon a lladron a rhai’n tyngu’n erchyll, rhai y dywed Job mai gwaelach na’r ddaear ydynt,—oni ddywedwch, trwy hyn oll, nad oes eisieu gofalu am wasanaeth yr Arglwydd?  Os goddefwch hwynt, ac os arhoswch eich hunain yn lladronllyd o faes eich dyledswydd, a ydych chwi’n meddwll am anrhydedd yr Arglwydd ac am iachawdwriaeth ei bobl?”

“O chwi esgobion Cymru, y rhai a ddibrisia ei enw Ef, os gofynnwch pa fodd y dibrisiasoch ef, atebir mai trwy gynnyg y cloff a’r dall a’r anafus i weinidogaeth yr Arglwydd, gan ddweyd nad ydyw hyn yn ddrwg.  Felly dibrisiwch enw Duw trwy ddweyd nad oes eisieu gofalu am ei wasanaeth.  Wrth weled eich bod chwi eich hunain yn gwybod, a fod holl Gymru’n gwybod, eich bod wedi rhoddi yn yr alwedigaeth gysegredig ddynion cnafaidd a drwg fu’n crwydro drwy’r wlad dan enw ysgolheigion, afradloniaid a gwyr gweini wnaeth y weinidogaeth yn noddfa olaf iddynt; wrth weled eich bod yn gadael yny weinidogaeth rai y gwyddis eu bod yn buteinwyr a meddwon a lladron a rhai’n tyngu’n erchyll, rhai y dywed Job mai gwaelach na’r ddaear ydynt,—oni ddywedwch, trwy hyn oll, nad oes eisieu gofalu am wasanaeth yr Arglwydd?  Os goddefwch hwynt, ac os arhoswch eich hunain yn lladronllyd o faes eich dyledswydd, a ydych chwi’n meddwll am anrhydedd yr Arglwydd ac am iachawdwriaeth ei bobl?”

Mewn adeg ogoneddus yn hanes a llenyddiaeth Lloegr yr ymddanghosodd y llyfr chwerw hwn, pan oedd pob un yn tybied mai ei ddyledswydd oedd cynnal breichiau’r frenhines Gymreig oedd ar orsedd Lloegr a’r Iwerddon a Chymru.  Dyma gyfnod gwladgarwch ar ei gryfaf, oes aur Eglwys Loegr a llenyddiaeth Seisnig.  Ond nid oes Gymro fedr ddarllen llyfr Penri heb gydymdeimlo âg ef yn llwyr, a hynny ymhell cyn dod at y geiriau olaf,—

“Your poore countrey-man,who in all dutiful good will hath wholy dedicated himself to doe you good in the Lorde.Iohn Penri.”

“Your poore countrey-man,who in all dutiful good will hath wholy dedicated himself to doe you good in the Lorde.

Iohn Penri.”

Yr oedd ar lywodraethwyr Cymru ofn yr iaith Gymraeg, yr oedd y gyfraith yn gwahardd i’r un swyddog ei siarad, a gwelodd Penri nad oedd obaith i Gymru oddiwrth y frenhines na’r Senedd,—yr oedd pregethwyr lleyg a chyfraniadau gwirfoddol yn bethau rhy newydd.  Diangodd i’r Alban rhag ei erlidwyr, ond ni fedrai aros mewn heddwch yno, gan ei gariad angerddol at Gymru.  Daeth yn ol i Lundain, gan ddisgwyl cael caniatad i fynd i Gymru i bregethu, ac ymunodd a’r ddiadell o Anibynwyr oedd yno.  Yr oedd ei erlidiwr ar ei ol, a gwysiwyd ef o flaen yCourt of High Commission, llys eglwysig y frenhines.  Cyhuddid ef ar gam o ysgrifennu’rMartin Mar-Prelate Tracts, rhai y mae eu hyspryd chwerw gwawdlyd yn anhebyg i ysbryd tyner a difrifol ei ysgrifeniadau ef.  Ychydig o obaith am gyfiawnder oedd i un garcherid gan weinidogion y Tuduriaid; ac yn l592 yr oedd Penri yng ngharchar, wedi rhoddi i fyny bob gobaith am gael byw.  Peth anodd iawn oedd marw mor ieuanc, yn dair ar ddeg a’r hugain oed.  Peth anodd iawn oedd marw a gwaith mor fawr i’w wneyd, rhoddi’r efengyl i Gymru dywell dlawd.  O garchar caeth, ysgrifennodd yn nechreu Ebrill,1593, at ei wraig a’i bedair geneth fach.  Nid oedd ganddo ddim i’w adael iddynt ond Beibl bob un.  Gofyn iddynt, os medrent rywbryd, wneyd rhywbeth dros ryw blentyn o Gymru, ac yn enwedig i’w fam oedrannus oedd wedi aberthu drosto pan yn fyfyriwr.

Ac yng Nghefn Brith yr oedd ei fam yn byw, a’i frodyr a’i chwiorydd oedd i ofalu am ei enethod bach na wyddent eto beth oedd gweddi.  Ond gadewch i ni anghofio’r dienyddiad hwnnw,—gwŷr yr hen oruchwyliaeth yn llofruddio proffwyd y newydd,—ac edrych pa fath le yw ei gartref, dri chan mlynedd ar ol iddo ei adael.

Eis i fyny at y ty hyd y ffordd, yr oedd gormod o wlith ar y llwybr.  Yr oedd dyn ar ben das gwair yn ei doi, a dywedodd fod “llawer o hynafiaethwyr” yn dod i edrych y lle,—yn enwedig o Landrindod a Llanwrtyd ym misoedd yr haf.  Eis heibio’r beudy, ac i’r buarth,—lle wedi ei amgylchynu bron gan adeiladau.  Ar un ochr i’r ysgwar y mae’r ty, a phorth o’i flaen, a’r coed yn ei gysgodi o’r tu ol.  Yr oedd golwg dawel arno, fel pe buasai wedi ei adael fel y mae er amser Meredydd Penri.  Nid oedd dim arwyddion bywyd ond y cunogau llaeth oedd newydd eu golchi yn y porth, a’r hen gi defaid gododd ei ben cysglyd i edrych arnaf.

Eis ymlaen heibio’r ty i’r caeau.  Rhedai aber risialaidd i lawr o’r mynydd, ac yr oedd coedenwag wedi ei gwneyd yn gafn i’r pistyll.  A thraw yr oedd y gweirgloddiau hyfryd, a’r mynydd y tu hwnt iddynt.  Nid oedd yno greigiau nac ysgythredd, dim ond mawredd esmwyth a thawelwch.  Yr oedd edrych ar drumau prydferth Mynydd Epynt yn rhoi gorffwys i’r meddwl, nid y gorffwys sy’n arwain i ddiogi, ond y gorffwys sy’n arwain i waith.  Dyma orffwys fel gorffwys y nefoedd, gorffwys sy’n deffro’r meddwl ac yn ei gryfhau at waith.  Nid rhyfedd mai meddwl effro a gweithgar oedd meddwl John Penri.  Ni fedd y mynyddoedd hyn fawredd mynyddoedd y gogledd, rhywbeth hanner y ffordd rhwng Bro Morgannwg a’r Wyddfa ydynt.  Ac nid rhyfedd mai eu prydferthwch hwy, o’r holl fynyddoedd, ddarganfyddwyd gyntaf, gan rai o’r ardaloedd hyn,—John Dyer a Henry Vaughan.  Bum yn syllu’n hir ar y coed unig welwn hyd drumau’r mynyddoedd, ac yna’n edmygu lliwiau’r rhedyn a’r ysgaw a’r drain.  Trois wedyn i wylio’r gwenoliaid oedd wedi nythu tan y bondo, ac yna mentrais i’r ty.

Eis trwy’r porth, a gwelwn ddrws cegin fawr yn agored ar y llaw dde.  Cegin eang, isel do, hen ffasiwn oedd, a llawer o gig moch yn crogi oddiwrth y trawstiau.  Yn y pen draw yr oedd lle tân isel, ac ychydig o dân gwiail ynddo.  Wrth y pentan yr oedd gŵr canol oed, a gofynnais hen gwestiwn iddo,—

“Sut yr ydych chwi heddyw?”

“Gweddol fach, gweddol yn wir, dewch ymlân.  Mi ges yr anwyd yn y gaua,” meddai, dan besychu, “ac mi cesho fe wedin yn y mish bach dewch ymlân.”

Eisteddais tan fantell y simdde, ac agorodd ci oedd yn cysgu ar y pentan ei lygad i edrych arnaf, fel pe’n drwgdybio fod fy mryd ar gynnwys y crochan enfawr oedd ar y tân.  Tybiai’r gŵr mai prynnu gwlan oedd fy mwriad, a gofynnodd ai ni wyddwn beth oedd pris y gwlan ’nawr.  Llonnodd pan ddywedais ei fod yn codi ychydig, ond gwelodd ar unwaith mai nid porthmon oeddwn.  Yr oedd ganddo, meddai, bedwar neu bum cant o ddefaid yn pori ar y mynyddoedd.  Tra’r oeddwn yn syllu ar yr hen ddodrefn derw, daeth cwestiwn wedyn,—yr oedd ar wr y ty awydd gwybod o ba grefydd yr own.  Atebais innau trwy ddweyd peth wyddai eisoes, sef mai Bedyddiwr oedd ef.

“Pwi wedodd wrthich?”

“Ddywedodd neb; ond gwelaf ddarlun Spurgeon a darlun Christmas Evans, a dyma Emau Robert Jones, Llanllyfni.  A glywsoch chwi hanes Robert Jones yng nghanol y chwarelwyr meddwon?”

“Naddo i.”

“Wel, codi ei ddwylaw yn eu canol a wnaeth,a diolch fod gan Dduw uffern i roi’r fath rai ynddi.”

“Gweid difrifol oedd e, cofiwch rhi.  O’r North yr ych chi’n dod?”

Wedi gwrando tipyn ar hanes y fro, gofynnais a gawn weld y rhannau hynaf o’r ty.  Dywedodd y gŵr fod croeso i mi ei weld i gyd.  Aethom trwy ddrws y gegin yn ol, a gwelem fynedfa hir yn rhedeg gyda mur y wyneb.  Rhwng y fynedfa hon a mur y cefn yr oedd dwy ystafell, yn edrych i’r gadles, ystafelloedd oerion lleithion, ac yn llaethdai y defnyddid hwynt.  O’r rhain daethom yn ol i ddrws y ty, ac aethom ymlaen hyd y cyntedd hir hyd nes y daethom at ddrws ymhen draw y ty, drws parlwr bychan, a’r lleithder wedi amharu yr ychydig ddodrefn a darluniau oedd ynddo.  Danghosai’r cynllun yn amlwg fod y ty’n hen iawn, ac nid oedd gennyf un amheuaeth nad ydyw’n awr yr un fath yn union ag oedd pan ddysgodd John Penri gerdded ynddo.  A braidd na thybiwn glywed y llais a ddistewyd gan yr archesgob wrth glywed y gwynt yn codi,—

“O chwi bobl Cymru, yr ydych on yn esgymun ac yn wrthodedig.  O chwi bobl Cymru, yr ydych yn estroniaid o gymundeb y wir eglwys.  O chwi bobl Cymru, nid ydych hyd yn oed yng nghyfamod yr addewid, yr ydych heb obaith dedwyddwch y nef.  O chwi bobl Cymru, pa wybodaeth bynnag o Dduw a ddywedwch sydd gennych, yr ydych yn wir yn anffyddwyr; ac heb Dduw,—pob un o honoch ar nas dygwyd, er yr adeg y daethoch o ogof eilunaddoliaeth a Phabyddiaeth, i gyfranogi yng ngallu Duw, yr hwn yw’r efengyl.”

“O chwi bobl Cymru, yr ydych on yn esgymun ac yn wrthodedig.  O chwi bobl Cymru, yr ydych yn estroniaid o gymundeb y wir eglwys.  O chwi bobl Cymru, nid ydych hyd yn oed yng nghyfamod yr addewid, yr ydych heb obaith dedwyddwch y nef.  O chwi bobl Cymru, pa wybodaeth bynnag o Dduw a ddywedwch sydd gennych, yr ydych yn wir yn anffyddwyr; ac heb Dduw,—pob un o honoch ar nas dygwyd, er yr adeg y daethoch o ogof eilunaddoliaeth a Phabyddiaeth, i gyfranogi yng ngallu Duw, yr hwn yw’r efengyl.”

Yna, wrth i’r gwynt yn y coed ostegu, tybiwn fod ei lais yn tyneru mewn cydymdeimlad,—

“Ond yn wir, fy mrodyr, ni phregethwyd yr efengyl i chwi, llenwir fi â gofid wrth glywed gwawdio enw Cymru.”

“Ond yn wir, fy mrodyr, ni phregethwyd yr efengyl i chwi, llenwir fi â gofid wrth glywed gwawdio enw Cymru.”

Pe crwydrai ysbryd John Penri heddyw trwy wlad a garai mor fawr, gwelai fod ei weddi dros Gymru wedi ei hateb, a fod addoldai drwy’r broydd fu gynt yn ofergoelus ac yn isel eu moes.  Os byth y rhydd Cymru gofgolofn ar odrau Mynydd Epynt i ddweyd wrth ei phlant am dano, rhodder arni y geiriau hyn anfonodd o’i garchar, yn ei ddyddiau olaf, at Burleigh,—

“Gŵr ieuanc tlawd ydwyf, wedi’m geni a’m magu ym mynyddoedd Cymru.  Myfi yw’r cyntaf, wedi blodeuad diweddaf yr efengyl yn y dyddiau hyn, lafuriodd i hau ei had bendigedig ar y mynyddoedd anial hynny.  Llawenheais lawer tro o flaen fy Nuw, fel y gŵyr ef, am y ffafr o’m geni a’m magu dan ei Mawrhydi, er mwyn gwneyd y gwaith.  Yn fy nymuniad cryf i weled yr efengyl yng ngwlad fy nhadau, ac i weled symud y llygredigaethau a’i rhwystra, hawdd oedd i mi anghofio fy mherygl fy hun; ond ni anghofiais fy nheyrngarwch i’m Tywysog erioed.  Ac yn awr pan wyf i orffen fy nyddiau, a hynny cyn dod i hanner fy mlynyddoedd yn ol trefn natur, yr wyf yn gadael llwyddiant fy llafur i’m cydwladwyr a gyfyd yr Arglwydd ar fy ol i, i orffen y gwaith, yr hwn, wrth alw fy ngwlad i wybodaeth am efengyl fendigedig Crist, a ddechreuais i.”

“Gŵr ieuanc tlawd ydwyf, wedi’m geni a’m magu ym mynyddoedd Cymru.  Myfi yw’r cyntaf, wedi blodeuad diweddaf yr efengyl yn y dyddiau hyn, lafuriodd i hau ei had bendigedig ar y mynyddoedd anial hynny.  Llawenheais lawer tro o flaen fy Nuw, fel y gŵyr ef, am y ffafr o’m geni a’m magu dan ei Mawrhydi, er mwyn gwneyd y gwaith.  Yn fy nymuniad cryf i weled yr efengyl yng ngwlad fy nhadau, ac i weled symud y llygredigaethau a’i rhwystra, hawdd oedd i mi anghofio fy mherygl fy hun; ond ni anghofiais fy nheyrngarwch i’m Tywysog erioed.  Ac yn awr pan wyf i orffen fy nyddiau, a hynny cyn dod i hanner fy mlynyddoedd yn ol trefn natur, yr wyf yn gadael llwyddiant fy llafur i’m cydwladwyr a gyfyd yr Arglwydd ar fy ol i, i orffen y gwaith, yr hwn, wrth alw fy ngwlad i wybodaeth am efengyl fendigedig Crist, a ddechreuais i.”

Trwy holl droion hanes Cymru, nid oes dim mor hyawdl i deimlad Cymro ag ewyllys John Penri,—pedwar Beibl, gofal ei fam, a llwyddiant ei waith.


Back to IndexNext