Wrth droed y Foel arddunol,Ger murmur Tawe fwyn,Mae'r Ffaldau llwyd, henafol,Rhwng meini braf a brwyn;O'u cylch mae'r bryniau uchelYn gwenu uwch eu pen,A'r Fan yn spio arnyntDrwy gymyl yn y nen.
Mor swynol ydyw canfod,Ar foreu hafddydd gwyn,Y defaid dirifediYn britho'r bryniau hyn;Y'mysg y cerrig garwSy'n gestyll rhag y gwynt,Llochesant rhag ystormyddDramwyant ar eu hynt.
Amaethwyr Crai a Llywel,Ar ddydd 'crynhoi' y Fo'l,A foreugyrchant yma,Mi welir neb yn ol;Daw hefyd wyr LlanddeusantAr eu ceffylau bachI geisio'r defaid crwydrol,A'u dwyn hwy adre'n iach.
Ceir gweled gwyr GlyntaweA'u gyroedd yma'n dod,Ni fu y fath brysurdebMewn unrhyw fan erio'd:Pob un a'i gi a welirYn casglu'r praidd o'r bron,A'u dwyn i fewn i'r Ffaldau,Rhwng muriau cedyrn hon.
Ar ol eu dwyn i'r Ffaldau,Bydd pawb yn brysur iawn,Pob un yn dal ei eiddoI'w Ffald ei hun a gawn;Os digwydd ambell ddafadEstronol yma ddod,Bydd llawer llygad arniYn ceisio gwneud ei 'nhod.'
Wrth droi a thrafod llawerFe welir ambell unO'r defaid, dros y muriau,Yn cym'ryd ffordd ei hun;Ac ar eu hol yn sydynBydd tyrfa fawr o gwn,A'r lle yn haleliwiaByddarol gan y swn.
Doethineb cenedlaethauO ffermwyr yma fu,Yn traethu am hanesionHelyntion Mynydd Du;Adroddent am wrhydriYr hen fugeiliaid gynt,Ac enwau'r cwn a glywirO hyd yn myn'd drwy'r gwynt.
Mor ddedwydd ydyw bywydCyffredin gwyr y wlad,Yn heddwch y mynyddoeddMae iddynt wir fwynhad;Fe gollir y bugeiliaid,Rhai newydd ddaw o hyd,Ond erys y mynyddoeddHeb newid oesau'r byd.
Ystradgynlais.LLEWELYN JONES.
Afonig a dardd yn ffrwd gref o'r ogof gerllawCastell Craig-y-nos.
Fuoch chwi wrth Danyrogof?Welsoch chwi y temlau cain?Glywsoch chwi gynghanedd LlynfellFel organ gref yn llanw rhain?
Welsoch chwi wrth droed y clogwynFel y rhuthra ffrwd mor falchI oleuni o dywyllwchLlwybrau cudd y cerrig calch?
Bu yn hir yn nwfn gysgodionBro y gwyll—heb wawr na rhos;Feiddia neb fyn'd hyd ei llwybrauUnig yn rodfeydd y nos.
Carwn wybod peth o hanesGwlad heb flodyn ynddi hi,Heb un deryn bach yn canu;Heb un ganghen uwch ei lli.
Ond fe geidw ei chyfrinach,Ni fyn son am ddim sy'n ol;'Myn'd y'mlaen' yw hanes afon;'Aros' ydyw hanes dol.
Dywedir fod ei dyfroedd gloewYn newid lliw cyn delo gwlaw;Dyma broffwyd llwyd y Blaenau—Wêl y ddrycin cyn y daw.
Ni wyr hi ddim am dymhorau,Welodd hi erioed mor ha';Ni fu gauaf yn ei rhwymoYng nghadwynau oer yr ia.
Y mae rhamant yn ei hanes,Cuddio wna rhag gwawrddydd dlos,Dim ond ym mhrydnawn ei bywydGwel yr haul wrth Graig-y-nos.
Afon fechan, megis tithau,Minau garwn deithio'n rydd,Drwy gysgodion, i oleuniPen y daith yng Ngwlad y dydd.
Corrig Haffes.MYFYR MAI.
Gem y ddôl yw'r tlws flodeuyn,Wisga'n fore ar ei bron,Mae'n gwresawu pob pelydrynDdaw o'r haul i'w fynwes lon,Natur fu yn paentio'i aeliauGyda phluen awel rydd,Wrth ymolchi mewn pelydrauGwyna amrant llygad dydd.
Lygad siriol lawn cyfareddYn agored o fy mlaen;Ei fychander yw ei fawredd,A'i holl rwysg yw bod yn blaen;Try i ffurf a lliw yr huanWrth gwmnia gydag ef,Er dadblygu'u lygad gloew-lan,Aros wna yn nhês y nef.
Lygad effro, nad yw'n hepianNes yr huna anian dlos,Yn ei wynder, wrtho'i hunan,Gwena'r dydd a chysga'r nos;Dysgwn wers y glân flodeuyn,Yn y gwlith ei lygad ylch,Fel na chenfydd un brycheuynYn y llygaid sydd o'i gylch.
Lygad dydd, a chanwyll eurliwYn ei ganol, megis tân,Ai nid heulrod glaswellt ydywEgyr ag ymylwe mân?Er ei fod yn nghanol tyrfaO'i wyn-frodyr ar y waen,Wrth yr un ni chenfigena,Mae ei burdeb yn ddi-staen.
Flodyn gwylaidd, byth ni ddringaBen y clawdd am sylw'r byd,Mewn dinodedd y cartrefa,Gyda'r blodau lleia'i gyd;Hwn wrth fyw mewn gostyngeiddrwyddDdysga wersi i lawer un,A ddisgynodd i ddinodeddWrth wneud duw o hono'i hun.
Dena lygad rhyw forwynig,Sycha'i sendyl yn y gwlith,Wrth dramwyo'r llwybr unigGyda'r wawr i gyrchu'r blith;Plyga'n wylaidd i anwyloBlodyn siriol 'gwaen Ddolgam,'Am fod arall yn blodeuoAr hoff fedd ei thad a'i mam.
Anwyl flodyn, anhawdd cefnu,Gan ei adael ar y ddôl,Wrth fiarwelio, 'rwyf yn creduEi fod yn syllu ar fy ol;O! am fyw ei fywyd gloew,Gyda chalon onest, rydd,Fel y gallwn, cyn fy marw,Ddod yn wyn fel Llygad Dydd.
GWILYM WYN.
[Achlysurwyd y gân dyner hon gan farwolaeth llanc ieuanc o Abercraf ar ei flordd yn ol o Lyn-y-Fan. Darfu iddo ef a dau lanc arall golli eu ffordd yn y niwl. Cyrhaeddodd ei gyfeillion adref yn fyw, ond ar ol tridian o ymchwil deuwyd o hyd i'w gorph et yn ymyl afon Twrch. Yr oedd ar ei berson ar y pryd Destament Cymraeg a nifer o draethodau crefyddol.]
Rwy'n mynd, fy nhad a mam,I wlad na ddof yn ol;'Rol teithio llawer camDros lawer bryn a dôl.Rwyf wedi blino'n lân,Fy nerth sydd yn gwanhau,Mae afon o fy mlaen,A niwl o'm cylch yn cau.Tuhwnt i'r Mynydd Du,Rwy'n gweld rhyw hyfryd wlad,A thuag atti hiRwy'n mynd, fy mam a nhad.
Rwyf wedi colli 'm ffordd,Fy ffryndiau sydd ar goll,A minnau yn y nosYn chwilio am danynt oll.Ond nid oes un a ddawI'm cwrdd yr ochr hyn,Ond mae yr ochr drawYn llawn o engyl gwyn.Ac fel yn dweud i gyd,Na chaf fi unrhyw gam,Rwy'n mynd i'r bythol fyd,Ffarwel, fy nhad a mam.
Mae afon o fy mlaen,Rwy'n clywed swn y don;Rwy'n gweld y rhai sy'n bywTuhwnt i ffrydiau hon.Mae melus hun yn dod,'Rol dydd o ludded maith,A minnau 'n teimlo fodGorphwysfa ar ben y daith.I groesi 'rochr draw,Nid oes ond megis cam,Rwy'n mynd i'r byd a ddaw,Ffarwel, ffarwel fy mam.
WATCYN WYN.
Mae Gwilym Shôn yn awr yn hen,Mae'r eira ar ei ben,Yn araf ddisgyn dros ei enNes gwneyd ei farf yn wen;Ar fin y nant mae'i fwthyn tlawdYng nghwmwd godreu'r bryn,Ni wyr rhwysgfawredd pell a ffawdDdim am y bwthyn hyn.
Bob nos fe gwsg ar wely gwellt,A chysgu'n esmwyth wna,Hyd nes daw'r wawrddydd drwy y delltI ddywedyd "Bore da;"Ac yn ei goleu daw i lawr,Ac ar ei liniau trwmGweddio wna yn ngoleu'r wawrGerllaw ei wely llwm.
Un hoff o'r mynydd yw efe,Bydd yno'n fore iawnO olwg pobman ond y Ne',Rhwng y twmpathau mawn;Heb wybod am rwysgfawredd dyn,Na moethau'r palas gwych,Mae yno'n siarad wrtho'i hun,A bwyta'i damaid sych.
Bu ef mewn gweddi lawer gwaithYng nghysgod llwyn o frwyn,A bu yr awel ar ei thaithYn ewrando ar ei gwyn.Fe safodd ganwaith ar y brynI gofio'r dyddiau gynt,Ac mewn myfyrdod elai'n synCyn cychwyn ar ei hynt.
Yn fore, bore, bydd ar daithYn rhodio'i lwybr cam,A chadd foreufwyd lawer gwaithYn mwthyn bach fy mam;Fe wyddai mam heb unrhyw gaisPa bryd oedd Shôn am fwyd,Hi adnabyddai wrth ei lais,Ac wrth ei wyneb llwyd.A phan yn bwyta'i damaid mwyn,A ninnau'r plant gerllaw,Murmurai Shôn mewn banner cwyaAm bethau'r byd a ddaw.
Wrth rodio'r caeau 'nol a blaenNid yw am gwrdd a'r un;Fe groesa ef ar draws y waenEr cael bod wrtho'i hun;A siarad mae pan ar ei daithO hyd mewn distaw dôn,Nes wy'n dychmygu ambell waithFod angel gyda Shôn.
Mae'r plant yn dianc rhagddo'n syn,Yn cilio tua'r pant,Ac yntau dianc fry i'r bryn,Yn cilio rhag y plant.Diniwed yw, yn ofni'r bydEi wawdio ar ei hynt,Tra'n gafael mae ei serch o hyd'Nol yn yr amser gynt.
'Does ganddo awrlais yn y byd,Na modd ychwaith i'w chael,Ond adnabydda ef o hydYr amser wrth yr haul;Proffwydo'r tywydd teg o draw,Ni fethodd ef erio'd,A chanfod mae y gawod wlawDdiwrnodau cyn ei dod.
Mae yn y capel erbyn prydAr fore Sabboth Duw,Y mae ei weddi dawel, fud,Yn gwneyd ei fawl yn fyw;Ac os dechreua cennad IônDdarlunio gwerth y gwaed,Er heb Amen, canfyddir ShônYn codi ar ei draed.
Aeth dynion ieuainc caled, hy',Er cael difyrrwch ffolUn hwyr i wawdio wrth ei dy,—Ond troisant yn eu holA braw a gwelwder ar bob gwedd,Can's torrodd ar eu clyw—Swn Shôn o ymyl gwlad yr heddYn galw ar ei Dduw.
Fry yn yr unig anial gwmDan goedydd cnau ac ynn,Y mae adfeilion bwthyn llwmYng nghanol drain a chwyn;A Gwilym Shôn a ddaw bob dyddI'r waen uwchlaw y ty,Ac edrych ar yr adfail byddA chofio'r dyddiau fu.
Ac os wyt ti, ddarllennydd mwyn,Am ofyn im paham,—O! gwel yn adfail dan y llwyn,—Hen fwth ei dad a'i fam.Bu yna'n chwareu'n blentyn llon,Fe dyfodd yna'n ddyn,Mae gweld y lle yn glwyf i'w fron,Galara wrtho'i hun.
Mae'r danadl lle bu'r aelwyd gynt,A'r drysni lle bu'r tân,Bu yno'n gwrando swn y gwynt,Bu yno'n canu cân,A chyda'r teulu lawer gwaithBu'n plygu ar ei lin,Cyn gwybod am ofidiau'r daithAr amgylchiadau blin.
Dan ormes colli wnaeth ei dad,Y cartref llawn o hedd;Yn fuan ei rieni madOrweddent yn y bedd.Fe garai eneth dros y brynA chariad bore oes,—Canfyddodd hithau'n mynd 'r glynA'i gafael yn y groes.
Ei galon dan y saethau dwysA dorrai fel ei rudd,Ei fywyd oll o dau y pwysAi beunydd yn fwy prudd,Ond daw drwy'r storom waetha 'rioedAr fore gauaf llwmI weld yr adfail dan y coed,Ac wylo tua'r cwm;A dyry dro i ben y brynYn llaw clwyfedig serch,I weld o draw y bwthyn gwyn,Hen gartre'i gariad ferch.
BEN DAVIES.
Mae'r ienctyd yn ffeindio anrhydedd wrth rodio,'Does dim yn eu blino tra'u dwylo yn rhydd,Ond dilyn eu trwynau i fyny i'r BanauI weled y Llynau—dwr llonydd.
Mae yno berllanau o gwmpas y Llynau,Coed lemon, coed 'falau, yn flodau i'r brig,Ar dir yn y dwyrain yn ngolwg yr heulwenHwy ledan' fel Eden fawledig.
Mae'r carne fel gerddi o ddail y Dwmdili,Y riw a'r rhosmari yn tyfu o'r don;Pob brigyn per ogle yn rhedeg o'r hade,Ac amryw o lysiau gwyrddleision.
Rhyfeddod diddarfod oedd gwel'd y gwylanodYn llusgo'r llyswenod, llwyth hynod, o'u lle;A'r fulfran oedd barod i frathu'r brithyllod,Wrth neidio at blufod y Blaene.
Nid dyfal ei dafod all rifo'r rhyfeddod,Na'u cofio 'nol eu canfod yn nghysgod y gwlydd;Yr hwyaid sydd wylltion, a'r gwyddau ni a'u gwelsomYn nofio yn nghrochan y Crychydd.
Os nad y'ch chwi'n credu ini gael y fath raliWrth dreulio ein carne drwy'r cernydd o dre,Wel, codwch eich cilwg i ben y Fan amlwg,Cewch wel'd yr un olwg a nine.
PWY YW'R AWDWR?
Mae'r testyn wedi'i enwiFfrydiau Twrch,A'r gronfa wedi toriFfrydiau Twrch;Mae'r dyfroedd rhwng y cerigYn ffrydio'n grych berwedigO rywle anweledigYm mol y bryn mynyddigUwchlaw'r Cellie hyllig,A'i dwrf fel taran ffyrnigAr godiad tir rhwygedig,A chreigiau maluriedigSydd yno'n rhesi unigO gedyrn arfogedigYn gwylio'r dderwen dewfrigEistedda'n llwyn caeadfrig,A'r pigau melldigedig,A'r blodau caboledig,A noda fan synedigFfrydiau Twrch.
A welsoch chwi y Ffrydiau?Ffrydiau Twrch;A daniwyd chwi gan donauFfrydiau Twrch?Os naddo, ewch i'w gweledYn gyru dros y gwa'redYn ewyn gwyn i waeredGan boeri ar eu pared,A lluchio'r meini'n lluchedO hirbell yn ddiarbed;Y cenllif gwyllt wrth fynedSy'n llamu bob yn llymed,Gan rhwygo mal rhyw ogedY tiroedd, gan ddweyd, TyredI'r moroedd er ymwared,Fe chwala'r bryn cewch weled,A'i feini ânt mor fanedA hoelion Tudur Aled;Mac Twrch yn methu cerddedO achos ei mawr syched,A chwter James, er gwyched,A safant oll nes yfedFfrydiau Twrch.
O'r Mynydd Du daw allanFfrydiau Twrch,Yn fwrlwm gloew purlan,Ffrydiau Twrch,Gan rhuo, rhuo beunyddA llu o ladron lledryddA'n gwlwm gyda'u gilyddI chwilio am gorlenyddY defaid dofion beunydd,A'u dal a'u dwyn o'r dolydd,A'u crogi rhwng y creigydd,A'u gwerthu er eu gwarthrudd,A chuddio'u crwyn rhag cywilydd,Ac arswyd yn y corsyddNa ddaw eu gwir berchenyddI wybod yn dragywyddAm wal y drwg ymwelydd;O! na bai i'r llifogyddI beidio bod yn llonyddNes llifo dros eu glenydd,A rhoddi pobo fedydd,A boddi'r lladron llwydrudd,Mi alwn hyn yn grefyddFfrydiau Twrch.
FFYNON-Y-CWAR.FFYNON-Y-CWAR.
FFYNON-Y-CWAR.FFYNON-Y-CWAR.
PONT-YNYS-TWLC.PONT-YNYS-TWLC.
PONT-YNYS-TWLC.PONT-YNYS-TWLC.
Parhâ i darddu'n gyson,Ffrydiau Twrch,Na syched byth dy ffynon,Ffrydiau Twrch,Ymlaen â thi, gan olchiY llygredd a'r budreddiSydd yn Nghwmtwrch yn croni,Ac wrth yGeorgeboed itiI aros o dosturi;Hen Waterlw y cewriBoed iti i ddifodiHen olion gwaed oddiarni,A chario byth i golliYr hen esgidiau mawrfriA gawsant eu pedoliFel carnau meirch NapoliI gicio llawer bwli—Rhai sy'n rhy faith i'w henwi,A llawer wedi tewi;O ganol eu drygioniBoed iti loewi a gloewiY llefydd ffordd y llifi,Nes bo Cwmtwrch yn codiAr unwaith o'i drueniMor lân, mor bur a chenlliFfrydiau Twrch.
PWY YW YR AWDWR?
Yn yr hon ateser pan fyddai brodor o Llanddeusant farw yn Ystradgynlais elai pobl yr Ystrad â'r corph dros y mynydd hyd Aberdeudwrch, a deuai pobl Llanddeusant i'w gyfarfod yno i'w ddwyn i ben y daith.
Droe y mynydd i Landdeusant,Heibio'r Gareg Goch a'r Llwyn,Araf, araf, â'r cynhebrwngHyd y llethrau rhwng y brwyn;Adref dros y llwybr garw,Brodor sydd yn troi yn ol,Un o ddefaid iesu ydyw,Ddyga angeu yn ei gol.
Myn'd dros orwel draw i orwelMae cynhebrwng prudd y sant,Myn y galon wrth fyn'd heibioDdweyd ei chyni wrth bob nant;Ar lechweddau unig anian,O! mor dawel yw yr awr,Myn'd a'r elor tua'r fynwentTrwy gynteddoedd gwyn y wawr.
Dacw'r dorf yn Aberdeudwrch,Lle try rhai yn ol i dref,Canant yno'n iach i'w gilydd,Gyda chanu mawl i'r nef;—"Ffarwel, gyfeillion anwyl iawn,Dros ennyd fechan ni 'madawn,Henffych i'r dydd cawn eto gwrddYn Salem fry oddeutu'r bwrdd."Myn yr hedydd ar ei adenUno yn y ffarwel brudd,A rhoi odlau'r wawr i'r hwyrganEfo'i delyn fechan, gudd.
Gyrr y Cerrig Coegion hwythauEmyn ateb ar eu hynt,Hed yr emyn uwch y cymylTua'r nef y'nghol y gwynt;Fry, i fryniau iach y Wynfa,Fry, ymhell tu draw i'r glyn,Fe hebryngwyd sant o ororMynydd Du i Fynydd Gwyn.
Cefnymeusydd, Abercrave.W. GWERNWY RICHARDS.
Ar lawrdir Cwmgiedd mor fyw yn fy nghof,Yn ymyi yr afon yw'r hen efail gof;A'r muriau yn llwydion, a'r heiyrn yn ystor,A'r enwau cerfiedig ar hyd yr hen ddor.
Dyn bach o gorpholaeth oedd William y go',Ychydig droedfeddi mewn plyg ydoedd o;Ond er yn grymedig i'r byd dan ei faich,'Roedd tân yn ei lygad, a dur yn ei fraich.
Gwr diwyd oedd William ar hyd ei oes hir,A swn ei forthwylion fel clychau drwy'r tir;Llwyr weithiau ei ddiwrnod ac ambell nos fawrBu'r efail yn wreichion hyd doriad y wawr.
Ni bu diniweittiach mewn efail yn bod,Na neb yn hapusach waeth sut troai'r rhod;'Roedd Martha ac yntau mewn llanw a thrai,A'u gwenau bob amser fel blodau mis Mai.
Os byddai anifail dihwyl yn y fro,Yr unig physigwr oedd William y go';'Does undyn a wyr pa sawl un wnaeth e'n iach,A ffroeni gwarogaeth wnai'r rhain i'r gof bach.
Fe drefnai wibdeithiau i'r Bannau bob haf,A chodai y pentre i'r boreu teg, braf;'Dyw taith i'r Cyfandir yn ddim byd yn awrAt daith y gof bach i ben y Fan Fawr.
Fe ddeuai'r merlynod ynghyd o bob parth,Rhai buain o Balleg, rhai dofion o'r Garth;A Dic, asyn Dosia, yn rhwym dan ei sach,A ddysgai ufydd-dod—ddydd gwyl y gof bach.
Fel cadben yn arwain ei fyddin i'r gad,Neu hyf anturiaethwr yn chwilio am wlad,Y dygai ei fintai drwy'r corsydd a'r mawn,A'r awel yn chwerthin drwy'r nef wrth ei ddawn.
'Roedd ganddo storiau—rhai doniol bob un,A llawer un daclus o'i wead ei hun,Storiau ei garu â lodes y Plas"Yn y got a'r gwt fain a'r siaced gron las."
Mi'i clywais yn tystio, a phwy wyddai'n well?Fod merlod y wlad yn ei adwaen o bell;A rhedent pan gollent bedolau'n ddibaidI'r fail at William i achwyn eu traed.
'Roedd William yn Gristion, a'i enaid bob dyddYn mwg yr hen efail yn gwynu mewn ffydd;A llawer i noson ystyriem hi'n fraintI glywed ei weddi yn nghyrddau y saint.
Bu'n iechyd i galon ac ysbryd y lleEi ddilyn i'r mynydd a'i wrando yn nhre';'Roedd llwybrau cyfiawnder o hyd dan ei draed,A bendith yn stor yn ei gynghor a gaed.
Mae'r afon o hyd yn myn'd drwy y lle,A'r efail ar lawr, a'r gof bach yn y ne';Ond adgof sy'n gofyn yn brudd ar ei hynt—Pa'm na bae'r oes nawr fel yn yr hen oesau gynt?
G. AP LLEISION.
PENPARC.PENPARC.
PENPARC.PENPARC.
LLOCIO'R DEFAID.LLOCIO'R DEFAID.
LLOCIO'R DEFAID.LLOCIO'R DEFAID.
Ar ochr bryn yn Llywel lonMae'r ffynon loyw, lonydd,A'i dyfroedd pur r'ont flas a blysI hwylus wyr y mynydd;O'r graig fe dardd ei phurol win,Ar fin y ffordd mor handi,Ni pherchir ffynon yn y plwy'Yn fwy na Ffynon Brandi.
Er gwres yr haul a phoethder ha',O! fel yr ia mae'r ffynon,A pherlau grisial ar ei gruddO ddydd i ddydd yn gyson;Fe fethodd haul, a methu wna,Fe ddigia wrth ei hoerni,A gwel'd ei llun mewn dwfr oerWna'r lloer wrth Ffynon Brandi.
Yn nhymor haf canolddydd poeth,Bu'n foeth i lawer crwydryn,A llawergipsyar ei chlunA wlychodd fin ei phlentyn;Bugeiliaid ac ymdeithwyr sy',A gweithwyr hy' Rhys Dafis,Yn mon y mawn a'u bara chaws,Yn lapio naws ei gwefus.
Tafarndy yw o oes i oes,Heb feddwdod,noise, nanonsense,Nis gall cyfreithiau Prydain FawrFyth dori lawr ylicence;Y graig ywcountercryf ybar,Ac ar ei gwar mae'r ffynon,A Duw sy'n tynu o'rmachineY gwin i'r daearolion.
Y tarw Scotch, a'r Cymro gwych,A brith-goch ych Glasfynydd,Y pony wyllt, a'r lodes lân,A defaid mân y mynydd,A phlant boch-cochion, heblaw Toss,A Rover, Moss, a Handi,Pob un yn dyfod yn ei droI dapo'r faril frandi.
Pe bae masnachwyr Llundain fawrYn dyfod lawr i Gymru,Ac i dafarndy'r TrianglasI brofi blas y brandi,Caent ruddiau fel y damasc coch,Ac fel y gloch, fonwesau,Ac iechyd hir i fagu mêr,A chryfder yn ei lwynau.
Do, lawer gwaith am amser hir,Pan yn rheoli'r heolydd,Mi ddrachtiais inau wrth ybar,Yn unig ar y mynydd;Ar ol manylu ar ei min,A sugno gwin o'i gwefus,Ces fara brith a chlwt o gaws,Drwy fyn'd ar draws Tom Harris.
Mae'r ffynon hon yn tarddu erio'd,Er cyfnod creadigaeth,A Duw ei Hun fu'n tapo'r graigYn ddirgel mewn rhagluniaeth;Eistedda dirwest ar ei seddYn lân ei gwedd i'n lloni,Diolchwn Dduw tra fyddwn bywAm Ffynon wiw y Brandi.
RHYS DAVIES (Llew Llywel).
Mac genyf dyddyn bychanAr fron y Mynydd Du,Bu'n gysgod i'm yn faban,I'm tad, a thaid nhadcu.
Mi gerddais pan yn blentynHyd lethrau'r mynydd mawr;A sengais "droed yr ebol"Yn llaith gan wlith y wawr.
Ar ben y Lorfa dawelChwareuwn gyda'r wyn;A miwsig nant y mynyddYn llifo dros y llwyn.
Do, treuliais lawer origAr lan yr afon iach;A gwynfyd i fy nghalonOedd dal y brithyll bach.
Bum yno wedi hynyYn cael fy nal fy hun,Ond er i'm gael fy nala,Mi ddeliais inau un.
Ar ben y Lorfa dawelAeth Gwen a'm calon oll;A gwelodd yr hen fynyddDdwy galon fach ar goll.
Ar dwyni'r Gareg Ddiddos,Ac hyd y dyffryn bras,Bu'r ddwy yn crwydro llawerCyn dod i'r Neuadd Las.
Aeth haner canrif heibioEr daeth y rhain ynghyd,Ond ieuanc yn y galonYw'r cariad cynta'i gyd.
Wrth ganu'r hen alawonGanasom gyda blas;Un rhamant ydyw bywydAr aelwyd Neuadd Las.
Cefnymeusydd, Abercraf.RHYS DAVIES (Ap Brychan).
Ar ochr y CribarthDwy afon fach sy'Yn tarddu yn gysonO fron Mynydd Du;Cydredeg a dawnsioDrwy'r ddôl mae y pâr,A rhywun a'u henwoddYn geiliog a giar.
A chanu wna'r ceiliogYn llon yn y fro,A'r iar sydd yn greganO hyd ar ei gro;Chwareuant alawonI'w gilydd heb ball,A chanu a nesuMae'r naill at y llall.
'Nol caru a chanuDrwy'r fawnen a'r pant,Yn nghwlwm tangnefeddYmuna'r ddwy nant;A ffrwyth y briodasYw'r afon fach, fyw,Sy'n rhedeg i'r Giedd,A'i henw yw—Cyw.
Af i'r Bannau gyda'r wawrddydd,Af yn llawen tua'r llyn,Lle mae ysbryd hen draddodiadByth yn aros yn ei wyn:Crwydraf wrth y dyfroedd grisial,Yno i wrando ar y gwyntSydd yn cwyno yn hiraethusAr ol rhamant dyddiau gynt.
Lyn y Fan! pwy wyr ei hanes?Pwy all ddweyd yr helynt fuAr y noson loergan gyntafPan ddaeth ser i'r Mynydd DuPwy all ddenu'r graig i siaradAm ei phrofiad, fore gwyn,an y gwelodd hithau gyntafArall graig yn nwr y llyn?
Ai rhyw afon fechan, unig,Grwydrodd yma'n llesg a gwan,Wedi colli'r ffordd i hunoYn nhangnefedd craig y Fan?Careg fechan yn y fynwentDd'wed am arall grwydryn cu,Wedi colli'r llwybrau unig,Hunodd ar y Mynydd Du.
Cân medelwyr ar y meusydd,Gyda thoriad borau gwyn,Ond mae'r gân o hyd yn marwWrth neshau i lan y llyn;Unig, unig yw ei hanes,Yma mae yn hedd i gyd,Huna'n dawel yn y cysgod,Wedi digio wrth y byd.
A fu adar y dryglinoeddYma'n hedfan ar eu hynt?A fu'r dôn erioed yn gwynuO dan fflangell lem y gwynt?A fu udgorn hen y dymhestlYn adseinio ar ei lan?Wyr ystormydd a chorwyntoeddAm y ffordd i Lyn y Fan?
Nid oes yma swyn y lili,Yma nid oes rhosyn gwiw,Ond daw serch yn dirf ac iraidd,Lle mae'r blodau'n methu byw;Heb un llwybr ar y moelyddI'w gyfeirio tua'r lan,I'r unigedd a'r distawrwyddFe ddaeth serch i Lyn y Fan.
Gyda'i braidd mae'r bugail unigWrth y llyn yn rhodio'n rhydd,Ond paham y ceidw'r defaidWrth y llyn ar hyd y dydd?Nid yw'n clywed bref ddolefusDafad glwyfus ar y lan:A fu bugail mor esgeulusA Rhiwallon Llyn y Fan?
Wrth y Llyn gorwedda'r defaid,Yno y breuddwydiant hwy:Ond ni wyddant fod y bugailYn breuddwydio llawer mwy;Beth yw'r pryder sy'n ei wyneb?Fentrodd oen i'r dyfroedd glân?Neu, a gollwyd un o'r defaid?Pam mae'r bugail heb un gân?
'Does ond un all roi esboniadAr yr holl bryderon hyn:Nis gall bugail fod yn llawenGyda'i galon yn y llyn:Gwelodd yno feinir geinwenYn y dyfroedd teg, di-stwr,Ac mae yntau fyth er hynyFwy na'i haner yn y dwr.
Torodd gwawr ar nos Rhiwallon,Cadd ei galon eto'n ol:Gwelwyd dau yn rhodio'n llawenUn boreuddydd dros y ddol;Ond fe wawriodd boreu arallAr Rhiwallon wedi hyn,Pan y gwelwyd gwraig y bugailEto'n ol yn nwr y llyn.
Cilio 'mhell wnaeth biwyddi rhamant,Cilio wnaeth y dyddiau gwyn,Pan fu serch yn crynu'n ofnusWrth y dyfroedd gloewion hyn;Nid oes heddyw un RhiwallonYn bugeilio ar y lan,Ond mae ysbryd hen draddodiadEto'n fyw wrth Lyn y Fan.
Abercraf.Parch. R. BEYNON, B.A.
Clychau'r wawr sy'n canuAr y Mynydd Du,Cilia ser o'r llynoedd,Loewon lu.
Fly yn mhyrth y boreClywaf hedydd bach,Yn dihuno asbri'rAwel iach.
Fel cawodydd arianEi felodi dyn,Wna y mynydd imi'nFynydd gwyn.
Ffrydlif o hyawdleddYn y cwmwl gwyn;Pe bai neb yn gwrando,Canu fyn.
O! na bawn i'n hedydd,Fyth yn llon fy llef,Allwn ar adenyddHollti'r nef.
Blodau'r Grug sy'n gwridoYn eu cartre' cun,Am fod cusan huanAr eu min.
Bu y nos yn wyloAm fod tlysni nghudd,Trodd y dagrau'n berlauAr eu grudd.
O! na bawn i'n flod'ynAr y mynydd pell,Dal i berarogli,Er yn mhell.