The Project Gutenberg eBook ofCeiriogThis ebook is for the use of anyone anywhere in the United States and most other parts of the world at no cost and with almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included with this ebook or online atwww.gutenberg.org. If you are not located in the United States, you will have to check the laws of the country where you are located before using this eBook.Title: CeiriogAuthor: John Ceiriog HughesEditor: Sir Owen Morgan EdwardsRelease date: October 1, 2002 [eBook #3500]Most recently updated: August 19, 2019Language: WelshCredits: Transcribed from the 1902 Ab Owen edition by David Price*** START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK CEIRIOG ***
This ebook is for the use of anyone anywhere in the United States and most other parts of the world at no cost and with almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included with this ebook or online atwww.gutenberg.org. If you are not located in the United States, you will have to check the laws of the country where you are located before using this eBook.
Title: CeiriogAuthor: John Ceiriog HughesEditor: Sir Owen Morgan EdwardsRelease date: October 1, 2002 [eBook #3500]Most recently updated: August 19, 2019Language: WelshCredits: Transcribed from the 1902 Ab Owen edition by David Price
Title: Ceiriog
Author: John Ceiriog HughesEditor: Sir Owen Morgan Edwards
Author: John Ceiriog Hughes
Editor: Sir Owen Morgan Edwards
Release date: October 1, 2002 [eBook #3500]Most recently updated: August 19, 2019
Language: Welsh
Credits: Transcribed from the 1902 Ab Owen edition by David Price
*** START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK CEIRIOG ***
Transcribed from the 1902 Ab Owen edition by David Price, ccx074@pglaf.org
J. Ceiriog Hughes. Tynnwyd y darlun yn ei ardd yn Llandiloes, yn 1867. [O’r “Oriel Gymreig.”]
Decorative graphic
LLANUWCHLLYN, AB OWEN.1902.
Argraffwyd i Ab Owen gan Mri. Hughes a’i Fab,Gwrecsam.
Arun o lethrau’r Berwyn y ganwyd ac y magwyd Ceiriog. Gadawodd ei gartref anghysbell a mynyddig pan yn fachgen; a’i hiraeth am fynyddoedd a bugeiliaid bro ei febyd, tra ym mŵg a thwrw Manceinion, roddodd fod i’w gân pan ar ei thlysaf ac ar ei thyneraf.
Mab Richard a Phoebe Hughes, Pen y Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, oedd John Ceiriog Hughes. Ganwyd ef Medi 25ain, 1832. Aeth i’r ysgol yn Nant y Glog, ger y llan. Yn lle aros gartref ym Mhen y Bryn i amaethu ac i fugeila wedi gadael yr ysgol, trodd tua Chroesoswallt yn 1848, i swyddfa argraffydd. Oddiyno, yn 1849, aeth i Fanceinion; ac yno y bu nes y daeth ei enw yn adnabyddus trwy Gymru. Deffrowyd ei awen gan gapel, a chyfarfod llenyddol, a chwmni rhai, fel Idris Vychan, oedd yn rhoddi pris ar draddodiadau ac alawon Cymru.
Yn 1858 yr oedd yn adrodd rhannau o’i gân fuddugol,—“Myfanwy Fychan,”—yn Eisteddfod Llangollen, am y mynydd a’i gartref. Yn 1860 cyhoeddwyd ei “Oriau’r Hwyr;” daeth hwn ar unwaith yn un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Yn 1861priododd un o rianod gwlad Ceiriog. Yn 1862 cyhoeddwyd ei “Oriau’r Bore,” lle mae ei awen ar ei thlysaf ac ar ei grymusaf. O hynny hyd ddiwedd ei oes, daliodd i ganu. Y mae dros chwe chant o’i ganeuon wedi dod a llawenydd i galon miloedd o Gymry, ac ambell un ddeigryn i lawer llygad.
Yn 1865, daeth Ceiriog yn orsaf feistr i Lanidloes. Aeth oddiyno i Dowyn yn 1870, oddiyno i Drefeglwys yn 1871, ac oddiyno i Gaersws yn yr un flwyddyu. Yno y bu farw, Ebrill 23ain, 1887. Treuliodd ei febyd, felly, yn Nyffryn Ceiriog, rhan ganol ei oes ym Manceinion, a’r rhan olaf ym mlaen Dyffryn yr Hafren.
Trwy’r blynyddoedd yr oedd tri pheth yn agos iawn at ei galon,—llenyddiaeth Cymru, yr Eisteddfod, ac addysg Cymru. Yr oedd yn hoff o Ddafydd ab Gwilym; yr oedd ganddo gariad greddfol at y naturiol a’r cain. Yr oedd ei fryd ar ddiwygio’r Eisteddfod, ac ar ei gwneyd yn allu cenhedlaethol. Hiraethai am ddadblygiad cyfundrefn addysg, ac ymfalchiai yng Ngholeg Prifysgol Cymru. Un o wir feibion y mynyddoedd oedd.
Wrth drefnu’r gyfrol hon, ceisiais ddewis darnau perffeithiaf Ceiriog, gan adael allan bopeth lle na welir y bardd ar ei oreu. Y canlyniad ydyw hyn,—dewiswn, er fy ngwaethaf, y dwys a’r tyner yn ei awen, ac nid y digrif. I’r dwys y rhoddodd Ceiriog fwyaf o’i enaid, ac ymarllwysiad teimlad ei oriau pruddaf yw ei ganeuon goreu.
Dymunwn ddiolch yn gynnes i’r Mri. Hughes am gyhoeddi y gyfrol hon imi. Y mae ganddynt hwy hawl ar y rhan fwyaf o lawer o’r caneuon sydd yn ygyfrol. Ni buaswn yn gofyn iddynt gyhoeddi y pigion hyn, oni buasai fy mod yn gwybod y codir awydd ymysg llawer i brynnu y ddwy gyfrol brydferth gyhoeddwyd yn ystod bywyd Ceiriog, a than ei ofal, ganddynt hwy.
Ceiriog, yn ddiameu, yw bardd telynegol mwyaf Cymru. Y mae ei naturioldeb syml a’i gydymdemlad dwys wedi rhoi swyn anfarwol i’w gân. Nid oes telyn yn yr un bywyd na chyffyrdda Ceiriog â rhai o’i thannau. Tra aber yn rhedeg yn loew dros raian mân, a thra bo gwrid mwyn yn hanner gyfaddef serch, ca’r galon ddynol fwynhad a nerth o ganeuon Ceiriog.
“Alun Mabon” yw ei gampwaith. Y mae miwsig hen alawon yn yr odlau; y mae bywyd y bugail yma yn ei bryder a’i fwynder. Ynddo darlunia Ceiriog ei fywyd ei hun, a bywyd pob mynyddwr.
“Ond bugeiliaid ereill sydd ar yr hen fynyddoedd hyn.” Nid teulu Ceiriog sydd yn byw ym Mhen y Bryn yn awr. Ym mynwent Llanwnog, ger Caersws, ymysg y bryniau hanesiol mud, y rhoddwyd y prydydd i huno. Ar groes ei fedd y mae ysgrif syml, ac englyn o’i waith ei hun,—
ER
COF AM
JOHNCEIRIOGHUGHES,
A ANWYD MEDI25,
1832,
A FU FARW EBRILL23,
1887.
Carodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd,Carodd fyw ’n naturiol;Carodd gerdd yn angerddol,Dyma ’i fedd,—a dim lol.
OWEN M. EDWARDS.
Rhydychen,Mawrth1, 1902.
Decorative graphic of birds
Nant y Mynydd
9
Meddyliau am y Nefoedd
10
Mae John yn mynd i Loegr
11
Bugail yr Hafod
12
Ti wyddost beth ddywed fy nghalon
13
Y fenyw fach a’r Beibl mawr
15
Dychweliad y Cymro
16
Addfwyn fiwsig
17
Y Carnadau
17
Bugeilio’r Gwenith Gwyn
18
Mae’n Gymro byth
19
Mi welaf mewf adgof
20
Dim ond unwaith
20
Y march ar gwddw brith
21
Y Ferch o’r Scer
22
Pa le mae’r hen Gymry
23
Maes Crogen
24
Tros y Garreg
25
Bardd yn ei Awen
26
Codiad yr haul
27
Llongau Madog
28
Serch Hudol
29
Breuddwyd y Bardd
30
Corn y Gad
32
Dafydd y Garreg Wen
34
Toriad y Dydd
35
Yr Eneth Ddall
36
Codiad yr Hedydd
37
Ar hyd y Nos
38
Morfa Rhuddlan
38
Dim ond dechreu
39
Difyrrwch Gwyr Harlech
40
Trot y Gaseg
41
Llances y Dyffryn
42
Yn Ynys Mon
43
Cadlef Morgannwg
45
Mwyn yw myned tua Mon
46
Hun Gwenllian
47
Ar ddôl pendefig
48
A laeswn ni ddwylaw
48
Llwybr y Pererin
49
Bedd Llywelyn
49
A ddywedaist ti fod Cymru ’n dlawd
50
Peidiwch byth a dwedyd hynny
51
Dydd trwy ’r ffenestr
52
Cerddi Cymru
52
I gadw ’r hen wlad
53
Myfi sy’n magu ’r baban
54
Tua Thegid dewch
55
Hen gwrwg fy ngwlad
56
Pob rhyw seren fechan wenai
57
Claddedigaeth Morgan Hen
58
Myfanwy
59
Gofidiau Serch
61
Wrth weld yr haul yn machlud
62
Y fodrwy briodasol
63
O weddi daer
64
Y baban diwrnod oed
65
Y fam ieuanc
67
Ceisiais drysor
68
Y fynwent yn y coed
69
Claddasom di, Elen
70
Annie Lisle
71
Y defnyn cyntaf o eira
72
Cavour
72
Y milwr na ddychwel
73
Garibaldi a charcharor Naples
76
Glogwyn anwyl
77
Ffarwel iti, Gymru fad
79
Tros un o drumiau Berwyn
80
Dychweliad yr hen filwr
81
Trwy wledydd dwyreiniol
84
Y Garreg Wen
85
Tuag adre
87
Beibl fy mam
88
Alun Mabon
89
Decorative graphic of cow and windmill
J.Ceiriog Hughes. O’r “Oriel Gymreig.”
Tynnwyd y darlun hwn gan Mr. J. Thomas (Cambrian Gallery), yng ngardd Ceiriog yn Llanidloes, yn haf 1867
Wyneb-ddarlun.
Nant y Mynydd. S. M. Jones.I wynebu tud
“Nant y Mynydd, groew, loew,Yn ymdroelli tua’r pant.”
“Nant y Mynydd, groew, loew,Yn ymdroelli tua’r pant.”
17
Castell Dinas Bran. S. M. Jones.I wynebu tud
“Mewn derwen agenwyd gan folltDraig-fellten wen-lachar ac erch.”
“Mewn derwen agenwyd gan folltDraig-fellten wen-lachar ac erch.”
41
Derw’r Llwyn. S. M. Jones.I wynebu tud
“Wyt ti’n cofio’r lloer yn codiDros hen dderw mawr y llwyn?”
“Wyt ti’n cofio’r lloer yn codiDros hen dderw mawr y llwyn?”
64
Mynyddoedd Cymru. S. M. Jones.I wynebu tud
“Aros mae’r mynyddoedd mawr,Rhuo trostynt mae y gwynt.”
“Aros mae’r mynyddoedd mawr,Rhuo trostynt mae y gwynt.”
89
Nant y Mynydd, groew, loew,Yn ymdroelli tua’r pant;Rhwng y brwyu yn sisial ganu,O na bawn i fel y nant.
Grug y Mynydd yn eu blodau,Edrych arnynt hiraeth ddugAm gael aros ar y bryniauYn yr awel efo’r grug.
Adar mân y mynydd uchel,Godant yn yr awel iach;O’r naill drum i’r llall yn hedeg—O na bawn fel deryn bach.
Mab y Mynydd ydwyf innau,Oddicartref yn gwneyd cân,Ond mae’m calon yn y myuyddEfo’r grug a’r adar mân.
Y mae y tri phennill hyn mewn rhan yn wreiddiol, ac mewn rhan yn gyfieithiedig.
Dawmeddyliau am y nefoeddGydag awel wan y nawn,Gyda llanw’r môr fe ddeuant,Gan lefaru ’n felus iawn;Pan fo ’r mellt fel ser yn syrthio,Yn y storm gynhyrfus, gref—Pan fo ’r llong yn teimlo ’r creigiau,Daw meddyliau am y nef.
Daw meddyliau am y nefoedd,I unigedd fforest goed,Ac i’r anial, lle nas tyfoddUn glaswelltyn bach erioed.Ar fynyddau ’r ia tragwyddol,Ac ar greigiau llymion, lleBydd eryrod yn gorffwyso,Daw meddyliau am y ne.
Daw meddyliau am y nefoeddI ynysig leia ’r aig,Lle mae ’r don yn gosod coronGwrel wen ar ben y graig;Trwy holl gyfandiroedd daear,Glynnoedd dwfn, a bryniau ban,Pur feddyliau am y nefoeddDdont eu hunain i bob man.
Y mae hen dôn wladol o’r enwGofid Gwynan, ac un led dlos ydyw ar y cyfan, ond nid i gyd felly. Ysgrifennwyd y geiriau canlynol i’w canu arni, ond nid ydynt yn ymbriodi â’r alaw mor hapus ag y dymunwn. Dymunwn ddyweyd am y gân ganlynol, mai ychydig iawn o ddychymyg sydd ynddi, ond fy mod yn dyweyd fy mhrofiad oreu gallwn.
MaeJohn yn mynd i Loeger,A bore fory ’r a;Mae gweddw fam y bachgenYn gwybod hynny ’n dda;Wrth bacio ’i ddillad gwladaidd,A’u plygu ar y bwrdd,Y gist ymddengys iddi,Fel arch ar fynd i ffwrdd.
Mae ef yn hel ei lyfrau,I’r gist sydd ar y llawr;Yn llon gan feddwl gweledGwychderau ’r trefydd mawr.Nis gwel e ’r deigryn distawAr rudd y weddw drist;Na ’r Beibl bychan newyddA roddwyd yn y gist.
Yn fore, bore drannoeth,Pan gysgai ’r holl rai bach;Wrth erchwyn y gwelyauMae John yn canu ’n iach.Carasai aros gartref,Ond nid oedd dim i’w wneyd—Fe gawsai aros hefyd,Pe b’asai ’n meiddio dweyd.
I gwrdd y tren boreuol,Cyn toriad dydd yr a,—“Ffarwel, fy mhlentyn anwyl,O bydd yn fachgen da!Y nef a’th amddiffynno,Fy machgen gwyn a gwiw;Paid byth anghofio ’th gartref,Na ’th wlad, na ’th iaith, na’ th Dduw.”
Alaw,—Hobed o Hilion.
Panoeddwn i’n fugail yn Hafod y Rhyd,A’r defaid yn dyfod i’r gwair a’r iraidd ŷd;Tan goeden gysgodol mor ddedwydd ’own i,Yn cysgu, yn cysgu, yn ymyl trwyn fy nghi;Gwelaf a welaf, af fan y fynnaf,Yno mae fy nghalon, efo hen gyfoedionYn mwynhau y maesydd a’r dolydd ar hafddydd ar ei hyd.
Pan oeddwn i gartref, fy mhennaf fwynhadOedd naddu a naddu ar aelwyd glyd fy nhad;Tra ’m chwaer efo ’i hosan a mam efo carth,Yn nyddu, yn nyddu, ar garreg lân y barth,Deued a ddeuo, anian dynn yno,Hedaf yn fy afiaeth ar adenydd hiraethI’r hen dŷ, glangynnes, dirodres, adewais yn fy ngwlad.
Mae’r wennol yn crwydro o’i hannedd ddilyth,Ond dychwel wna’r wennol yn ol i’w hanwyl nyth;A chrwydro wnawn ninnau ymhell ar ein hynt,Gan gofio ’r hen gartref chwareuem ynddo gynt.Pwyso mae adfyd, chwerwi mae bywyd,Chwerwed ef a chwerwo, melus ydyw cofioAnnedd wen dan heulwen yr awen a wena arnom byth.
Achlysurwyd y penillion hyn gan eiriau ymadawol mam yr awdwr, pan oedd hi yn dychwelyd i Gymru, ar ol talu ymweliad iddo.
Ynaraf i safle ’r gerbydres gerllaw,Y rhodiai fy mam gyda’i phlentyn;I waelod ei chalon disgynnodd y braw,Pan welai y fan oedd raid cychwyn.Ymwelwodd ei gwefus—ei llygaid droi ’n syn,Rhy floesg oedd i roddi cynghorion;Fe’i clywais er hynny yn sibrwd fel hyn,—“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”
Canfyddodd fy llygad mewn dagrau ’n pruddhau,Gwir ddelw o’i llygad ei hunan;Hyn ydoedd am ennyd fel yn ei boddhau,Er nad fy nhristau oedd ei hamcan.Ond er fod cyfyngder yr ennyd yn gwneydAtalfa ar ffrwd o gysuron,Mudanrwydd rodd gennad i’w hanadl ddweyd,—“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”
Nid son am gynllwynion y diafol, a’i fryd,Er ennill ieuenctid i’w afael—Nid son am ffolineb, a siomiant y byd,Yr ydoedd pan oedd yn fy ngadael;Dymunai ’n ddiameu bob lles ar fy nhaith,Trwy fywyd i fyd yr ysbrydion;Ond hyn oedd yr oll a ddiangodd mewn iaith,—“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”
I eiriau dirmygus, dieithrol nid wyf,Mi wn beth yw llymder gwatwariaeth;Y munud diffygiwn dan loesion eu clwyf,Yn nesaf dro’i oll, yn ddieffaithDo, clywais hyawdledd—er teimlo ei rym,Mewn effaith ni lŷn ei rybuddion;Ond hyn gan dynerwch fyth erys yn llym,—“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”
Mae ysbryd yr oes megis chwyddiad y môr,Yn chware â chreigiau peryglon;O’m amgylch mae dynion a wawdiant Dduw Ior,Wyf finnau ddiferyn o’r eigion;Fy nghamrau brysurant i ddinistr y ffol,Ond tra ar y dibyn echryslonAtelir fi yno gan lais o fy ol,—“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”
Pe gwelwn yn llosgi ar ddalen y nef,Y tanllyd lythrennau “Na Phecha;”Pe rhuai taranau pob oes yn uu llef—“Cyfreithiau dy Dduw na throsedda;”Pe mellten arafai nes aros yn fflam,I’m hatal ar ffordd anuwiolion,Anrhaethol rymusach yw awgrym fy mam,—“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”
Gwyn, gwyn yw mur y bwthyn ar y bryn,O’i bared tŷf rhosynau coch a gwyn;Tu allan, hardd a pharadwysaidd yw—Tu fewn mae’r ferch, fy nghariad wen, yn byw.
[Mae y gân hon yn un a gerir gennyf fi tra byddaf byw, am fy mod wedi digwydd ei chyfansoddi rhwng 9 a 10 o’r gloch, boreu Ebrill y 3ydd, 1859. Boreu trannoeth derbyniais lythyr ymylddu o Gymru, yn dwyn imi y newydd fod fy anwyl dad wedi cau ei lygaid ar y byd hwn,ar y dydd a’r awr grybwylledig.—J. C. H.]
Disgynnai’r gwlaw, a gwynt y nosA ruai yn y llwyn;Pan oedd genethig dlawd, ddifam,Yn dal ei chanwyll frwyn;Wrth wely ei chystuddiol dad,A’i gliniau ar y llawr,Gan dynnu ’r wylo iddi’ hun,A darllen y Beibl mawr.
Disgynnai ’r gwlaw a gwynt y nosGwynfanai am y dydd,A llosgi ’r oedd y ganwyll frwynUwchben y welw rudd;A gwylio ’r oedd y fenyw fachEi thad o awr i awr,Gan dorri mewn gweddiau taer,A darllen y Beibl mawr.
Disgynnai ’r gwlaw, a gwynt y nosDramwyai drumiau ’r wlad,A chwsg a ddaeth i esmwythâuEi chystuddiedig dad;Ond pa fath gwsg, nis gwyddai hi,Nes dwedai ’r oleu wawr,Ei fod ef wedi mynd i’r nef,Yn swn yr hen Feibl mawr.
Disgynna ’r gwlaw, ac eto ’r gwyntA rua yn y llwyn,Uwchben amddifad eneth dlawd,Tra deil ei chanwyll frwyn;Ar ol ei thad, ar ol ei mham,Ei chysur oll yn awrYw plygu wrth eu gwely hwy,A darllen y Beibl mawr.
OHinsawddi hinsawdd mi grwydrais yn hir,O rewdir y Gogledd i Itali dlos:Am danat ti Walia, ar fôr ac ar dir,Hiraethais y dydd a breuddwydiais y nos.Cyfeiriais fy nghamrau i’r ardal hoff hon,Ar gopa Clawdd Offa gosodais fy nhraed;Daeth awel y mynydd fel gwin i fy mron,A golwg ar Gymru gynhesodd fy ngwaed,A golwg ar Gymru gynhesodd ngwaed.
Ar dywod yr anial bu ôl fy nau droed,Mi deithiais yn oerfel a phoethder yr hin;O’r fro lle nas tyfodd glaswelltyn erioed,I wledydd y mêl a gwinllanoedd y gwin;Yng Nghymru parhaodd fy nghalon o hyd,Anwylach a harddach oedd hen Walia wen;Mi groesais y môr i eithafoedd y byd:Ond croesais yr Hafren i orffwys fy mhen,Yng nghartref fy nhadau gorffwysaf fy mhen.
“Nant y Mynydd, groew, loew, Yn ymdroelli tua’r pant.” Tud 9
AddfwynFiwsig, addfwyn Fiwsig,Gwenferch gwynfa ydwyt ti;Pan anedli, adfywiedigAwel haf ddaw atom ni.Gauaf du helbulon,Droi yn ha;Danat rhew y galon,Toddi wna, toddi wna.Dafnau melus bro gogoniant,Yn dy lafar di ddisgynnant;Blodau Eden yn ddiri’,Dyfant, wenant, beraroglant,Yn dy lais a’th wyddfod ti.Nefol ferch ysbrydoledig,Ti sy ’n puro ’r fron lygredig,Ti sy ’n llonni ’r cystuddiedig.Addfwyn Fiwsig, addfwyn FiwsigGwenferch gwynfa ydwyt ti.
Nid oes gennyf fawr o bleser gydag ysgrifennu un math o farddoniaeth heblaw caneuon bychain o’r fath hyn. Fy mhlant fy hun ydyw’r Caniadau. Dymuniad fy nghalon a balchder fy mynwes ydyw eu dwyn i fyny yn blant da. Wrth adael i rai ddawnsio mewn plentynrwydd, ac i’r lleill chwerthin ac ysmalio, caiff nifer o honynt gadw carwriaeth ac eraill ganu hen alawon eu brodir. Caiff bechgyn weithio yn y graig, a bugeilio ar y mynydd, a phan fydd dolefiad corn y gâd yn galw, fe’u cyfeiriaf i faes y frwydr i amddiffyn eu cartref, ac i farw’n ddewr tros Ryddid eu mamwlad. Yn nesaf at ofni Duw ac anrhydeddu y brenin, cant garu eu gwlad a meddwl yn dda am eu hiaith a’u cenedl.
Alaw,—Bugeilio ’r gwenith gwyn.
Eisteddaimerch ar gamfa’r cae,A’i phen gan flodau ’n dryfrith,I gadw ’r adar bach ffwrddRhag disgyn ar y gwenith.Rho’i ganiatad i’r deryn to,A’r asgell fraith gael disgyn;Rhag ofn ei fod yn eos fach,A dyna deimlad plentyn.
Pan welot tithau eneth wan,Yn gofyn am dy gymorth:Wrth gil y drws, a glywi di,Mo ymbil chwaer am ymborth?Os wyt am fendith ar dy faes,Gogwydda glust i’w gweddi;Yr oedd yr haul, a’r gwlith, a’r gwlaw,Yn meddwl am roi iddi.
Os wyt am fedi gwenith gwyn,Gofala beth a heui;A wyt ti’n hau y dyddiau hynYr hyn ddymunet fedi?Tra gwelot wlith a gwlaw y nen,A’r heulwen yn haelionus;Wel dos i hau ar dir y tlawd,A chofia’th frawd anghenus.
Alaw,—O Gylch y Ford Gron.
Mae’nGymro byth pwy bynnag yw,A gâr ei wlad ddinam;Ac ni fu hwnnw ’n Gymro ’rioed,A wado fro ei fam.Aed un i’r gâd a’r llall i’r môr,A’r llall i dorri mawn;A chario Cymru ar ei gefnA wnaiff y Cymro iawn.
Cydgan: Does neb yn caru Cymru ’n llai,Er iddo grwydro ’n ffol;Mae calon Cymro fel y traiYn siwr o ddod yn ol.
Er mynd ymhell o Walia Wen,A byw o honi ’n hir,Ac er i’r gwallt claerdduaf droiYn wyn mewn estron dir,Mae ’r cof am dad a mam yn myndI’r bwthyn yn y ddôl,A chlychau mebyd yn y glustYn galw galw ’n ol.
Enilled aur ac uchel glod,Mewn gwlad o win a mêl;Aed yn ei longau ar y môr,Er maint o’r byd a wêl;Wrth edrych ar fachludiad haulA gwylio ser y nos,Bydd clychau arian yn y gwyntYn son am Gymru dlos.
Alaw,—Difyrrwch Arglwyddes Owen.
Miwelaf mewn adgof hen ysgol y Llan,A’r afon dryloew yn ymyl y fan:O’m blaen mae pob carreg yn rhedeg yn rhes,A’r coedydd gysgodent fy mhen rhag y gwres.Yng nghanol eu cangau mae telyn y gwynt,Yn eilio ’r hen alaw a ganwn i gynt;Rwy ’n teimlo fy nhalcen dan heulwen yr haf,A ’nghalon yng Ngwalia ple bynnag yr af.
Rwy’n gweled y defaid a’r ŵyn ar y bryn,Rwy ’n gweled gwynebau sy ’ngwaelod y glyn;Rwy’n clywed rhaiadrau yn adsain o draw,Ar mawrwynt yn erlid y cenllysg ar gwlaw.O sued yr awel, a rhued y don,Beroriaeth adgofion yn lleddf ac yn llon,Boed cwpan dedwyddyd yn wag neu yn llawn,Yng Ngwalia mae ’r galon ple bynnag yr awn.
Dimond unwaith yn y flwyddyn,Awn i fyny ’r cymoedd cain;Awn i ogli ’r peraidd borwelltLlysiau ’r mêl a blodau ’r drain.Dim ond unwaith yn y flwyddynGwena ’r ddaear oll fel gardd;Awn aan dro, tua bryniau ’n broDim ond unwaith yn y flwyddyn,Pwy na chwery, pwy na chwardd?
Alaw,—Y Gadlys.
Caradogeilw ’i ddeiliaid,Ag udgorn ar ei fant;Fe ruthrodd y Siluriaid,Cwympasant yn y pant.Enciliodd arwyr enwog,Ond ar y march a’r gwddw brithFe ddaw ’r frenhines deg i’w plithI edrych am Garadog.
Mae cynnwrf yn y ceunant,Ar derfyn dydd y gad;A dynion dewr orweddant,I farw tros eu gwlad.Yr afon foddodd fyddin,Ond ar y march a’r gwddw brith,Fe ddaw ’r frenhines deg i’w plith,I edrych am y brenin.
Fe welodd y RhufeiniaidY march a’r gwddw brith;Ond gwelodd y BrythoniaidFrenhines yn eu plith.Mae ’r corn yn ail-udganu,Brythoniaid yn eu holau drônt,Rhufeiniaid yn eu holau ffônt,O flaen cleddyfau Cymru.
Dywedir fod Merch y Scer yn ddarpar gwraig i’r telynor am rai blynyddau, ond gan iddo trwy ryw ddamwain golli ei olwg, fe berswadiwyd y llances gan ei pherthynasau a chan ei theimladau ei hun i roi pen ar y garwriaeth. Gwnaed y dôn gwynfanus a phrydferth hon gan y telynor i arllwys allan ei siomedigaeth a’i ofid.
Alaw,—Y Ferch o’r Scer.
’R wyf yn cysgu mewn dallinebGanol dydd a chanol nos;Gan freuddwydio gweled gwynebLleuad wen a seren dlos.Tybio gweld fy mam fy hunan—Gweld yr haul yn danbaid dêr;Gweld fy hun yn rhoddi cusanI fy chwaer a Merch y Scer.
Gwresog ydyw’r haul gwyneblon,Oer, ond anwyl, ydyw ’r ser;Gwres oer felly yn fy nghalonBâr adgofion Merch y Scer.Mae fy mam a’m chwaer yn dirion,Yn rhoi popeth yn fy llaw;Merch y Scer sy ’n torri ’m calon,Merch y Scer sy ’n cadw draw.
Cariad sydd fel pren canghennog,Pwy na chara Dduw a dyn?Cangen fechan orflodeuogYdyw cariad mab a mun.O! ’r wy’n diolch ar fy ngliniau,Am y cariad pur di-ball;Cariad chwaer sy ’n cuddio beiau—Cariad mam sy’n caru ’r dall.
Bernid unwaith, nid yn unig gan Gymru hygoel, ond gan yr holl deyrnas, fod llwyth o Indiaid Cymreig yn preswylio parth o’r America ar gyffiniau yr afon Missouri, ac mai y Padoucas neu y Mandanas oeddynt. Y mae yr hanes amJohn Evanso’r Waunfawr, yn Arfon, yn hynod effeithiol. Cenhadwr ieuanc, llawn o ysbryd gwladgarol ac o sêl grefyddol ydoedd ef. Ymgymerodd â’r gorchwyl mawr o fyned i eithafoedd America, i chwilio am ddisgynyddion Madog, ac i bregethu yr efengyl iddynt. Dilynodd John Evans yr afon Missouri am 1,600 o filldiroedd, ond tarawyd ef â’r dwymyn, a bu farw, ymhell o’i fro enedigol, ac mor bell ag erioed oddiwrth yr Indiaid Cymreig. Y mae pedwar ugain mlynedd er hynny, ac y mae ein barn, gan mwyaf, wedi cyfnewid o barth i fodolaeth bresennol disgynyddion Madog ap Owen Gwynedd. Gweler draethawd Thomas Stephens, Ysw., Merthyr Tydfil, ar y mater. Y mae amcan mawreddus, ynni anturiaethus, taith aflwyddiannus, a diwedd torcalonnus y Cymro ieuanc hwn yn hynod darawiadol.
Alaw,—Llwyn Onn.
Mae ’rhaul wedi machlud, a’r lleuad yn codi,A bachgen o Gymru yn flin gan ei daith;Yn crwydro mewn breuddwyd, ar lan y Missouri,I chwilio am lwyth a lefarent ein hiaith.Ymdrochai y ser yn y tonnau tryloewon,Ac yntau fel meudwy yn rhodio trwy i hun;“Pa le mae fy mrodyr?” gofynnai i’r afon“Pa le mae ’r hen Gymry, fy mhobol fy hun?”
Fe ruai bwystfilod, a’r nos wnai dywyllu,Tra ’r dwfr yn ei wyneb a’r coed yn ei gefn;Yng nghaban y coediwr fe syrthiodd i gysgu,Ac yno breuddwydiodd ei freuddwyd drachefn.Fe welai Frythoniaid, Cymraeg wnaent lefaru,Adroddent eu hanes, deallai bob un.Deffrôdd yn y dwymyn, bu farw gan ofyn,“Pa le mae ’r hen Gymry, fy mhobol fy hun?”
Ar y ffordd rhwng y Waun a Glynceiriog, y mae tŷ fferm mawr, o’r enw Crogen Iddon. Bu brwydr dost yn yr ardal hon yn 1164, rhwng y Cymry, tan arweiniad Owen Gwynedd, a Harri II. Y mae ôl ei wersyll mewn amryw fannau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin—ac ar ran o’r mynydd perthynol i’r amaethdy y’m ganwyd ac y’m magwyd i.
Alaw,—Y Fwyalchen.
Yfrwydraeth trosodd o’r diwedd,A baeddwyd y gelyn yn llwyr;A’r ser edrychasant ar Wynedd,A’r bore ddilynodd yr hwyr.’R oedd yno ieuenctid yn gorwedd,Am sefyll tros Wynedd yn bur—Yn fore daeth mamau a gwragedd,I chwilio am feibion a gwŷr.
Fe ganai mwyalchen er hynny,Mewn derwen ar lannerch y gâd;Tra ’r coedydd a’r gwrychoedd yn lledu,Eu breichiau tros filwyr ein gwlad.Gorweddai gŵr ieuanc yn welw,Fe drengodd bachgennyn gerllaw;Tra i dad wrth ei ochor yn farw,A’i gleddyf yn fyw yn ei law.
Gan frodyr, chwiorydd, a mamau,Fe gasglwyd y meirwon ynghyd;Agorwyd y ffos ac fe ’i cauwyd,Ond canai ’r Fwyalchen o hyd.Bu brwydyr Maes Crogen yn chwerw,Gwyn fyd yr aderyn nas gŵyrAm alar y byw am y meirw,Y bore ddilynodd yr hwyr.
Pan y bydd llanciau a merched sir Feirionnydd mewn llefydd rhwng Bwlch Llandrillo a Chlawdd Offa, soniant yn fynych am fyned am dro i sir Feirionnydd, tros Garreg Ferwyn a thros y Bwlch. Awgrymwyd y gân hon gan lodes oedd yn myned ag arian i helpu ei mam dalu y rhent am y tŷ bychan lle y ganwyd ac y bu farw ei thad.
Alaw,—Tros y Garreg.
Feddaw wythnos yn yr haf,Gweled hen gyfeillion gaf;Tros y mynyddI Feirionnydd,Tros y Garreg acw ’r af.Ar y mynydd wele hi,Draw yn pwyntio ataf fi;Fyny ’r bryn o gam i gam,Gyda ’m troed fy nghalon lam;Af ag anrhegTros y GarregI fy unig anwyl fam.
Fe gaf chware ar y ddôl,Fe gaf eistedd ar y ’stol,Wrth y pentan,Diddan, diddan,Tros y Garreg af yn ol.Pan ddaw ’r wythnos yn yr haf,O fel codaf ac yr af,Fyny ’r bryn o gam i gam,Gyda ’m troed fy nghalon lam;Af ag anrhegTros y GarregI fy unig anwyl fam.
Mae llawer eraill o ddulliau yn bod ar y mesur hwn, ond nid wyf yn alluog, oddiwrth yr engreifftiau sydd gennyf, i roi barn nac opiniwn pa un o’r amryw fathau yw y mwyaf dewisol. Y mae y dôn yn ddigon ystwyth ac ufudd, modd bynnag, i addasu ei hun at y cyfan. Efallai
Nad oes faws na dwys fesurO un baich i hen dôn bur,
Nad oes faws na dwys fesurO un baich i hen dôn bur,
mwy nag i awen.
Alaw,—Bardd yn ei Awen.
MaeBardd i ddod ryw ddydd,A brenin-fardd ein bryniau fydd,Fe ddaw i Gymru lân;Ei wlad a glyw ei lef,A ni a phawb a’i hoffwn ef,Pan gwyd pen gawr y gân;Fe aiff i ddwyfol fan,Yn nghiliau dwfn hen galon dyn:Am Hedd fe gân o hyd,Fod angel Hedd yn hel ynghyd,Enwadau ’r byd yn un.
Fe ddaw y Bardd i’r byd,A’i gân i ben, O! gwyn eu bydY dorf a wêl y dydd;Pwy wêl y bore gwyn,Ac heulwen deg cyflawniad hyn,Y fath gyfundeb fydd!Daw bardd i fysg ein plant,I daro tant yn natur dyn;Am Hedd fe gân o hyd,Fod angel Hedd yn hel ynghydEnwadau ’r byd yn un.
Mae yr alaw hon yn fwy addas feallai i’w chanu ar offeryn na chyda llais, oblegid ei bod mor gyflym, nes y mae synwyr, barddoniaeth geiriau, ac odlau yn cael llithro trostynt o’r bron heb eu cyffwrdd. Yr oedd Handel yn gydnabyddus iawn gyda’r hen donau Cymreig, ac fe ddefnyddiodd hon yn eiAcis and Galatea. Yr oedd cyfaill o Sais un tro yn chware yr alaw o dan fy nghronglwyd, ac wedi myned unwaith neu ddwy tros y dôn, pan waeddodd allan tros ei ysgwydd, “Ai tôn Gymreig y galwch chwi hon? Tôn o waith Handel yn dôn Gymreig!” Yr oedd yn dda gennyf gael cyfleustra i esbonio iddo.
Alaw,—Codiad yr Haul.
Gwel, gwel! wyneb y wawr,Gwenu mae y bore-gwyn mawr:Ac wele’r Haul trwy gwmwl rhudd,Yn hollti ei daith gan dywallt Dydd!I’w ŵydd adar a ddônt,Dreigiau ’r Nos o’i olwg a ffônt.Pwy ddwed hardded ei rudd,Wyched yw gwynfreichiau Dydd!Try y môr yn gochfor gwaed,A’r ddaear dry o dan ei draed,A’r ddaear dry o dan ei draed.
Haul, Haul! hyfryd yw Haul,Gwyneb Hedd yw gwyneb yr Haul:I fyrdd y dysg fawredded ywY gwynwedd dân gyneuodd Duw!I’w daith’ fyny y daw,Llygaid dydd a’i gwelant ef draw;Egyr pob blaguryn byw,Ar rôs a gwaun yn rhesi gwiw—Gwel pob peth wyn haul y nen,E’ gŵyd y byd pan gŵyd ei ben,E’ gŵyd y byd pan gŵyd ei ben.
Alaw,—Difyrrwch y Brenin.
Wele’ncychwyn dair ar ddeg,O longau bach ar fore teg;Wele Madog ddewr ei fron,Yn gapten ar y llynges hon.Mynd y mae i roi ei droed,Ar le na welodd dyn erioed:Antur enbyd ydyw hon,Ond Duw a’i dal o don i don.
Ser y nos a haul y dydd,O gwmpas oll yn gwmpawd sydd;Codai corwynt yn y De,A chodai ’r tonnau hyd y ne;Aeth y llongau ar eu hynt,I grwydro ’r môr ym mraich y gwynt;Dodwyd hwy ar dramor draeth,I fyw a bod er gwell er gwaeth.
Wele’n glanio dair ar ddeg,O longau bach ar fore teg:Llais y morwyr glywn yn glir,’R ol blwydd o daith yn bloeddio “Tir!”Canent newydd gân ynghyd,Ar newydd draeth y newydd fyd—Wele heddwch i bob dyn,A phawb yn frenin arno ’i hun.
Alaw,—Serch Hudol.
SerchHudol swyn,Sy’n llanw ’r llwyn,Pan fo myrdd o adar mwyn,Yn canu yn y coed.Mae anian oll yn canu ’nghyd,’D oes dim yn fyddar nac yn fud,Mae mwy o fiwsig yn y bydNa thybiodd dyn erioed.Corau ’r Wynfa wen,A ganant byth heb ddod i ben,Maer delyn aur gan deulu ’r nen,Yng ngwyddfod Duw ei hun.Mae cân yn hedeg ar ei hynt,Yn swn y môr a llais y gwynt,Bu ser y bore ’n canu gynt,Paham na chana dyn?
Serch hudol yw,Pob peth sy’n byw,Yn y nef a daear Duw;O’r haul sy’n llosgi fry—I’r pryfyn tân yr hwn a roed,I rodio ’r clawdd a gwraidd y coed,I oleu ar y llwybyr troedSy’n arwain i dy dŷ.Hardd yw llun a lliw,Pob peth a ddaeth o ddwylaw Duw,I ble ’r a llygad dyn nad yw,Yng ngŵydd y tlws a’r cain?Prydferthwch sydd yn llanw ’r nef,A phob creadur greodd Ef,O’r eryr ar ei aden gref,I’r dryw sydd yn y drain.
Nis gwn am un engraifft o bennill ar y mesur hwn, ac nis gwn am neb sydd yn gallu yr hen alaw odidog heblaw y cyfaill Idris Vychan. Y mae seibiant yn y dôn ar ddiwedd y chweched llinell, a’r llinell olaf yn llwythog o ofid a siomedigaeth. Ymdrechais yn y geiriau gadw at gymeriad neilltuol y llinell olaf. Mae hi fel moeseb oddiwrth, neu eglurhad ar, y chwe llinell flaenorol.
Alaw,—Breuddwyd y Bardd.
Music
Eisteddaihen fardd yn ei gadair,Yn wargrwm a’i wallt fel y gwlan;A’i feddwl a hedodd i’r amserY gwelid ei blant wrth y tân.Ei amrant a gauodd, ac yna breuddwydioddYn weddw ac unig heb neb iw wahardd—Yng ngwynfyd ei galon breuddwydiodd y bardd.
Fe welodd ei hun yn priodi,Genethig anwylaf y wlad;Fe glywodd ei gyntaf anedigGan wenu ’n ei alw fe ’n “dad!”Ni welodd ef gladdu ei briod a’i deulu,Na deilen wywedig yn disgyn i’r ardd—Na, breuddwyd ei febyd freuddwydiodd y bardd.
Fe glywai hen glychau Llanarmon,Yn fachgen fe deimlodd ei hun,Breuddwydiodd hen deimlad y galon,Sef hiraeth am ddyfod yn ddyn.Ni chofiodd ef helynt y dyddiau’r aeth trwyddynt,Ond tybiodd fod popeth yn hyfryd a hardd—Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.
Er na bu un linell mewn argraffO waith y breuddwydiwr erioed;Fe wel ef ei waith yn gyfrolau,A dynion yn rhodio fel coed,A bechgyn yn darllen cynyrchion ei awen,Fe wel anfarwoldeb trwy gwsg, ac fe chwardd—Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.
Alaw,—Rhyfelgan Ap Ivan Bennaeth.
Music
Ary mynydd rhodiai bugail,Gwelai ’r gelyn ac yn uchel,Bloeddiodd allan—“Llongau Rhyfel!”Yna clywai gorn y gâd.Corn y gâd!Dyna ganiad corn arswydion,Traidd ei ddolef trwy Blunlumon,Cawdor sydd yn galw ’i ddynion.Corn y rhyfel hollta ’r nefoedd,Tery arswyd trwy ’r mynyddoedd,Etyb creigiau pell y cymoeddGorn y gâd.
Fel mae Draig hen Gymru ’n deffroTan y amynydd yn ei hogo’,Cerrig ateb sydd yn bloeddio,Chwythu ’n uwch wna corn y gâd;Corn y gâd!Meibion Berwyn ydynt barod,Llifant o’r mynyddoedd uchod,Duant y gwastadedd isod;Meirch i’r frwydyr gydgarlamant,Holl gleddyfau Cymru fflamiant,Mewn urdduniant, cydatebantGorn y gâd!
Meddaf y pleser o ysgrifennu geiriau am y waith gyntaf i hen ryfelgan Gymreig o radd uchel; o leiaf nid wyf yn gwybod fod neb o’m blaen wedi cyfansoddi cân ar yr alaw. Ni bu y gerddoriaeth ychwaith yn argraffedig. Fe ddichon fod y dôn wedi ei chyhoeddi, ac fe ddichon fod rhai o’m cyfeillion yn gwybod am eiriau hefyd llawer rhagorach na’m heiddo i. Fe ddywedaf ar fyr eiriau pa fodd y daeth-um ar ei thraws. Fel yr oedd Idris a minnau un noswaith yn hwmian hen donau i’n gilydd, fe ofynnodd ef braidd yn sydyn, “A glywsoch chwi Ivan ap Ivan Bennoeth erioed?” Dywedais, os darfum ei chlywed, na chlywais hi ar yr enw hwnnw. “O,” ebai yntau, “hen dôn anwyl, nad oes ei gwell gan ein cenedl. Mae tebygrwydd ynddi, fel yn amryw alawon eraill, i ‘Difyrrwch Gwŷr Harlech,’ ac nid oes llawer lai o nerth a mawredd ynddi.” Digwyddodd fod ei lais yn well nag arferol, a’m ystafell innau yn fechan, ac allan â hi nes oedd y bwrdd yn crynnu, a phlant a phobl ar yr heol yn sefyll i wrando wrth y tŷ. Dywedai iddo ei chlywed, er yn blentyn, yn cael ei chware gan seindorf Dolgellau.
Tyddyn yw y Garreg Wen, ger Porthmadog. Yno yn y flwydd 1720 y ganwyd Dafydd, i’r hwn y priodolir cyfan-soddiaeth y dôn sydd ar ei enw. Dywedir hefyd, ond ar ba sail nis gwyddom, mai efe ydyw awdwr Codiad yr Hedydd, Difyrrwch Gwyr Cricieth, ac alawon eraill. Y mae y dôn yn un o’r rhai prydferthaf sydd gennym, ac yn nodedig o alarus a dwys. Bu y cerddor gobeithiol hwn farw yn 1749, yn 29 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Ynys Cynhaiarn, lle mae cofadail i’w goffadwriaeth, a llun ei delyn yn gerfiedig arni ynghyd â’r geiriau,—“Bedd David Owen, neuDafydd y Garreg Wen.”
’RoeddDyfydd yn marw, pan safem yn fudI wylio datodiad rhwng bywyd a byd;“Ffarwel i ti ’mhriod, fy Ngwen,” ebai ef,“Fe ddaeth y gwahanu, cawn gwrdd yn y nef.”
Fe gododd ei ddwylaw, ac anadl ddaethI chwyddo ’r tro olaf trwy ’i fynwes oer, gaeth;“Hyd yma ’r adduned, anwylyd, ond moesIm’ gyffwrdd fy nhelyn yn niwedd fy oes.”
Estynwyd y delyn, yr hon yn ddioedOllyngodd alawon na chlywsid erioed;’R oedd pob tant yn canu ’i ffarweliad ei hun,A Dafydd yn marw wrth gyffwrdd pob un.
“O! cleddwch fi gartref yn hen Ynys Fôn,Yn llwch y Derwyddon, a hon fyddo ’r dôn,Y dydd y’m gosodir fi ’n isel fy mhen,”—A’i fysedd chwareuant yr “Hen Garreg Wen.”
#R oedd Dafydd yn marw, pan safem yn fudI wylio datodiad rhwng bywyd a byd;Yn swn yr hen delyn gogwyddodd ei ben,Ac angau rodd fywyd i’r “Hen Garreg Wen.”