Alaw,—Toriad y Dydd.
Fewelid cant o honomYng ngoleu ’r lleuad brudd,Yn dringo fyny ’r Wyddfa fawrI weled Toriad Dydd.Edrychem ar y nefoedd,Wrth fynd o fryn i fryn;Edrychem ar y llynoedd dŵr,A phwysem ar ein ffyn.A gwelem y Saith SerenOedd yn y gogledd draw,Yn gwenu ar Saith Seren wenOedd yn y llyn gerllaw.Ond nid oedd amser sefyll,Nid oedd ond hanner awr,Na byddai Toriad Dydd yn dodAr ben y Wyddfa fawr.
O’r diwedd cyrhaeddasomAt ffynnon ger ei phen,Gan ddiolch am gael gwin y graigMor agos at y nen.Dringasom ris i fyny,A threm fawreddus gaed,—Yr holl ddwyreiniol fyd yn goch,Yn fflamio wrth ein traed;Ataliodd pawb ei anadl,A phlethodd pawb ei law,Wrth weld y goelcerth goch yn dod,A’r nos yn treiglo draw.Galwasom am y delyn,Ac yng ngoleuni ’r wawr,Canasom dôn ar “Doriad Dydd”Ar ben y Wyddfa fawr.
Alaw,Toriad y Dydd.
Maellawer un yn cofioYr eneth fechan ddall;Ni welodd neb un fach mor fwyn,Mor brydferth, ac mor gall;Fe gerddodd am flynyddauI ysgol Dewi Sant,Ar hyd y ffordd o gam i gam,Yn nwylaw rhai o’r plant.’R oedd gofal pawb am dani,A phawb yn hoffi ’r gwaithO helpu ’r eneth fach ymlaen,Trwy holl drofeydd y daith;Siaradai ’r plant am gaeau,A llwybrau ger y lli,Ac am y blodau tan eu traed,Ond plentyn dall oedd hi.
Fe glywai felus fiwsigYr adar yn y dail;Fe deimlai ar ei gwyneb bachBelydrau serch yr haul;Aroglai flodau ’r ddaear;Ond nis adwaenai ’r fûnMo wên yr haul, a mwy na ’r ollMo wên ei mam ei hun.Mae ’r plentyn wedi marw,—Ar wely angau pruddFe wenodd ar ei mam gan ddweyd,“Mi welaf doriad dydd!”Ehedodd mewn goleuniOddiwrth ei phoen a’i phall,A gweled golygfeydd y nefY mae yrEneth Ddall.
Dywedir fod D. Owen wedi mynd i noson-lawen i Blas y Borth, Porthmadog, ac fe arosodd y telynor yn rhialtwch yr arwest, tan ddau neu dri o’r gloch yn y bore. Fe ddaeth dydd ar warthaf Dafydd a’i delyn pan oedd y ddau ar y ffordd adref. Eisteddodd y llanc ar garreg sydd i’w chanfod eto yn yr ardal, i sylwi ar ehedydd uweh ei ben yn taro cyweirnod ei galon ar doriad dydd. Dyna’r fan a’r pryd y cyfansoddwyd y dônCodiad yr Hedydd.
Alaw,—Codiad yr Hedydd.
Clywch, clywch foreuol glod,O fwyned yw ’r defnynnau ’n dodO wynfa lân i lawr.Ai mân ddefnynnau cânAneirif lu ryw dyrfa lânDdiangodd gyda ’r wawr?Mud yw ’r awel ar y waun,Brig y grug yn esmwyth gryn;Gwrando mae yr aber gain,Yn y brwyn ymguddia ’i hun.Mor nefol swynol ydyw ’r sainSy ’n dod i ddeffro dyn.
Cwyd, cwyd ehedydd, cwyd,O le i le ar aden lwyd,Yn uwch, yn uwch o hyd;Cân, cân dy ddernyn cu,A dos yn nes at lawen luAdawodd boen y byd,—Canu mae a’r byd a glyw,Ei alaw lon o uchel le;Cyfyd hiraeth dynol rywAr ei ol i froydd ne:Yn nes at Ddydd, yn nes at Dduw,I fyny fel efe.
Alaw,—Ar hyd y Nos.
Hollamrantau ’r ser ddywedant,Ar hyd y nos,Dyma ’r ffordd i fro gogoniant,Ar hyd y nos.Goleu arall yw tywyllwch,I arddangos gwir brydferthwchTeulu ’r nefoedd mewn tawelwch,Ar hyd y nos.O mor siriol gwena serenAr hyd y nos;I oleuo ’i chwaer-ddaearenAr hyd y nos.Nos yw henaint pan ddaw cystudd,Ond i harddu dyn a’i hwyrddydd,Rhown ein goleu gwan i’n gilyddAr hyd y nos.
Alaw,—Morfa Rhuddlan.
Gwgoddy nefoedd ar achos y cyfion,Trechodd Caethiwed fyddinoedd y Rhydd;Methodd gweddiau fel methodd breuddwydion,Cleddyf y gelyn a gariodd y dydd;Cuddied y Morfa tan eira tragwyddol,Rhewed yr eigion am byth tros y fan;Arglwydd trugarog, O! tyred i ganolAchos y cyfiawn a chartref y gwan.
Brenin y gelyn fydd pen ein gwladwriaeth,Lleiddiad Caradog a gymer ei le;Cwymped y delyn ar gwympiad Caradog,Syrthied i’r ddaear fel syrthiodd efe.Eto, edrychaf ar draeth y gyflafan,Wadwyd mo Ryddid, a chablwyd mo ’r Iôr;Gwell ydoedd marw ar Hen Forfa Rhuddlan,Gwell ydoedd suddo i Ryddid y môr.
Alaw,—Y Gadlys.
’Doesdim ond eisieu dechreu,Mae dechreu ’n hanner gwaith,I ddysgu pob gwybodauA deall unrhyw iaith.Nac ofnwch anhawsderau,’Does un gelfyddyd dan y rhôdNad all y meddwl diwyd ddod,I’w deall wedi dechreu.“Fe hoffwn innau sengydAr ben y Wyddfa draw,”Medd hen foneddwr gwanllydA phastwn yn ei law.Cychwynnodd yn y boreu,Ac erbyn hanner dydd yr oeddAr ben y mynydd yn rhoi bloedd,“’Doedd dim ond eisieu dechreu.”
I fesur y planedauSy’n hongian er erioed;I ddarllen tudalennauY ddaear tan dy droed—Y bachgen efo ’i lyfrauYmlaen yr a, ymlaen yr aI wneuthur drwg neu wneuthur da,’Does dim ond eisieu dechreu.Wel, deuparth gwaith ei ddechreu,’Does un ddihareb well;Cychwynnwch yn y boreu,Fe ellwch fynd ymhell.Edrychwch rhwng y bryniauFfynhonnau bach sy’n llifo ’i lawr,Ond ânt i’r môr yn genllif mawr,’Does dim ond eisieu dechreu.
Alaw,—Difyrrwch Gwŷr Harlech.
Welegoelcerth wen yn fflamio,A thafodau tân yn bloeddio,Ar i’r dewrion ddod i daroUnwaith eto ’n un;Gan fanllefau ’r tywysogion,Llais gelynion, trwst arfogion,A charlamiad y marchogion,Craig ar graig a gryn.Cwympa llawer llywydd,Arfon byth ni orfudd;Cyrff y gelyn wrth y cantOrffwysant yn y ffosydd;Yng ngoleuni ’r goeleerth acw,Tros wefusau Cymro ’n marw,Anibyniaeth sydd yn galwAm ei dewraf dyn.
Ni chaiff gelyn ladd ac ymlidHarlech! Harlech; cwyd i’w herlid;Y mae Rhoddwr mawr ein Rhyddid,Yn rhoi nerth i ni;Wele Gymru a’i byddinoeddYn ymdywallt o’r mynyddoedd!Rhuthrant fel rhaiadrau dyfroeddLlamant fel y lli.Llwyddiant i’n lluyddion,Rwystro bâr yr estron,Gwybod yn ei galon gaiffFel bratha cleddyf Brython.Cledd yn erbyn cledd a chwery,Dur yn erbyn dur a dery,Wele faner Gwalia i fyny,Rhyddid aiff a hi.
Castell Dinas Bran. S. M. Jones. I wynebu tud
Alaw—Trot y Gaseg.
Rhaidimi basio henoTŷ geneth lana’r fro,Dymunwn alw yno,Ond ni wnaiff hynny ’r tro.Tyrd ti fy merlen hoew,I fyny ’r dyffryn acw;Da gwyddost am y tŷY trig fy ngeneth gu—Dynesu mae yr afon,Cynesu mae fy nghalon,Wrth basio ’r Dolydd Gleision,Ar gefn fy merlen ddu.
Mae miwsig hen alawon,Yn swn dy bedwar troed:Rwy ’n croesi tros yr afonMi welaf lwyn o goed.Tra ’r afon ar y graian,Yn hwian iddi’ hunan,Mae seren Gwener guYn crynnu uwch y tŷ,A’m calon wirion innauYn crynnu am y goreu.Wrth fynd ar loergan oleuAr gefn fy merlen ddu.
Yn y coedwigoedd agos,Fy merlen lo’wddu lefn,Y clywais lais yr eosWrth deithio ar dy gefn.Pan oeddit ti yn trotian,Yr oeddwn innau ’n dotian,Wrth wrando ’r eos guAc edrych ar y tŷ.Pan dderfydd y gostegion,Bydd Merch y Dolydd Gleision,Mewn cannaid ddillad gwynion,Ar gefn fy merlen ddu.
Alaw,—Llances y Dyffryn.
Llancesy Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn,Llanwodd lawenydd fy nghalon yn llawn;Glanach yw ’r defaid ar ochr y bryn,Gwynnach yw ’r alarch ar ddwfr y llyn:Clysach yw ’r blodau, a glasach yw ’r coed;Harddach, prydferthach y byd nag erioed.Gwnaed fi yn ddedwydd foreuddydd a nawn,Llances y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.
Llances y Dyffryn oleuodd y fro,Gloewach yw ’r afon a glanach yw ’r gro;Purach fy meddwl a hoewach fy nhroed,Hoenach yr awen na bu erioed.Hoffach yw ’r Dyffryn a llonnach pob lle,Mwynach yw ’r awel o’r dwyrain a’r dê;Trom fu fy nghalon, ond ’rwan distawn,Llances y dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.
Alaw—“Ymdaith y Mwnc.”
YnYnys Môn fe safai gŵrYm min y nos ar fin y traeth;Fe welai long draw ar y dŵr,A’i hannerch ar yr eigion wnaeth:—Dos a gwel fy machgen gwiw,Dos a sibrwd yn ei glywYn iaith ddinamEi anwyl fam,A dywed fod ei dad yn fyw.Ymwêl gyda ’m plentyn, a dwed fod ei dad,Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o’th wlad,A thyner bo’r awel lle bynnag ’r ei di.Dos tros y don,Cei henffych well,Dwed yno’n llonWrth fachgen sydd bell,Fod Gwalia flodeuog yn moli’r un Duw,Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.
Fod ywen ddu yn hardd uwchbenY garreg lâs lle cwsg ei fam,Ac fod ei dad a’i farf yn wen,Yn grwm ei war, a byr ei gam;Fod y pistyll eto ’n gry,Fod yr afon fel y bu,Ar wely glânO raian mân,Yn sisial tôn wrth ddrws y tŷ.Ymwêl gyda ’m plentyn, a dwed fod ei dad,Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o’th wlad,A thyner bo’r awel lle bynnag ’r ei di.Dos tros y don,Cei henffych well,Dwed yno ’n llonWrth fachgen sydd bell,Fod Gwalia flodeuog yn moli ’r un Duw,Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.
Fod ganddo chwaer ar ddelw ’i fam,Sydd yn parhau i’w garu ef,Sy ’n llawenhau wrth feddwl amGael eto gwrdd yn nef y nef.Fod ei wlad heb weld ei hailAm glysni teg a glesni dail;A dal wrth benEi Gymru wenMae awel nef a melyn haul.Ymwêl gyda ’m plentyn, a dwed fod ei dad,Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o’th wladA thyner bo ’r awel lle bynnag ’r ei di.Dos tros y don,Cei henffych well,Dwed yno ’n llonWrth fachgen sydd bell,Fod Gwalia flodeuog yn moli ’r un Duw,Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.
O “Syr Rhys ap Tomos.”
Clywch, clywch, hen gadlef Morgannwg,Wele Rys a’i feirch yn y golwg,I’w atal ymlaen’Dyw mynydd ond maenAdewir mewn llwch ar ei ol.Corn y gâd ydyw miwsig yr awel,Heddyw gwledd gydag Arthur yw rhyfel,Yn galw ar fynydd a dôl.Wel sefwch yn hyf gyda ’ch dreigiau,Ac edrychwch i lawr megis creigiau,Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâdI godi’r hen wlad yn ei hol.
Mae breichiau myrdd yn caledu,A ffroenau y meirch yn lledu;A berwi mae gwaed,Gwŷr meirch a gwŷr traed,I godi’r hen wlad yn ei hol.Fry, fry, cyhwfan mae ’r faner,Trywanu mae ’r cledd at ei hanner;Yn uwch eto ’n uwch gyda ’r dreigiau,Ac edrychwch i lawr megis creigiau,Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâd,I godi ’r hen wlad yn ei hol!
Alaw,—Hufen Melyn.
Words and music
A ddowch chwi’ rwyf—o ar yraf-on, A ddowch chwi’ gan-u yn-o’n gôr?
I weld hy—naws—ed yd—ywnos-on, A mwyn-ed murmur tònau’r môr?
A gawn ni fyn-ed ar y Fenai hen-o, IYn—ys Mon-a rhwyf—wn gyda’r dôn: Odowch i gan-u, dowch i nof—io, Dowch i rwyf-ogyda’r dôn: Mae croes—o an-wyl in—iyn—o, O mwyn yw myn-ed tu—a Môn.
Mae ’r bad yn nofio ar yr afon,A nos o fwyniant ydyw hon;Mae ’r ser a’r lleuad yn dryloewon,A’r côr yn canu ar y dòn.Wel ar y Fenai, ar y Fenai heno,Y llawen ganwn, rhwyfwn gyda ’r dôn,—A dyma ’r canu, dyma ’r nofio,Dyma ’r rhwyfo gyda ’r dôn;Mae aelwyd lawen inni yno,O mwyn yw myned tua Môn.
Alaw,—Hun Gwenllian.
HunGwenllian, ferch y brenin,Gwyn dy fyd ti tan y gŵys;Cwsg Wenllian, dyner blentyn,Yn y ddaear ddistaw ddwys.Cledd y Norman wnaeth gyflafan,Nid oes gennyt fam yn awr;Hun Gwenllian, hun Gwenllian,Cwsg ymhell o’r cystudd mawr.
Hun Gwenllian, i’th fendithioDuw ’th gymerodd yn ei gôl;Mae th frawd hynaf wedi cwympo,Ni ddaw ’r iengaf byth yn ol.Yn dy gartref trig y Norman,Seren Cymru aeth i lawr;Hun Gwenllian, hun Gwenllian,Cwsg ymhell o’r cystudd mawr.
Alaw,—Y Gwenith Gwyn.
Arddol pendefig, heidden wenYmgrymai’ phen yn hawddgar;’R oedd cnwd o honynt ar y cae,Fel tonnau hyd y ddaear;A cher y fan, ar fin rhyw lyn,’R oedd gwenith gwyn yn gwenu;Un gwlith, un gwlaw, oedd ar y ddau,Y cnydau prydferth hynny.
Fe roddodd Duw mewn gwlaw a gwlith,Ei fendith ar y maesydd;A dyn a godai gyda ’r wawrI dorri lawr y cynnydd.Ond rhwng y ddeufaes trowynt ddaeth,A rhuo wnaeth i’r nefoedd,—“Fod un yn mynd er bendith dyn,A’r llall i ddamnio miloedd.”
Alaw,—Llwyn Onn.
Alaeswnni ddwylaw yng nganol y rhyfel,Tra ’r gelyn yn erlid, a fynnwn ni hedd?Tra llidiart y fynwent a’i sgrech ar ei hechelWrth dderbyn y meddwon i stafell y bedd?Mae’r blodau sy’n tyfu ar feddrod y meddwynYn gollwng eu dagrau tan gysgod yr yw;A’r gwynt wrth fynd heibio, fel taran; yn gofyn“Pa un ai moesoldeb ai meddwdod gaiff fyw?”
Midybiais fod ffordd y pererin i’r nefYn un lefn ac hardd-esmwyth trwy ddyffryn glâs gain;Dangosaist Di ’r ffordd—ac un gul dywell oedd,Garegog a blin trwy fieri a drain.Mae temlau a phlasau heb ofid na phoen,Ond y maent tros gagendor o dir y rhai byw;Mae afonydd o hedd, ond pa le maent i’w cael,—Yn y nef yno maent, fry yn nefoedd fy Nuw.
Alaw,—Goslef Llywelyn.
IfeddrodLlywelyn mae ’r tir wedi suddo,Ac arno ’r gwlawogydd arosant yn llyn;Mae ’r lloer wrth ymgodi, a’r haul wrth fachludo,Yn edrych gan wrido ar ysgwydd y bryn.Fy Nghymru, fy Ngwlad, a wyddost ti hyn!Pa le mae Gwladgarwch yn dangos ei gwedd?Mae dagrau y cwmwl yn gwybod am dano,A deryn y mynydd yn nabod y bedd.
Ar ddamwain mae ’r Cymro yn dyfod i weled,Lle cwympodd yr olaf fu ddewr ar ei ran;Yr awel a gwyna a’r ddaear a ddywed,Fod calon hen Walia yn curo ’n lled wan;Dieithriaid a ddônt i weled y fanY gorffwys Llywelyn wrth ochor ei gledd;Wel diolch am ddeigryn o’r nefoedd i waered,Ac am y glaswelltyn yn ymyl y bedd.
Addwedaistti fod Cymru ’n dlawd,Am fod ei llannau ’n llonydd,A thithau ’th hun yn cloddio, frawd,Ym mryniau aur Meirionnydd?Mae mwy o gyfoeth tan dy droed,Na ddaeth i galon dyn erioed,Anwiredd mwy erioed ni wnawd—Na ddywed byth fod Cymru ’n dlawd.
I ble y trown o fewn y tir,Nas gwelir mŵn ei meiniNad yw ’r meteloedd o’u gwelyâuYn edrych am oleuni,Nad yw y prês a’r arian faen,Yn galw ar bob Cymro ’n mlaen,I roi ei ffydd a threio ’i ffawdYn holl oludoedd “Cymru dlawd?”
Estyna ’th fys pan glywot hyn,Yn cael ei ddweyd am Gymru,At unrhyw graig, at unrhyw fryn,Fo ’n edrych ar i fyny.Mae ’r nentydd oll wrth fynd i’r aigA cherrig ateb ym mhob craig,Yn dwedyd “Nac yw” gyda gwawd—Na ddywed byth fod Cymru ’n dlawd.
[Ysgrifennwyd y geiriau i Miss Edith Wynne, yr hon a’u canodd yn Eisteddfod Genhedlaethol Caernarfon, 1862.]
D’wedwchfod fy ffroen yn uchel,Fod fy malchder yn drahaus,Fod gwamalrwydd ar fy wynebA mursendod yn fy llais.Ond mae terfyn i anwiredd,I greulondeb a sarhad.Peidiwch byth a dwedyd hynny,Imi golli ’m serch at Gymru,Imi golli iaith fy ngwlad.
O mor barod ydyw dynionI drywanu at y byw;O mor gyndyn ydynt wedynI roi eli ar y briw.Dodwch garreg ar fy meddrod,Fel y mynnoch bo ’r coffâd;Dyna ’r pryd i dd’wedyd hynny,Imi golli ’m serch at Gymru,Imi golli iaith fy ngwlad.
Alaw,—Dydd Trwy ’r Ffenestr.
Maerhyddid i wylan y môr gael ymgodi,Ac hedeg i’r mynydd uchelaf ei big;Mae rhyddid i dderyn ar greigiau ’r EryriEhedeg i waered i weled y wîg;O rhowch imi delyn, gadewch imi daluCroesawiad i Ryddid ar doriad y dydd;Yfory gyda ’r wawr, byddwn ninnau ’n rhydd,Byddwn yn rhydd!
Yfory pan welir yr haul yn cyfodi,Caf deimlo llawenydd na theimlais erioed;Ac fel yr aderyn yng ngwlad yr EryriYn ysgafn fy nghalon, ac ysgafn fy nhroed;Pan welom oleuni yn gwynnu ’r ffenestri,Rhown garol i Ryddid ar doriad y dydd;Yfory gyda ’r wawr, byddwn ninnau ’n rhydd,Byddwn yn rhydd!
CerddiCymru sydd yn byw,Trwy ’r blynyddau yn ein clyw;Sibrwd ein halawon gynt,Mae cwynfanau trwm y gwynt;Dwyn yn ol lais mam a thadMae hen donau pur ein gwlad.
Pan sisialo dail y llwyn,Clywir chwi yn lleddf a mwyn;Dweyd mae ’r môr wrth ruo ’i gânDdarnau cerddi Cymru lân;Ac mae clust y Cymro ’n gwneydI’r gre’digaeth oll eu dweyd.
Igadw ’rhen wlad mewn anrhydedd,A’r cenin yn fyw a difêth;Mae rhai yn prydyddu ’n ddiddiwedd,Ond dyma fy marn am y peth,—Mwy gwerthfawr nag awen y beirddion,Neu’r dalent ddisgleiriaf a roed,Yw tafod y bachgen bach gwirion,Na ddwedodd anwiredd erioed.
Cydgan: Rhown bopeth sydd hardd ac anfarwol,Mewn miwsig, barddoniaeth, a cherdd,I’r geirwir, a’r gonest, a’r gwrol,Sy’n cadw’r geninen yn werdd.
Mi adwaen gribddeiliwr ariannog,Sy’n deall bob tric i wneud pres;Ond anhawdd anichon cael ceiniogO’i boced at ddim a fo lês.Pan allan, os a yn ei gerbyd,Pan gartref os tyn yn ei gloch;Mae ’n well i ni’r gonest a’r diwydPe na bai yn werth dimeu goch.
Ym mhell y bo ’r bobol sy’n grwgnach,Yn erbyn caledrwydd y byd,Y rhenti a’r prisiau a’r fasnach,Tra plethant eu dwylaw ynghyd.Nid felly y byddai ’r hen Gymry,Ac os yw dy waed ti yn bur,’R wyt yn edrych yn wrol i fynyAc yn fachgen sy’n gweithio fel dur.
[Cân mamaeth Gymreig wrth fagu Tywysog Seisnig cyntaf Cymru o “Cantata Tywysog Cymru.”]
Myfisy ’n magu ’r baban,Myfi sy ’n siglo ’r cryd,Myfi sy ’n hwian, hwian,Ac yn hwian hwi o hyd.Bu ’n crio bore heddyw,O hanner y nos tan dri;Ond fi sy ’n colli ’m cysgu,Mae ’r gofal i gyd arnaf fi.
Myfi sy ’n magu ’r plentyn,Bob bore, prydnawn a hwyr;Y drafferth sydd ei ganlyn,Fy hunan yn unig ŵyr.Nis gŵyr ef air o Saesneg,Nac un gair o’n hen hiaith ni,—I ddysgu ’r twysog bychan,Mae ’r gofal i gyd arnaf fi.
Ond os caf fi ei fagu,I fyned yn llencyn iach;Caiff iaith brenhinoedd CymruFod rhwng ei ddwy wefus fach.A phan ddaw ef yn frenin,Os na wnaiff fy nghofio fi,O! cofied wlad y cenin,Y wlad sydd mor anwyl i ini.
Chwifeirdd y trefydd mawrSy ’n byw ar fwg a llwch;Dowch gyda fi yn awr,Dowch neidiwch i fy nghwch.Fyny ’r hen Ddyfrdwy nofiwn,A ffarwel i’r mŵg sydd ar ein hol,Rhwyfwn ymlaen, a chanwnDan y coed a’r pynt, o ddol i ddol.Ger tref y BalaMae lle pysgota,Ar loew loew lyn;Awn ymlaen tua ’r dyfroedd hyn,Moriwn yng nghanol Meirion;Tynnwn rwyf gyda rhwyd yn hoew,Ar groew loew lyn.
Draw, draw yng nghanol gwlad,Deg, deg fel Eden ardd;Ceir yno adfywhadI’r cerddor ac i’r bardd.Bywyd sydd yn yr awelFel y dêl o’r coed, o’r allt, a’r rhiw,Bywyd y Cymry ’stalwm,Ysbryd cân a mawl sydd yno ’n byw.Ger tref y Bala, &c.
Chwi wŷr y trefydd mawr,Gwyn, gwyn eich gruddiau chwi,O dowch am hanner awrMewn cwch ar hyd y lli;Rhwyfwn i fyny ’r afon,##Gyda gwrid ac iechyd dychwel gewch;Mae môr rhwng bryniau Meirion,Tua Thegid dewch, i Degid dewch!Ger tref y Bala, &c.
Hengwrwg fy ngwlad ar fy ysgwydd gymerwn,Pan oeddwn yn hogyn rhwng Hafren ac Wy.Ac yno y gleisiad ysgwyddog dryferwnAr hyfryd hafddyddiaut nas gwelaf byth mwy.Pe rhwyfwn ganŵ ar y Ganges chwyddedig,Neu donnau ’r Caveri, rhoi hynny foddhad;Ond glannau bro Gwalia ynt fwy cysegredig,A gwell gan fy nghalon hen gwrwg fy ngwlad.
Hen gwrwg fy ngwlad, ’rwyf fi gyda thi ’n nofioAfonydd paradwys fy mebyd yn awr;Hen glychau a thonau o newydd wy ’n gofio,A glywn ar y dyfroedd pan rwyfwn i lawr.Mi dreuliais flynyddau a’r llif yn fy erbyn,I’m hatal rhag dyfod i gartref fy nhad;Ond pan ddof yn ol fe fydd cant yn fy nerbyn,I roi i’m rwyf eto yng nghwrwg fy ngwlad.
Hen gwrwg fy ngwlad, mi a’th rwyfais di ganwaith,Hyd lynnoedd tryloewon tan goedydd a phynt;Cymeraist fi hefyd i fynwes wen lanwaith,Yr hon a ddisglaeriodd trwy f’ enaid i gynt.Trwy Venice fawreddog mi fum mewn gondola,Esgynnais y Tafwys a’r Rhein yn fy mâd;Ond pasio hen gastell Llywelyn llyw ola,Sydd well gan fy nghalon yng nghwrwg fy ngwlad.
[Suo-gân y Monwyson o “Cantata Tywysog Cymru.”]
Pobrhyw seren fechan wenai,Yn y nefoedd glir uwch ben;Rhwyfai cwch i fyny ’r Fenai,Yng ngoleuni ’r lleuad wen.Clywid canu—sucganu,Yn neshau o Ynys Môn,—Canu, canu, suoganu,Melus orfoleddus dôn.
Mewn awelon ac alawon,At y Castell rhwyfai’r côr;Ar y tyrau suai ’r chwaon,Wrth eu godrau suai ’r môr.Canent, canent, suoganent,Ar y Fenai loew, dlos;Dan ystafell y Frenhines,Suoganent yn y nos.
“Fel mae ’r lloer yn hoffi sylwiAr ei delw yn y lli;Drych i Rinwedd weld ei glendidFyddo oes dy faban di.”Suoganu i’r Frenines,Dan y ganlloer loew, dlos,Felly canodd y Monwyson,Ar yr afon yn y nos.
Henfrenin hoff anwyl oedd Morgan Hen,Fe ’i carwyd yng nghalon y bobloedd;Esgynnodd i’w orsedd yn ddengmlwydd oed,A chadwodd hi gant o flynyddoedd.Ar ddydd ei gynhebrwng dilynwyd ei archGan ddengmil o’i ddeiliaid tylodion;A theirmil o filwyr fu ’n ymladd o’i du,Ac wythcant o’i ddisgynyddion,Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn,Eraill ar fronnau yn dechreu byw;Wyrion, gorŵyrion, a phlant gorŵyrionGladdasant y brenin yn Ystrad Yw.
Ni welwyd un blewyn yn wyn ar ei ben,Na rhych ar ei dalcen mawr llydan;’R oedd deuddeg o’i feibion yn edrych yn hŷnNa’r brenin oedrannus ei hunan.Yn nhorf ei gynhebrwng ’roedd bachgen bach mwyn,Yn drist a phenisel yn twysoY march heb ei farchog—y cyfrwy, a’r ffrwyn,A’r cleddyf yn unig oedd yno.Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn, &c.
Fe welodd ryfeloedd, bradwriaeth, a thrais,A gwelodd Forgannwg yn gwaedu;Ond cadwodd ei goron, a’i orsedd yn ddewr,A’i diroedd tan faner y Cymry.Enillodd a chollodd mewn brwydrau dirif,Am hynny ni chollodd un deigryn;Ond ar gladdedigaeth ei filwyr, a’i blant,Fe wylai, fe griai fel plentyn.Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn, &c.
[O “Myfanwy Fychan”.]
“Myfanwy! ’rwy ’n gweled dy ruddMewn meillion, mewn briall, a rhos;Yng ngoleu dihalog y dydd,A llygaid serenog y nos;Pan gyfyd claer Wener ei phenYn loew rhwng awyr a lli,Fe ’i cerir gan ddaear a nen.I f’ enaid, Myfanwy, goleuach, O tecach wyt ti,Mil lanach, mil mwynach i mi.
“Fe ddwedir fod beirddion y bydYn symud, yn byw ac yn bod,Rhwng daear y doeth a Gwlad Hud,Ar obaith anrhydedd a chlod;Pe bâi anfarwoldeb yn awrYn cynnyg ei llawryf i mi,Mi daflwn y lawryf i lawr—Ddymunwn i moni, fe ’i mathrwn os na chawn i di,—Myfanwy, os na chawn i di.
“O! na bawn yn awel o wyntYn crwydro trwy ardd Dinas Brân,I suo i’th glust ar fy hynt,A throelli dy wallt ar wahan;Mae ’r awel yn droiog a blin—Un gynnes ac oer ydyw hi;Ond hi sy ’n cusanu dy fin.O feinwen fy enaid, nid troiog fy serch atat ti,Tragwyddol yw ’m serch atat ti.
“Mewn derwen agenwyd gan folltDraig-fellten wen-lachar ac erch;Gosodaf fy mraich yn yr holltA chuddiaf beithynen o serch.Ni’m gwelir gan nebun, ond ganY wenlloer—gwyn fyd na baet hi,Er mwyn iti ganfod y fan.Ond coelio mae ’m calon, fod ysbryd eill sibrwd a thi—Eill ddwedyd y cwbl i ti.”
Petrusai Myfanwypwy oedda roisai’r beithynen yn gudd?A dwedai,—“rhyw ffolyn o fardd,”ond teimlodd ei gwaed yn ei grudd;Disgynnodd ei llygaid drachefn ar “na bawn yn awel o wyntYn crwydro trwy ardd Dinas Brân,”—o churodd ei chalon yn gynt.“Mi droellet fy ngwallt—O mi wnaet! wyt hynod garedig,” medd hi,“A phe bawn yn suo i’th glust, mi ddwedwn mai gwallgof wyt ti;Mi hoffet gael cusan, mi wnaet! ond cymer di ’n araf fy ffrynd,”—Hi geisiai ymgellwair fel hyn,—ond O!’r oedd ei chalon yn mynd!’R oedd wedi breuddwydio dair gwaith, heb feddwl doi’r breuddwyd i ben,Fod un o g’lomenod ei thad, yn nythu yn agen y pren—Heb gymar yn agen y pren.
Wytti ’n cofio ’r lloer yn codiDros hen dderw mawr y llwyn,Pan ddywedaist yr aberthetNef a daear er fy mwyn?Wyt ti ’n cofio ’r dagrau gollaistWrth y ffynnon fechan draw?Wyt ti ’n cofio ’r hen wresogrwydd,—Wyt ti ’n cofio gwasgu ’m llaw?
“Hyd fy marw” oedd dy eiriau,Y parhaet yn ffyddlon im’;O fy ngeneth, O fy nghariad!Nid yw poenau marw ’n ddim.Er wrth dorri ’th addunedau,I ti dorri ’m calon i,—Magi anwyl, mae dy gariadEto ’n gariad pur i ti.
Mae ’th lythyrau yn gwneyd i miLwyr anghofio mi fy hun;Mae dy gudyn gwallt yn hongian,Fel helygen tros dy lun.Llun dy wyneb, Magi anwyl,O mae ’n twynnu fel yr haul,Nes ’r wy ’n teimlo gwae a gwynfydNef ac uffern bob yn ail.
O f’ anwylyd! er maicyfaillYw yn awr fy enw i,Maddeu i mi am ddefnyddioYrhen enwarnat ti;Cariadwyt ti, Magi anwyl,Bur ddihalog fel erioed;Troi ’st dy wyneb, cefnaist arnaf,Minnau garaf ol dy droed.
Wrthweld yr haul yn machlud,Mewn eurog donog dân;A mil o liwiau ’n dawnsio ’n deg,Ar fyrdd o donnau mân.’Rwy ’n teimlo dwyfol wyddfod—Shecina Natur yw;Yn datgan ei ogoniant EfYr Hollalluog Dduw.
Wrth weld yr haul yn codi,Yn loew lân ei bryd;Rwy ’n gweld y glaer Shecina fawr,Yn amgylchynnu ’r byd.Os gormod gwedd yr heulwenI lygad marwol ddyn;Fath ydyw ei ogoniant EfY Crewr Mawr ei Hun!
Ar godiad haul yng Nghymru,Ces lawer boreu gwiw;Pan blygai ’m tad wrth ben y bwrdd,I ddiolch am gael byw.Caem eistedd yn y cysgod,Tra ’r haul yn croesi ’r nef;Mi gofiaf byth y weddi hwyr,Ar ei fachludiad ef.
Cymerhi Annie, o cymer hi heno,Mae’th fys gyda ’th galon yn crynnu gan fraw;Dy fodrwy di ydyw, ni waeth it heb grïoOs nad wyt yn meddwl am wrthod fy llaw.Cyn mynd at yr allor y foru gad imi,A’th fys ei chysegru wrth fynd hyd y ddôl—Wel dyna hi ’n gymhwys, da gwyddwn O Annie,Na wnaet ti byth dynnu ’th addewid yn ol.
Cymer hi Annie, ’does arni ddim cerfiad,Na gemau cywreinion i’w gweled yn awr;Ond ceisiwn roi arni berl Rhinwedd, fy nghariad,Mae engyl ar hwnnw yn edrych i lawr.Mae gennym ni gariad a leinw ’n holl fywyd,Yn hwnnw ’r ymffurfia y maen o fawr werth;Yn hwnnw mae cyfoeth, bywoliaeth ac hawddfyd,Yn hwnnw, fy nghariad, mae mawredd a nerth.
Cymer hi Annie, a’r nefoedd ro inniO fewn ein haur-fodrwy fan fechan i fyw,Yn bur ac yn ddedwydd—yn unig boed ynddi,Heblaw ti a minnau, blant bychain a Duw.Mae ’r bydoedd yn grynion a’r haul a’u goreura,Gan wneuthur pob planed a lleufer yn llon;Ond nid oes breswylfod rhwng daear a gwynfa,Ddedwyddach, berffeithiach, a chrynach na hon.
Cymer hi, Annie, yn arwydd cyfamod,—Dwy enfys fach ydyw a’u deuben ynglŷn;Y gyntaf yn amod mai fi fydd dy briod,A’r ail un yn amod mai ti fydd fy mun.Mae’n gyfan, mae’n brydferth, heb gymorth y gemau,Arwyddnod perffeithiach y ddaear ni fedd;Does dim eill ei thorri ond pladur lem angau,Na dim eill ei rhydu ond lleithder y bedd.
Cymer hi, cymer hi, ofer yw rhwystro,Dyferwlaw ’r amrantau rhag tywallt i lawr;Mae ’n storm gyda minnau, gad imi tra dalio,Roi ’m pen ar dy ysgwydd—rwy’n well Annie ’n awr.Mae’th ddeigryn fy nghariad, a’m deigryn bach innau,Yn uno fel gwlithos neu fân arian-byw—Ond moes imi ’r fodrwy, ti cei hi ’n y boreuYng ngwyddfod yr allor, y Beibl, a Duw.
[O “Jona.”]
Oweddidaer! gwyn fyd y fronA fedro dy anadlu,Yng nghalon edifeirwch gwirY cuddiodd Duw dy allu;Yr isel lwch yw’th gartref di,Ac mewn sachlian gwisgi,Gwyn fyd y llais crynedig gwanDywallto ’i hun i weddi.
O weddi daer! tramwyfa wytI lu o engyl deithioI lawr i’r dyfnder at y gwan,I roi eu hedyn trosto,—I wlychu gwefus oer y llesg,A gwin a’i calonoga;O ddyn! os tynni ŵg y nef,Dos ar dy lin—gweddia.
“Wyt ti’n cofio’r lloer yn codi Dros hen dderw mawr y llwyn?”
’R oedd swn magnelau yn y graig,A swn tabyrddau ’n curo,A chlywid trwst ofnadwy traedY Ffrancod wedi glanio,A’r waedd i’r frwydr chwyddai ’n uwch,Gan alw ’r dewr i daro;Terfysgwyd y glannauGan rym y taranauA ruent ar lan y môr.
I dai ’r tylodion rhuthrai gwŷr,Gan ladd y diamddiffyn,A flamiai palas hardd gerllawGan dân o longau ’r gelyn;Fe ffoai mamau gyda’u plant,A chodai ’r claf mewn dychryn;Ond ’r oedd yno ddynes,A babi ’n ei mynwes,Rhy waelaidd a gwan i ffoi.
Ei gŵr erfyniai wrth ei phen,—“O cwyd! O cwyd! fy Eurfron!Mae ’r march a’r cerbyd wrth y drws,Tyrd iddo ar dy union!Olwynwn ymaith fel y gwynt,—Anwylyd, clyw ’r ergydion!O Dduw, a ddaeth diweddFy mab, fy etifedd?Fy mhlentyn a anwyd ddoe!”
Atebai ’r wraig yn llesg ei llais,—“Fy mhriod, clyw fy ngweddi,O gad fi ar y gwely hwn,Ond gad y baban imi;Dos at y rheng i gadw ’th wlad,Fe gadwaf finnau ’r babi.”Y plentyn a hunai,A’r tad a’i cusanai,Ac yna fe ffodd i’r rheng.
’Roedd swn cleddyfau yn neshau,Gwawchiadau ac ysgrechian;A’r wraig weddiai ’n daer ar Dduw,Gan edrych ar ei baban;Ac yna holltwyd drws y tŷGan filwyr oddi allan.A hithau mewn dychrynA wasgodd ei phlentynYn nes at ei chalon wan.
Ar glicied drws ei ’stafell wag,Hi welai fysedd llofrudd,Ac ar y foment rhuthrodd haid,Yn swn rhegfeydd eu gilydd;A syllent fel gwylltfilod erch,O amgylch ei gobennydd;Ar wraig wan yn crynnu,A ddaliodd i fynyEi babi bach diwrnod oed.
Atebwyd gweddi ’r ffyddiog fam,A hi a’i mab achubwyd;Mae hi yn awr ym mynwent werddYr eglwys lle ’i priodwyd;Ac erbyn heddyw mae y mabYn hen weinidog penllwyd,Yn estyn ei freichiauI ddangos y Meichiau,—Y baban y anwyd i ni.
Yr hon a fu farw ymhen ychydig wythnosau ar ol genedigaeth ei bachgen bychan cyntafanedig.
“Cewcheto deimlo ’r heulwenYn gynnes ar eich grudd;Cewch eto deimlo ’r awelAm lawer hafaidd ddydd;Peidiwch a son am farw,Peidiwch a meddwl amI’ch plentyn fyw heb glywedNa’ nabod llais ei fam.
“Peidiwch a son am farw,Daw eto haul ar fryn;Ac iechyd ddaw i’ch codiO’r hen gystuddiau hyn.Yn wan ei llais atebodd,Peidiwch a son am fyw!’Rwy ’n rhoi fy machgen anwylI’ch gofal chwi a Duw.”
Gadawyd yr ystafellAm ddim ond ennyd fach,A chlywid llais yn sibrwd,—“Fy anwyl fachgen bach!Fy machgen, O! fy machgen!O na b’ai ’th fam yn iach;Fy nghyntaf, olaf blentyn,Fy anwyl fachgen bach!
“Fy nghyfaill bychannewydd’R wyf fi yn mynd i’r nef;’R wy ’n myned at yr Iesu,Hengyfaill ydyw Ef!”Bu farw, ac hi wywoddFel blodyn ar y dail,Gan ddyweyd,—“Fy machgen anwyl!”Ac “Iesu!” bob yn ail.
Ceisiaisdrysor yn y bydMi geisiais ac mi gefais un,Oedd fwy o werth na’r byd ei hun,Fy anwyl Ann, fy nhrysor drud
Yn yr arch mae ’r oll yn awr,Oddigerth y blodeuyn llonAdawodd angau ar ei bronI wenu ar y storom fawr.
Pan suddai ’m llong, tan rym y lli,O’i hystlys daeth rhyw nerth i’m dwynYn ol i’r lan. Fy mhlentyn mwynBywydfâd bychan oeddytti.
Mi hoffwn innau fynd i lawr.Ond er dy fwyn fy mhlentyn llon,Mi geisiaf fyw o don i donAr wyneb môr fy ngofid mawr
Ynaraf y cerddasom,I’r fynwent yn y coed;Ac yno y claddasomChwaer fechan bedair oed;Gan bedair o’i chyfeillion iach,Mewn dillad gwynion claer,Yng ngwŷdd ei thad a’i brodyr bach,I huno rhoed ein chwaer.
Ar waelod bedd y fechan,Cyn gollwng corff ein chwaer;Canfyddem arch wen newyddFel daeth o ddwylaw ’r saer.Ein hanwyl fam oedd yno ’n fud,Heb fawr o feddwl amI’r plentynolafyn y crydDdodgyntafat ei fam.
Pan gaffom ninnau ’n gollwng,Mae gennym weddi daer,—O boed ein llwch yn deilwngO lwch ein mam a’n chwaer.Fe awn yn fynych dros y caeI’r fynwent yn y coed;Y fan mae mam, a’r fan y maeChwaer fechan bedair oed.
Claddasomdi, Elen, ac wrth roi dy benI orwedd lle fory down ni,Dihangodd ochenaid i fyny i’r nen,A deigryn i lawr atat ti.
Claddasom di, Elen, a chanwyd dy fedd,Pe hefyd bâi bosibl ei gau;Mae llygad yn edrych o hyd ar dy wedd,Ac ni fedr angau nacau.
Cyflawnwyd dy freuddwyd, ond ni ddarfu ’r gro,Ar gauad yr arch dy ddeffroi;Ond udgorn a gân, ac o’r dywell fro,Yn wen a dihalog y doi.
Ai “tywell” ddywedasom? Nid tywyll i tiFu pyrth tragwyddoldeb a hedd,Dy lamp oedd wenoleu;—nid ti, ond nyni,Sy ’n dwedyd mai du ydyw ’r bedd.
I ninnau mae breuddwyd i ddyfod i ben,—Canfyddem di mhell oddi drawAr furiau Caersalem, a’th wisg yn glaer-wen,Yn gwenu gan estyn dy law,—
I’n derbyn yn ninas dragwyddol dy Dduw;A thybiem ein bod wedi dod,I gyffwrdd â’th law, ond deffroisom yn fyw,Ymhell oddiwrth gyrraedd y nod.
Claddasom di, Elen, ond rhyngot a ni,Nis erys gagendor yn hir;O fewn y bedd yna lle rhoisom dydi,Claddasom ein hunain yn wir.
Na, na, nis ffarweliwn, mae ’r Iesu yn fyw,I’n dwyn ato ’i hun a thydi;Mae ’r ffordd yn agored o’r ddaear at Dduw,A’r nef mewn addewid i ni.
(Lledgyfieithiad.)
Arfin yr afon araf yn y goedwig gain,Fan mae ’r dŵr yn gwneud arluniau gwiail melyn main,Fan mae ’r adar haf yn canu yn eu temlau dail,Yma ’r ydoedd am ryw adeg annedd Annie Lisle.
Cydgan: Doed gwanwyn, sued dyfroedd,Gwened hyfryd haulAr y dyffryn, ond nis deffryAnwyl Annie Lisle.
Mwyn, mwyn yw ’r awel beraidd, gana fel y dêl,Trwy ryw fyrdd o erddi gwyrddion, lifant laeth a mel,Ond ar wely wedi marw gorwedd Annie Lisle,Hi ni egyr ei du lygad, Angau ’n dyn a’i deil.
Doed gwanwyn, sued dyfroedd,Gwened hyfryd haulAr y dyffryn, ond nis deffryAnwyl Annie Lisle.
“Cwyd fi, fy mam anwylaf, gad i’m weld y plant,Yn y brwyn a’r melyn helyg draw ar fin y nant;Hust! mi glywaf fiwsig nefol, miwsig Iesu ’r nef,Mam anwylaf, mi anelaf at ei fynwes Ef.”
Doed gwanwyn, sued dyfroedd,Gwened hyfryd haulAr y dyffryn, ond nis deffryAnwyl Annie Lisle.
Yrôd, yr ôd! mae ’r eira ’n dod!Rhwng y simneiau dacw fe,Y defnyn cyntaf yn dod or ne;Yn chware fel aderyn gwyn,Trwy fŵg a chaddug y melinau hyn.Mae ’n ofni disgyn, ac fel pe baeYn ail-ymgodi, ond disgyn mae.Mae yn bwrw golwg tros y ddinas fawr,Ac yn mesur y ffordd wrth ddod i lawr;Gan edrych trwy ’r ffenestri ban,Fry gyda ’r awel o fan i fan.Mae ’n ymddyrchafu ac yn ymgrynhoi,Ac yn dal i ddisgyn, ac yn dal i droi—Ond gwel ei lengoedd! Mil myrddiwn mânO angylion gwynion y gauaf glân,Sy ’n dod ag amdo a chistfeddau iâ,I gladdu meirwon flodau ’r ha.Y nef sy ’n galw ’r blodyn harddI fyw a gwenu o lwch yr ardd.A phan fydd farw, nis anghofia ’r nefMo dyrfa wen ei angladd ef.
Ifyny’r mynydd dringai efWrth ochor Garibaldi,I weld yr haul yn dringo ’r nef—Haul Rhyddid Itali.Ond cyn i’r haul ymddangos ar ben y mynydd mawrFe gloddiwyd bedd i Cavour, yng ngoleu gwyn y wawr.
“Nisyrthiodd neb erioed i’r bedd,Na welwyd rhywun prudd ei wedd,Yn gollwng deigryn arno;Ond wrth i filwr fynd i lawr,Mae gwlad yn dod i’w arwyl fawr,A chenedl oll yn wylo.”
A thithau, gyfaill, i dy feddGollyngwyd ti,Yn filwr ieuanc teg ei wedd—Yn ei filwrol fri.
Pan wyliem dy febyd darllennem dy lygaid,A gwelem wrhydri cynhennid dy enaid,A gwreichion dy ysbryd yn cynneu dy rudd;Pan droet orchestion dy gyfoed yn wegi,A phob anhawsderau o’th flaen yn cyd-doddi,Coronwyd ti ’n arwr ym more dy ddydd.
Mae cofio’th rinweddau fel milwr a Christion,Yn hafaidd belydru trwy brudd-der ein calon,Yn taflu goleuni tros len dy goffhad.Fe’th ddysgwyd yn fore am Dduw dy rieni—Ond cyffiwyd y gliniau fu ’n plygu mewn gweddi,Yn haiarn i elyn dy Dduw a dy wlad.
Pan wyliem ormesiaeth a’i duon adenyddFel nos yn ymledu tros wyneb y gwledydd,E rwygwyd yr awyr gan udgorn y gâd;Dyrchafwyd y grechwen,—“Cychwynnwn, cychwynnwn,Yn ysbryd ein tadau arfogwn, ymruthrwn,”Nes galwyd i’r frwydr holl gedyrn y wlad.
Arfau ’n tadyrddu a swn oedd yn dilyn,Aem ninnau i’r porthladd i’w gweled yn cychwyn,Ond cadwem yn ymyl ein cyfaill ohyd.Pan welai ’r fath bryder, ac ofn yn ein calon,Gorchfygwyd ei lygad gan ddagrau tryloewon,Ond ffarwel obeithion oleuodd ei bryd.
Fel gwennol yn dilyn y llong tros yr eigion,Felly ’r dychymyg ddilynodd ein gwron,Nes glaniwyd yn llawen heb arf o nacâd—Gwersyllwyd am ennyd, ond ber fu’r orffwysfa,Nes sangwyd ar fryniau bythgofiol yi Alma,Uwchben amchwareufa ddychrynllyd y gâd.
Edrych gyferbyn ar lengoedd y gelynFel dirif locustiaid yn gwneuthur y dyffrynMal affwys echryslon y fall—A mil o fagnelau yn agor eu gyddfau,I chwythu tymestloedd ac eirias gawodau,I gladdu holl rengoedd y llall.
Ond megis iâ llithrolYr Alpau tragwyddol,Tros greigiau anhygyrch yn ceisio ’r gwrthentyrch islaw:Trwy danllyd ryferthwyGwneir rhuthur ofnadwy,Trwy ’r afon i’r llechwedd gerllaw.
Mae rhai yn ymestyn at ystlys y gelyn,A’r lleill fel taranfollt yn hyrddio i’w erbyn,I loches y fagnel a’r tân;Ond llamwyd i’r gloddfa, gorchfygwyd yn Alma,A’r meirwon led-glywsant y gân.
Pwy welais yn arwain hen gatrawd fy ngwlad,Yn flaenaf, yn nesaf i’r gelyn?Pwy gwympodd ar fynydd llosgfalog y gad,Gan godi o’i waed i oresgyn?
Pwy oedd yr un hwnnw a ddaliodd fel tŵr,Yr ufel raiadrau diri?Tydi, tydi gyfaill, tydi oedd y gŵr,A milwr fel hyn oeddyt ti.
Mynyddoedd yr Alma ddatganant dy werth,Dy ddewredd, a’th fedr milwrol;Ond draw yn Scutari datguddiwyd dy nerth,Fel arwr ar faes Cristionogol.
Ar wefus y milwr dolurus a gwan,Y gwasget rawnsypiau tosturi;A llawer ochenaid daer ddwys ar ei ran,Gyrhaeddodd y nef yn dy weddi.
Esmwythaist y clwyfus â balm oddi fry,Pan ballai daiarol feddygaeth;A glyn cysgod angau oleuwyd i luPan ddaliet ti lamp Iachawdwriaeth.
Er cymaint y caret dangnefedd dy wlad,Ac aelwyd dy riaint yn drigfan;Rhy bur dy gydwybod i dderbyn mwynhadA throi oddiwrth erchwyn y truan.
Pan ddaw y fath adeg—pan na fydd y bydYn agor cyfrolau rhyfeloedd,Coffeir y gwir filwr, a’i enw o hyd,Fydd beraidd am fil o flynyddoedd.
Tra dyn ar y ddaear ac hefyd tra boY nefoedd yn edrych ar rinwedd;Bydd glan y Mynorfor yn anwyl mewn coLle rhoddwyd gwir filwr i orwedd.
Gorphwysa fy nghyfaill yn ngwychder dy fedd,Ar filoedd disgynned dy ysbryd;Ond bwried rhyfeloedd i foroedd o hedd,A dyn i heddychol ddedwyddyd.
Mewncarchar du oer y cadwynwyd fi,Ond clywaf y bobloedd yn bloeddio—bloeddio!A bloeddio yn nes ac uwch mae y cri,Fod y dydd yn dod i fy nghollwng i;A dyna fagnelau yn rhuo,—rhuo!Mae ’r dorf yn cyhoeddi Jubil-ddydd,Garibaldi sy ’n dyfod im’ gollwng yn rhydd.
Mi glywaf yn dod offerynau pres,A mil o dabyrddau yn tyrddu,—tyrddu!Cân rhyddid yw hi, a theimlaf ei gwresFel y del yn mlaen, yn nes ac yn nes,Nes mae fy hen garchar yn crynnu,—crynnu!Fe wêl fy ngolygon oleu ddydd,Garibaldi sy ’n dyfod i’m gollwng yn rhydd.
Ein heiyrn a dawdd dan gyffyrddiad ei fys,Fy nghydgarcharorion, O! bloeddiwn—bloeddiwn,Mae ’r Eidal ein gwlad yn rbydd yn ddilys,Mae y sedd yn wag yn y gormes lys,Caneuon Itali, O! canwn,—canwn!A diolch i’r nefoedd, daeth y dydd,Garibaldi gyrhaeddodd, mae ’r Eidal yn rbydd.
[O “Owain Wyn.”]
Glogwynanwyl, hoff gan iYw hamdden am fynudyn,Taflu carreg i fy nghi,Neu eistedd ar dy gribyn:Gwylio’r afon glir islaw,A gollwng fy myfyrionI’r terfysglyd drefydd draw,Ym miwsig ei murmuron.
Bywyd Bugail—bywyd ywNas gŵyr y byd am dano,Heibio ’r bryniau wele ’r bywFel nant yn rhedeg heibio;Golud, enw, bydol fri,Yw eilun-dduwiau dynion;Mwy na ’r oll i’m golwg iYw praidd y bryniau gwylltion.
Praidd y mynydd—O! fy mhraidd!Mae pleser wrth eich gwylio,Cyn i’r ser fachludo braidd,A chyn i’r dwyrain ddyddio;Pan gusano’r haul y lli’,Y’m gyda chwi ein defaid;Fel ein calon, felly chwiYm mynwes eich bugeiliaid.
Gyda phraidd y mynydd gwyllt,Tynghedwyd ni a’n dyddiau;Llwybrau defaid, ŵyn a myllt,Yw ’r llwybrau deithiwn ninnau;Weithiau tan y creigiau certh,Yng nghanol y mynyddoedd,Dim i’w weld ond bryniau serth,A thyner lesni’r nefoedd;
Yna dringo pen y bryn,Hyd risiau craig ddaneddog,Gweld y nant, y cwm, a’r glyn,Y ddôl, y gors, a’r fawnog;Edrych ar y ceunant du,Fel bedd ar draws y bryniau;Bedd, yn wir, medd hanes, fuI lawer un o’n tadau.
Llawer craig fygythiol syddYn gwgu ar ein bywyd;Ond mae arnynt ddwylaw cudd,Ac nid oes maen yn syflyd;Clywir llais y dymhestl gref,A chwiban y corwyntoedd,Rhua croch daranau ’r nef,Ond huno wna ’r mynyddoedd.
Fel yr hen fynyddoedd clydY’m ninnau ym mysg dynion;Ysed tân ddinasoedd byd,A chwymped seddau ’r mawrion,Llwybro gyda ’n defaid wnawn,A thrin ein huchel diroedd;Hûn o bur dawelwch gawnYm mynwes y mynyddoedd.
Ffarweliti, Gymru fad,Mynd yr ydym tros y tonnau,Mynd gan adael ar ein holauBeddau mam a beddau tad;O ffarwel, ein hanwyl wlad.
Tua ’r lan fe drodd y bâd,Tra cyfeillion ger yr afonGodant eu cadachau gwynion;Rhaid dy adael, Gymru fad,O! ffarwel, ein hanwyl wlad.
Ffarwel, ffarwel, Gymru fad,Bydd yr heniaith a ddysgasom,A’r alawon a ganasomGyda ni mewn estron wlad;Ffarwel iti, Gymru fad.
[O “Owain Wyn.”]
Trosun o drumiau Berwyn.Ryw noson ddistaw oer,Y teithiai gŵr lluddedigWrth oleu can y lloer.Fry uwch ei ben yn crynnu’Roedd llawer seren dlos,A chlywid yntau ’n canuFel hyn i glust y nos:—
“Hen fynyddoedd fy mabandod,Syllant eto ger fy mron;Wele fi yn ail gyfarfodGyda ’r ardal dawel hon;Cwm wrth ochr cwm yn gorwedd,Nant a nant yn cwrdd ynghyd,A chlogwyni gwyllt aruthreddWyliant uwch eu pennau ’n fud.
“Mewn pellenig gartrefleoeddWedi ofn a phryder hir,Hoff freuddwydion fy mlynyddoeddSylweddolwyd gan y gwir;Os ffarweliodd anobeithionAr fy ngenedigol wlad,Ni ffarweliais yn fy nahalonGydag anwyl dŷ fy nhad.
Dacw ’m cartref is y goedwig,Groesaw! hen arwyddion hedd;Dacw ’r fynwent gysegredig,Wele ’r ywen—dyna ’rbedd!”Darfyddodd cân y teithiwrMewn teimlad llon a phrudd,A deigryn gloew, gloew,Ollyngodd tros ei rudd.
Aeth heibio dôr ei gartref,Os gofyn wnei paham,Awgrymed dy deimladau,A chofiafedd ei fam!A threnlio ’r noson honnoAr fedd ei fam wnaeth ef,Nes suddo ’r seren foreI eigion gwyn y nef.